Adolygiad Cyntaf o Gynllun Adneuo Cyngor Sir Caerfyrddin: Ail Ymgynghoriad Rheoliad 17: Ymateb Llywodraeth Cymru
Ein hymateb i Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch yr Ymgynghoriad ar Ail Fersiwn Adneuo'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Llythyr
Ian Llewelyn
Pennaeth Blaengynllunio
Cyngor Sir Caerfyrddin
Tîm Blaengynllunio
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE
12 Ebrill 2023
Annwyl Ian
Diolch am ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch ail gynllun a dogfennau Adneuo Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'n hanfodol bod gan yr awdurdod CDLl cyfredol er mwyn rhoi sicrwydd i gymunedau a busnesau lleol.
Heb amharu ar bwerau'r Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i helpu Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLlau) i leihau'r risg o gyflwyno cynlluniau nad ydynt yn gadarn drwy wneud sylwadau mor gynnar â phosibl yn ystod camau paratoi'r cynllun. Mae Llywodraeth Cymru'n chwilio am dystiolaeth glir bod y cynllun yn cydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, ac yn gyson â Pholisi Cynllunio Cymru (PCC), a bod y profion o gadernid (a nodir yn y ‘Llawlyfr Cynlluniau Datblygu’) yn cael eu hystyried.
Caiff polisïau cynllunio cenedlaethol eu hamlinellu yn Rhifyn 11 o Bolisi Cynllunio Cymru (PCC), sy'n ceisio sicrhau lleoedd cynaliadwy o ansawdd uchel drwy ddull creu lleoedd. Caiff y broses o roi meysydd polisi craidd PCC ar waith, fel mabwysiadu strategaeth ofodol gynaliadwy, tai priodol a lefelau twf economaidd, cyflwyno seilwaith a chreu lleoedd, ei disgrifio'n fanylach yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3). Rydym yn disgwyl i elfennau craidd y Llawlyfr, yn enwedig Pennod 5 a'r Rhestr Wirio/Rhestrau Gwirio Dadrisgio, gael eu dilyn. Caiff y system cynllunio datblygu yng Nghymru ei harwain gan dystiolaeth ac mae dangos sut y caiff cynllun ei lywio gan dystiolaeth yn un o ofynion allweddol y broses o archwilio CDLl.
Ar ôl ystyried y polisïau a'r materion allweddol yn Cymru'r Dyfodol, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod lefel a dosbarthiad gofodol y twf yn cydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae'r Datganiad o Gydymffurfiaeth Gyffredinol (Atodiad 1 i'r llythyr hwn) yn ‘ymateb â chafeat’. Mae Atodiad 2 i'r llythyr hwn yn codi anghysondebau sylfaenol o ran cyfanswm y ddarpariaeth tai a, nes yr eir i'r afael â'r materion hyn a nes y deellir eu goblygiadau, ni ellir rhoi barn gadarn ar faterion yn ymwneud â chydymffurfiaeth gyffredinol ar hyn o bryd. Mae Atodiad 2 i'r llythyr hwn hefyd yn tynnu sylw at amrywiaeth o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gyson â PCC a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu. Gyda'i gilydd, mae ein sylwadau'n tynnu sylw at amrywiaeth o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn ystyried bod y cynllun yn ‘gadarn’ fel a ganlyn:
Atodiad 1 – Cydymffurfiaeth Gyffredinol â Cymru'r Dyfodol (Ymateb â Chafeat)
- Cydweithio Rhanbarthol/Lefel y twf
Angen mwy o eglurder.
Atodiad 2 – Materion craidd y mae angen mynd i'r afael â nhw (PCC a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu)
Mae ein sylwadau wedi'u rhannu'n dri chategori ac maent wedi'u nodi'n fanylach fesul maes yn yr atodiad sydd ynghlwm.
Categori A
Materion sylfaenol yr ystyrir eu bod yn peri risg sylweddol i'r ACLl os na chânt eu datrys cyn y cam cyflwyno, ac a all arwain at oblygiadau i strategaeth y cynllun.
Dim.
Categori B
Materion lle mae'n ymddangos nad yw'r cynllun adneuo wedi trosi polisïau cenedlaethol yn foddhaol i'r lefel leol ac y gall fod gwrthdaro o fewn y cynllun, sef (nid yw'r rhestr yn hollgynhwysfawr):
- Lefel y Ddarpariaeth Tai
- Cyflawni a Hyfywedd
- Cyfyngu cartrefi newydd i Ddosbarth C3 yn unig
- Darpariaeth Sipsiwn a Theithwyr
- Tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas
Categori C
Er nad ystyrir ei fod yn hanfodol i gadernid y CDLl, credwn fod diffyg pendantrwydd neu eglurder ynghylch y materion canlynol:
- Llifogydd
- Ynni Adnewyddadwy
- Mwynau
- Ffosffadau
Byddwn yn eich annog i geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun er mwyn sicrhau eich bod wedi bodloni'r holl ofynion gweithdrefnol, gan gynnwys yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, gan mai eich awdurdod chi sy'n gyfrifol am y materion hyn. Dylid bodloni gofyniad i Asesu'r Effaith ar Iechyd sy'n deillio o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, lle y bo'n briodol, er mwyn asesu effaith debygol y cynllun datblygu arfaethedig ar iechyd, lles meddyliol ac anghydraddoldeb.
Mater i'ch Awdurdod yw sicrhau bod y CDLl yn ‘gadarn’ a mater i'r Arolygydd fydd penderfynu sut y bydd yr archwiliad yn mynd rhagddo os byddwch yn cyflwyno'r cynllun heb fynd i'r afael â'r pryderon a godir gennym. Mae fy nghydweithwyr a minnau yn edrych ymlaen at gyfarfod â chi a'r tîm i drafod materion sy'n codi o'r ymateb hwn.
Yn gywir
Neil Hemington
Prif Gynllunydd
Llywodraeth Cymru
Ar gyfer materion sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth gyffredinol â Cymru'r Dyfodol a pholisi cynllunio, cysylltwch â: PolisiCynllunio@llyw.cymru / Ar gyfer materion sy'n ymwneud â gweithdrefnau Cynlluniau Datblygu Lleol a chydymffurfiaeth â'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, cysylltwch â: mark.newey@llyw.cymru a candice.coombs001@llyw.cymru
Atodiad 1 - Datganiad o Gydymffurfiaeth Gyffredinol
Mae'r datganiad canlynol o gydymffurfiaeth yn ‘ymateb â chafeat’. Nes yr eir i'r afael â'r materion a godir yn Atodiad 2 i'r llythyr hwn ynglŷn ag anghysondebau sylfaenol o ran cyfanswm y ddarpariaeth tai a nes y deellir eu goblygiadau, ni ellir rhoi barn gadarn ar faterion yn ymwneud â chydymffurfiaeth ar hyn o bryd. Mae'r datganiad canlynol yn seiliedig ar yr hyn a nodir ym Mholisi SP4 ar hyn o bryd, sef darpariaeth tai o 9,704 o gartrefi, Asesiad cefnogol o'r Effaith ar y Gymraeg a'r rhan fwyaf o'r twf hwn yn cael ei leoli yn yr aneddiadau Haen 1 a Haen 2. (Gweler Atodiad 2 am sylwadau manwl)
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (2018-2033) yn cydymffurfio'n gyffredinol â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Cymru'r Dyfodol, fel y nodir ym mharagraffau 2.16 – 2.18 o'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3).
