Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi bod grŵp gorchwyl a gorffen wedi’i sefydlu a fydd yn ystyried trefniadau llywodraethu presennol Cadw a pha mor effeithiol ydynt o ran ei weithrediad a darparu gwasanaethau treftadaeth cyhoeddus ar lefel genedlaethol ledled Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roger Lewis fydd yn cadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen a bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd fel Llywydd Amgueddfa Cymru ddiwedd eleni.

Gwnaed penderfyniad yn 2017 y gallai Cadw aros o fewn Llywodraeth Cymru fel Asiantaeth Fewnol ond gyda mwy o ryddid gweithredol a masnachol a fyddai'n ei alluogi i weithredu'n fwy effeithiol ac effeithlon wrth gyflawni ei ystod eang o rolau a chyfrifoldebau.

Yn dilyn hynny, sefydlwyd Bwrdd gweithredu gydag arbenigedd allanol i gefnogi'r trefniadau newydd hyn, gyda'r bwriad o gynnal adolygiad ar ôl iddynt fod yn weithredol am bum mlynedd - carreg filltir sydd bellach wedi ei chyrraedd.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

"Gofynnais i Roger Lewis gadeirio'r adolygiad hwn o Cadw i gydnabod ei flynyddoedd lawer o brofiad ym mywyd diwylliannol, busnes, a dinesig Cymru. Nodwyd o’r dechra’n deg y byddai adolygiad o'r fath yn cael ei gynnal pan sefydlwyd trefniadau llywodraethu newydd Cadw yn 2017 ac rwy'n falch bod Roger wedi cytuno i arwain y gwaith, gan weithio'n agos gyda Chadeirydd presennol Cadw Jane Richardson.

"Bydd profiad Roger o weithrediadau masnachol yn ategu'r arbenigedd treftadaeth sydd eisoes yn bodoli ar draws aelodau Bwrdd a staff presennol Cadw."

Mae disgwyl i'r adolygiad gael ei lansio ym mis Ionawr a bwriedir adrodd i'r Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Wrth edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Roger Lewis:

"Mae'n fraint fawr cael arwain yr adolygiad hwn o Cadw, un o gyrff diwylliannol gwych a llwyddiannus Cymru. Mae ei rôl wrth ddiogelu ein lleoedd hanesyddol a gofalu amdanynt, gan ysbrydoli cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, yn hollbwysig i’n gwlad.

"Mae ein llefydd hanesyddol yn chwarae rhan hanfodol wrth siapio Cymru fodern. Fel y dywed Bwrdd Cadw, 'rydym yn edrych yn ôl er mwyn i ni gael gweld ymlaen, gan ddarparu cyswllt byw i'n hanesion amrywiol ac i helpu i wneud synnwyr o'n lle mewn byd sy'n newid drwy'r amser'. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm yn Cadw gan fod yn rhan o brofiad positif iawn i ni gyd."

Dywedodd Jane Richardson, Cadeirydd Cadw:

"Dyma'r union amser gynnal adolygiad o drefniadau llywodraethu Cadw ac i ystyried y modd y gall y sefydliad gefnogi a hyrwyddo treftadaeth Cymru at y dyfodol. Rwy'n falch iawn bod Roger wedi’i ddewis i Gadeirio'r grŵp adolygu, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio ag ef."