Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fy mlaenoriaeth bwysicaf yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, ni waeth beth fo'u cefndir, eu hanghenion na'u profiad yn ystod y pandemig. Bydd pob penderfyniad y byddaf yn ei wneud fel Gweinidog yn cael ei lywio gan anghenion dysgwyr a’u lles, ffocws ar leihau anghydraddoldebau addysgol a sicrhau’r canlyniadau gorau i bawb.

Mae’r pandemig wedi ei gwneud yn amlwg iawn pa mor bwysig yw ein hysgolion, ein lleoliadau dysgu, ein colegau a’n prifysgolion i’n plant a’n pobl ifanc. Mae ymarferwyr addysgol wedi ymateb yn arwrol i'r heriau, gan ddangos hyblygrwydd, ymrwymiad a chadernid eithriadol. Rwyf am ddiolch iddynt am eu hymroddiad, eu harloesedd a’u hymateb cyflym. Mae dysgwyr hefyd wedi gorfod addasu, gan ddysgu a gweithio mewn ffyrdd gwahanol ac rwy'n sicr am eu canmol nhw hefyd am fod yn barod i wneud hynny, ni waeth pa mor anodd y mae hynny wedi bod ar adegau.

Serch hynny, y gwir yw bod y pandemig wedi cael effaith arwyddocaol, ar ein plant a'n pobl ifanc, ar y proffesiwn addysgol sy’n eu cefnogi, ac ar eu teuluoedd. Mae llawer o’n plant a’n staff wedi’i chael hi'n anoddach rheoli eu hiechyd meddwl a’u perthynas ag eraill, ac mae wedi amlygu’r anghydraddoldebau di-ildio sy’n dal i fodoli mewn rhannau o’n system addysgol.

Rydym eisoes wedi gweithredu, drwy ehangu rhwydweithiau cymorth sydd eisoes yn bodoli a thrwy ddatblygu dulliau gweithredu newydd mewn ysgolion a cholegau i ddarparu trefniadau mentora wedi'u teilwra i ddysgwyr er mwyn cefnogi eu lles a'u dysgu. Mae'r cynllun hwn yn edrych tua'r dyfodol, ond hefyd yn adeiladu ar y sylfeini hynny. Mae'n dwyn ynghyd yr ymyriadau a'r mentrau hynny a ddefnyddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym am barhau i'w defnyddio, ynghyd ag ymrwymiadau newydd wrth inni gefnogi dysgwyr a’r gweithlu addysg, gan ddefnyddio'r arferion da a'r profiadau cadarnhaol rydym wedi'u gweld hyd yn hyn i feithrin hyder, gallu a chapasiti tuag at ddiwygio'r cwricwlwm.

Byddwn yn cefnogi'r proffesiwn ac yn rhoi cyfleoedd i ymarferwyr ganolbwyntio ar yr hyn y maent yn ei wneud orau – addysgu a chefnogi dysgwyr. Mae hynny’n golygu mynd i’r afael â biwrocratiaeth ddiangen, ymddiried yn eu crebwyll proffesiynol, a chefnogi eu lles a'u datblygiad drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol. Rwyf am i’r system gyfan ddysgu o’r hyn sydd wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf, a pharhau i feithrin y capasiti i wella.

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r proffesiwn, ein partneriaid addysgol, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gweithio tuag at y blaenoriaethau cyffredin a nodwyd yn y cynllun hwn, a’n bod ni’n symud tuag atynt gyda’n gilydd. Byddwn yn gwrando ar ein dysgwyr, fel bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael dweud eu dweud ynghylch y polisïau sy’n effeithio fwyaf arnynt.

Bydd y flwyddyn nesaf hon yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein hamcanion uchelgeisiol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae’r penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud heddiw yn allweddol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y gefnogaeth i wneud eu gorau glas.

Mae'r cynllun hwn yn dechrau'r daith honno tuag at gyrraedd y nod. Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac fel llywodraeth byddwn yn parhau i ymateb yn briodol i’r pandemig. Byddwn yn parhau i fod yn effro i wybodaeth ac amgylchiadau newydd, ac yn addasu ein dull gweithredu sut bynnag sydd ei angen i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.

