Beth rydym yn ei wneud
Mae panel arbenigol wedi cael ei sefydlu i gynnal adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn unol â'r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog.
Cynnwys
Adrodd
Gofynnwyd i'r panel lunio adroddiad erbyn Nadolig 2017. Bydd yn argymell camau ar gyfer:
- gwella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru
- lleihau anghydraddoldebau iechyd
Dylai'r adroddiad ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd. Bydd yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol dros y 5-10 mlynedd nesaf.
Mae’r panel wedi cyhoeddi adroddiad interim, sydd yn amlinellu pan fod newid yn angenrheidiol, ac yn sôn am faesydd eraill caiff eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol.
Cyd-destun yr adolygiad
Bydd y panel yn gweithio yn y cyd-destun a osodwyd gan ddeddfwriaeth ddiweddar:
- y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
- saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Yn ogystal â'r heriau yn sgil y cynnydd yn y galw, newidiadau demograffig a chynaliadwyedd ariannol.