Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn i asesu cynnydd llif gwaith Gweinidogol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru hyd yma ac i lywio ail gam y grant.

Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar gyfweliadau manwl lled-strwythuredig gyda hysbyswyr allweddol yn ogystal ag ymatebion i arolwg ar-lein i swyddogion polisi.

Mae’r adolygiad wedi canfod bod y Ganolfan yn sefydliad gwerthfawr. Mae’n cael ei ystyried yn ffynhonnell dystiolaeth ac arbenigedd annibynnol a chredadwy i Weinidogion ei defnyddio, yn enwedig yng nghamau cynnar y broses o lunio polisïau. Mae’n ategu’r adnoddau dadansoddi presennol ac yn helpu i feithrin cysylltiadau agosach rhwng y byd academaidd a’r llywodraeth.

Daw’r adolygiad i’r casgliad ei bod yn dal yn ofynnol i Weinidogion gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd amserol o ansawdd uchel i gefnogi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru, naill ai drwy fodel y Ganolfan neu drefniant amgen. Mae manteision hefyd o gael ffrydiau gwaith ar gyfer gwasanaethau Gweinidogol a gwasanaethau cyhoeddus ehangach o fewn un corff.

Fodd bynnag, mae’r adolygiad hefyd yn nodi meysydd lle mae gan y Ganolfan a Llywodraeth Cymru le i wella o ran diwallu anghenion tystiolaeth nawr ac yn y dyfodol.

Gwneir argymhellion i sicrhau bod rhaglenni gwaith Gweinidogol y Ganolfan yn y dyfodol yn adlewyrchu blaenoriaethau Gweinidogol yn well; bod y prosiectau’n cael eu cyflawni i safon fwy cyson; a bod dulliau newydd yn cael eu hystyried ar gyfer lledaenu canfyddiadau er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl.

Cefndir, methodoleg a nodau’r ymchwil

Cefndir

Mae polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn galluogi i lywodraethau wneud penderfyniadau doeth drwy roi’r dystiolaeth orau sydd ar gael o waith ymchwil wrth galon y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisi (Sutcliffe a Court, 2005). Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu rôl tystiolaeth yn y gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio ymchwil fel sail i’w phroses gwneud penderfyniadau ar draws meysydd polisi.

Mae llawer o’r arbenigedd hwn yn cael ei ddarparu’n fewnol drwy’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi sy’n darparu cymorth dadansoddol drwy gydol y cylch polisi, ac sy’n gallu ymgymryd â phrosiectau ymchwil a gwerthuso ar raddfa fawr a’u rheoli. I ategu hyn, sefydlwyd Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn 2014 gyda’r nod penodol o gynyddu’r gwaith o lunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy weithgareddau gan gynnwys gweithio gyda Gweinidogion Cymru i ganfod a mynd i’r afael â’u hanghenion o ran tystiolaeth.

Cafodd swyddogaethau Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru eu hysgwyddo gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a gafodd ei lansio ym mis Hydref 2017. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cael ei ariannu drwy fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol tan fis Medi 2022. Mae ganddo ddwy ffrwd waith wahanol ond cysylltiedig: un sy’n darparu cyngor a thystiolaeth arbenigol fer i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n berthnasol i bolisi; a’r llall sy’n gweithio gyda grŵp ehangach o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel rhan o rwydwaith ‘What Works’ y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. 

Yn dilyn ymarfer tendro dan arweiniad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, dyfarnwyd contract i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i Brifysgol Caerdydd, a oedd â’r contract blaenorol ar gyfer y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £450,000 y flwyddyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer ei rhaglen waith Gweinidogol (Mae Adran Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £50,000 ychwanegol y flwyddyn i gefnogi rhaglen waith ehangach gwasanaethau cyhoeddus Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â’r cyllid craidd o £500,000 y flwyddyn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol). Fel rhan o’r contract, gofynnodd Llywodraeth Cymru i adolygiad interim gael ei gynnal hanner ffordd drwy gyfnod y grant (erbyn mis Mawrth 2020) i lywio’r cyfnod sy’n weddill ohono.

Mae’r llenyddiaeth ar felinau trafod a sefydliadau polisi yn edrych ar y gwahanol rolau y gallant eu chwarae wrth weithio gyda llywodraethau. Nodweddir rhai fel cynnal ymchwil ar faterion polisi tymor hwy ar hyd braich oddi wrth y llywodraeth mewn ffordd debyg i academyddion traddodiadol, tra gall eraill fod â pherthynas agosach neu roi cyngor ar bryderon polisi uniongyrchol (Weaver, 2017). Mae’r adolygiad hwn yn gyfle i bwyso a mesur y model a ddefnyddir gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac a ddylid cyflwyno unrhyw newidiadau yn ail gam y grant.

Nodau’r ymchwil

Y nod cyffredinol oedd adolygu’r cynnydd a wnaed hyd yma ar ffrwd waith Gweinidogol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a bod yn sail i ail gam y grant. Yr amcanion penodol oedd:

  • archwilio’r broses a ddefnyddir i bennu blaenoriaethau tystiolaeth Gweinidogol a datblygu’r rhaglen waith ddilynol
  • deall, lle bo’n bosibl, effaith yr aseiniadau ar ddatblygu polisi
  • adolygu’r dull gweithredu ar y cyd ar gyfer gweithgareddau ymchwil Gweinidogol ac ymchwil ehangach i wasanaethau cyhoeddus ac i ba raddau y mae’n fuddiol cael y ddwy swyddogaeth o fewn un corff

Cafodd yr adolygiad ei reoli a’i gynnal ar y cyd gan Swyddfa’r Cabinet a’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.