Effaith COVID-19

Mae'r cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi i amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i effeithiau COVID-19 ar ddysgwyr a dysgu. Ei nod yw galluogi pob dysgwr i wneud y cynnydd angenrheidiol i barhau â'i addysg a ffynnu.

Wrth inni ddechrau adfer yn sgil y pandemig, mae eisoes yn glir ei fod wedi cael effeithiau sylweddol ar ddysgwyr. Bydd rhai dysgwyr, wrth gwrs, wedi cael profiadau cadarnhaol, megis treulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, datblygu eu sgiliau digidol a dod yn fwy annibynnol wrth ddysgu. Wrth ymateb i'r tarfu, mae ymarferwyr a darparwyr dysgu wedi addasu, arloesi a meithrin cydberthnasau cryfach â rhieni/gofalwyr a theuluoedd. Mae'n rhaid i'n dull gweithredu adeiladu ar y llwyddiannau hyn.

Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod y tarfu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i lawer o ddysgwyr, staff a theuluoedd. Mae'r heriau allweddol rydym am fynd i'r afael â nhw fel a ganlyn.

  • Bydd angen cymorth ar ddysgwyr i ddatblygu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu. Mae angen inni alluogi dysgwyr i ddysgu'n effeithiol. Mae eu hiechyd meddwl a'u lles emosiynol, eu cydberthnasau a'u hiechyd corfforol oll yn elfennau hanfodol a fydd yn eu galluogi i ddysgu'n dda. Yn yr un modd, mae angen hyder, mwynhad a chymhelliant ar ddysgwyr mewn lleoliadau addysgol ac wrth ddysgu. Bydd angen amser a chyfleoedd ar ein holl ddysgwr, yn enwedig ein dysgwyr ifanc, i chwarae a chymdeithasu â'i gilydd hefyd,  er mwyn cefnogi eu lles a'u helpu i addasu i'r newidiadau niferus sy'n digwydd o'u cwmpas. Mae'n bosibl hefyd y bydd angen cymorth arnynt gyda sgiliau galluogi allweddol, gan gynnwys llafaredd, llythrennedd, rhifedd, cynllunio, trefnu a meddwl yn feirniadol.
     
  • Bydd angen cymorth ar ddysgwyr i barhau i wneud cynnydd, datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth. Mae angen inni gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon yn eu dysgu. Mae canolbwyntio ar gynnydd yn flaengar, gan bwysleisio'r hyn sydd ei angen ar ddysgwyr er mwyn cyflawni'r camau nesaf yn eu haddysg. Mae hyn yn osgoi model sy'n seiliedig ar ddiffyg ac sy'n canolbwyntio ar ‘ddal i fyny’ â phopeth a gollwyd. Mae trefniadau asesu priodol yn cefnogi'r cynnydd hwn, gan helpu i nodi a chrynhoi cynnydd dysgwyr unigol dros amser a myfyrio arno. Gall dysgwyr wynebu rhwystrau penodol i'w datblygiad neu efallai y byddant wedi colli cyfleoedd penodol sy'n bwysig i'w cynnydd. Yn yr un modd, efallai na fyddant wedi gallu manteisio ar gwricwlwm eang a chytbwys. Bydd yn bwysig sicrhau ein bod yn cefnogi eu hanghenion yn yr ystyr ehangaf er mwyn eu helpu i wneud y cynnydd ystyrlon hwnnw.
     
  • Bydd angen cefnogaeth ar ymarferwyr ar gyfer eu lles eu hunain. Rhaid i unrhyw ddull gweithredu gydnabod y pwysau ar staff hefyd. Yn ystod y pandemig, mae ymarferwyr wedi gorfod ailgynllunio ac ailflaenoriaethu dysgu ac ymateb i amrywiaeth o ganllawiau, disgwyliadau a gofynion gweithredol. Mae'r gweithlu addysgol ehangach wedi cefnogi plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn anochel, i lawer, mae hyn wedi effeithio ar eu lles. Mae hyn yn ychwanegol at anghenion ‘busnes fel arfer’ dybryd ac ymgysylltu â diwygiadau addysgol parhaus, gan gynnwys paratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd.
     