Rhesymau
Graddfa'r twf
Mae Polisïau 1 a 28 Cymru'r Dyfodol yn nodi Bae Abertawe a Llanelli fel Ardal Dwf Genedlaethol ac, i'w hategu, mae'n nodi Ardaloedd Twf Rhanbarthol yng Nghaerfyrddin a Dyffryn Teifi (Polisïau 1 a 29). Gyda'i gilydd, dylai'r lleoedd hyn gynnig ffocws ar gyfer twf, trafnidiaeth, gwasanaethau a chyfleusterau cynaliadwy. Hefyd, mae Polisïau 4 a 5 yn cefnogi tai gwledig priodol (yn enwedig tai fforddiadwy) a thwf economaidd mewn cymunedau gwledig, er mwyn helpu i greu cymunedau sy'n gytbwys o ran oedran a helpu i wrthdroi diboblogi lle y nodwyd bod hyn yn broblem. Lefel arfaethedig y cartrefi yn y CDLl Adneuo yw 8,822 o gartrefi dros gyfnod y cynllun, sef 4,450 yn fwy o gartrefi na phrif amcanestyniad 2018 ac 11% yn uwch na chyfraddau adeiladu'r pum mlynedd diwethaf. Mae'r Cyngor o'r farn y bydd y senario hwn yn cynnig rhagolwg demograffig ac economaidd cadarnhaol, yn ogystal â hyblygrwydd i ysgogi cynnydd tai cynaliadwy. Dywed y Cyngor y bydd y lefel twf hon yn helpu i gyflawni Bargen Ddinesig Abertawe ac amcanion adfywio'r Cyngor, a sicrhau cyflenwad o gartrefi fforddiadwy. Mae'r fath ddyhead yn gyson â rôl y Sir o fewn ardal dwf genedlaethol a rhanbarthol. Caiff hyn ei ategu gan 71.21ha o dir cyflogaeth (Polisi SP7) er mwyn helpu i sicrhau o leiaf 4,140 o swyddi newydd (276 o swyddi y flwyddyn), a fydd yn helpu i leihau diboblogi gwledig ymhlith pobl o oedran gweithio ac yn cefnogi'r Gymraeg mewn ffordd gadarnhaol. Gyda'i gilydd, mae'r dulliau hyn yn cefnogi'r Sir yn ei rôl allweddol yn yr ardal dwf genedlaethol, sy'n cyd-fynd â Cymru'r Dyfodol.
Dosbarthiad twf
Mae'r CDLl wedi dadansoddi rôl a swyddogaeth aneddiadau. Mae strategaeth y Cyngor yn ddull hybrid sy'n adlewyrchu rôl a swyddogaeth aneddiadau, buddsoddiad a manteision economaidd y Fargen Ddinesig, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy mewn ardaloedd trefol a gwledig ar yr un pryd. Polisi SP3: Dosbarthiad Cynaliadwy, yn nodi chwe chlwstwr. Ym mhob clwstwr ceir maes sy'n gysylltiedig â swyddogaeth, a phedair haen o aneddiadau sy'n cynnwys Haen 1: Prif Ganolfannau, Haen 2: Canolfannau Gwasanaethau, Haen 3: Pentrefi Cynaliadwy a Haen 4: Pentrefi Gwledig. Mae dros 80% o gynnydd tai a 90% o dir cyflogaeth yn yr aneddiadau Haen 1 a Haen 2 mwy cynaliadwy. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â Cymru'r Dyfodol ac yn taro cydbwysedd priodol rhwng lleoli twf mewn aneddiadau mwy cynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig hefyd.
Polisi 19 - Cysylltedd Rhanbarthol a Pholisi 28 – Ardal Dwf Genedlaethol
Mae Cymru'r Dyfodol yn cyflwyno safbwynt newydd y mae'n rhaid i bob CDLl ei ystyried, sef safle'r CDLl yn y rhanbarth cyfan a'r berthynas â CDLlau eraill. Yn ei hanfod, dull strategol o gynllunio yw hwn cyn dechrau'n ffurfiol ar y Cynlluniau Datblygu Strategol. Nodwn fod y rhanbarth wedi llunio Adroddiad Ymchwil Prosiect Diffinio Ardal Dwf Genedlaethol Bae Abertawe a Llanelli. Cefnogir cydweithio rhanbarthol, a chroesewir paratoi tystiolaeth ar y cyd. Fodd bynnag, mae angen mwy o eglurder er mwyn deall sut y bydd lefel y twf a gynigir yn ategu awdurdodau cyfagos ac yn sicrhau y bydd penderfyniadau buddsoddi allweddol yn cefnogi'r Ardal Dwf Genedlaethol a'r rhanbarth ehangach. Mae'r pwynt hwn yn arbennig o berthnasol o ystyried y diffyg tryloywder ynghylch lefel y ddarpariaeth tai.
Sylwadau eraill i'w hystyried
Nid yw'r cynllun ei hun yn dweud fawr ddim am Cymru'r Dyfodol a'i ddylanwad ar raddfa a lleoliad twf, a'r polisïau o fewn y cynllun. Dylid nodi hyn yn gliriach ac yn fwy penodol. Gweler hefyd sylwadau penodol yn Atodiad 2 am ynni adnewyddadwy, ystyried y tir gorau a mwyaf amlbwrpas a Cymru'r Dyfodol.
Atodiad 2: Materion craidd y mae angen mynd i'r afael â nhw (PCC a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu)
Categori A
Gwrthwynebiadau o dan brofion o gadernid; materion sylfaenol yr ystyrir eu bod yn peri risg sylweddol os na chânt eu datrys cyn cyflwyno'r cynllun.
Categori B
Gwrthwynebiadau o dan brofion o gadernid; materion lle mae'n ymddangos nad yw'r Cynllun Adneuo wedi trosi polisïau cenedlaethol yn foddhaol i'r lefel leol a bod gwrthdaro o fewn y cynllun.
Categori C
Gwrthwynebiadau o dan brofion o gadernid; er nad ystyrir bod hyn yn hanfodol i gadernid y CDLl, ceir diffyg sicrwydd neu eglurder ynghylch y materion y byddai'n fuddiol mynd i'r afael â nhw.
Categori B - Anghysondebau sylfaenol yn nhystiolaeth y cynllun, cydrannau'r cyflenwad tai, cydymffurfiaeth ag adrannau allweddol o PCC a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu
Nid yw'r Cyngor wedi cydymffurfio ag adrannau allweddol o'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu o ran eglurder, cysondeb a chyflwyno cydrannau o elfennau allweddol o'r cyflenwad tai sy'n ofynnol, gan gynnwys y taflwybr tai. Nid yw'n glir beth yn union yw lefel y ddarpariaeth tai a gynigir yn y cynllun. Mae angen i'r Cyngor wneud y gwaith sy'n angenrheidiol er mwyn canfod graddfa'r newidiadau sy'n ofynnol i'r polisïau yn y cynllun, y sylfaen dystiolaeth ac, yn anad dim, y ddarpariaeth tai gyffredinol. Yn dibynnu ar ganlyniad y gwaith hwn, gallai hyn arwain at oblygiadau gweithdrefnol o ran sut y gellir symud y cynllun ymlaen i'r cam archwilio, a gall gael effaith negyddol ar y defnydd o'r Gymraeg. Mae'n bosibl y bydd angen gwneud Newidiadau â Ffocws cyn ei gyflwyno.
Anghysondebau o Ran y Dyddiad Sylfaen
Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (5.62) yn nodi'n benodol bod rhaid i'r holl gydrannau tai gael yr un dyddiad sylfaen. Mae hyn yn hanfodol er mwyn osgoi dryswch a phroblemau o ran cysondeb. Mae'r Cyngor wedi defnyddio'r dyddiad sylfaen 1 Ebrill 2022 ar gyfer y categori ‘wedi'u cwblhau/wrthi'n cael eu hadeiladu’, a mis Hydref 2022 ar gyfer amseriad a chyfnodau datblygu safleoedd mawr. Nid yw'r dull hwn yn cydymffurfio â'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu ac, o ganlyniad i hynny, nid oes darlun cywir o dai yn y cynllun na'r dystiolaeth ategol. Rhaid i'r Cyngor naill ai ddirwyn y ffigurau tai a holl gydrannau'r cyflenwad yn ôl i 1 Ebrill 2022 neu symud popeth ymlaen i 1 Ebrill 2023.