Methodoleg

Roedd dyluniad yr ymchwil yn cyfuno cyfweliadau manwl lled-strwythuredig gyda sampl dethol o brif hysbyswyr, wedi’u hategu gan arolwg ar-lein i swyddogion polisi y nodwyd eu bod wedi gweithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Roedd y prif hysbyswyr ar gyfer y cyfweliadau lled-strwythuredig yn uwch swyddogion polisi yn Llywodraeth Cymru (11 cyfweliad); Cynghorwyr Arbennig (2); Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (1); Swyddfa’r Cabinet (1); Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’u grŵp Cynghori (4).  Cynhaliwyd cyfweliadau hefyd gyda Phrif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Parhaol. Cynhaliwyd 21 o gyfweliadau rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Chwefror 2020 gyda phob un ond un o’r rhain yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac un cyfweliad dros y ffôn. Roedd dau gyfwelydd yn bresennol ym mhob cyfweliad. Un i gynnal y cyfweliad, ac un arall i wneud nodiadau helaeth. Roedd pynciau’r cyfweliadau’n cynnwys cwestiynau craidd a ofynnwyd i bob un a oedd yn cael ei gyfweld a chwestiynau eraill a oedd wedi’u teilwra i adlewyrchu cefndir y sawl a oedd yn cael ei gyfweld yn benodol. Ategwyd y data o’r cyfweliadau gan arolwg ar-lein a ddosbarthwyd i 40 o bolisïau Llywodraeth Cymru ac a gafodd 13 o ymatebion.

Manteisiodd yr adolygiad ar gyfranogiad unigolion sydd â rolau polisi dylanwadol, a thrwy hynny ddarparu gwybodaeth awdurdodol (Woods, 1998). Yn unol â hynny, roedd y dull cyfweld a ddefnyddiwyd gan yr ymchwilwyr yn seiliedig ar strategaethau perthnasol ar gyfer cyfweld gweithredwyr polisi dylanwadol (Harvey, 2011). Roedd hyn yn cynnwys cyfyngu ar nifer y cwestiynau caeedig er mwyn i’r rhai a oedd yn cael eu cyfweld allu mynegi eu barn yn drylwyr, gyda chydbwysedd rhwng cadw’r cyfweliad i’r hyd priodol ac ystyried amserlenni prysur y rhai a oedd yn cael eu cyfweld.

Ar ôl casglu data, cafodd nodiadau’r cyfweliadau a data’r arolwg eu categoreiddio a’u codio gan bedwar ymchwilydd. Nodwyd cyfres o themâu trosfwaol yn anwythol o’r data, a nodwyd canfyddiadau allweddol ohonynt. 

Canfyddiadau

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cael ei werthfawrogi am ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd annibynnol credadwy

Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gafodd eu cyfweld yn cytuno bod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan werthfawr o ran darparu tystiolaeth ac arbenigedd i lywio’r gwaith o lunio polisïau. Mae’n cael ei ystyried yn ffynhonnell dystiolaeth ac arbenigedd annibynnol a chredadwy i Weinidogion ei defnyddio, yn enwedig yng nghamau cynnar y broses o lunio polisïau.

Nododd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd ei bod yn unigryw bod gan Gymru sefydliad ymchwil annibynnol sy’n cynghori’r Llywodraeth ar nifer o feysydd polisi. Roeddent yn pwysleisio gwerth broceriaeth gwybodaeth rhwng y byd academaidd a Gweinidogion, a dod â thystiolaeth ‘at graidd y llywodraeth’ – model yr oedd rhai’n credu ei fod yn unigryw i Gymru.

Roedd rhai hefyd wedi nodi pa mor gyflym y mae’r Ganolfan yn gallu cwblhau prosiectau i gyd-fynd â phenderfyniadau polisi, er bod eraill wedi dweud bod prosiectau’n aml yn cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd ar y dechrau. Roedd mannau cyfyng yn tueddu i fod naill ai yn y cam cwmpasu prosiectau lle gellid treulio llawer o amser yn cytuno ar amcanion ymchwil, neu tuag at ddiwedd prosiectau lle mae allbynnau’n cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.

Roedd y rhai a gyfwelwyd wedi nodi pwysigrwydd annibyniaeth y Ganolfan sy’n rhoi hygrededd ychwanegol i’r allbynnau.  Roedd y rhai a gyfwelwyd yn credu bod y dystiolaeth a’r cyngor a ddarparwyd gan y Ganolfan yn cyd-fynd â’r dystiolaeth a ddarparwyd gan weision sifil (gan gynnwys Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi) a Chynghorwyr Arbennig.

Ystyrid bod gan y Ganolfan rôl mewn herio doethineb neu feddylfryd confensiynol ar rai materion polisi, a darparu ffynhonnell newydd o feddwl na fyddai’n hawdd ei darparu’n fewnol. Pan ofynnwyd pa effaith a gafodd cyngor y Ganolfan ar syniadau polisi, dywedodd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd eu bod yn darparu ‘effeithiau cadarnhaol’ h.y. ddim o reidrwydd yn dweud rhywbeth gwahanol ond eu bod yn cryfhau eu safbwynt ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen gyda pholisi, wedi’i ategu gan dystiolaeth annibynnol a chredadwy.

Mae gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fodel adweithiol sy’n cael ei arwain gan alw yn bennaf ar gyfer nodi anghenion tystiolaeth Gweinidogion

Roedd y rhai a gyfwelwyd yn cydnabod dwy ffordd wahanol o adnabod anghenion tystiolaeth, dulliau adweithiol a rhagweithiol. Roedd dulliau adweithiol yn tueddu i fod yn aseiniadau tymor byr mewn ymateb i gyhoeddiadau Gweinidogol, adroddiadau pwyllgorau, neu’r angen am asesiad cyflym o dystiolaeth i lywio’r gwaith o lunio polisïau. Roedd dulliau rhagweithiol yn llai cyffredin ond roeddent yn cael eu hystyried yn rhai a oedd yn rhagweld pa faterion polisi tymor hwy allai fod.

