Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Yn 2018, gwnaeth yr adolygiad academaidd gan yr Athro Amanda Robinson o Brifysgol Caerdydd ac adolygiadau ymarferwyr Llywodraeth Cymru gan Liane James ar Adolygiadau Lladdiadau Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Ymarfer Plant argymhellion ynghylch deddfwriaeth, llywodraethu, polisi, proses, storfa ganolog, llyfrgell genedlaethol a dysgu a hyfforddi yn eu hadolygiadau.

Tynnodd y ddau sylw at yr angen i wella prosesau cydgysylltu, cydweithio, cyfathrebu a llywodraethiant wrth gynnal adolygiadau yng Nghymru.

Fe wnaeth yr adroddiadau ddatgelu cymhlethdod y sefyllfa lle’r oedd cyrff datganoledig ac annatganoledig yn cynnal adolygiadau ar wahân ac, mewn rhai achosion, heb yn wybod i Lywodraeth Cymru a heb ei chyfraniad, gan greu tirwedd adolygu anhrefnus yng Nghymru.

Yn 2019, sefydlwyd prosiect i ddatblygu Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) newydd yng Nghymru, gydag un corff yn darparu trefn lywodaethu gyffredinol wedi'i chysylltu â storfa ganolog i hwyluso dysgu a hyfforddi ledled Cymru. Mae sicrhau bod y teulu sydd wedi’i effeithio wrth wraidd proses adolygu hwylus a thrylwyr, heb iddynt orfod cymryd rhan mewn cylch beichus a thrawmatig o roi gwybodaeth ac aros, yn allweddol i'r dull hwn.

Mae gan y broses ADUS rwydwaith cymorth sy'n cael ei hwyluso gan yr hyb cydgysylltu, sy'n gysylltiedig â Storfa Ddiogelu Cymru.

Er mwyn sicrhau bod llais y dioddefwr a'r teulu yn ganolog i'r gwaith hwn wrth symud ymlaen, crëwyd grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd sy'n rhan hanfodol o'r rhwydwaith cymorth. Gweler y diagram.

Image
Delwedd o'r rhwydwaith cymorth Unedig Sengl gan gynnwys y bwrdd gweinidogol, y grŵp strategaeth, y grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd, Storfa Ddiogelu Cymru, yr hyb cydgysylltu a’r byrddau diogelu a'r partneriaethau diogelwch cymunedol wedi’u cysylltu â'i gilydd.

Rôl a diben

Mae'r grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd yn darparu fforwm ar gyfer llais dioddefwyr a'u teuluoedd ledled Cymru, er mwyn llywio'r broses o gyflawni'r ADUS. Drwy weithio'n agos gyda'r grwpiau a'r byrddau eraill sy'n rhan o'r rhwydwaith cymorth ADUS, bydd yn sicrhau bod llais y dioddefwr a'r teulu yn parhau i fod wrth wraidd yr ADUS.

Bydd aelodau'r grŵp yn darparu cynrychiolaeth ar ran dioddefwyr a theuluoedd yng Nghymru mewn ffordd amrywiol a chynhwysol. Byddant hefyd yn cefnogi eu rhanddeiliaid i gyfrannu at waith penodol a pherthnasol y grŵp hwn mewn modd amserol ac ystyrlon.

Bydd y grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd yn gweithio i:

  • adolygu adroddiadau thematig Storfa Ddiogelu Cymru mewn perthynas ag ymgysylltu â dioddefwyr a theuluoedd a materion allweddol sy'n dod i'r amlwg
  • darparu canllawiau ar faterion dioddefwyr a theuluoedd sy'n gysylltiedig â'r broses o adolygu ADUS, pan fyddant yn cael eu huwchgyfeirio
  • gweithio gyda'r hyb cydgysylltu, byrddau diogelu a phartneriaethau diogelwch cymunedol i adolygu argymhellion a chamau gweithredu sy'n ymwneud â dioddefwyr a theuluoedd
  • llywio’r gwaith o greu cynhyrchion ADUS y gellir eu hymgorffori o fewn y pecyn cymorth ADUS
  • datblygu a llywio canllawiau arfer da yn y dyfodol ar ymgysylltu â dioddefwyr a theuluoedd yn y broses ADUS
  • adolygu a darparu arweiniad ar adborth ffurflen myfyrdodau adolygiad ADUS mewn perthynas ag ymgysylltu â dioddefwyr a theuluoedd
  • ymateb i bolisïau, canllawiau statudol a datblygiadau deddfwriaethol perthnasol sy’n ymwneud ag ADUS

