Nod yr ymchwil yw llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau yn y dyfodol, yn enwedig y penderfyniad ynghylch a ddylid ystyried Iaith Arwyddion Prydain yn Sgil Cyfathrebu Hanfodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Fe wnaeth yr adolygiad nodi achos credadwy, ond heb ei brofi eto, ar gyfer dynodi Iaith Arwyddion Prydain yn Sgil Cyfathrebu Hanfodol ar gyfer rhieni a gofalwyr plant b/Byddar.
Fodd bynnag, mae llawer o ansicrwydd ynghylch yr effaith y byddai dynodi Iaith Arwyddion Prydain yn Sgil Cyfathrebu Hanfodol yn ei chael ar alw, capasiti darparwyr a chyllid dysgu oedolion ôl-19.
Nid yw’n glir ai hon fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol a/neu effeithlon o sicrhau y gall rhieni a gofalwyr gyfathrebu â phlant b/Byddar.
Adroddiadau
Adolygiad annibynnol o ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i oedolion yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Claire Maxwell
Rhif ffôn: 0300 062 5597
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.