Taflwybr Tai
Mae PCC (4.2.10 a 4.2.11) yn nodi bod rhaid paratoi'r taflwybr tai yn unol â'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu. Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn cynnwys canllawiau manwl ar sut y dylid gwneud hyn a'i gyflwyno yn y cynllun. Nid yw'r tabl taflwybr yn y cynllun a'r graff ategol (tudalennau 347 a 348) yn cydymffurfio â gofynion PCC a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu fel a ganlyn:
- Nid yw rhesi J i T yn cydymffurfio â'r ‘dull/fformiwla AABR’ a nodir yn y canllawiau ar Res L yn y Canllawiau Cynlluniau Datblygu (tudalennau 133-136 a Thabl 21). Mae'r Cyngor wedi defnyddio'r ‘hen system’ AAR ac wedi cynnwys cyfrifiad cyflenwad tir pum mlynedd. Cafodd TAN 1 ei ddirymu a chafodd y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Argraffiad 3) ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2020. Rhaid i'r Cyngor ddiwygio'r taflwybr i gydymffurfio â'r polisi a'r canllawiau diweddaraf.
- Rhes H – Dylid tynnu hap-safleoedd mawr o'r ddwy flynedd gyntaf o gyflenwi, 01 Ebrill 2022/23 a 2023/24 (Llawlyfr Cynlluniau Datblygu 5.73) – gweler y sylwadau dros y dudalen.
- Ni ddylai'r graff taflwybr gynnwys ‘llinell AAR syth’ am y rhesymau a nodir uchod. Dylid diwygio'r graff yn unol â'r sylwadau uchod a Diagram 16 y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu.
- Rhes G – mae'r nifer y disgwylir eu cwblhau ar safleoedd mawr sydd â chaniatâd cynllunio yn gwneud cyfanswm o 2,675 o unedau, sy'n wahanol iawn i'r tablau ategol yn Atodiad 7 a'r Tabl Dosbarthiad Gofodol Tai (tudalen 347 o'r cynllun) sy'n nodi cyfanswm o 4,342 o unedau. Mae'r ffigur o 4,342 ar gyfer y banc tir hefyd wedi'i gynnwys yn Nhablau 14 ac 15 o'r Papur Pwnc Tai. Mae rhes K o'r taflwybr tai yn gwneud cyfanswm o 9,704 o unedau, sy'n gywir ac yn gyson â ffigur y ddarpariaeth tai ym Mholisi SP4. Fodd bynnag, mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar fanc tir tai o 2,675 o unedau. Mae'r papur cefndir hefyd yn nodi bod 1,510 o unedau a ddyrannwyd yn flaenorol eisoes wedi cael caniatâd ers y cynllun adneuo diwethaf, gan godi cwestiynau difrifol ynghylch dilysrwydd y ffigur o 2,675. Pe bai'r 4,342 yn cael eu mewnosod, byddai'r ddarpariaeth yn fwy nag 11,000 o unedau. Rhaid esbonio a chyfiawnhau'r gwahaniaeth sylweddol hwn. Rhaid i'r Cyngor gadarnhau beth yw ffigur y banc tir. Gweler ein sylwadau ar ddarpariaeth tai a'r Gymraeg isod a thros y dudalen.
Lwfans Hap-safleoedd Mawr
Cysondeb o ran terminoleg/diffiniad
Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (5.62) yn nodi y dylai pob cydran tai gael ei diffinio'n glir, ei chyfiawnhau'n drylwyr a bod yn gyson er mwyn helpu i sicrhau bod y cynllun yn glir ac osgoi cyfrif pethau ddwywaith. Mae'r diffiniad o hap-safle yn glir yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu – Tabl 18. Mae'n nodi mai ystyr hap-safle yw safle nad yw wedi'i ddyrannu na'i nodi fel ymrwymiad yn y cynllun. Mae'r ffordd y caiff hap-safleoedd eu disgrifio/diffinio yn y Papur Pwnc Twf a Dosbarthiad Gofodol Rhan 1 – Tai yn ddryslyd dros ben, gyda'r termau anheddau wedi'u cwblhau, banc tir a hap-safleoedd yn cael eu defnyddio mewn ffordd ryng-gyfnewidiol ac anghyson. Er enghraifft, beth yw ystyr hap-safleoedd disgwyliedig a hap-safleoedd nas rhagwelwyd (paragraffau 2.28 - 2.30)? Mae angen i'r Cyngor gadarnhau nad oes cyfri ddwywaith nac anghysondebau yn y banc tir a'r lwfans ar gyfer hap-safleoedd mawr.
Anghysondebau yn y lwfans ar gyfer hap-safleoedd mawr
Daw'r Cyngor i'r casgliad (Papur Pwnc Tai, paragraff 2.32)
“nad oes tystiolaeth ddigonol a chymhellol yn y data ynghylch hap-safleoedd dros beidio â defnyddio'r ddarpariaeth gyfartalog ar gyfer hap-safleoedd dros y cyfnod o 15 mlynedd. Mae hyn yn cyfateb i 87 o anheddau y flwyddyn”.
Nid oes amheuaeth ynghylch y dadansoddiad yn Nhabl 2.21, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu defnyddio'r gyfradd cwblhau 15 mlynedd flaenorol ar gyfer hap-safleoedd mawr sy'n cyd-fynd â chanllawiau'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu. Fodd bynnag, y lwfans gwirioneddol ar gyfer hap-safleoedd mawr a ddefnyddiodd y Cyngor yn y taflwybr tai (Atodiad 7 – Rhes H) ac yn y Papur Tai ategol (Tabl 14, Tabl 15) yw 112 o unedau y flwyddyn. Nid yw'n glir o ble y daeth y ffigur hwn, nad yw'n cyd-fynd â chasgliadau'r Cyngor ei hun. Pe bai'r gyfradd hap-safleoedd yn cael ei haddasu'n ôl i lawr i 87 y flwyddyn, byddai hyn yn arwain at leihad posibl o 225 o gartrefi o gyfanswm y ddarpariaeth tai.
Didynnu hap-safleoedd o'r ddwy flynedd gyntaf o gyflenwi
Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Tabl 18 a pharagraff 5.73) yn nodi:
“Ni ddylid cynnwys hap-safleoedd mawr yn y ddwy flynedd gyntaf o gyflenwi er mwyn osgoi problemau sy'n gysylltiedig â chyfrif ddwywaith”.
Mae'r diffiniadau hyn yn gymwys ar adeg benodol, h.y. dyddiad sylfaen y sylfaen dystiolaeth, a pholisïau cysylltiedig, tablau a'r taflwybr yn y cynllun. Yn yr achos hwn, y dyddiad sylfaen yw 01 Ebrill 2022 (yn amodol ar y cafeat yn ein sylwadau uchod). Mae hyn yn golygu mai dim ond o 2024 ymlaen y dylid cymhwyso'r gyfradd ar gyfer hap-safleoedd mawr a ragwelir. Er mwyn bod yn gyson â'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, dylid tynnu 112 o unedau o'r taflwybr yn 2022 a 2023 a fyddai'n arwain at leihad pellach o 225 o gartrefi o'r ddarpariaeth tai.
