Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr astudiaeth yw adolygu trefniadau presennol ar gyfer cymorth gyda chyflogadwyedd.

Canfyddiadau allweddol

Polisïau a rhaglenni sgiliau hanfodol yng Nghymru

  • Mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau hanfodol wedi cynyddu fel  rheol po fwyaf y mae cyflogwyr a chyflogeion yn gweld bod canlyniadau pendant i hyfforddiant (e.e. manteision perthnasol megis dyrchafiad neu godiad cyflog, neu ganlyniadau mwy meddal megis cynnydd mewn hyder.
  • Mae partneriaethau a chydweithredu effeithiol rhwng darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid eraill yn arwyddocaol wrth sicrhau cynaliadwyedd hirdymor rhaglenni.

Dylunio rhaglenni sgiliau hanfodol

  • Mae dylunio rhaglenni a’r dull darparu’n arwyddocaol gyfer cyfranogiad llwyddiannus dysgwyr ac ar gyfer canlyniadau dysgwyr.
  • Gall cymorth personol fod yn arwyddocaol wrth dargedu oedolion di-waith tymor hirach a’r rhai ar fudd-dal analluogrwydd.

Sgiliau hanfodol i oedolion di-waith

  • Mae partneriaethau effeithiol rhwng y corff atgyfeirio, darparwyr hyfforddiant ac asiantaethau cymorth eraill yn ffactor o bwys ar gyfer darparu hyfforddiant yn llwyddiannus i oedolion di-waith.
  • Roedd talu yn ôl canlyniadau ar gyfer darparwyr hyfforddiant yn arwain at gymorth parhaus pan oedd y dysgwyr mewn cyflogaeth, gyda’r rhai a oedd wedi bod allan o waith am gyfnodau hirach yn elwa ar y cymorth mewn gwaith.

Ar sail yr adolygiad llenyddiaeth, mae’r adroddiad yn gwneud deg o argymhellion ar y ffordd orau o ddylunio a darparu rhaglenni cyflogadwyedd.

Adroddiadau

Adolygiad llenyddiaeth i lywio datblygiad y Rhaglen newydd ar gyfer Cyflogadwyedd Oedolion , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.