  • Mae'r system addysgol eisoes yn gweithio tuag at ddiwygio. Cyn COVID-19, roedd y system addysgol yn cael ei newid a'i diwygio'n sylweddol, gan edrych tuag at gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r egwyddorion a'r blaenoriaethau sy'n gysylltiedig â diwygio'r cwricwlwm yr un peth â'r rhai sy'n sail i'n hymateb i COVID-19. Mae'n rhaid inni sicrhau nad yw ysgolion a lleoliadau'n wynebu agendâu cystadleuol: mae'r cynllun hwn, yn rhannol, yn nodi ein llwybr.

Mae sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wneud cynnydd o ran ei sgiliau, ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth wrth iddo ddatblygu tuag at y pedwar diben, yn hollbwysig ar gyfer adnewyddu a diwygio. Yn ogystal â'r paratoadau cyn y pandemig, mae ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr wedi dysgu a datblygu llawer yn ystod y pandemig, sy'n golygu eu bod nawr yn agosach at wireddu'r cwricwlwm newydd. Bydd angen inni sicrhau y gall ysgolion a lleoliadau fynd i'r afael â'r ddwy agwedd gyda'i gilydd.

Rydym hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i newid disgwyliadau, profiadau a deilliannau plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a byddwn yn parhau i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer rhoi'r system ADY newydd ar waith fesul cam o fis Medi 2021 yn ymarferol i ymarferwyr.

Bydd ein llwybr yn sicrhau ein bod yn ailadeiladu'n well tuag at ddiwygio, yn ogystal â datblygu cadernid i wynebu heriau a gyflwynir gan COVID-19 yn y dyfodol.

Sicrhau tegwch

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig wedi cael mwy o effaith ar rai grwpiau o ddysgwyr nag eraill. Mae angen i natur ein cymorth adlewyrchu hynny, gan gydnabod a chefnogi'r grwpiau gwahanol o ddysgwyr yn y ffordd briodol. Yn benodol:

  • nid yw dysgwyr sy'n agored i niwed neu dan anfantais, na dysgwyr sydd ag ADY o reidrwydd wedi cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt; efallai y bydd rhai wedi wynebu heriau wrth ddysgu o bell, a rhai wrth ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb. Mae angen inni hefyd gefnogi'r dysgwyr hynny y mae eu hamgylchiadau wedi newid yn ystod y pandemig, na fyddent o bosibl wedi bod yn rhan o'r categori hwn yn flaenorol
  • mae dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar mewn cyfnod hanfodol ar gyfer datblygiad ieithyddol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a gwybyddol. Mae risg y byddant yn colli cerrig milltir datblygiadol allweddol a allai effeithio ar eu lles emosiynol a datblygiad eu sgiliau cyfathrebu a dysgu. Efallai y byddant yn wynebu heriau penodol wrth geisio cael ymdeimlad o berthyn yn eu hysgol neu eu lleoliad, neu wrth fod i ffwrdd o'u teuluoedd
  • bydd dysgwyr mewn addysg ôl-16 a chyfnodau phontio a'r rhai sy'n symud i ddarpariaeth ôl-16 yn bryderus am symud ymlaen i'w camau nesaf, yn ogystal â phryderu am eu cyflogadwyedd a'u sgiliau yn y tymor hwy. Bydd y dysgwyr hyn wedi profi ansicrwydd a phwysau penodol, a bydd hyn wedi effeithio ar eu hyder
  • bydd dysgwyr trochi Cymraeg sy'n byw mewn cartrefi Saesneg eu hiaith wedi wynebu heriau penodol hefyd, ynghyd â dysgwyr sy'n trosglwyddo o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7

Mae llawer o ddysgwyr ym mhob un o'r grwpiau hyn wedi gwerthfawrogi'r cymorth wedi'i bersonoli y maent wedi'i gael gan eu teuluoedd a byddant wedi gwneud cynnydd ar eu llwybr dysgu eu hunain. Ni fydd dull gweithredu ‘un ateb sy'n addas i bawb’ yn galluogi dysgwyr i wneud y cynnydd angenrheidiol; mae ein cynllun yn cydnabod bod ymarferwyr yn gwybod beth sydd ei angen ar eu dysgwyr ac mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu sut i'w cefnogi. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu sicrhau bod ein cefnogaeth yn cydnabod profiadau dysgwyr gwahanol o'r pandemig a'u hanghenion dilynol – gyda charfanau targed penodol – a rhoi'r hyblygrwydd i ysgolion a darparwyr dysgu eraill ddefnyddio'r gefnogaeth honno yn y ffordd sydd orau ar gyfer eu dysgwyr.

