Adroddiad sy’n cynnwys dau ddarn o waith ymchwil: arolwg o fyrddau cyrff y sector cyhoeddus ac adolygiad o lenyddiaeth berthnasol ar amrywiaeth yn y sector cyhoeddus.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau’r arolwg
- Mae diffyg safoni o ran sut y cesglir ac yr adroddir ar ddata ynghylch amrywiaeth yn ei gwneud hi’n anodd adrodd ar wybodaeth am amrywiaeth ar draws Cyrff y Sector Cyhoeddus i gyd.
- Nid yw’n bosibl pennu cyfradd ymateb gywir ar gyfer yr arolwg. Dylai’r canfyddiadau gael eu hystyried â phwyll gan bod yr wybodaeth wedi cael ei darparu gan sampl o wirfoddolwyr, ac y gall rhai grwpiau fod yn cael eu tangynrychioli neu eu gorgynrychioli yn y data.
- O’i gymharu â chanlyniadau poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, mae’r arolwg yn awgrymu bod Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi eu tangynrychioli ychydig.
- Roedd pobl anabl wedi eu tangynrychioli yn fwy.
- Roedd mwy o fenywod na gwrywod ar fyrddau Cyrff y Sector Cyhoeddus.
- Roedd 9% o’r aelodau hynny o Fyrddau a ymatebodd yn uniaethu fel pobl Hoyw neu Lesbiaidd, Ddeurywiol neu fel pobl â chyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall (LGB+).
- Ni ddywedodd unrhyw ymatebwyr (0%) fod y rhywedd y maent yn uniaethu ag ef yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd ar eu cyfer pan gawsant eu geni.
Prif ganfyddiadau o’r adolygiad o lenyddiaeth
- Arolygon staff a gwblheir gan y cyflogeion eu hunain yw’r ffyrdd hawsaf o gasglu symiau mawr o ddata ynghylch amrywiaeth yn enwedig gan ddefnyddio adnoddau gweinyddol megis pyrth Adnoddau Dynol hunanwasanaeth a rhaglenni sefydlu i gyflogeion.
- Dylai canlyniadau’r ymarfer casglu data fod ar gael yn gyhoeddus am resymau atebolrwydd ar ôl ystyried pryderon ynghylch datgelu.
- Pan fo arweinyddiaeth corff yn y sector cyhoeddus yn amrywiol mae ganddo’n aml fwy o allu i lunio polisi sy’n rhoi cyfrif yn fwy cywir am anghenion amrywiol y cyhoedd a wasanaethir ganddo.
- Un o’r prif sbardunau ar gyfer anghyfartalwch parhaus yng nghyrff y sector cyhoeddus yw bwlch o ran camu ymlaen sy’n fwy amlwg po uchaf fo’r rheng.
- Gall cefndir economaidd-gymdeithasol fod yn rhwystr allweddol i gamu ymlaen yn y sector cyhoeddus.
- Mae diffyg argaeledd data’n rhwystr i weithredu ymyriadau effeithiol.
- Gall rhannu amcanion amrywiaeth ac atebolrwydd clir ar gyfer uwch arweinwyr wella amrywiaeth a chynrychiolaeth.
- Mae canfyddiad am degwch yr un mor allweddol ar gyfer gwella amrywiaeth a chynhwysiant ag yw polisïau sy’n strwythuredig ac yn cael eu rhoi ar waith.
- Mae hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod ac arferion cynhwysol yn bwysig fel nad yw polisïau’n cael eu hystyried yn ymarferion ticio blychau.
Adroddiadau

Adolygiad o amrywiaeth yng ngweithlu ac ar fyrddau’r sector cyhoeddus yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.