Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl grŵp strategaeth yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Datblygwyd y broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) yng Nghymru er mwyn sicrhau, yn dilyn digwyddiad arwyddocaol sy’n sbarduno adolygiad, bod pob agwedd yn cael ei hystyried ar draws yr holl asiantaethau perthnasol, rhai datganoledig a rhai heb eu datganoli, yn hytrach na mewn seilos sefydliadol. Mae'r ADUS yn digwydd mewn cyd-destun cyflawni a deddfwriaethol unigryw. Mae'n hanfodol i bob sefydliad weithio mewn partneriaeth yng Nghymru i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i bobl ac i sicrhau bod gwersi perthnasol yn cael eu dysgu, a bod y newidiadau a'r addasiadau gofynnol yn cael eu gwneud lle bo hynny'n briodol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae'r dull partneriaeth hwn wedi ennill ei blwyf, gyda chysylltiadau gwaith cryf a llywodraethu cadarn yn sail i waith arloesol ar y lefel strategol a gweithredol yng Nghymru. Mae sefydliadau'n cydweithio'n agos i ddarparu gwasanaethau effeithiol, gan gynnwys:

  • Llywodraeth Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • awdurdodau lleol
  • byrddau iechyd lleol
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi
  • plismona yng Nghymru (Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu)
  • y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
  • Arolygiaethau a Rheoleiddwyr
  • y trydydd sector

Er mwyn cyflawni gwaith partneriaeth effeithiol, datblygwyd rhwydwaith cymorth ar gyfer y broses ADUS ac mae wedi'i ymgorffori yng nghanllawiau statudol ADUS Llywodraeth Cymru. Bydd y fframwaith a nodwyd yn darparu'r cymorth sydd ei angen i gyflawni proses ADUS effeithiol.

Mae'r grŵp strategaeth yn elfen graidd o'r rhwydwaith cymorth sy'n gysylltiedig â'r broses ADUS, ac mae'n eistedd ochr yn ochr â:

  • bwrdd gweinidogol
  • grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd
  • byrddau diogelu
  • partneriaethau diogelwch cymunedol

Rôl y grŵp strategaeth yw darparu goruchwyliaeth a chyfeiriad i fwrdd gweinidogol ADUS, gan ymgysylltu'n effeithiol â'r grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd. Mae'r strwythur cymorth ar gyfer yr ADUS wedi'i amlinellu yn y diagram.

Image
Delwedd o'r rhwydwaith cymorth Unedig Sengl gan gynnwys y bwrdd gweinidogol, y grŵp strategaeth, y grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd, Storfa Ddiogelu Cymru, yr hyb cydgysylltu a’r byrddau diogelu a'r partneriaethau diogelwch cymunedol wedi’u cysylltu â'i gilydd.

Rôl y grŵp strategaeth

Bydd grŵp strategaeth ADUS yn cyfarfod bob 3 mis. Mae prif rolau'r grŵp wedi'u hamlinellu isod. Bydd Grŵp Strategaeth ADUS yn cyflwyno adroddiad bob 6 mis i fwrdd gweinidogol ADUS cyn cyfarfodydd 6 mis y bwrdd hwnnw, a bydd yr adroddiad yn ymdrin â'r materion canlynol:

  • materion allweddol sy'n deillio o adolygiadau a newidiadau posibl y gall fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu gwneud o ran cyfrifoldebau statudol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau neu ddyrannu adnoddau oherwydd cynlluniau gweithredu neu argymhellion a ddaw i'r amlwg mewn ADUS
  • diweddariadau'r Swyddfa Gartref
  • arfer da sy'n datblygu a sut mae'r dysgu'n cael ei ledaenu ledled Cymru
  • materion o ranbarthau yng Nghymru sy'n gofyn am ymateb Cymru gyfan neu'r DU gyfan

Bydd grŵp strategaeth ADUS yn adolygu adroddiadau o'r hyb cydgysylltu a fydd yn cael eu cyflwyno bob 3 mis cyn cyfarfodydd 3 mis y grŵp strategaeth. Bydd yr adroddiad yn ymdrin â'r materion canlynol:

  • trosolwg o nifer yr adolygiadau a gwblhawyd ac argymhellion allweddol
  • materion polisi neu weithredol posibl (gan gynnwys cyllid)
  • digwyddiadau dysgu a hyfforddi ar sail thematig
  • adroddiadau arfer da sy'n dod i'r amlwg
  • diweddariadau allweddol y Swyddfa Gartref
  • adroddiadau am risgiau ac eithriadau yn unol â chynlluniau cyflawni

Bydd grŵp strategaeth ADUS yn cynghori ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU (y Swyddfa Gartref), y Comisiynydd Dioddefwyr, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Cam-drin Domestig a chyrff cynrychiadol ym maes llywodraeth leol, plismona, iechyd, cyfiawnder troseddol a'r trydydd sector ar themâu a gwybodaeth arall sy'n gysylltiedig ag argymhellion adolygiadau yng Nghymru.