Ein cynllun

Rydym wedi ymrwymo dros £150 miliwn o gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022, gan gynnwys:

  • £35.8 miliwn i barhau gyda'r gwasanaethau cymorth a mentora wedi'u teilwra i ddysgwyr drwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan gadw'r 1,800 o staff cyfwerth ag amser llawn a gafodd eu recriwtio ym mlwyddyn academaidd 2020-2021 a chynnal y pwyslais ar gefnogi'r dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed a dan anfantais
  • dros £6 miliwn i gynnig lleoliadau tymor cyfan i athrawon newydd gymhwyso (ANGau) cymwys fel y gallant gael mwy o brofiad yn yr ystafell ddosbarth a magu hyder wrth iddynt ddechrau addysgu
  • £33 miliwn i gefnogi'r holl ddysgwyr 16-19 oed amser llawn sy'n dechrau cyrsiau Safon Uwch neu ddarpariaeth alwedigaethol naill ai mewn chweched dosbarth neu goleg addysg bellach
  • £13 miliwn i gefnogi darpariaeth Cyfnod Sylfaen a lleoliadau nas cynhelir ar ffurf:
    • £10 miliwn i gynyddu cyllid i gefnogi cymarebau ymarferwyr i ddysgwyr mewn ysgolion a chymorth dysgu ychwanegol ar gyfer lleoliadau a ariennir nas cynhelir
    • £3 miliwn i sicrhau cymorth dysgu i leoliadau gofal plant nas ariennir i ddarparu addysg gynnar
  • £6.25 miliwn i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr mewn ysgolion, ac i sefydlu cadernid ar gyfer brigiadau o COVID-19 yn y dyfodol a chynllunio tymor hwy
  • £200,000 i gefnogi dysgwyr sy'n bwriadu mynd ymlaen i'r brifysgol y flwyddyn academaidd nesaf 
  • £4.85 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu Rhaglen Gwella Gwyliau Ysgol sydd wedi'i hehangu'n sylweddol, gyda mwy o bwyslais ar gefnogi'r broses adfer o effaith ehangach pandemig COVID-19, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol
  • £15 miliwn ar gyfer technoleg addysgol mewn ysgolion drwy raglen Technoleg Addysg Hwb, er mwyn cefnogi'r gwaith o drawsnewid seilwaith ddigidol pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ymhellach
  • £5 miliwn i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr ‘haf o hwyl’ gyda'r nod o hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc (0-25 oed), a'u hannog i gadw'n heini a chymdeithasu
  • £23.2 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol
  • £2 filiwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad
  • £9 miliwn sydd wedi cael ei neilltuo yn ystod y flwyddyn gyfredol i gefnogi lles mewn ysgolion, gan gynnwys meithrin cysylltiadau agosach a chymorth rhwng ysgolion a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

Mae hyn yn ychwanegol at y buddsoddiad o dros £220 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2020-2021 (gan gynnwys buddsoddiad mewn cymorth digidol a chymorth iechyd meddwl mewn ysgolion a cholegau).

Adeiladu ar yr hyn sydd wedi gweithio

Bydd ein dull gweithredu yn adeiladu ar y mentrau y gwyddom eu bod yn cefnogi lles a chynnydd dysgwyr, gan gynnwys prydau ysgol am ddim a'r Grant Datblygu Disgyblion, ac yn cynyddu cyllid ar eu cyfer. Yn ogystal, mae angen inni adeiladu ar y cymorth pwrpasol ac ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, sydd wedi recriwtio dros 1,800 o staff cyfwerth ag amser llawn, gan gynyddu capasiti er mwyn helpu i ymateb i heriau'r flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau wedi galluogi ysgolion i nodi'r dysgwyr sydd â'r angen mwyaf, a datblygu cymorth ar eu cyfer yn unol â 5 egwyddor y rhaglen. Mae hyn wedi galluogi amrywiaeth o gymorth wedi'i deilwra i ddysgwyr, er enghraifft:

