Diolch i dros £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn datblygu cyfres newydd o brofion i wella'r ffordd o adnabod disgyblion ag anawsterau llythrennedd mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Mae anawsterau llythrennedd, gan gynnwys dyslecsia, yn gyffredin ac yn effeithio ar sgiliau darllen, ysgrifennu a sillafu yn bennaf.
Caiff dyslecsia ei gyfrif yn anabledd, ac amcangyfrifir bod tua 1 o bob 10 person yn y DU yn profi dyslecsia i ryw raddau.
Mae'n bwysig adnabod anawsterau llythrennedd a darparu cymorth priodol cyn gynted â phosibl. Bydd y profion newydd yn llenwi bwlch mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gan y bydd y profion yn cael eu teilwra'n benodol i'r Gymraeg.
Bydd y cyllid newydd yn galluogi ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i gynnal treialon mewn amrywiol ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf a safoni'r asesiadau gyda dysgwyr o bob cwr o Gymru.
Bydd y profion hefyd yn cydymffurfio â rheoliadau'r Cyd-gyngor Cymwysterau i gynnig deunyddiau addas i aseswyr cymwys er mwyn adnabod dysgwyr sydd angen trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau yn Gymraeg. Dyma’r prawf cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae asesu yn hanfodol er mwyn darparu cymorth i ddysgwyr sydd â dyslecsia. Bydd y cyllid hwn yn galluogi ymchwilwyr i greu system newydd sbon, wedi'i theilwra ar gyfer anghenion dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, er mwyn creu amgylchedd dysgu cwbl gynhwysol lle mae pob plentyn yn cael cyfle i ffynnu.
Bu Rhian Dickenson, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl, yn cymryd rhan yng nghyfnod peilot y prosiect gydag ymchwilydd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Dywedodd:
Rydyn ni mor ddiolchgar am y gwaith y mae'r Brifysgol yn ei wneud i helpu ysgolion gyda llythrennedd. Mae'n hynod bwysig bod ein pobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae treialu'r prosiect hwn wedi ein galluogi i weithio gyda'n dysgwyr i nodi yn union pa gymorth sydd ei angen a beth yw'r ffordd orau i ni ei ddarparu.
Yn ogystal â'n galluogi ni i sefydlu dull o olrhain cynnydd, rydyn ni wedi cael yr adnoddau priodol i wybod ein bod yn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar ddysgwyr. Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous iawn o gael parhau i fod yn rhan o'r treial hwn, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu ein hymyriadau a'n cefnogaeth ymhellach o ganlyniad i'r gwaith pwysig yma.
Mae Dr Rhiannon Packer yn rhan o'r tîm ymchwil ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n gweithio i ddatblygu'r asesiad diagnostig o lythrennedd yn y Gymraeg. Dywedodd:
Fel rhan o'n hymchwil gychwynnol, datblygwyd cyfres o brofion i helpu i adnabod anawsterau llythrennedd ymhlith pobl ifanc 11 i 17 oed mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Dyma'r profion cyntaf o'r fath yng Nghymru.
Rydyn ni wrth ein bodd o gael derbyn yr arian gan Lywodraeth Cymru a fydd nawr yn caniatáu i'r tîm o ymchwilwyr ym Met Caerdydd weithio'n agos gyda phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a gwella'r trefniadau mynediad ar gyfer TGAU a Safon Uwch, yn ogystal â helpu athrawon i weithio gyda dysgwyr ag anawsterau llythrennedd, fel dyslecsia. Gyda'r cyllid hwn, gall y tîm gwblhau cyfres o asesiadau a'u safoni, fel y gall ymarferwyr eu defnyddio yn y dyfodol.
Yn ogystal â'r profion, bydd llawlyfr yn cael ei gynhyrchu gyda fideos hyfforddi ar gyfer gweinyddu'r asesiad, dehongli canlyniadau a chynnig strategaethau ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd.
Bydd yr adnoddau rhad ac am ddim hyn ar gael ar-lein ar y platfform dysgu, Hwb, o ddechrau 2026.