Cyfanswm y Ddarpariaeth Tai – Anghysondebau
Mae Polisi SP4 yn darparu ar gyfer 9,704 o gartrefi er mwyn bodloni gofyniad tai o 8,822 o gartrefi. Mae hyn yn cynrychioli lwfans hyblygrwydd o 10%. Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Lleol yn nodi y dylai'r cynllun fod yn glir ynghylch dosbarthiad gofodol cyfanswm y ddarpariaeth tai. Yn ychwanegol at y sylwadau a godwyd yn flaenorol, ceir sawl anghysondeb yn y cynllun a'i dystiolaeth ategol a all arwain at oblygiadau i'r ddarpariaeth tai:
- Gweler y sylwadau ynglŷn â Rhes G o Daflwybr Tai'r Cyngor. Ceir gwahaniaeth sylweddol o 1,677 o gartrefi rhwng y ffigur banc tir sydd wedi'i gynnwys yn nhabl cryno'r taflwybr (Rhes G) a'r un sydd wedi'i gynnwys yn y tablau ategol a'r Papur Pwnc Tai. Mae Tablau 14 a 15 y Papur Pwnc Tai yn nodi mai cyfanswm y safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio yw 4,342 o unedau. Mae hyn yn cyd-fynd â'r tablau ategol manwl ar gyfer taflwybr y Cyngor yn Atodiad 7. Mae Tabl Dosbarthiad Gofodol y Cynllun hefyd yn nodi mai 4,342 yw'r ffigur hwn. Mae hwn yn wahaniaeth sylweddol nad yw wedi cael ei esbonio na'i gyfiawnhau. O ble y daeth ffigur banc tir y taflwybr o 2,675? Ai 4,342 neu 2,675 o unedau yw'r banc tir?
- Mae'r Papur Pwnc Tai (Atodiad 2) yn esbonio sail resymegol y Cyngor dros y lwfans o 246 o gartrefi yn Haen 4. Nid yw'n ymddangos bod y ffigur hwn wedi'i gynnwys yng nghyfanswm y ddarpariaeth tai. Hefyd, dylai'r Cyngor esbonio sut y caiff y cap o 10% yn ychwanegol at nifer y cartrefi presennol yn yr aneddiadau hyn ym Mholisi HOM3 ei roi ar waith yn ymarferol. A fydd yn seiliedig ar ganiatâd neu ar yr unedau wedi'u cwblhau? Nid yw trothwyon/capiau ar aneddiadau wedi gweithio'n dda mewn rhannau eraill o Gymru.
- Ceir gwallau mathemategol yn Nhabl Dosbarthiad Gofodol y Cyngor (Atodiad 7) – gweler isod. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrifo darpariaeth wirioneddol y cynllun fel a ganlyn:
|
Cydrannau'r Cyflenwad Tai |
Haen 1 |
Haen 2 |
Haen 3 |
Haen 4 |
Dim Haen |
Cyfansymiau'r Rhesi |
A |
Cyfanswm wedi'u cwblhau (bach a mawr) |
1187 |
622 |
236 |
46 |
6 |
2097 |
B |
Unedau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu |
26 |
37 |
32 |
|
|
95 |
C |
Unedau â chaniatâd cynllunio |
2420 |
1586 |
336 |
0 |
0 |
4342 |
D |
Dyraniadau tai newydd |
1498 |
602 |
382 |
0 |
0 |
2482 |
E |
*Hap-safleoedd mawr (+5) |
514 |
402.4 |
317.6 |
0 |
0 |
1234 |
F |
Hap-safleoedd bach (-5) |
469 |
367.2 |
289.8 |
0 |
0 |
1126 |
G |
**Cyfanswm y Ddarpariaeth Tai |
6088 |
3579.6 |
1561.4 |
46 |
6 |
11,281
|
H |
***Darpariaeth Tai Ddiwygiedig |
6114 |
3616.6 |
1593.4 |
46 + 246 Lwfans Haen 4 |
6 |
11,620 o gartrefi (byddai lleihad o 450 o hap-safleoedd yn cyfateb i ddarpariaeth o 11,170 o unedau (Sy'n cyfateb i lwfans hyblygrwydd o tua 27% – heb gynnwys safleoedd wrth gefn) |
*Yn seiliedig ar ein sylwadau ynghylch hap-safleoedd mawr, mae'n bosibl y bydd angen lleihau Rhes E 450 o gartrefi hefyd.
**Mae Rhes G y Cyngor yn fathemategol anghywir yn y cynllun
***Darpariaeth Tai Ddiwygiedig yn seiliedig ar ychwanegu 246 o gartrefi y bydd y Cyngor yn eu caniatáu mewn aneddiadau Haen 4 (Atodiad 2 – Papur Pwnc Tai) a lleihad o 450 o hap-safleoedd.
Polisi SG2 – Safleoedd wrth Gefn
Mae'r polisi'n nodi y caiff safleoedd wrth gefn eu rhyddhau i'w datblygu os na chaiff y safleoedd wedi'u dyrannu a nodir o dan bolisïau HOM1, EME1 ac SH1 eu cyflawni. Diben lwfans hyblygrwydd (PCC 4.2.7 a Llawlyfr Cynlluniau Datblygu 5.5.9) yw darparu ar gyfer tangyflawni safleoedd a dylid ei bennu ar lefel briodol a nodir gan yr ACLl. Ni fyddai'n briodol nodi safleoedd wrth gefn a byddai, i bob pwrpas, yn gyfystyr â ‘hyblygrwydd dwbl’. Mae hefyd yn peri dryswch i gymunedau ynglŷn â'u statws.Hefyd, nid yw'r polisi'n glir ynghylch faint o unedau preswyl y gellid eu cyflawni ar SG2/1, SG2/2, ac SG2/4. Pe bai'r ACLl yn dymuno dyrannu'r safleoedd hyn, yna dylai a) eu cynnwys yn y ddarpariaeth tai gyffredinol a'r taflwybr tai neu b) eu nodi fel safleoedd adfywio PCC (4.2.18) ond dim ond os ydynt yn cydymffurfio â'r diffiniad. Rhaid i'r ACLl esbonio statws, sail resymegol a nifer y datblygiadau ar y safleoedd hyn a chadarnhau eu perthynas â chyfanswm y ddarpariaeth tai.
Y Gymraeg
Mae Polisi SP8 yn nodi bod y Sir gyfan yn ardal sensitif yn ieithyddol. Nodwn fod yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg wedi dod i'r casgliad na fydd lefel y cynnydd tai (8,822 o gartrefi, a 10% o hyblygrwydd) yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg. Mae paragraff 63 o'r Asesiad yn dweud bod gostwng lefel yr hyblygrwydd o'r Strategaeth a Ffefrir o 15% i 10%
‘ynghyd â gweithredu Polisi Strategol SP3 yn effeithiol, yn fwy tebygol o leihau dosbarthiad annisgwyl twf mewn lleoliadau penodol, yn enwedig mewn cymunedau lle mae defnydd y Gymraeg yn sensitif i newid. Yn ein barn ni, mae Polisi WL1 yn cryfhau gallu'r Cyngor i sicrhau bod datblygiad nas rhagwelwyd o’r fath yn cael ei sgrinio o ran effaith andwyol.’
Mae Llywodraeth Cymru wedi codi nifer o bryderon ynglŷn ag eglurder y cyflenwad tai a nodi safleoedd wrth gefn a all, gyda'i gilydd, gynyddu lefel y ddarpariaeth tai ac felly mae lefel yr hyblygrwydd yn y cynllun yn llawer uwch (tua 27%) nag a nodir ym Mholisi SP4. Mae casgliadau'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yn seiliedig ar gyfanswm darpariaeth tai o 9,704 o gartrefi. (10% o hyblygrwydd). Y goblygiad yw y gall lefel uwch o ddarpariaeth tai gael effeithiau andwyol ar y Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd y mwyafrif helaeth o'r twf yn y boblogaeth a'r cynnydd tai yn deillio o fewnfudo yn hytrach na thwf naturiol y boblogaeth bresennol. Rhaid i'r Cyngor egluro'r materion hyn ac esbonio'r goblygiadau i'r cynllun.
Crynodeb
Mae ein sylwadau'n tynnu sylw at nifer sylweddol o anghysondebau yn y cynllun, cydrannau'r cyflenwad tai a chyfanswm y ddarpariaeth tai y bydd yn rhaid i'r Cyngor fynd i'r afael â nhw.