  • anogwyr dysgu i hyfforddi a mentora dysgwyr sydd mewn darpariaeth ôl-16, neu sy'n symud i ddarpariaeth ôl-16, wrth iddynt baratoi ar gyfer eu harholiadau
  • darparu cymorth ychwanegol ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg, yn enwedig y rhai hynny mewn cymunedau Saesneg eu hiaith, gan gynnwys cymorth ar gyfer meysydd allweddol megis llafaredd
  • recriwtio neu hyfforddi staff i ddarparu Asesiadau Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) i ddysgwyr
  • recriwtio staff addysg ychwanegol i helpu i leihau maint cyffredinol dosbarthiadau
  • defnyddio cynorthwywyr addysgu ychwanegol i gefnogi dysgwyr sy'n trosglwyddo rhwng rhannau gwahanol o'u taith addysg gynradd

Bydd y cyllid i barhau â'r rhaglen y flwyddyn nesaf yn sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar y cymorth hanfodol y mae dysgwyr eisoes wedi'i gael. Mae'r cynllun hwn yn nodi'n glir y bydd y capasiti, y gallu a'r cymorth wedi'i dargedu ychwanegol hyn i ddysgwyr yn parhau i fod yn rhan ganolog o'n dull gweithredu hirdymor ar gyfer cefnogi dysgu, ar y cyd â mentrau eraill i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Wrth inni werthuso mentrau i gefnogi dysgwyr, byddwn yn gallu eu haddasu i sicrhau eu bod yn cael cymaint o effaith â phosibl. Mae gwaith i werthuso'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn parhau, a byddwn yn monitro cynnydd pob menter o'r fath yn barhaus.

Astudiaethau achos ar gyfer y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau

Ysgol Uwchradd Llanidloes

Gwnaeth y rhaglen alluogi Ysgol Uwchradd Llanidloes i fodloni gofynion y cwricwlwm wrth ddysgu o bell, a darparu cymorth addysgol a llesiant ychwanegol i ddysgwyr.

Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd i wersi gael eu cyflwyno o'r tu allan i'r ysgol, gan gynnwys gwersi gan fyfyrwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts a phrifysgolion eraill ar feysydd arbenigol, gan gynnwys adborth rheolaidd i ddysgwyr.

Ysgol Gyfun Ystalyfera

Gwnaeth y rhaglen alluogi Ysgol Gyfun Ystalyfera i adeiladu ar waith ei thîm lles, sy'n cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl dysgwyr drwy sesiynau un i un a sesiynau grŵp.

O ganlyniad i'r cyllid, llwyddodd yr ysgol i fuddsoddi mewn mwy o staff ac adnoddau i gefnogi dysgwyr yn y meysydd blaenoriaeth a nodwyd, gan gynnwys blaenoriaethau academaidd a blaenoriaethau mewn perthynas â lles ac iechyd meddwl.

Ceir rhagor o enghreifftiau o'r ffordd y mae ysgolion gwahanol wedi defnyddio'r rhaglen i gefnogi dysgu ar Hwb.

Dysgu a lles i bob dysgwr

Gan ymgysylltu â'r proffesiwn a phartneriaid, byddwn yn datblygu pecyn integredig o fentrau ariannu ar y cyd i gefnogi lles a chynnydd pob dysgwr. Bydd hyn yn sicrhau bod cydlyniaeth rhwng polisïau presennol a mentrau newydd. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod ymarferwyr yn cael yr amser a'r cyfleoedd i ganolbwyntio ar ddysgu ac addysgu a'r ffordd rydym wedi defnyddio ein dysgu cyfunol yn ystod y pandemig i greu system addysgol sy'n barod at y dyfodol ac sy'n gadarn wrth wynebu heriau yfory.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn:

