Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r adolygiad annibynnol o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, dan arweiniad Dr Susannah Bolton, ynghyd â'i hymrwymiad i weithredu'r holl argymhellion yn llawn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canfu'r adolygiad o effeithiolrwydd mesurau i leihau llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol bod cyfleoedd sylweddol, er bod y drefn reoleiddio bresennol yn gadarn, i wneud gwelliannau er lles yr amgylchedd a ffermwyr. Mae hyn yn cynnwys mwy o dargedu, lleihau'r baich ar weithgareddau ffermio risg isel, egluro pethau'n well i ffermwyr a chau'r bylchau rheoleiddio.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Mae'n hanfodol i ni i gyd bod y dŵr yn ein hafonydd, llynnoedd a moroedd yn lân. Mae ei angen arnom i'w yfed, i fwynhau'r awyr agored ac i dyfu bwyd – mae pob rhan o'n bywydau bob dydd yn dibynnu arno, a rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i wella ansawdd dŵr er lles cenedlaethau'r dyfodol. 

Ond mae ansawdd dŵr yng Nghymru yn dal i ddioddef a rhaid parhau i wneud gwelliannau. Er nad dim ond un sector yn unig sy'n achosi llygredd, amaethyddiaeth yw un o'r prif gyfranwyr o hyd.

Hoffwn ddiolch i Dr Bolton am ei gwaith trylwyr ar yr adolygiad hwn. Mae hi wedi trafod yn helaeth â rhanddeiliaid gan lunio argymhellion sy'n dangos ei bod wedi gwrando ar y rheini sy'n mynegi pryderon.

Mae'r adolygiad yn cytuno â thrywydd cyffredinol ein trefn reoleiddio ond mae'n dangos hefyd sut y gallwn wneud pethau'n well er lles ffermwyr a'n hamgylchedd. Rwy'n bwriadu rhoi'r holl argymhellion hyn ar waith.

Bydd y rheolau presennol yn aros wrth i ni weithio ar yr argymhellion a byddwn yn gweithio gyda'r holl grwpiau sydd â diddordeb i ddatblygu'r newidiadau hyn. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw reolau newydd yn deg ac yn rhesymol, tra'n dal i ganolbwyntio ar ein prif nod - lleihau llygredd o weithgareddau ffermio.

Mae'r adolygiad annibynnol yn gwneud argymhellion mewn pum prif faes:

  • targedu rheoliadau yn well at weithgareddau sy’n llygru gan leihau'r baich ar ffermio risg isel
  • gwneud y rheoliadau'n fwy hygyrch a chliriach i ffermwyr
  • ystyried mesurau amgen, yn enwedig o ran cyfnodau gwaharddedig a'r terfyn o 170kg nitrogen o dail yr hectar
  • cefnogi arloesedd mewn arferion ffermio
  • cau'r bylchau rheoleiddio, gan gynnwys mesurau i ddiogelu pridd a chynlluniau rheoli maetholion

Dywedodd Dr Susannah Bolton, arweinydd yr adolygiad: 

Mae'r trafodaethau rwyf wedi eu cynnal fel rhan o'r adolygiad hwn wedi dangos bod pawb yn awyddus i wella ansawdd dŵr yng Nghymru. Rwy'n wirioneddol optimistaidd y bydd y newidiadau a argymhellir i'r rheoliadau yn arwain at fwy o gydweithio a mwy o rannu cyfrifoldebau i wynebu'r heriau.

Bydd rhai newidiadau, yn enwedig o ran gwneud rheoliadau'n fwy hygyrch a chliriach, yn digwydd yn gyflym. Ond bydd angen mwy o amser i ddatblygu'r argymhellion mwy cymhleth sy'n gofyn am arbenigedd gwyddonol ac agronomig.