Nid yw'r Cyngor wedi cydymffurfio ag adrannau allweddol o'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu o ran eglurder, cysondeb a chyflwyno cydrannau'r cyflenwad tai sy'n ofynnol, gan gynnwys y taflwybr tai. Gyda'i gilydd, gall y materion hyn arwain at oblygiadau sylweddol i'r cynllun yn y dyfodol o ran cadernid, a gallant arwain at oblygiadau gweithdrefnol o ran y ffordd y bydd y cynllun yn symud ymlaen i'r cal archwilio. Mae'n bosibl y bydd angen gwneud newidiadau â ffocws er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.
Os bydd yr ACLl yn cadarnhau bod 9,704 yn gywir, dylid ei addasu ar gyfer y didyniadau gofynnol ar gyfer hap-safleoedd yn sgil diffyg o 450 o gartrefi, sef lleihad sylweddol mewn hyblygrwydd i 5%. Os bydd y ddarpariaeth tai dros 11,170 o gartrefi (neu'n fwy, yn dibynnu ar yr eglurhad ynghylch safleoedd wrth gefn) fel y nodir gan yr ACLl hefyd, bydd hynny'n arwain at oblygiadau i bolisïau allweddol yn y cynllun, gan gynyddu lefel yr hyblygrwydd uwchlaw 27%. Nid yw lwfans hyblygrwydd o 27% yn rhoi digon o sicrwydd ac mae'n llawer uwch na'r 10-15% a ddewisodd y Cyngor yn ei sylfaen dystiolaeth. Mae'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg hefyd yn cyfeirio at ganran hyblygrwydd is, sy'n rhoi mwy o sicrwydd ynglŷn â'r effeithiau ar yr iaith ledled y Sir.
Categori B – Lefelau Twf: Cartrefi a Swyddi
Gofyniad Tai
Prif amcanestyniadau 2018 Llywodraeth Cymru yw'r amcanestyniadau diweddaraf ar gyfer y Cynllun Adneuo hwn. Ar gyfer Sir Gaerfyrddin, mae'n golygu bod ganddi boblogaeth sy'n heneiddio lle mae newid naturiol yn negatif, gyda mwy o farwolaethau na genedigaethau ac ymfudo net y DU yn dod yn brif sbardun newid yn y boblogaeth. Bydd angen i'r Cyngor ystyried unrhyw amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd yn y dyfodol a fydd yn seiliedig ar ddata diweddaraf Cyfrifiad 2021 os cânt eu cyhoeddi cyn i'r cynllun gael ei fabwysiadu.
Mae'r Cyngor wedi profi saith senario, dan arweiniad demograffig ac economaidd, yn yr Adroddiad Tai a Thwf Economaidd a baratowyd gan Turley. Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnwys dau senario sy'n seiliedig ar gyfraddau adeiladu yn y gorffennol o'r cyfnod pum mlynedd 2016-2021 (527 y flwyddyn) a chyfnod 14 mlynedd (501 y flwyddyn) at ddibenion cymharu.
Mae'r gofyniad tai o 8,822 o gartrefi (588 y flwyddyn) yn y Cynllun Adneuo yn seiliedig ar y ‘senario amcanestyniad sy'n seiliedig ar duedd deng mlynedd’ sy'n ailsylfaenu prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru ar Amcangyfrifon Canol Blwyddyn 2020 ac yn ymestyn cyfnod y duedd mudo i 10 mlynedd 2010-2020. Ar y cyfan, mae'r Cyngor o'r farn y bydd y senario hwn yn cynnig rhagolwg demograffig ac economaidd cadarnhaol, yn ogystal â hyblygrwydd i ysgogi cynnydd tai cynaliadwy. Dywed y Cyngor y bydd y lefel twf hon yn helpu i gyflawni Bargen Ddinesig Abertawe ac amcanion adfywio'r Cyngor, a sicrhau cyflenwad o gartrefi fforddiadwy. Cyfanswm y gofyniad yw 11% (527 y flwyddyn) a 17% (501 y flwyddyn) uwchlaw'r cyfraddau adeiladu hanesyddol pum mlynedd ac 14 mlynedd yn y drefn honno.
Mae'r gofyniad tai o 8,822 o gartrefi tua 6,375 o gartrefi yn llai na'r cynllun mabwysiedig presennol (15,197 o gartrefi). Mae'r gofyniad tai 4,450 o gartrefi yn uwch na phrif amcanestyniad 2018. Mae'r Cyngor wedi dod i'r casgliad nad yw'r un o'r tri amrywiad ar amcanestyniadau 2018 Llywodraeth Cymru yn briodol ac y byddent yn cael effaith andwyol ar uchelgeisiau strategol y Cyngor o safbwynt economaidd a chymdeithasol, gyda'r prif amcanestyniad yn llawer is (-42%) yn is na chyfraddau adeiladu hanesyddol. Fodd bynnag, dylai'r Cyngor gydnabod yn benodol ei bod yn bosibl na fydd lefelau uchel o dwf drwy fewnfudo yn gyson â pholisi SP8.
Targed o ran Swyddi
Mae'r Cyngor wedi profi amrywiol senarios dan arweiniad swyddi/twf economaidd o fewn Adroddiad Turley. Mae'r gwaith technegol hefyd wedi ystyried pa lefel o dwf swyddi sy'n bosibl yn seiliedig ar y lefel mudo net/cadw llafurlu yn y senarios a brofwyd. Byddai prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru yn cyfateb i 201 o swyddi y flwyddyn. Mae'r Cyngor wedi dod i'r casgliad y byddai'r holl amrywiadau ar amcanestyniadau Llywodraeth Cymru yn arwain at dueddiadau demograffig negatif ac na fyddent yn galluogi llafurlu digonol i gadw pobl iau. O gymharu â thueddiadau diweddar, mae'r Cyngor wedi gweld twf swyddi positif cadarn o rhwng 357 a 431 o swyddi ychwanegol net y flwyddyn dros mewn blynyddoedd diweddar, uwchlaw amcanestyniadau Llywodraeth Cymru.
Mae Adroddiad Turley yn awgrymu bod 350 o swyddi y flwyddyn yn bosibl ac yn realistig, ond byddai hyn yn golygu gofyniad aneddiadau blynyddol o tua 620-660 o gartrefi y flwyddyn. Hefyd, byddai senario dan arweiniad buddsoddi o 674 o swyddi y flwyddyn yn arwain at ofyniad aneddiadau o 896 o gartrefi y flwyddyn.
Bydd ‘senario amcanestyniad sy'n seiliedig ar duedd deng mlynedd’ y Cyngor yn sicrhau o leiaf 276 o swyddi y flwyddyn (4,140 dros gyfnod y cynllun). Ystyrir bod hyn yn taro cydbwysedd priodol rhwng dyhead, denu pobl ifanc a helpu i gyflawni dyheadau economaidd y Cyngor a'i rôl o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe a rôl y Fwrdeistref Sirol yn Ardal Dwf Genedlaethol a Rhanbarthol Cymru'r Dyfodol. (Gweler y sylwadau ar y strategaeth ofodol)
Crynodeb
Mae adroddiad Turley yn nodi y byddai cyflawni potensial twf llawn y Fwrdeistref Sirol yn arwain at lefelau tai sylweddol a fyddai'n anghynaliadwy. Mae'r senario twf a ddewiswyd yn ceisio sicrhau'r twf economaidd mwyaf posibl, ond gan ystyried ffactorau allweddol megis y Gymraeg, cynaliadwyedd a'r gallu i gyflawni. Ar y cyfan, nid oes gan Lywodraeth Cymru bryderon sylweddol ynglŷn â'r gofyniad tai a'r lefel swyddi a gynigir (yn amodol ar yr esboniadau yn yr Atodiad hwn).