Mae’r Ganolfan wedi datblygu model ymatebol sy’n cael ei arwain gan y galw yn bennaf, yn unol â’i gontract cyllido gan Lywodraeth Cymru.  Er bod hyn wedi arwain at waith effeithiol ar draws amrywiaeth o feysydd polisi, dywedodd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd fod cyfle wedi’i golli i sefydliad o’r fath wneud mwy wrth gymryd golwg tymor hwy ar anghenion tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau. Fodd bynnag, roedd ganddynt safbwyntiau gwahanol ynghylch pwy ddylai fod yn gyfrifol am ganfod yr anghenion tystiolaeth tymor hwy hyn.

Byddai rhaglenni gwaith yn elwa o alinio prosiectau’n strategol

Nododd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd nad oedd dull systematig o gydlynu anghenion tystiolaeth a sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â helpu i gyflawni blaenoriaethau polisi. Gall rhaglenni gwaith ymddangos yn anghydlynol, yn hytrach na phecyn gwaith strategol sy’n gydlynol ac yn gydgysylltiedig.

Arweiniodd hyn at y canfyddiad o raglen waith a oedd yn cynnwys prosiectau tymor byr sy’n ymddangos fel pe baent yn ddigyswllt yn hytrach na rhaglen waith sy’n canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau strategol tymor hwy ar gyfer polisi yng Nghymru. Dywedodd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd y byddai rhaglenni gwaith yn y dyfodol yn elwa o gael gwell cydbwysedd rhwng mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth tymor byr a thymor hwy.

Roedd y dadansoddiad felly’n nodi’r angen i’r rhaglen waith fod ar sail fwy strategol ac yn cyd-fynd yn well â blaenoriaethau’r Prif Weinidog a’r Gweinidog. Gwaethygir y diffyg cyflunio hwn gan ddiffyg proses gyson ar gyfer blaenoriaethu beth yw’r anghenion o ran tystiolaeth strategol.

Mae diffyg dealltwriaeth o sut mae rhaglenni gwaith yn cael eu datblygu

Yn aml nid oedd y rhai a gyfwelwyd yn ymwybodol o’r prosesau penodol ar gyfer sicrhau bod anghenion tystiolaeth yn rhan o’r rhaglen waith. Roedd y cyfweliadau’n dangos diffyg proses gyson a chadarn o ran sut mae anghenion tystiolaeth yn cael eu bwydo i mewn i raglen waith Gweinidogol y Ganolfan a sut mae gwaith yn cael ei gomisiynu. Mae’r anghysondeb hwn wedi arwain at gyfuniad o brosesau sy’n cynnwys y Ganolfan yn siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion unigol i ganfod anghenion o ran tystiolaeth, swyddogion polisi yn cysylltu â’r Ganolfan yn uniongyrchol, swyddogion yn briffio Gweinidogion ynghylch beth ddylai eu tystiolaeth fod, a Swyddfa’r Cabinet yn nodi anghenion o ran tystiolaeth.

Mae’r amrywiad hwn wedi arwain at raglenni gwaith sydd heb eu cydlynu’n ddigonol. Ar gyfer rhai o’r prosiectau hynny a nodwyd gan Weinidogion neu Gynghorwyr Arbennig, pan ddaeth swyddogion yn gysylltiedig wedyn, roedd y diffyg dealltwriaeth ynghylch y cyd-destun a’r pwrpas yn peri risgiau i’r prosiectau, gan gynnwys diffyg perchnogaeth, ymgysylltu, anhawster o ran cwmpasu a llai o effaith. 

Roedd diffyg proses glir ac ymgysylltiad hwylus gan Lywodraeth Cymru o ran nodi ei hanghenion tystiolaeth yn golygu bod y rhaglenni gwaith yn ddieithriad yn cymryd amser hir i gael eu datblygu. Roedd hyn yn aml yn golygu oedi cyn dechrau prosiectau ac weithiau’n golygu bod blaenoriaethau wedi newid erbyn i’r rhaglen fod yn barod i gael ei chymeradwyo.

Mae cysylltiadau teiran yn nodwedd allweddol o brosiectau llwyddiannus

Canfyddiad cyson oedd mai’r enghreifftiau gorau o brosiectau llwyddiannus oedd y rhai lle’r oedd y Gweinidog, y Cynghorydd Arbennig a’r swyddog polisi allweddol i gyd yn gyson ynghylch pwrpas yr aseiniad. Roedd cysylltiadau teiran yn eithriad yn hytrach na’r rheol. Fodd bynnag, cydnabuwyd hefyd nad yw aliniad o’r fath ar waith bob amser, gan ei gwneud yn anodd i’r Ganolfan ddatblygu darnau o waith dylanwadol.

Roedd enghreifftiau o Weinidogion yn ysgogi darn o ymchwil a oedd yn annisgwyl i swyddogion weithiau’n arwain at gamddealltwriaeth o’r cyd-destun neu’r angen am yr ymchwil, ac yn aml yn cael effaith ganlyniadol ar lwybr y prosiectau a’r allbynnau dilynol. Tynnodd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd sylw at achosion lle’r oedd diffyg cyfathrebu â’r Ganolfan yn golygu nad oedd prosiectau’n bodloni disgwyliadau nac yn ateb y cwestiynau ymchwil angenrheidiol, gan effeithio ar yr effaith bosibl y gallai’r prosiect ei chael.

Cefnogwyd yn gryf yr angen am fwy o ddeialog, gyda’r rhai a gyfwelwyd yn cydnabod y gallai cydweithio effeithiol ymysg Gweinidogion, Cynghorwyr Arbennig a swyddogion polisi ar gwmpas y prosiect, y cwestiynau ymchwil a sut y gallai’r ymchwil gyfrannu at bolisi arwain at brosiectau gyda chanlyniadau mwy llwyddiannus. Nid yw’r ffordd y cyflawnir hyn yn ymarferol bob amser yn syml a bydd yn dibynnu’n rhannol ar gysylltiadau presennol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd hefyd bod y Ganolfan yn adnodd i Weinidogion, ac felly nid yw alinio rhwng Gweinidogion, Cynghorydd Arbennig a swyddogion, er ei fod yn fuddiol, yn anghenraid i brosiect fynd rhagddo.