Bydd grŵp strategaeth ADUS yn nodi, dathlu a hyrwyddo arfer da ac yn annog mabwysiadu, ehangu a phrif ffrydio mentrau y profwyd eu bod yn "gweithio".

Yn ogystal, bydd y grŵp strategaeth yn:

  • gweithio gyda grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd ADUS lle bo hynny'n berthnasol i sicrhau bod eu llais yn ganolog i waith ADUS a Storfa Ddiogelu Cymru
  • sicrhau bod y broses ADUS yng Nghymru yn cynnal cysylltiadau clir rhwng rhanbarthau a chyrff cenedlaethol, gan barchu amrywiadau rhanbarthol mewn trefniadau ar yr un pryd
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl bartneriaid allweddol am gynnydd y broses ADUS
  • adolygu materion strategol sy'n codi o ADUS na ellir eu datrys ar lefel leol neu ranbarthol a darparu atebion posibl neu gytuno i uwchgyfeirio i'r bwrdd gweinidogol

Bwriad y pwyntiau uchod yw cynyddu cymaint â phosibl y cyfleoedd i atal niwed a diogelu cymunedau Cymru.

Aelodaeth

Bydd y grŵp strategaeth yn cynnwys cyfranwyr strategol allweddol ym maes diogelu i sicrhau bod gwybodaeth ac arbenigedd priodol ar gael wrth wneud penderfyniadau ac argymhellion allweddol. Bydd y sefydliadau a'r rolau canlynol yn cael eu cynrychioli:

  • Llywodraeth Cymru: Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (cadeirydd)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol 
    Cymru: Cyfarwyddwr Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
  • Prifysgol Caerdydd: cynrychiolydd Storfa Ddiogelu Cymru
  • Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (NISB): cadeirydd NISB
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC): cadeirydd PCC Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru: Comisiynydd neu swyddog plant
  • Comisiynydd Cam-drin Domestig: Comisiynydd neu swyddog cam-drin domestig
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Comisiynydd neu swyddog pobl hŷn
  • Sefydliad yr Heddlu: arweinydd diogelu'r cyhoedd National Police Chiefs’ Council (NPCC) Cymru
  • Plismona yng Nghymru: cynrychiolydd Uned Gyswllt yr Heddlu
  • Y Gwasanaeth Prawf: Dirprwy Gyfarwyddwr Adrannol
  • Llywodraeth Cymru: arweinydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)
  • Llywodraeth Cymru: Cynghorydd Cenedlaethol VAWDASV
  • GIG Cymru: cynrychiolydd y bwrdd diogelu
  • GIG Cymru: cynrychiolydd iechyd meddwl
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru: cadeirydd
  • GIG Cymru Diogelu: uwch gynrychiolydd diogelu
  • Y Swyddfa Gartref: arweinydd DHR o'r Uned Cam-drin Rhyngbersonol
  • Y Swyddfa Gartref: arweinydd polisi OWHR
  • Llywodraeth Cymru: pennaeth diogelu
  • Llywodraeth Cymru: arweinydd ymgysylltu strategol ADUS
  • CPS Cymru: Prif Erlynydd y Goron
  • IOPC: Cyfarwyddwr Cymru
  • Awdurdod lleol: Cynrychiolydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Awdurdod lleol: cynrychiolydd y Pennaeth Diogelu Oedolion
  • Awdurdod lleol: cynrychiolydd y Pennaeth Diogelu Plant
  • Arolygiaeth Iechyd Cymru: Prif Weithredwr
  • Arolygiaeth Gofal Cymru: Prif Weithredwr
  • Y trydydd sector: cynrychiolydd i'w nodi drwy CGGC
  • Grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd ADUS: cynrychiolydd i'w nodi drwy'r grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd ac i fod yn bresennol pan fydd materion perthnasol yn codi
  • Swyddfa’r Crwner: Prif Grwner Cymru
  • Bwrdd diogelu: cynrychiolydd y cadeirydd
  • Bwrdd diogelu: cynrychiolydd y rheolwr busnes
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
  • Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru: Rheolwr Datblygu Busnes a Rhwydwaith

Ar unrhyw adeg, gall y cadeirydd benderfynu bod angen gwahodd unigolion eraill naill ai i ddod yn aelodau neu i ddod i gyfarfodydd i ddarparu gwybodaeth neu ddiweddariadau.

