Heddiw (Dydd Mawrth 2 Awst), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai grŵp newydd yn cael ei sefydlu i adolygu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol at y dyfodol.
Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi amlinellu mai nawr, bum mlynedd ar ôl sefydlu’r Coleg, yw’r amser priodol i ystyried ei rôl a’i ddatblygiad ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Coleg yn darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth annibynnol i’r gwaith o ddatblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Mae gweithgareddau’r Coleg yn cefnogi Strategaeth Iaith Gymraeg a Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth.
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen newydd yn mynd ati i adolygu gweithgareddau’r sefydliad ac yna bydd yn gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen. Bydd yr hyn a ddaw o’r adolygiad yn sail i benderfyniadau am bolisïau ac am y gyllideb ar gyfer y dyfodol. Hefyd, fel rhan o gytundeb blaengar yr Ysgrifennydd â’r Prif Weinidog, bydd y grŵp yn ystyried y berthynas rhwng y Coleg a’r sector addysg bellach.
Bydd y grŵp yn dechrau ei ar ei waith yn yr haf gyda’r nod o ddylanwadu ar weithgareddau’r Coleg o 2017 ymlaen. Bydd yn ystyried:
- A ddylai cylch gwaith y Coleg gael ei ymestyn i gynnwys y sector ôl-16 (addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith)? Os felly, beth yw’r opsiynau posibl ar gyfer bwrw ymlaen â hyn?
- A yw’r model a’r strwythur presennol yn briodol ac yn addas at y diben ar gyfer y gwaith o hyrwyddo a datblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg o 2017 ymlaen? Os nad yw, dylid diffinio rôl, gweithgareddau a strwythur y Coleg, neu endid arall, ar gyfer y dyfodol, gan roi ystyriaeth lawn i werth am arian a chynaliadwyedd.
- Beth yw’r opsiynau ar gyfer cyllido’r Coleg yn y dyfodol?
- A yw’r berthynas waith rhwng y Coleg a sefydliadau addysg uwch Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol?
- Beth yw rôl y Coleg o ran ymateb i argymhellion Adolygiad Diamond a datblygiadau diweddar eraill ym maes polisi?
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau y gall ein pobl ifanc barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar adael yr ysgol a chynnal a datblygu eu sgiliau iaith er mwyn eu defnyddio yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Bum mlynedd ar ôl sefydlu’r Coleg, nawr yw’r amser i ystyried rôl y sefydliad at y dyfodol. Dyna pam rwy’n cyhoeddi y caiff y grŵp gorchwyl a gorffen hwn ei sefydlu i adolygu gweithgareddau’r Coleg a gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.
“Byddaf yn penodi Cadeirydd yn y misoedd i ddod ac yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid allweddol sydd â phrofiad ac arbenigedd ym maes addysg uwch, addysg bellach a dysgu cyfrwng Cymraeg.”