  • darparu cymorth ar gyfer amrywiaeth o brofiadau allweddol mewn ysgolion a'r tu allan iddynt, gan gynnwys drwy fentrau ‘haf o hwyl’, gan weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i gynnig cyfleoedd dysgu creadigol, egnïol a mathau eraill o gyfleoedd dysgu ac ystyried sut y gallwn ehangu'r amrywiaeth o brofiadau y mae dysgwyr yn eu cael yn yr ysgol y tu hwnt i ddysgu ffurfiol 
  • parhau â'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i gefnogi capasiti mewn ysgolion er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu i ddysgwyr, gan gadw a chefnogi'r 1,800 o staff cyfwerth ag amser llawn sydd eisoes wedi'u recriwtio dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn yn cefnogi arweinwyr ysgolion drwyddi draw er mwyn penderfynu ar y dull gweithredu cywir i gefnogi anghenion eu dysgwyr, gan mai hyn sydd fwyaf tebygol o ddiwallu anghenion y rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn sgil y pandemig a’r rhai yr effeithiodd y pandemig fwyaf arnynt, a'r dysgwyr hynny sydd o bosibl wedi ymddieithrio
  • adeiladu ar ein profiadau o ddysgu o bell a dysgu cyfunol, gan helpu'r system i ymwreiddio'r gwersi a ddysgwyd dros y flwyddyn ddiwethaf wrth inni symud ymlaen
  • datblygu ein hymrwymiad i ystyried y syniad o ddiwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol, gan adeiladu ar dystiolaeth o'r pandemig a gweithio'n agos gyda dysgwyr, y proffesiwn, rhieni/gofalwyr, cyflogwyr ac addysg ôl-16 i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau'n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch. Byddwn yn canolbwyntio ar sut y gallwn barhau i gefnogi lles dysgwyr a staff, lleihau anghydraddoldebau addysgol a sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb

Dysgwyr sydd dan anfantais a dysgwyr sy'n agored i niwed

Mae'n debygol y bydd y tarfu yn sgil COVID-19 wedi cael yr effaith fwyaf ar rai o'n dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf a’n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Bydd angen inni hefyd gefnogi'r dysgwyr hynny sydd newydd ymuno â'r categori dysgwyr sydd dan anfantais neu'n agored i niwed oherwydd y pandemig, gan gynnwys y rheini sy'n byw mewn aelwydydd yr effeithiwyd yn anghymesur arnynt o ganlyniad i'r gofynion i aros gartref, colli incwm, tarfu ar ddysgu wyneb yn wyneb, cau cyfleusterau cymunedol a hamdden, a hunanynysu. Bydd angen cymorth ychwanegol ar bob un o'r dysgwyr hyn ar adegau gwahanol ac, o bosibl, ymyriadau cynnar mwy penodol i fynd i'r afael â phrofiadau negyddol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd hyn yn wahanol i'r dulliau ‘traddodiadol’ o gefnogi ein dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais – byddwn yn arloesi er mwyn diwallu'r anghenion sy'n dod i'r amlwg. Bydd gweithio gyda darparwyr addysgol yn hollbwysig yma er mwyn sicrhau ein bod yn nodi'r rheini sy'n wynebu risg. Rydym yn gwneud cynnydd da yn hyn o beth, drwy ein gwaith i sefydlu Dull Ysgol Gyfan (rhan o Ddull System Gyfan ehangach) o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol. Mae'r gwaith hwn wrth wraidd Adnewyddu a Diwygio a bydd yn agwedd hollbwysig ar ein cynlluniau. Bydd yn parhau i fod yn sbardun pwysig i les ac addysg dysgwyr.

I ddysgwyr o deuluoedd incwm isel, mae mynd i'r afael ag effeithiau COVID-19 ar eu dysgu yn hollbwysig er mwyn torri'r cylch o dlodi ac anfantais. Byddwn yn darparu cymorth â ffocws ar gyfer y dysgwyr hyn a'u teuluoedd er mwyn sicrhau na chollir y datblygiadau a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad.

Mae'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau wedi targedu, a bydd yn parhau i dargedu, amrywiaeth o grwpiau blaenoriaeth, gan gynnwys y plant a'r teuluoedd tlotaf, dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig, dysgwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae dysgwyr dan anfantais ac sy'n agored i niwed wedi cael cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu wedi'u personoli ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer dysgwyr mewn blynyddoedd sy'n sefyll arholiadau.