Bydd y grŵp yn cyfarfod bob 3 mis, a bydd yr aelodaeth yn cael ei hadolygu'n barhaus.

Atebolrwydd

Fel aelod o'r grŵp, disgwylir i chi gymryd rhan fel cynrychiolydd y ddisgyblaeth rydych chi'n gweithio ynddi a rhoi cyngor a chymorth gan ddefnyddio eich profiad. Yna gofynnir i chi gyfathrebu â'ch cydweithwyr yng Nghymru i brofi ac addasu unrhyw argymhellion i sicrhau bod y grŵp yn rhoi'r cyngor gorau posibl i'r bwrdd gweinidogol.

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan hyb cydgysylltu ADUS, a bydd pob papur yn cael ei ddosbarthu un wythnos galendr cyn y cyfarfod lle bynnag y bo modd.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae'r grŵp strategaeth yn atebol am: 

  • feithrin cydweithredu
  • dileu rhwystrau i gyflawni adolygiadau a gynhelir drwy'r broses ADUS yn llwyddiannus
  • cynnal ffocws y grŵp strategaeth bob amser ar y cwmpas, y canlyniadau a'r manteision y cytunwyd arnynt
  • monitro a rheoli'r ffactorau y tu allan i reolaeth y grŵp strategaeth sy'n hanfodol i'w lwyddiant

Bydd cadeirydd y grŵp strategaeth yn:

  • pennu'r dyddiadau ar gyfer y cyfarfodydd i gyd-fynd yn briodol â chyfarfodydd y bwrdd gweinidogol
  • gwahodd cyfraniadau ar gyfer yr agenda gan aelodau, a chytuno ar yr agenda fel bod modd ei ddosbarthu, ynghyd ag unrhyw bapurau, 7 diwrnod cyn y cyfarfodydd
  • chynrychioli'r grŵp strategaeth ar y bwrdd gweinidogol ac mewn cyfarfodydd a digwyddiadau allanol yn ôl yr angen

Bydd aelodaeth y grŵp strategaeth yn ymrwymo i:

  • adolygu, craffu a herio adroddiadau a dderbyniwyd
  • mynychu holl gyfarfodydd y grŵp strategaeth
  • hyrwyddo'r broses ADUS o fewn a'r tu allan i feysydd gwaith
  • rhannu'r holl gyfathrebiadau a gwybodaeth gyda holl aelodau'r grŵp strategaeth
  • gwneud penderfyniadau’n amserol a gweithredu’n amserol fel na fyddant yn gohirio'r prosiectau a'r rhaglenni gwaith
  • hysbysu aelodau'r grŵp strategaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, os bydd unrhyw fater yn codi y gellir ystyried ei fod yn effeithio ar y broses ADUS
  • mynychu pob cyfarfod ac, os oes angen, enwebu dirprwy
  • cynnal deialog agored ynglŷn â gwaith y grŵp hwn gyda'r rhai rydych chi'n eu cynrychioli
  • chynnal cyfrinachedd a chydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth berthnasol

Bydd aelodau'r grŵp strategaeth yn disgwyl:

  • y bydd pob aelod yn cael gwybodaeth gyflawn, gywir ac ystyrlon mewn modd amserol
  • cael amser rhesymol i wneud penderfyniadau allweddol
  • cael gwybod am risgiau a materion posibl a allai effeithio ar y broses ADUS, wrth iddynt godi
  • trafodaethau agored a gonest, gan barchu'r potensial ar gyfer gwahanol safbwyntiau
  • "archwiliadau iechyd" parhaus i wirio statws ac "iechyd" cyffredinol yr hyb

Rheoli fersiynau

FersiwnStatwsEnw
1Drafft cychwynnol.Sarah Lamberton
2Drafft cyflwynwyd i'r grŵp strategaeth cyntaf i gael sylwadau.Sarah Lamberton
3Newidiadau terfynol wedi'u gwneud fel y cytunwyd arnynt yn y grŵp strategaeth cyntaf (ni ofynnwyd am unrhyw newidiadau pellach).Sarah Lamberton
4

Ychwanegwyd y Comisiynydd Pobl Hŷn i gyd-fynd â chynrychiolaeth ar gyfer comisiynwyr eraill.

Ychwanegwyd yr Arweinydd Polisi OWHR.

Cymeradwywyd gan AD 16 Mai 2024.

Sarah Lamberton