Yn ogystal â hyn, bydd aelodau'r grŵp yn cael eu nodi i gynrychioli dioddefwyr a theuluoedd ar grwpiau strwythur llywodraethu ehangach ADUS, gan gynnwys bwrdd gweinidogol a grŵp strategaeth ADUS. Bydd cadeirydd y grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd yn penodi cynrychiolydd mewn ymgynghoriad â'r grŵp i ymgymryd â phob rôl. Er mwyn adlewyrchu aelodaeth amrywiol y grŵp dioddefwyr a theuluoedd, bydd y cynrychiolydd sy'n aelod o fwrdd gweinidogol ADUS yn cael ei enwebu ar sail dreigl. Bydd gofyn i'r aelod a ddewisir adrodd yn ôl i'r grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd ar unrhyw waith a wneir yn y rôl gynrychiadol honno.

Ar unrhyw adeg, caiff y cadeirydd hefyd ystyried bod angen gwahodd cynrychiolwyr neu unigolion eraill i ddod yn aelod o'r grŵp hwn.

Cadeirio cyfarfodydd

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu hwyluso a'u cadeirio gan yr hyb cydgysylltu.

Hyd

Tair blynedd i ddechrau, gydag adolygiad blynyddol. Bydd aelodaeth, gan gynnwys rolau cynrychiadol yn grŵp strategaeth a bwrdd gweinidogol ADUS, yn cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau bod aelodau'n dod ag ymarfer presennol a phrofiadol i'r broses.

Ymrwymiad i gyfarfodydd

Ddwywaith y flwyddyn. Gellir trefnu is-grwpiau dros dro i ymgymryd â darnau penodol o waith ar ran y grŵp. Mewn achosion o'r fath, gwahoddir pob aelod i gymryd rhan yn y rhain a chyfrannu at gyflawni eu nodau a'u hamcanion.

Atebolrwydd

Fel aelod o'r grŵp hwn, disgwylir i chi gymryd rhan fel cynrychiolydd arbenigedd a disgyblaeth y maes rydych chi'n gweithio ynddo a rhoi cymorth a chyngor gan ddefnyddio eich profiad.

Dylech gynnal deialog agored ynglŷn â gwaith y grŵp hwn gyda'r rhai rydych chi'n eu cynrychioli, er mwyn sicrhau bod llais y dioddefwr a'r teulu yn cael ei gynrychioli orau, a bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Pan fo gan aelodau gysylltiad â dioddefwyr a theuluoedd sydd wedi bod drwy'r broses ADUS yn ddiweddar, a lle y bo'n briodol, dylai aelodau roi cyfle i unigolion gymryd rhan yng ngwaith y grŵp i sicrhau ei fod yn parhau'n gyfredol ac yn darparu profiad bywyd gwirioneddol.

Dulliau gweithio

Bydd y grŵp yn gweithio i'r dulliau gweithio canlynol:

  • Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd y grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd o bell drwy Microsoft Teams. Fodd bynnag, wrth gynnwys dioddefwyr a theuluoedd yng ngwaith y grŵp, fe'u gwahoddir i helpu i benderfynu ar y dull mwyaf addas o gyfarfod neu ymgymryd â gwaith. Gallai hyn gynnwys defnyddio eiriolwyr neu unigolion proffesiynol eraill ac ystyried anghenion ychwanegol a fydd yn galluogi cyfranogiad cynhwysol.
  • Bydd cadeirydd y grŵp a'r ysgrifenyddiaeth yn gweithio i sicrhau bod digon o amser yn cael ei roi i alluogi dioddefwyr a theuluoedd i gymryd rhan yn effeithiol.
  • Bydd yr hyb cydgysylltu yn trefnu cyfarfodydd ac yn darparu cymorth ysgrifenyddiaeth. Bydd nodiadau pwyntiau gweithredu yn cael eu hanfon o fewn pythefnos i'r cyfarfod er mwyn mynd i'r afael â'r camau.
  • Bydd y grŵp cyfeirio dioddefwyr a theuluoedd yn adolygu adroddiadau o hyb cydgysylltu ADUS sy'n ymdrin â'r materion canlynol:
    • trosolwg o nifer yr adolygiadau a gwblhawyd ac argymhellion allweddol
    • digwyddiadau dysgu a hyfforddi thematig
    • adroddiadau am risgiau ac eithriadau
  • Bydd cyfathrebiadau â grwpiau ADUS eraill ac ar waith y grŵp yn cael eu rhannu drwy friff 7 munud ADUS.
  • Bydd dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu pennu ar ddiwedd pob cyfarfod. Pan fydd angen i'r grŵp wneud penderfyniad brys, gellir gwneud hyn drwy ddulliau electronig neu drwy alw cyfarfod ychwanegol ar benderfyniad y cadeirydd, ond gall unrhyw aelod gyflwyno cais.
  • Gall yr hyb cydgysylltu gysylltu ag aelodau'r grŵp rhwng cyfarfodydd am gyngor arbenigol.

