Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Mai 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Asesiad effaith terfynnol (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 654 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisio eich barn ynghylch ymgorffori agweddau ar y Polisi Cynllunio Cenedlaethol Adeiladau Cynaliadwy blaenorol i mewn i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn rheoli rhai mathau o waith adeiladu er mwyn sicrhau bod adeiladau yn cwrdd â safonau penodol o ran iechyd diogelwch lles cyfleustra a chynaliadwyedd. Rydym eisio gwella agweddau ar gynaliadwyedd adeiladau yng Nghymru trwy’r Rheoliadau Adeiladu.
Ym mis Gorffennaf 2014 the tynnwyd yn ôl y Polisi Cynllunio Cenedlaethol Adeiladau Cynaliadwy a chanllaw perthnasol TAN 22. Y bwriad penodedig oedd edrych at ymgorffori elfennau allweddol y Cod Cartrefi Cynaliadwy/BREEAM nad ydynt yn gysylltiedig ag ynni yn y Rheoliadau Adeiladu. Gwnaeth yr adolygiad dilynol nodi nifer o gydrannau a allai gael eu cynnwys mewn Rheoliadau Adeiladu.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cynigion am:
- newidiadau i Ran G – Sanitation Hot Water Safety and Water Efficiency
- cyflwyno Rhan Q – Residential Security Part Q – Unauthorised access
- canllawiau nad ydynt yn rhai gorfodol am gynnwys a chyflwyniad gwybodaeth i ddeiliad anheddau newydd
- newidiadau i Ddogfennau Cymeradwy.