Roedd diddordeb y Ganolfan yn y prosiect hefyd yn cael ei ystyried yn bwysig, gyda’r canfyddiad ymysg rhai o’r unigolion a gyfwelwyd bod gan y Ganolfan fwy o ddiddordeb mewn rhai prosiectau nag eraill. Roedd cysondeb ac ansawdd gwasanaeth ar gyfer pob prosiect yn cael ei ystyried yn hanfodol, ond nid oedd bob amser yn amlwg.

Mae’r digwyddiadau trafod i arbenigwyr yn cael eu gwerthfawrogi’n arbennig

Roedd y rheini a gafodd eu cyfweld yn edrych yn gadarnhaol ar y digwyddiadau trafod y mae’r Ganolfan wedi’u cynnal, gyda chasgliad o arbenigwyr i drafod pynciau y credir eu bod yn arbennig o ddefnyddiol pan oedd swyddogion polisi hefyd yn rhan o’r trafodaethau.

Nodwyd bod cael mynediad at rwydwaith o arbenigwyr a hwyluso trafodaethau ar y dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar faterion sy’n benodol i gyd-destun polisi Cymru yn fecanwaith gwerthfawr iawn, ac yn un sy’n manteisio i’r eithaf ar arbenigedd y Ganolfan ar gyfer broceru gwybodaeth rhwng arbenigwyr a’r llywodraeth. Mae digwyddiadau o’r fath yn caniatáu i arbenigwyr a llunwyr polisi gynnal trafodaethau hyblyg a deinamig, ac mae ganddynt y potensial i feithrin cysylltiadau parhaol y gellir manteisio arnynt yn y dyfodol.

I’r gwrthwyneb, roedd mwy o amrywiaeth yn asesiadau’r rhai a gyfwelwyd o brosiectau a oedd wedi’u cynnal yn fewnol, neu lle’r oedd arbenigwyr allanol penodol wedi’u comisiynu i ysgrifennu adroddiad. Cydnabuwyd hefyd nad yw digwyddiadau trafod arbenigol bob amser yn angenrheidiol na’r dull gorau o fynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil penodol ac y byddai’n fwy buddiol i’r Ganolfan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau i ddiwallu gwahanol anghenion o ran tystiolaeth.

Mae profiad y Ganolfan yn awgrymu mai’r cyfuniad o drafodaethau â gweithgareddau ac allbynnau eraill sy’n gwneud prosiectau llwyddiannus. Er enghraifft, gall cyfarfodydd briffio wyneb yn wyneb a sesiynau briffio ysgrifenedig gyda Gweinidogion, ac adroddiadau ysgrifenedig a sylwebaethau ar gyfer cynulleidfa ehangach, helpu i sicrhau nad yw dysgu’n cael ei anghofio a chyrraedd grŵp ehangach o bobl nad ydynt yn bresennol yn y cyfarfod trafod.

Mae angen sicrhau ansawdd yn gyson pan gomisiynir arbenigwyr i ysgrifennu adroddiadau

Er bod llawer o enghreifftiau lle mae’r Ganolfan wedi cynhyrchu gwaith effeithiol, roedd y rhai a gyfwelwyd weithiau’n dweud bod ansawdd y gwaith yn amrywio. Roedd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd yn gofyn a oedd yr arbenigwyr cywir wedi cael eu holi ac yn awgrymu nad oedd yr arbenigwr a nodwyd mewn rhai achosion yn addas ar gyfer y gwaith gofynnol, neu a oedd yn dymuno mynd â’r prosiect ar lefel wahanol yn hytrach nag ateb y cwestiwn tystiolaeth penodol a ofynnwyd gan Lywodraeth Cymru.

I fynd i’r afael â’r mater hwn, awgrymodd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd y dylid cael cydweithio agosach â swyddogion ynghylch pa arbenigwyr i weithio gyda nhw, ac y gallai’r Ganolfan wneud mwy i reoli comisiynau ar ôl iddynt ddechrau er mwyn sicrhau rheolaeth ansawdd fwy cyson a sicrhau bod prosiectau’n cyflawni nodau gwreiddiol yr ymchwil. Fodd bynnag, nid oedd y farn y dylid cael cydweithio agosach ar gyfer arbenigwyr i weithio gyda nhw yn cael ei rannu’n gyffredinol, gyda dull o’r fath hefyd yn cael ei weld fel rhywbeth sy’n amharu ar annibyniaeth y Ganolfan.

Mae awydd i gael canfyddiadau clir ac argymhellion y gellir gweithredu arnynt

Awgrymodd rhai ymatebwyr y gallai allbynnau’r Ganolfan fod yn broblem, gyda system anhyblyg yn seiliedig ar gynhyrchu adroddiadau fel cynnyrch terfynol. Dywedodd y rhai a gyfwelwyd y gallai’r adroddiadau fod yn rhy hir, yn rhy eang neu’n rhy aneglur, yn rhy ‘academaidd’ ac nad ydynt bob amser wedi’u teilwra i gael eu defnyddio mewn cyd-destun polisi cyhoeddus. 

Cydnabuwyd y gallai allbynnau effeithiol fynd y tu hwnt i adroddiadau ysgrifenedig a chynnwys cyfathrebu wyneb yn wyneb (er enghraifft, gwneud mwy o ddefnydd o gyfarfodydd rhwng Gweinidogion, swyddogion polisi ac arbenigwyr), sesiynau dysgu dros ginio, seminarau a sicrhau bod cysylltiadau perthnasol yn cael eu gwneud er mwyn ymgysylltu yn y tymor hwy.