Aelodaeth

Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys y maes cynrychiadol llais y dioddefwr a'r teulu a sefydliadau perthnasol. Bydd y rhestr isod yn cael ei hadolygu'n flynyddol.

Llais y dioddefwr a’r teulu

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer y maes gynrychioliadol llais y dioddefwr a'r teulu yn cynnwys:

  • CGGC
  • Comisiynydd Dioddefwyr
  • Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
  • byrddau diogelu Cymru

Plant a phobl ifanc

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli plant a phobl ifanc yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
  • Comisiynydd Plant Cymru

Pobl hŷn

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli pobl hŷn yn cynnwys:

  • Dewis Choice
  • Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA)
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Age Cymru

Anabledd

Mae'r sefydliad perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli anabledd yn cynnwys:

  • Anabledd Cymru

Pobl ddu ac ethnig leiafrifol

Mae'r sefydliad perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli pobl ddu ac ethnig leiafrifol yn cynnwys:

  • BAWSO

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer maes gynrychioliadol VAWDASV yn cynnwys:

  • Cymorth i Ferched Cymru
  • Darparwr Gwasanaeth Dioddefwyr VAWDASV

Trais ar sail anrhydedd, priodasau dan orfod ac FMG

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer maes gynrychioliadol trais ar sail anrhydedd, priodasau dan orfod ac FGM yn cynnwys:

  • Prosiect Halo
  • Women Connect First

LHDTC+

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer y maes gynrychioliadol LHDTC+ yn cynnwys:

  • Stonewall Cymru
  • Galop

Iechyd meddwl

Mae'r sefydliad perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli iechyd meddwl yn cynnwys:

  • Hundred Families

Arfau ymosodol

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli arfau ymosodol yn cynnwys:

  • Ymddiriedolaeth Ben Kinsella
  • Fearless (Crimestoppers)

Meysydd nodweddion gwarchodedig eraill i'w hystyried

Mae'r sefydliad perthnasol yn cynnwys:

  • Trans Aid Cymru

Cymorth arbenigol i'r dioddefwr a’r teulu

Mae'r sefydliadau perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli cymorth arbenigol i ddioddefwyr a'r teulu yn cynnwys:

  • Cymorth i Ddioddefwyr
  • AADFA

Bwrdd diogelu

Mae'r rôl gynrychioliadol berthnasol gan fyrddau diogelu yn cynnwys:

  • cynrychiolydd rheolwr busnes

Arweinydd academaidd ac ymchwil

Mae'r sefydliad perthnasol ar gyfer y maes chynrychioliadol academaidd ac ymchwil yn cynnwys:

  • University of Westminster

Llais diogelu annibynnol cenedlaethol

Mae'r sefydliad perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli llais diogelu annibynnol cenedlaethol yn cynnwys:

  • Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Rheolwr annibynnol diogelu pobl agored i niwed

Mae'r sefydliad perthnasol ar gyfer y maes sy'n cynrychioli rheolwr annibynnol diogelu pobl agored i niwed yn cynnwys:

  • Heddlu De Cymru

Darperir ysgrifenyddiaeth a chydgysylltu'r grŵp gan hyb cydgysylltu ADUS.

Rheoli fersiynau

FersiwnStatwsEnw
1Drafft cychwynnol.Sarah Lamberton
2Dilyswyd gan y grŵp ar 7 Medi 2023.Sarah Lamberton