Categori B Strategaeth Ofodol a Dosbarthiad
Graddfa'r twf
Mae Polisïau 1 a 28 Cymru'r Dyfodol yn nodi Bae Abertawe a Llanelli fel Ardal Dwf Genedlaethol ac, i'w hategu, mae'n nodi Ardal Dwf Ranbarthol yng Nghaerfyrddin (Polisïau 1 a 29). Gyda'i gilydd, dylai'r lleoedd hyn gynnig ffocws ar gyfer twf, trafnidiaeth, gwasanaethau a chyfleusterau cynaliadwy. Hefyd, mae Polisïau 4 a 5 yn cefnogi tai gwledig priodol (yn enwedig tai fforddiadwy) a thwf economaidd mewn cymunedau gwledig, er mwyn helpu i greu cymunedau sy'n gytbwys o ran oedran a helpu i wrthdroi diboblogi lle y nodwyd bod hyn yn broblem.
Mae'r Awdurdod wedi profi chwe opsiwn gofodol er mwyn nodi sut y caiff twf yn y dyfodol ei ddosbarthu ledled ardal y cynllun. Mae'r opsiwn a ffefrir gan y Cyngor yn ddull gweithredu hybrid sy'n adeiladu ar Opsiwn Strategol 4: Dan Arweiniad y Gymuned – wedi'i ddiwygio i adlewyrchu rôl a swyddogaeth aneddiadau, adlewyrchu buddsoddiad a manteision economaidd y Fargen Ddinesig, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy mewn ardaloedd trefol a gwledig (CDLl, paragraff 8.20).
Polisi SP3
Dosbarthiad Cynaliadwy, yn nodi chwe chlwstwr. Ym mhob clwstwr ceir maes sy'n gysylltiedig â swyddogaeth, a phedair haen o aneddiadau sy'n cynnwys Haen 1: Prif Ganolfannau, Haen 2: Canolfannau Gwasanaethau, Haen 3: Pentrefi Cynaliadwy a Haen 4: Pentrefi Gwledig. Mae'r cynllun yn dyrannu 71.21ha o dir cyflogaeth (Polisi SP1) er mwyn helpu i sicrhau o leiaf 4,140 o swyddi newydd (276 o swyddi y flwyddyn) gyda'r rhan fwyaf o'r tir cyflogaeth (90%) wedi'i ddyrannu mewn aneddiadau Haen 1. Mae dros 80% o'r cartrefi wedi'u lleoli mewn aneddiadau Haen 1 a Haen 2.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu egwyddor y dull gweithredu hwn, ar yr amod bod mwyafrif y gwaith datblygu wedi'i gyfeirio at leoliadau cynaliadwy yn y Sir a bod yr effeithiau ar y Gymraeg wedi cael eu hystyried yn llawn (gweler ein sylwadau penodol). Yn benodol, rhaid i'r Cyngor fynd i'r afael â'n sylwadau ynglŷn â chyfanswm y ddarpariaeth tai ac esbonio sut y gall hyn effeithio ar ddosbarthiad gofodol tai ar draws y Clystyrau a'r Haenau Aneddiadau ac mewn awdurdodau cyfagos.
Categori B – Cyflawni a Gweithredu
Nodwn y caiff y cynllun ei ategu gan astudiaeth hyfywedd lefel uchel a baratowyd gan Burrows-Hutchinson Ltd. Mae adran 6.4 o'r Adroddiad yn nodi bod angen gwneud gwaith pellach i bennu canrannau tai fforddiadwy safle-benodol ar gyfer safleoedd allweddol (gan gynnwys dyraniadau presennol) ac y caiff y gwaith hwn ei wneud yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwneud gwaith pellach gyda rhanddeiliaid er mwyn bodloni gofynion cyflawni a hyfywedd PCC a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu. Dylai'r gwaith hwn fod wedi cael ei wneud yn barod. Os bydd y ‘gwaith pellach’ hwn yn arwain at wneud newidiadau i'r targedau tai fforddiadwy neu gyflwyno targedau newydd ar gyfer safleoedd drwy bolisïau newydd neu bolisïau diwygiedig yn y cynllun, byddai'r newidiadau hyn (wedi'u hategu gan dystiolaeth newydd) yn sylweddol, ac mae'n hollbwysig bod pob parti yn gallu gwneud sylwadau arnynt. Byddai newid(iadau) o'r fath yn newidiadau â ffocws.
Categori B Tai annedd a ddefnyddir fel unig breswylfeydd neu brif breswylfeydd
Nodir bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno premiwm ar y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi yn seiliedig ar dystiolaeth o'u heffaith ar farchnadoedd tai lleol ac mae'n bosibl y bydd yn cyflwyno rheolaethau ar y defnydd o dai annedd, a ddefnyddir fel unig breswylfeydd neu brif breswylfeydd ar hyn o bryd, (C3) fel ail gartrefi (C5) a llety gwyliau tymor byr yn y dyfodol. (C6) (Polisi VE2 paragraff 11.2.47). Er mwyn sicrhau y caiff pob tŷ newydd ei gadw fel unig breswylfa neu brif breswylfa, dylai'r CDLl gynnwys polisi sy'n nodi, mewn ardaloedd lle y codir premiwm ar y dreth gyngor mewn perthynas ag ail gartrefi, neu lle mae rheolaethau ar ddefnyddio unig breswylfeydd neu brif breswylfeydd presennol fel ail gartrefi (C5) a llety gwyliau tymor byr (C6) wedi cael eu cyflwyno, y gosodir amod cynllunio yn cyfyngu ar y defnydd o'r tŷ annedd newydd i'w ddefnyddio fel unig breswylfa neu brif breswylfa.
Categori B – Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
Mae Asesiad Sipsiwn a Theithwyr 2019 yn nodi mai'r angen uniongyrchol heb ei ddiwallu (erbyn 2024) ar hyn o bryd yw 23 o leiniau, ac y bydd angen wyth llain ychwanegol erbyn 2033. Hefyd, bydd angen pedair llain ychwanegol i Siewmyn Teithiol erbyn 2023.
Mae Polisi SP10 yn dyrannu dau safle ar gyfer angen preswyl. Nid yw'n glir faint o leiniau sydd wedi'u dyrannu ar bob safle, na beth yw'r amserlenni ar gyfer cyflawni. Nid yw'n glir a yw'r Cyngor wedi diwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr dros gyfnod y cynllun. Rhaid i'r Cyngor gydymffurfio â PCC (4.2.3) a Chylchlythyr 005/2018 (paragraffau 35 a 36) a'r gofynion cyflwyniadol yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (paragraffau 5.80 – 5.82 a Thabl 23). Hefyd, mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (5.83-5.85) yn esbonio pwysigrwydd dyrannu safleoedd addas a chyflawnadwy. Mae'r papur cefndir ar asesu safleoedd yn esbonio bod gan y dyraniad arfaethedig ym Mhen-y-fan broblemau posibl sy'n ymwneud â chrynhoi tir a pherchnogaeth tir, hyfywedd a phroblemau llifogydd sy'n gysylltiedig â'r ffordd fynediad bosibl. Hefyd, nid oes digon o wybodaeth am gyflawni ac addasrwydd o fewn y sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â'r dyraniad arfaethedig ym Mhen-y-bryn. Mae angen dangos y gellir cyflawni pob safle heb ddim gwrthwynebiadau heb eu penderfynu gan y corff/cyrff statudol perthnasol er mwyn bod yn addas ac yn gyflawnadwy.
Categori B – Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas: (TAN 6 Atodiad B1, Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 Polisi 9 a PCC 3.58 a 3.59)
Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI)
Caiff y polisi tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ei ystyried yn rhannol o dan Amcan 7 yr ACI – Priddoedd. Nid yw'n glir faint o bwys a roddir ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas yn Amcan 7, sut yr aed i'r afael â'r polisi yn yr ACI na'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arfarniad. Nid oes tystiolaeth i ddangos sut y cafodd polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas ei ystyried yn asesiad y strategaeth ofodol na'r broses dewis safleoedd, na sut mae'r dewisiadau a wnaed yn y cynllun yn effeithio ar adnodd y tir gorau a mwyaf amlbwrpas.