Yn allweddol i’r rhai sy’n datblygu polisi, roedd argymhellion yr adroddiad yn aml yn cael eu hystyried yn rhy betrus neu’n rhy anodd i weithredu arnynt. Yn yr achosion hyn, y canlyniad oedd nad oedd yr adroddiad yn cael ei ystyried yn arbennig o ddefnyddiol o ran darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i benderfynu lle byddai ymateb polisi cyhoeddus yn cael effaith.  Nid oedd y rhai a gyfwelwyd yn teimlo eu bod yn cael cynnyrch a oedd yn gallu amlinellu’n glir yr opsiynau ar gyfer polisi ar sail cyfuno’r dystiolaeth a ddarparwyd gan y Ganolfan, gan alluogi Gweinidogion a swyddogion i benderfynu pa gamau i’w cymryd yng ngoleuni’r dystiolaeth.

Awgrymwyd bod angen datblygu mwy o ystyriaeth ac ymwybyddiaeth o’r amgylchedd llunio polisi, gan gydnabod yn benodol bod gofyn yn aml i Weinidogion a swyddogion wneud penderfyniadau o dan gyfyngiadau amser. Yn unol â hynny, dywedodd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd y dylai canfyddiadau allweddol prosiectau’r Ganolfan fod yn gliriach i ddarllenwyr lleyg a, lle bo’n bosibl, dylai argymhellion fod yn glir ynghylch pa gamau gweithredu a dewisiadau y gallai’r Llywodraeth eu gwneud ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.

Un elfen bwysig yma yw bod rhai prosiectau’r Ganolfan yn fwy parod i ddarparu argymhellion penodol nag eraill. Er enghraifft, gallai ateb cwestiynau fel ‘beth sy’n gweithio’ fod yn fwy addas ar gyfer gwneud argymhellion na phrosiectau lle gofynnir i’r Ganolfan edrych ar natur neu hyd a lled mater polisi canfyddedig.

Mae gan y cylch gwaith gwasanaethau cyhoeddus ehangach y potensial i gael effaith gadarnhaol ar y ddarpariaeth

Er bod yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar raglen waith y Gweinidogion, gofynnwyd i’r rhai a gyfwelwyd hefyd am eu barn ynghylch cael cylch gwaith ehangach y gwasanaethau cyhoeddus o fewn yr un corff. Nid oedd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd yn teimlo eu bod yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn ddigonol ond roedd y rhai a oedd wedi ateb yn gweld manteision o gadw’r ddwy swyddogaeth yn yr un corff. 

Yn benodol, gwelwyd bod cael y ddau gylch gwaith o fewn yr un corff yn dod â chyfleoedd ar gyfer rhaglenni gwaith i fynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth sy’n flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach. Mantais hyn yw osgoi dyblygu ymdrechion i fynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth tebyg, tra’n caniatáu i wybodaeth o’r naill raglen waith neu’r llall fwydo’n ôl i drafodaethau ynghylch gofynion polisi a thystiolaeth.

Dywedodd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd hefyd fod gan hyn y potensial i ddatblygu arbenigedd ar yr heriau polisi sy’n wynebu Cymru gyfan, ac i hyn fod yn sail i gyfeiriad polisi ar lefel genedlaethol a chyflawni ar lefel fwy lleol. Er enghraifft, lle mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar gwestiynau ynghylch ‘beth sy’n gweithio i roi hyn ar waith yn llwyddiannus?’, gallai hyn fod yn amlwg yn berthnasol i gyrff yn y sector cyhoeddus sy’n gyfrifol am gyflawni.

Awgrymwyd hefyd bod cyfle i ganolbwyntio mwy ar ddatblygu capasiti ar draws gwasanaethau cyhoeddus ehangach, ac i’r Ganolfan ddefnyddio ei rôl i gynyddu’r broses o symud gwybodaeth rhwng y byd academaidd, y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae heriau ehangach yn bodoli o ran gwella dealltwriaeth o rôl a phwrpas y Ganolfan

Nododd yr ymchwil heriau ehangach yn Llywodraeth Cymru o ran defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisïau. Er enghraifft, roedd dealltwriaeth y rhai a gyfwelwyd o’r rolau a gyflawnir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a’r Ganolfan yn amrywio ac roedd rhai ymatebwyr yn ansicr ynghylch pwy y dylid cysylltu â nhw i helpu i fynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth ac o dan ba amgylchiadau.

Roedd rhai o’r unigolion a gyfwelwyd yn gallu mynegi’r hyn roeddent yn ei ystyried yn rôl ategol i’r Ganolfan ei chwarae, gyda’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn fwy addas ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso tymor hwy, a’r Ganolfan yn cynnig adnodd i Weinidogion ddiwallu anghenion tystiolaeth tymor byrrach, ac i froceru cysylltiadau rhwng y llywodraeth ac arbenigwyr allanol. Fodd bynnag, nid oedd y ddealltwriaeth hon yn gyffredin, gan awgrymu bod angen gwneud gwaith ymgysylltu i wneud hyn yn gliriach.

Dywedodd rhai o’r ymatebwyr nad oeddent yn ymwybodol o’r Ganolfan (nac ei ragflaenydd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru) cyn cymryd rhan yn eu prosiectau, ond eu bod yn gwerthfawrogi ei waith. Roedd hi’n amlwg hefyd nad oedd pob Cynghorydd Arbennig yn ymwybodol o’r Ganolfan nac ei ddiben penodol i Weinidogion. Ar gyfer rhai Cynghorwyr Arbennig, roedd diffyg eglurder hefyd ynghylch sut i gael mynediad i’r Ganolfan a dod ag anghenion tystiolaeth newydd i’w sylw.

Er ei bod yn amlwg bod angen gwneud gwaith i godi proffil gwaith y Ganolfan yn Llywodraeth Cymru, mae’r adolygiad hwn hefyd wedi tynnu sylw at yr angen ehangach am eglurder rolau rhwng y Ganolfan a’r swyddogaethau dadansoddi a gynigir drwy’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, a sut y dylai hyn fod yn sail i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau yn y sefydliad.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu proses gliriach ar gyfer datblygu rhaglenni gwaith strategol.

