Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi derbyn yr adolygiad annibynnol o gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Comisiynwyd yr adolygiad eang ei gwmpas gan Ken Skates ym mis Medi 2015 a'i gadeirio gan yr Athro Medwin Hughes i ystyried prif amcanion Llywodraeth Cymru wrth gefnogi cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru ac i ystyried a oedd yr amcanion hynny'n parhau'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. 


Ystyriwyd hefyd y gefnogaeth gyfredol ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, y berthynas rhwng y cyrff sy'n gyfrifol am roi'r gefnogaeth, effaith datblygiadau digidol ar y diwydiant cyhoeddi a threfniadau gweinyddol cefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaeth newyddion Cymraeg ar-lein. 


Gan siarad yn y Senedd, croesawodd Ysgrifennydd yr Economi gyfraniad y cyrff partner a'r cyhoedd i'r adolygiad a dywedodd ei fod yn dangos y pwysigrwydd a roddir i draddodiad llenyddol cyfoethog Cymru a'i diwydiant cyhoeddi byrlymus. 


Dywedodd Ken Skates: 


"Mae adroddiad yr adolygiad o gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru wedi cyrraedd.  Mae'n crynhoi'r dystiolaeth a roddwyd gan gyrff partner, y diwydiant a'r cyhoedd. 


"Mae'r panel yn cydnabod y myrdd arferion da a'r gefnogaeth effeithiol i gyhoeddi a llenyddiaeth y dylid eu cadw a'u datblygu at y dyfodol. 


"Mae'n enwi'r meysydd lle mae angen i'r gefnogaeth esblygu i ddiwallu anghenion yr oes ddigidol a chafwyd hefyd dystiolaeth glir bod yna broblemau go iawn mewn rhai meysydd, o ran cynllunio strategol, pennu blaenoriaethau, llywodraethiant, rheoli risg, gwariant a sicrhau bod gweithgareddau'n llwydo i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom. 


"Mae'r adroddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn cynnig cyfres o argymhellion. Mae rhai ohonyn nhw ar gyfer Llywodraeth Cymru, a rhai eraill ar gyfer y diwydiant a'r prif gyrff cyflawni. 


"O ystyried cryfder a grym y dystiolaeth a ddaeth i law, rwy'n bwriadu derbyn y prif argymhellion a bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn gweithio gyda'r cyrff perthnasol i'w rhoi ar waith."  


Yn ei adroddiad, mae'r panel yn cynnig dadl gref bod Llywodraeth Cymru'n parhau i roi cefnogaeth ariannol briodol i draddodiad llenyddol dwyieithog Cymru er mwyn iddo allu parhau i ffynnu yn y 21ain ganrif, i sicrhau ei effaith ryngwladol ac i helpu pobl ledled Cymru i'w fwynhau a chymryd rhan ynddo. 


Mae'n dadlau dros ddiwydiant cyhoeddi cryf ac arloesol sy'n cynnal swyddi o ansawdd uchel, sy'n cystadlu ar y llwyfan ryngwladol ac sy'n caniatáu i lenorion proffesiynol o bob cefndir i ddatblygu gyrfa yng Nghymru. 


Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion y bydd Llywodraeth Cymru'n ymateb yn ffurfiol iddynt maes o law. 

Un o'r rheini yw y dylai Llywodraeth Cymru geisio cytundeb gyda Chyngor Llyfrau Cymru i ysgwyddo rhai o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn (er mwyn cynyddu ei impact masnachol), bwrsariaethau, gwyliau llenyddol a Llenorion ar Daith a'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae rhai o'r newidiadau sy'n cael eu hargymell yn fawr ond maen nhw'n ymateb i anghenion penodol mewn maes penodol. Nid ydynt yn fesur mewn unrhyw ffordd o waith da ehangach y Cyngor Celfyddydau na Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys y ffordd wych y maen nhw'n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mawr sy'n gysylltiedig â'n blynyddoedd thematig.  Bydd y rheini'n parhau heb eu newid. 

"Rwyf wedi cael fy argyhoeddi bod angen cymryd y camau hyn i greu fframwaith o gymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth sy'n fwy effeithiol ac sy'n addas ar gyfer y dyfodol."