Yn “Tabl 24 – Crynodeb o effeithiau Eilaidd, Cronnol, a Synergaidd yr holl bolisïau a dyraniadau safle yn y CDLl diwygiedig” nodir ar gyfer yr ACI – Priddoedd:
“Tra'n hyrwyddo adfywio tir halogedig, bydd colledion cronnus adnoddau pridd o ansawdd o ddatblygiadau ar safleoedd maes glas (a'r rheiny a raddiwyd yn uchel drwy'r Dosbarthiad Tir Amaethyddol, yn ychwanegol at ambell achos o fawnogydd) yn eang. Serch hynny, mae'r fframwaith dosbarthiad aneddiadau yn sicrhau nad yw effeithiau negyddol wedi'u crynhoi mewn ardal benodol, ac yn fwy tebygol o arwain at ddefnyddio caeau tir llwyd sydd wedi'u gwasgaru ar draws y sir.”
(Ychwanegwyd y pwyslais). Nid yw'n glir beth yw'r adnodd tir gorau a mwyaf amlbwrpas neu fawnogydd na sut y bydd y cynllun yn effeithio arno.
ACI Atodiad B – Gwybodaeth Sylfaenol
Nodir ar dudalen 41:
“Yn ôl y data Dosbarthiad Tir Amaethyddol sydd ar gael, nid oes tir o'r graddau uchaf (Gradd 1 a Gradd 2) yn Sir Gaerfyrddin. Ceir clytwaith o dir Gradd 3 wedi'i leoli tua De a De-ddwyrain y Sir yn dilyn dyffryn afon Tywi, sy'n ymestyn o Lanymddyfri yn y dwyrain, trwy Langadog, Llandeilo a Chaerfyrddin. Caiff y rhan fwyaf o'r tir yn Sir Gaerfyrddin ei ddosbarthu fel tir Gradd 4, gyda chyfran fach o dir Gradd 5 wedi'i leoli tua Gogledd-ddwyrain y Sir. Gweler Map 2 Dosbarthiad Rhagfynegiadol Tir Amaethyddol i gael manylion pellach.”
Ychwanegwyd y pwyslais). Er y cyfeirir at y Map Rhagfynegiadol Dosbarthiad Tir Amaethyddol (fersiwn 2), nid yw'n glir sut y cafodd ei ddefnyddio. Nid yw'r datganiad yn rhoi manylion yr adnodd tir gorau a mwyaf amlbwrpas sydd ar gael yn yr awdurdod ac nid yw'r wybodaeth sylfaenol a ddefnyddiwyd yn rhannu gradd 3 y Dosbarthiad Tir Amaethyddol yn 3a a 3b (y tir gorau a mwyaf amlbwrpas ac nid y tir gorau a mwyaf amlbwrpas) sy'n awgrymu y cafodd hen wybodaeth ei defnyddio o bosibl.
Opsiynau Gofodol
Nid yw'n glir sut y cafodd polisi tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ei ystyried, faint o bwys a roddir ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas yn y broses asesu, na'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd yn yr arfarniad o'r opsiynau gofodol ac wrth ddewis y Strategaeth a Ffefrir. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl tystiolaeth glir sy'n dangos sut y cafodd polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas ei ystyried ar gyfer pob opsiwn ac wrth benderfynu ar yr opsiwn a ffefrir.
Methodoleg Asesu Safleoedd
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ystyriaeth a roddir i bridd carbon uchel yn C20 (4.35) a thir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas (Graddau 1, 2 a 3a) yn C21 (4.36). Unwaith eto, nid yw'n glir faint o bwys a roddir ar yr ystyriaethau hyn yn y fethodoleg asesu safleoedd a sut yr eir i'r afael â'r polisïau perthnasol (ar gyfer y tir gorau a mwyaf amlbwrpas wrth ddangos y rhoddir pwys sylweddol ar ddiogelu tir gorau a mwyaf amlbwrpas; os yw'r safle'n dir gorau a mwyaf amlbwrpas, tystiolaeth o angen pennaf i'r safle gael ei ddatblygu a chymhwyso'r dull prawf cymalog). Ni chaiff y tir gorau a mwyaf amlbwrpas ei ystyried tan Gam 2b o'r broses fel rhan o ACI7. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae angen ystyried y polisi yn gynnar yn ystod trefn chwilio'r broses o ddatblygu'r cynllun. Nid yw'n glir sut mae ystyried pridd carbon uchel a thir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas yn y Fethodoleg Asesu Safleoedd yn gysylltiedig â'r ‘Tabl Asesu Safleoedd’ – unwaith eto, faint o bwys a roddir ar y rhain yn yr asesiad? O ran y ‘Meini Prawf Cynaliadwyedd’ a ddefnyddir, o ran tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas a phriddoedd carbon uchel, mae Llywodraeth Cymru yn anghytuno y gellir ‘lliniaru'r’ effeithiau ar yr adnoddau naturiol cenedlaethol hyn gan fod y ddau adnodd yn gyfyngedig.
Mae'r Tabl Asesu Safleoedd yn nodi y bydd potensial o hyd at 70ha o'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas yn cael ei gyflwyno fel safleoedd a ddyrannwyd. Felly, mae'n amlwg y bydd y cynllun arfaethedig yn arwain at golli tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas heb roi cyfiawnhad o angen pennaf nac asesiad o raddfa'r golled a sut mae'r cynllun yn cydymffurfio â PCC (paragraffau 3.58 a 3.59) a Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (Polisi 9). Ni roddir tystiolaeth o unrhyw waith arolygu yn y maes mewn perthynas â Dosbarthiad Tir Amaethyddol ar gyfer safleoedd arfaethedig sy'n cynnwys tir y rhagwelir ei fod yn dir gorau a mwyaf amlbwrpas. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cadarnhau'r graddau sy'n bresennol ar safleoedd a llywio'r ffordd y caiff polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas ei roi ar waith.
I grynhoi, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bolisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas gael ei ystyried cyn gynted â phosibl yn y broses a thrwy gydol y gwaith o baratoi'r cynllun. Rydym hefyd yn disgwyl digon o dystiolaeth a chyfiawnhad mewn perthynas â rhoi'r polisi ar waith yn y cynllun, yr arfarniad o gynaliadwyedd, y strategaeth ofodol a'r broses o ddewis safleoedd. Disgwylir i gynlluniau ddangos yn glir y dystiolaeth a ddefnyddiwyd, y pwysau a roddwyd i'r tir gorau a mwyaf amlbwrpas a sut y cafodd polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas ei roi ar waith yn y strategaeth ofodol a'r broses o ddewis safleoedd. Dylai'r cynllun drafod y ffordd y caiff polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas ei roi ar waith, a hynny drwy bapur pwnc penodol sy'n dangos sut mae'r cynllun wedi ystyried y polisi, wedi dangos tystiolaeth ohono ac wedi'i gyflawni. Byddem yn cynghori'r Cyngor i gysylltu â'n cydweithwyr yn yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth mewn perthynas â'r holl sylwadau a wneir ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas.
Categori C – Llifogydd
Yn unol â'r Llythyr Gweinidogol (dyddiedig 15 Rhagfyr 2021), mae'r Cyngor wedi cynnal Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd Cam 1 newydd gyda'r holl awdurdodau cynllunio yn rhanbarth y De-orllewin. Paratowyd yr Asesiad yn unol â gofynion y fersiwn wedi'i diweddaru o TAN 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol, a gaiff ei gyhoeddi'n ffurfiol yn nes ymlaen eleni. Mae'r Asesiad yn nodi ardaloedd eang ledled Sir Gaerfyrddin sy'n wynebu risg o lifogydd, ac yn argymell y dylai rhai awdurdodau yn y rhanbarth symud ymlaen i asesiad Cam 2 a Cham 3 sy'n fwy safle-benodol. Rhaid i'r Cyngor sicrhau y bydd unrhyw Asesiadau Strategol newydd o Ganlyniadau Llifogydd yn ystyried y TAN 15 newydd.