Mae’r ffordd bresennol o ddatblygu’r rhaglen waith Weinidogol yn golygu system sy’n rhy ad-hoc, yn anodd ei rheoli ac nad yw bob amser yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol. Mae’r Prif Weinidog wedi gofyn am ffocws mwy strategol ar gyfer y Ganolfan. Er mwyn bodloni’r gofynion hyn, cynigir nifer o newidiadau ar gyfer ail gam y grant.

Argymhellir y dylai Swyddfa’r Cabinet barhau i reoli rhaglen waith y Gweinidog o ystyried eu mynediad a’u perthynas â Chynghorwyr Arbennig a’r Prif Weinidog.

Dylai’r cam cyntaf gynnwys dod o hyd i bynciau o ddiddordeb i Swyddfa’r Cabinet gan y Prif Weinidog a Chynghorwyr Arbennig. Bydd hyn yn digwydd yn barhaus drwy gyfarfodydd rheolaidd rhwng Swyddfa’r Cabinet a Chynghorwyr Arbennig a helpu i nodi anghenion tystiolaeth y sefydliad a’u dwyn at ei gilydd mewn rhaglen waith sy’n canolbwyntio’n strategol. Dylai unrhyw anghenion tystiolaeth a godir ar y cam hwn gyd-fynd ag un o dair thema Llywodraeth Cymru (cyfiawnder gwyrdd, cymdeithasol ac economaidd).

Dylai’r cam nesaf gynnwys Swyddfa’r Cabinet a’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn cydweithio i sicrhau bod anghenion tystiolaeth newydd yn cyd-fynd â gwaith presennol neu waith arfaethedig; diogelu rhag dyblygu gwaith y gallai’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi fod yn ei wneud eisoes; a lle bo hynny’n berthnasol, bwydo tystiolaeth a data o brosiectau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i lywio prosiectau’r Ganolfan. 

Ar ôl y cam hwn, gofynnir i’r Prif Weinidog gymeradwyo neu wrthod yn ffurfiol y prosiectau ar gyfer y rhaglen waith newydd. Yn dilyn cymeradwyaeth y Prif Weinidog, dylai Swyddfa’r Cabinet roi gwybod i’r Ganolfan am yr anghenion tystiolaeth newydd a byddai’r Gweinidogion perthnasol, Cynghorwyr Arbennig, swyddogion polisi a’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn cymryd rhan yn y gwaith o gwmpasu a nodi’r prosiectau’n fanylach. Dylai Swyddfa’r Cabinet drefnu unrhyw gyfarfodydd cwmpasu cychwynnol gyda’r Ganolfan yn gyfrifol am fwrw ymlaen ag unrhyw gyfarfodydd dilynol. Ar y cam hwn, bydd Swyddfa’r Cabinet hefyd yn rhoi gwybod i’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol ac uwch swyddogion eraill am y rhaglen waith i sicrhau bod y sefydliad yn ymwybodol o ymchwil traws-bynciol ac adrannol sy’n cael ei wneud ar ran y Gweinidogion.

O dan y model hwn, bydd Cynghorwyr Arbennig yn chwarae rhan allweddol yn unigol ac ar y cyd yn y gwaith o drosi gofynion Gweinidogol a throsi eu huchelgeisiau polisi yn gwestiynau ymchwil i’r Ganolfan fwrw ymlaen â hwy. Felly, mae’n bwysig bod Swyddfa’r Cabinet yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg Cynghorwyr Arbennig o’r Ganolfan a chynyddu dealltwriaeth o’r gwasanaeth y gall ei ddarparu.  Mae hyn yn cynnwys datblygu’r naratif o amgylch y Ganolfan, y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a ffynonellau tystiolaeth eraill sydd ar gael. Gellid hwyluso anghenion tystiolaeth o’r fath hefyd drwy gynnal gweithdai anghenion tystiolaeth yn ogystal â mynychu cyfarfodydd Cynghorwyr Arbennig. 

Bwriedir i’r mecanweithiau hyn gynhyrchu rhaglenni gwaith Gweinidogol a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth mwy trawsbynciol ac yn rhoi’r rhaglen waith ar sylfaen fwy strategol. Dylai’r rhaglen gadw hyblygrwydd ar gyfer ceisiadau penodol gan y Prif Weinidog wrth iddynt godi neu wrth i’r cyd-destun polisi cyhoeddus newid.

Bydd Swyddfa’r Cabinet a’r Ganolfan yn gweithio i fynd i’r afael â’r mannau cyfyng yn y prosesau presennol, sy’n tueddu i godi yn ystod cam cwmpasu prosiectau lle mae llawer o amser yn cael ei dreulio’n cytuno ar amcanion ymchwil a’r Ganolfan yn cwmpasu’r ymchwil. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda Gweinidogion a Chynghorwyr Arbennig i sicrhau bod datganiadau clir o’r mater ymchwil i’w harchwilio, ochr yn ochr ag ymatebion mwy amserol ac ystwyth gan y Ganolfan. 

Argymhelliad 2

Dylid gwneud newidiadau i wella’r modd y caiff prosiectau a rhaglenni eu rheoli a’u cyflawni.

Er mwyn sicrhau bod y rhaglen waith yn cael ei sefydlu a’i chyflawni’n effeithiol, dylai Swyddfa’r Cabinet fod â rôl fwy diffiniedig o ran llywodraethu a goruchwylio. Ar ôl i Brif Weinidog Cymru gymeradwyo’r rhaglen waith, bydd Swyddfa’r Cabinet yn gweithredu fel cyfrwng rhwng Cynghorwyr Arbennig, swyddogion polisi ac ymchwilwyr arweiniol a/neu ystadegwyr o’r Gwasanaethau Gwybodaeth, gan gydlynu cyfarfodydd cychwynnol sy’n benodol i’r prosiect a sicrhau bod y partïon yn gydgysylltiedig ac yn wybodus am y ffordd ymlaen.

