Mae pobl angen amrywiaeth eang o sgiliau er mwyn cyfrannu at economi modern a chymryd eu lle yng nghymdeithas dechnolegol yr unfed ganrif ar hugain.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae datblygu hyfedredd pobl mewn sgiliau sylfaenol ac allweddol bellach yn elfen ganolog o bolisi'r llywodraeth yng Nghymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae sgiliau sylfaenol ac allweddol yn rhan o nod Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod pawb yn meddu ar amrywiaeth eang o sgiliau hanfodol.
Sgiliau Sylfaenol
Diffinnir sgiliau sylfaenol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel 'llythrennedd mewn Saesneg a/neu Gymraeg a rhifedd (yn y Gymraeg a'r Saesneg), yn ogystal â Saesneg fel ail iaith'.
Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd gwael wedi'u nodi fel y rhwystrau mwyaf difrifol i adfywio cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Mae'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol (BSA) wedi amcangyfrif bod dros dri-chwarter miliwn o bobl yng Nghymru angen cymorth i wahanol raddau i'w galluogi i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol (BSA, 2001). Hefyd, mae ymchwil wedi amlygu'r cysylltiadau rhwng diffyg sgiliau sylfaenol ac amddifadedd economaidd, allgáu cymdeithasol a throseddu. Mae unigolion gyda sgiliau sylfaenol cyfyngedig yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith yn yr hirdymor neu o gael eu cyflogi mewn swyddi sgiliau isel, o fyw mewn tai is-safonol a dioddef salwch.
Mae Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru yn nodi "Mae gan y Cynulliad weledigaeth o Gymru hollol lythrennog a rhifog; gwlad lle mae gan bawb y sgiliau sylfaenol y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol".