Mae casgliadau'r ymchwil yn awgrymu nad yw unigrwydd ac ynysigrwydd ar eu pennau eu hunain yn creu amodau sy’n peri i bobl ddefnyddio mwy ar wasanaethau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Gall unrhyw deimladau o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol sydd gan ddefnyddiwr gwasanaeth gael eu dwysáu gan brofiad o ddiffyg cysondeb wrth ddefnyddio gwasanaethau. Bydd yr anghysondeb hwnnw'n cael ei achosi'n rhannol gan anghysondeb o ran pa mor briodol yw'r gwasanaethau dan sylw. Mae hyn yn berthnasol yn arbennig i'r rheini sy'n dod o grwpiau sydd wedi eu stigmateiddio.
Prif ganfyddiadau
Gall unigrwydd ddechrau yn ystod plentyndod. Gall ddatblygu yn sgil anghydraddoldebau cymdeithasol sy'n cyfrannu at ynysigrwydd cymdeithasol, neu gall datblygu pan fo unigolyn yn cael ei fwlio neu'n dioddef yn yr ysgol, neu pan nad oes ganddo rwydwaith o gyfeillion i'w gefnogi.
Mae pobl LGBTQ+ yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau gan eu bod yn tueddu i feddwl nad yw proffesiynolion yn deall cymhlethdod eu bywydau.
Roedd mwy o achosion o fynd at feddyg teulu i gael cymorth ac atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl ymhlith rhieni sengl a rhieni newydd. Roedd hyn o ganlyniad i iselder ôl-enedigol, nosweithiau o ddiffyg cwsg, straen, rhwystredigaeth feddyliol, a theimladau o drallod.
Roedd y rhieni yr oedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi dod i gysylltiad â nhw yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau oherwydd stigma. Fodd bynnag, roeddent hefyd yn teimlo nad oedd gwasanaethau'n briodol ar gyfer bodloni eu hanghenion cymdeithasol cymhleth. Yn hytrach, roedd gwasanaethau'n tueddu i roi gwedd feddygol ar broblemau ac i ganolbwyntio ar driniaethau.
Byddai gofalwyr yr oedd eu bywydau wedi newid i fod yn rôl ofalu yn aml yn methu â bod yn llawn ymwybodol o'r newid yn eu statws. Roedd hynny'n golygu nad oeddent yn ymwybodol o'r budd-daliadau a'r grantiau yr oedd ganddynt hawl iddynt.
Roedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn amharod i ymddiried mewn gwasanaethau. Fel arfer, byddai'r diffyg ymddiriedaeth wedi datblygu o ganlyniad i'w hymwneud â swyddogion yn ystod y broses ailsefydlu. Roedd sgiliau Saesneg gwael yn effeithio ar eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn tueddu i ddefnyddio gwasanaethau ar adegau o argyfwng yn unig.
Roedd problemau'n codi oherwydd ffactorau megis toriadau mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus; diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig trafnidiaeth ar gais/ymatebol. Er enghraifft, roedd toriadau mewn cynlluniau cludiant gwirfoddol yn golygu bod pobl hŷn yn cael eu hatal rhag cael y mynediad at wasanaethau ehangach a fyddai’n cynyddu rhyngweithio cymdeithasol.
Yn aml byddai gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd a oedd yn ei gwneud yn anoddach i bobl anabl eu defnyddio. Hefyd roedd dyblygu diangen o ran rhai gwasanaethau, a rhai gwasanaethau nad oeddent yn bodoli, ac roedd hynny'n arwain at ddarparu llai o ofal cydgysylltiedig.
Ymddengys fod tlodi, tai, a newidiadau i sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu, yn ffactorau sy'n cael eu cysylltu â lefelau uwch o unigrwydd ac ynysigrwydd.
- Tlodi: roedd cau canolfannau dydd yn golygu bod llai o leoedd fforddiadwy ar gael i gynnal cyfarfodydd a gweithgareddau. Gallai hynny arwain at fwy o ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.
- Tai: yn wreiddiol, y gred oedd bod hyn yn fater a oedd yn ymwneud â phobl hŷn yn unig. Fodd bynnag, gall hefyd fod yn fater sy'n berthnasol i'r rheini sy'n gadael gofal, pobl anabl, ffoaduriaid, a cheiswyr lloches. Byddai pobl o'r holl grwpiau agored i niwed hyn yn dweud yn aml nad oedd tai yn addas i’w diben.
Adroddiadau
Effaith unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ar iechyd a llesiant ac a yw pobl sy'n profi unigrwydd/ynysigrwydd cymdeithasol yn defnyddio mwy ar wasanaethau cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Effaith unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ar iechyd a llesiant ac a yw pobl sy'n profi unigrwydd/ynysigrwydd cymdeithasol yn defnyddio mwy ar wasanaethau cyhoeddus: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 599 KB
Cyswllt
Ellie Brodie
Rhif ffôn: 0300 062 2126
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.