Bydd system rheoli prosiectau eang yn cael ei gweithredu a’i rheoli gan Swyddfa’r Cabinet at ddefnydd mewnol, gan helpu i ddatblygu ffordd o gael gafael ar statws prosiectau yn y rhaglen waith, yr amserlenni a’r cynlluniau lledaenu. Bydd hyn yn helpu i reoli dibyniaethau a chreu cysylltiadau ar draws meysydd polisi.

Dylai cyfathrebu rheolaidd rhwng y Ganolfan a Swyddfa’r Cabinet ynghylch y rhaglen waith ddod yn norm, gan gynnwys cyfarfodydd ‘dal i fyny’ misol. Bydd cyfathrebu rheolaidd sy’n benodol i’r prosiect yn cael ei annog rhwng Cynghorwyr Arbennig, y Ganolfan a swyddogion.

Er mwyn sicrhau bod y rhaglen waith yn cyd-fynd â blaenoriaethau cyffredinol, bydd Swyddfa’r Cabinet yn cefnogi cyfarfodydd rhwng y Ganolfan a Chynghorwyr Arbennig, uwch swyddogion a’r Prif Weinidog. Bydd hyn yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu rhaglenni gwaith yn y dyfodol ac adrodd ar gynnydd ar gynlluniau gwaith cyfredol.

Er mwyn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o bwrpas aseiniadau, dylai’r Ganolfan hefyd ystyried ymgymryd â rhywfaint o waith damcaniaeth newid ysgafn a chymesur ar ddechrau prosiectau er mwyn deall rhagdybiaethau sydd gan Weinidogion, Cynghorwyr Arbennig a swyddogion ac, os oes angen, amlygu lle maent yn wahanol.

Argymhelliad 3

Dylai’r Ganolfan ystyried dulliau newydd o rannu’r canfyddiadau mewn ffordd a fydd yn sicrhau’r effaith fwyaf posib.

Wrth geisio rhannu allbynnau’r rhaglen waith yn effeithiol, dylai’r Ganolfan ystyried yr allbynnau sy’n cael eu cynhyrchu, gyda mwy o bwyslais ac ymwybyddiaeth o’r amgylchedd polisi a chyfleu negeseuon allweddol o’r ymchwil yn effeithiol i feysydd polisi a fyddai’n elwa’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Fel rhan o hyn, dylai’r Ganolfan sicrhau bod yr argymhellion a wneir yn benodol, yn glir ac y gellir gweithredu arnynt o bosibl. Mae’n anochel mai rôl y Ganolfan yw cyfuno tystiolaeth sy’n bodoli eisoes, ond wrth ystyried ei chymhwyso i gyd-destun polisi Cymru efallai y bydd lle i ddangos y pwysau tystiolaeth ar gyfer gwahanol gamau gweithredu posibl, gan helpu Gweinidogion a llunwyr polisïau i wneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael.

Er y cydnabyddir y bydd rhyw fath o adroddiad ysgrifenedig fel arfer yn allbwn (am resymau tryloywder a chof sefydliadol), argymhellir bod y Ganolfan yn ystyried ffyrdd eraill o rannu eu tystiolaeth nad yw’n canolbwyntio’n llwyr ar adroddiad ysgrifenedig ffurfiol fel cynnyrch terfynol ac sy’n caniatáu i gynulleidfaoedd anacademaidd ymgysylltu â’u tystiolaeth. 

Gallai hyn fod ar ffurf hwyluso cyngor wyneb yn wyneb neu gyfarfodydd rhwng arbenigwyr a Gweinidogion, gan gydnabod nad oes angen i gyfarfodydd o’r fath fod yn ddigwyddiadau un-tro ac y gellid eu hailadrodd ar ôl rhoi ystyriaeth bellach i gyngor polisi. 

Gellid manteisio i’r eithaf ar effaith ymchwil drwy ymgysylltu’n well rhwng y Ganolfan, Cynghorydd Arbennig a swyddogion ar ôl i brosiectau fynd rhagddynt i sicrhau bod nodau’r ymchwil gwreiddiol yn cael eu cyflawni. Mae ymgysylltu yn gyfrifoldeb i swyddogion yn ogystal â’r Ganolfan, a bydd Swyddfa’r Cabinet yn arwain y gwaith o helpu i hwyluso hyn.

Gellid manteisio i’r eithaf ar effaith ymchwil hefyd drwy ymgysylltu’n well rhwng y Ganolfan, Swyddfa’r Cabinet a’r Cynghorwyr Arbennig perthnasol cyn i adroddiad ysgrifenedig fynd at Weinidogion. Roedd cyfathrebu wyneb yn wyneb hefyd yn cael ei ystyried yn allweddol yn hyn o beth. Gellid defnyddio cyfarfodydd o’r fath i fynd drwy’r manylion a goblygiadau’r dystiolaeth ac i drafod yr argymhellion y gellid eu gweithredu.

Dylai’r Ganolfan hefyd ddatblygu a gwella’r dulliau lledaenu presennol, fel y sesiynau Dysgu dros Ginio, er mwyn ymgysylltu â swyddogion.  Dylid datblygu dulliau eraill hefyd ar gyfer lledaenu, megis cyflwyno yn y fforymau presennol neu ddefnyddio cyfarfodydd Gweinidogol neu gyfarfodydd sy’n ymwneud yn benodol â pholisi.

Argymhelliad 4

Dylai’r Ganolfan ystyried anghenion tystiolaeth tymor canolig fel rhan o raglenni gwaith yn y dyfodol.

Un o ganfyddiadau allweddol y cyfweliadau oedd yr angen am raglen waith Gweinidogol sydd wedi’i strwythuro nid yn unig o amgylch anghenion tymor byr, ar unwaith; ond un sydd hefyd yn caniatáu ar gyfer nodi a mynd i’r afael â chwestiynau y bydd angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hwy yn y tymor canolig i’r tymor hir.