Gan adeiladu ar yr Asesiad Cam 1, mae'r Cyngor wedi ystyried y risg o lifogydd ar safleoedd unigol sydd wedi'u dyrannu yn y Cynllun Adneuo yn unol â'r Mapiau Llifogydd ar gyfer Cynllunio, sef y man cychwyn ar gyfer ystyried y risg o lifogydd yn y TAN 15 newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddor y dull hwn ac yn nodi bod llawer o'r dyraniadau ‘oren’ a ‘choch’ y nodir eu bod yn wynebu risg o lifogydd naill ai wedi cael eu cwblhau, wrthi'n cael eu hadeiladu, neu wedi cael eu tynnu o'r cynllun. Fodd bynnag, mae rhai o'r dyraniadau'n perthyn i Barthau Llifogydd 2 a 3. Rhaid i'r Cyngor sicrhau na chaiff datblygiadau dan fygythiad mawr eu dyrannu ym Mharth Llifogydd 3 a bod safleoedd ym Mharthau Amddiffynnol TAN 15 wedi cael eu hasesu'n llawn yn erbyn pob math o risg o lifogydd gyda mesurau gwrthsefyll ar waith. Mater i CNC wneud sylwadau arno fydd hwn. Ni ddylai fod dim gwrthwynebiad heb ei benderfynu gan CNC ynghylch unrhyw rai o'r dyraniadau arfaethedig.
Categori C – Ynni Adnewyddadwy
Mae ffin Ardal a Aseswyd Ymlaen Llaw 8 ar gyfer Ynni Gwynt fel y'i nodir yn Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 o fewn ardal yr awdurdod y bennaf. Mae'r awdurdod wedi paratoi Asesiad Ynni Adnewyddadwy gan ddefnyddio Methodoleg Pecyn Cymorth Llywodraeth Cymru, a ddaeth i'r casgliad nad oes unrhyw Ardaloedd Chwilio Lleol ar gyfer ynni gwynt, a bod tair Ardal Chwilio Leol ar gyfer ffermydd solar ffotofoltaig. Bydd angen i'r Awdurdod wneud y canlynol:
- Nodi ym Mholisi CCH1 ble mae'r tair Ardal Chwilio Leol ar gyfer ynni solar a beth yw'r cyfraniad o bob ardal.
- Mae gan bob un o'r Ardaloedd Chwilio Lleol ffigur capasiti gosodedig o fwy na 10MW, sef y trothwy ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) y bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt. Dylid diwygio Polisi CCH1 a'i gyfiawnhad rhesymedig i esbonio y penderfynir ar ddatblygiadau ynni ar raddfa fawr (10MW+) yn unol â Pholisi 18 yn Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 a bod y datblygiadau hyn yn dderbyniol o fewn ffiniau'r Ardaloedd Chwilio Lleol neu'r tu allan iddynt. Bydd hyn yn helpu i esbonio hierarchaeth y cynllun datblygu ac ychwanegu eglurder.
- Gan y bydd pob cais am DAC ei ystyried yn unol â Pholisi 18 yn Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, nid yw'n briodol i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol effeithio ar y gallu i gyflwyno datblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr yn yr Ardaloedd a Aseswyd Ymlaen Llaw. Fel y cyfryw, dylid dileu'r gofyniad ym Mholisi CCH1 i ddatblygiadau yn yr Ardaloedd a Aseswyd Ymlaen Llaw fodloni meini prawf ychwanegol fel y'u nodir yn y polisi ei hun (meini prawf a-c).
- Polisi CCH1 a Pholisi CCH2: – nid yw'n glir sut mae polisïau'r cynllun ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ac ardaloedd chwilio (Polisïau CCH1 a CCH2) yn ystyried polisi ar y tir gorau a mwyaf amlbwrpas a phriddoedd carbon uchel (e.e. Mawnogydd). Mae angen ystyried a dangos hyn ochr yn ochr â'r holl ddyraniadau eraill yn nhermau effeithiau ar y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas dros gyfnod y cynllun a sut y caiff PCC (paragraffau 3.58 a 3.59) ei gymhwyso.
Categori C – Mwynau
Mae Sir Gaerfyrddin o fewn Is-ranbarth Dinas Abertawe Gweithgor Agregau Rhanbarthol y De ynghyd ag Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol 2 yn nodi ffigur dosrannu o 0.058 miliwn o dunelli o dywod a graean a 27.556 miliwn o dunelli o gerrig mâl. Wrth gymharu'r ffigurau hyn â'r banc tir presennol, ceir gweddill o gronfeydd wrth gefn a ganiateir ac, fel y cyfryw, nid oes gofyniad i nodi dyraniadau yn y cynllun. Fodd bynnag, dylai'r awdurdod wneud y canlynol:
- Rhestru ym Mholisi MR2 yr holl safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio mewn grym ar gyfer gweithio mwynau a'u parthau clustogi cysylltiedig. Bydd hyn yn rhoi mwy o eglurder i'r cynllun ac yn cyd-fynd â'r gofynion yn PCC i amlinellu disgwyliadau'r awdurdod o ran safleoedd mwynau presennol a gweithredol (5.14.13).
- Mae Atodiad 4 o'r cynllun yn nodi sawl safle mwynau anweithredol a segur. Dylai'r awdurdod esbonio'r tebygolrwydd y bydd y safleoedd hyn yn cael eu defnyddio a'u gweithio eto yn ystod cyfnod y cynllun.
- Nodwn fod Datganiad o Gydweithio Is-ranbarthol wedi cael ei lunio yn Is-ranbarth Dinas Abertawe a bod un arall yn cael ei baratoi yng Ngorllewin Cymru, a bod Sir Gaerfyrddin yn gweithio gyda'r is-ranbarth cyfagos er mwyn helpu i fodloni gofynion Datganiad Technegol Rhanbarthol 2 o ran darpariaeth tywod a graean. Dylid cynnwys y ddau Ddatganiad o Gydweithio Is-ranbarthol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth pan gaiff y cynllun ei gyflwyno i gael ei archwilio.
Categori C – Ffosffadau
Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dystiolaeth a oedd yn dangos bod dros 60% o ardaloedd dyfrol mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) afonol wedi methu â chyrraedd safonau ffosfforws. O ganlyniad i'r methiannau hyn, cyhoeddodd CNC gyngor cynllunio er mwyn osgoi dirywiad pellach mewn capasiti amgylcheddol lle y gallai datblygiadau newydd effeithio ar ACAau afonol sy'n sensitif i ffosfforws a chyflawni ‘niwtraliaeth maethynnau’.
Mae'r cyngor gan CNC yn ymwneud ag ACAau afonol y mae eu dalgylchoedd draenio'n ymestyn i Sir Gaerfyrddin, sef Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Cleddau, Afon Gwy, ac Afon Wysg. O'r pum ardal ddyfrol hyn, dim ond dwy yr effeithir arnynt gan ddyraniadau tai arfaethedig yn y cynllun yn draenio i Afon Teifi neu Afon Tywi.
Mae'r Cyngor wedi ceisio lleihau nifer y dyraniadau tai i chwe safle (102 o unedau) yn ardal Afon Tywi a 15 o safleoedd (189 o unedau) yn ardal Afon Teifi. Mae hyn wedi gostwng lefelau ffosfforws 43% a 49% yn y naill ardal ddyfrol a'r llall. Mae'r gostyngiad hwn, ynghyd â diwygiadau i Bolisi CCH4 ac argaeledd tir ar gyfer y posibilrwydd o greu gwlyptiroedd er mwyn annog amsugno ffosffadau'n naturiol yn Sir Gaerfyrddin, i gyd wedi cael eu sgrinio fel rhan o Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y Cyngor (Chwefror 2023), a ddaeth i'r casgliad na fydd y cynllun yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd safleoedd Ewropeaidd. Materion i gyrff statudol CNC a Dŵr Cymru wneud sylwadau manylach arnynt yw cyflawni safleoedd a ddyrannwyd a rhoi mesurau lliniaru hirdymor ar waith.