Mae llywodraethau’n wynebu materion parhaol ar draws nifer o feysydd polisi gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a mynd i’r afael â thlodi. Felly, mae’n werth i’r Ganolfan ystyried anghenion tystiolaeth ar gyfer pynciau o’r fath dros gyfnod hwy na’u prosiectau tymor byr. Byddai’n fwy o her i’r Ganolfan roi argymhellion y gellir eu gweithredu ar gyfer materion o’r fath, ond ni fyddai disgwyl hynny o reidrwydd ar gyfer anghenion tystiolaeth o’r fath. Yn hytrach, y nod fyddai datblygu’r sylfaen dystiolaeth dros amser.

O’r herwydd, dylid ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru gomisiynu aseiniadau tymor canolig i dymor hwy gan y Ganolfan ochr yn ochr â’r darnau o waith adweithiol tymor byrrach. Mae creu rhaglen waith sy’n caniatáu ar gyfer materion tymor canolig i’r tymor hwy yn galluogi canfod a deall beth yw’r bylchau posibl mewn tystiolaeth ar draws blaenoriaethau. Mae hyn yn cefnogi’r gwaith o ddiogelu datblygiad polisi yn y dyfodol.

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried beth ddylai cylch gwaith a swyddogaethau sefydliad ymchwil polisi yng Nghymru yn y dyfodol fod.

Daw’r adolygiad i’r casgliad ei bod yn dal yn ofynnol i Weinidogion gael gafael ar dystiolaeth ac arbenigedd amserol o ansawdd uchel i gefnogi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru, yn enwedig yng nghamau cynnar y broses o lunio polisïau.

Argymhellir, yn ystod y ddwy flynedd sy’n weddill o gontract y Ganolfan, y dylid ystyried a fydd cymorth o’r fath yn parhau drwy fodel presennol y Ganolfan neu fodel neu drefniant amgen.

Yn y lle cyntaf, dylid gweithredu’r argymhellion a amlinellir yn yr adolygiad hwn ar gyfer gweddill contract y Ganolfan i wella ffyrdd o weithio, adeiladu rhaglen waith ymchwil Gweinidogol strategol sy’n cyflawni allbynnau o ansawdd uchel i Lywodraeth Cymru ac yn gwreiddio trefniadau llywodraethu. Gwneir hyn ar yr un pryd â chadw’r prosiectau tymor byr sy’n cael eu harwain gan y galw ac sy’n cael eu sbarduno gan flaenoriaethau’r Prif Weinidog.

Dylid hefyd manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â chwestiynau strategol ynghylch yr hyn y mae ar Lywodraeth Cymru ei angen a’i eisiau gan sefydliad ymchwil polisi. Byddai’r rhain yn edrych ar faterion fel pwrpas, cylch gwaith, ffocws a swyddogaeth sylfaenol.

Dylid defnyddio’r cyfnod hwn hefyd i dreialu gwahanol ffyrdd o weithio i helpu i lywio unrhyw sefydliad yn y dyfodol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ehangu’r rhaglen waith Gweinidogol i ganiatáu lle i’r Ganolfan ymgymryd ag aseiniadau sy’n mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth tymor canolig h.y. y materion hynny nad ydynt yn flaenoriaethau brys i Weinidogion yn awr ond a allai ddod yn flaenoriaeth dros y ddwy i dair blynedd nesaf. 

Mae helpu i ddatrys y mater o ganfod anghenion tymor canolig i hir yn galluogi Gweinidogion ac Ymgynghorwyr Arbennig i wella’r ffordd y gallant, yn unigol ac ar y cyd, ganfod beth yw polisi a thystiolaeth Cymru yn y dyfodol, gan ganiatáu dadansoddiad o raddfa a natur problem. Mae hyn yn cyd-fynd â dymuniad Llywodraeth Cymru i ddod yn sefydliad arloesol o ran llunio polisïau.

Er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i yrru’r blaenoriaethau, mae lle hefyd i broses sy’n caniatáu i repertoire ehangach o syniadau ac arbenigwyr fod yn rhan o’r drafodaeth, gan agor y drafodaeth ynghylch materion polisi cymhleth i set ehangach o syniadau i’w defnyddio. Mae hefyd yn caniatáu mynd i’r afael â materion sy’n fwy trawsbynciol eu natur, fel mynd i’r afael â thlodi.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y Ganolfan yn rhagweithiol wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru ar bethau y gallai fod eisiau meddwl amdanynt, gan weithio ar y cyd â Gweinidogion a Chynghorwyr Arbennig i ganolbwyntio ar anghenion tystiolaeth allweddol yn y tymor canolig i’r tymor hir a chodi materion nad yw swyddogion wedi’u hystyried o bosibl. Gallai’r arbenigwyr sy’n aelodau o Fwrdd Cynghori’r Ganolfan hefyd chwarae rhan mewn cynghori ar faterion polisi tymor hwy i’w hystyried.

Cydnabyddir bod y darnau hyn o waith yn llai tebygol o gynhyrchu argymhellion syml. Fodd bynnag, dylent helpu i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth i hysbysu Gweinidogion a swyddogion wrth iddynt ddatblygu syniadau polisi ar faterion sy’n dod i’r amlwg.

Gellid treialu model ar gyfer comisiynu darnau o waith tymor canolig yn ail gam y contract presennol, gyda’r bwriad o’i wreiddio mewn unrhyw sefydliad ymchwil polisi a ariennir yn y dyfodol.

Manylion cyswllt

Awduron: Dr Angela Martin ac Ian Jones (Llywodraeth Cymru)

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

Ian Jones
Rhif ffôn: 0300 025 0090
E-bost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 30/2022
ISBN digidol 978-1-80364-021-1

Image
GSR logo