I ddysgwyr sydd ag ADY, eu teuluoedd a'r staff sy'n eu cefnogi, rydym yn cydnabod yr heriau penodol a gyflwynwyd gan COVID-19. Wrth fynd i'r afael â'r heriau hynny, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i greu system addysgol gwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael addysg sy’n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i fynd ati i ddysgu, manteisio ar ei addysg a’i mwynhau.

Mae plant sy'n derbyn gofal yn aml wedi dioddef trawma yn ystod eu bywyd, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu golled, a all gael effaith hirdymor wanychol. Bydd pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac sy'n ceisio ymdopi â phrofiadau trawmatig yn gynnar yn eu bywyd a'r rhai sy'n parhau i gael bywyd cythryblus gartref yn aml yn wynebu anawsterau o ran ymlyniad a diffyg hyder. Mae'n debygol bod COVID-19 wedi cymhlethu materion o'r fath a byddwn yn blaenoriaethu'r gwaith o ddatblygu dull gweithredu integredig ar gyfer gwella eu lles a'u deilliannau addysgol.

Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith andwyol ar les dysgwyr. Bydd treulio amser i ffwrdd oddi wrth eu teulu a'u ffrindiau, tarfu ar eu trefniadau arferol, yr effaith ar addysg a'r teulu mewn perthynas â cholli swyddi, pryderon iechyd, profedigaeth a cholled oll yn cyfrannu at bryderon o ran iechyd emosiynol a meddyliol a fydd yn para'n hwy nag effaith gorfforol y pandemig.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn:

  • adolygu'r defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion a'i effaith fel rhan o ddyraniadau 2021 i 2022 i gefnogi'r broses adfer yn sgil COVID-19, gan gynnwys effeithiolrwydd ymyriadau a'r ffordd y caiff y cyllid ei dargedu. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod cymorth hefyd yn cael ei ddarparu i'r dysgwyr hynny a all fod yn newydd i'r categori dysgwyr sydd dan anfantais neu'n agored i niwed o ganlyniad i'r pandemig.
  • gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion i nodi'r ardaloedd hynny lle gall cyllid gael yr effaith fwyaf, yn benodol blaenoriaethu cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion mwy difreintiedig, a gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau fformiwlâu mwy cyson a thryloyw ar gyfer ariannu ysgolion
  • darparu gwerth £10.45 miliwn o gyllid ar gyfer ein cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, sy'n mynd yn uniongyrchol i deuluoedd er mwyn prynu gwisg ysgol, cit chwaraeon ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol eraill ar adegau allweddol yn ystod addysg dysgwr, gan gynnwys pan fydd yn trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
  • sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022
  • fel rhan o'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, darparu cyllid penodol ar gyfer dysgwyr sydd dan anfantais ac sy'n agored i niwed, gan gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu wedi'u personoli ac amser ac adnoddau ychwanegol i ddisgyblion mewn blynyddoedd sy'n sefyll arholiadau
  • cefnogi ysgolion, colegau a darparwyr dysgu eraill i gefnogi dysgwyr sydd ag ADY mewn ymateb i'r pwysau sy'n deillio o COVID-19
  • datblygu cynllun trawslywodraethol i fynd i'r afael â chyrhaeddiad a deilliannau addysgol ehangach mewn ffordd systematig, gydgysylltiedig a chydweithredol, gan wneud y mwyaf o'r adnoddau a'r dulliau ysgogi sydd ar gael. Bydd hyn yn canolbwyntio ar y dysgwr, gan gwmpasu'r ‘daith gyfan drwy'r ysgol’
  • ystyried anghenion dysgu proffesiynol ymarferwyr ar fyrder mewn perthynas â chefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais, gan gynnwys arferion a gaiff eu llywio gan drawma ac ymlyniad, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • datblygu gwaith sy'n ymwneud â'n hymrwymiad maniffesto i ysgolion bro, gyda phwyslais penodol ar sut y gall hyn gefnogi cyrhaeddiad, dyheadau, lles a deilliannau addysgol gwell i'n holl ddysgwyr
  • cefnogi ysgolion sy'n mynd drwy brosesau diwygio ADY, gan gydnabod yr anawsterau penodol a wynebwyd gan blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn ystod y pandemig fel rhan o'r pecyn cymorth gwerth £20 miliwn ar gyfer y rhaglen trawsnewid ADY sydd eisoes ar waith
  • parhau i ddatblygu'r dull ysgol gyfan o ymdrin â lles dysgwyr a fydd yn hollbwysig er mwyn cefnogi dysgwyr sy'n ymateb i effeithiau a phrofiadau andwyol
  • sicrhau ein bod yn hyrwyddo dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn, gan gydnabod hawliau dysgwyr o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a myfyrio arnynt
  • gweithio gyda'n darparwyr addysg uwch i ystyried sut y gallwn gefnogi dysgwyr agored i niwed mewn addysg uwch

Dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar

Mae'r newidiadau datblygiadol cyflym sy'n digwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar yn golygu y bydd y tarfu yn sgil y pandemig wedi cael effaith fwy sylweddol ar blant ifanc nag eraill. Byddwn yn sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu cynnar o ansawdd uchel, gan eu cefnogi i ennill sgiliau galluogi allweddol ac achub ar gyfleoedd datblygiadol sy'n hanfodol i'w cynnydd hirdymor ac sy'n cynnig sylfaen gref ar gyfer llwyddo yn eu haddysg. Mae cydberthnasau'n allweddol ar gyfer plant iau ac mae cyfleoedd i ryngweithio'n ystyrlon ag ymarferwyr a chyfoedion yn hanfodol. Yn y lle cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar gryfhau'r cymarebau rhwng ymarferwyr a phlant mewn ysgolion er mwyn gallu rhoi mwy o gymorth i blant, a darparu adnoddau ychwanegol yn y sector nas cynhelir, fel bod dysgwyr ifanc yn cael cyfleoedd dysgu o ansawdd sy'n seiliedig ar chwarae.

Bydd hyn yn cefnogi cydberthnasau cadarnhaol ac yn rhoi'r amser a'r cyfleoedd i ymarferwyr gefnogi plant i ddatblygu eu sgiliau iaith, cymdeithasol a chorfforol. Bydd datblygiad iaith yn flaenoriaeth bwysig, gyda phwyslais arbennig ar lafaredd. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ymarferwyr yn osgoi neidio i ymyriadau ‘dal i fyny’ ar gyfer darllen ac ysgrifennu i ddysgwyr iau, ac yn canolbwyntio ar addysgeg ardderchog y Cyfnod Sylfaen a dysgu drwy chwarae.

Byddwn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at gyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar chwarae er mwyn cefnogi eu lles a'u datblygiad, ynghyd ag amser a chyfleoedd i chwarae yn ystod y diwrnod ysgol.

Byddwn yn datblygu mentrau ar y cyd â'r proffesiwn a phartneriaid i gefnogi dysgu a datblygu mewn lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir i blant yn eu blynyddoedd cynnar (0 i 7 oed). Bydd y rhain yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarpariaeth i blant rhwng 3 a 7 oed, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau gofal plant nas ariennir i ddarparu addysg gynnar, a byddant yn cyd-fynd â'n gwaith ar Addysg a Gofal Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, sy'n ceisio datblygu prosesau gwaith agosach rhwng addysg a darpariaeth gofal plant.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn:

  • datblygu gweithgareddau ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn benodol fel rhan o ‘haf o hwyl’ 2021 i gefnogi iechyd a lles plant a'u hannog i gadw'n heini a chymdeithasu
  • atgyfnerthu dulliau gweithredu'r Cyfnod Sylfaen, gan gynnwys pwyslais cryf ar ddysgu seiliedig ar chwarae i gefnogi mwynhad plant o ddysgu a'u datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol ehangach
  • parhau i ddarparu cymorth wedi'i dargedu drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg i blant rhwng 0 a 4 oed sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru
  • parhau i ariannu'r Gronfa Datblygiad Plant hyd at fis Medi 2021, ac adolygu hyn yn ystod yr haf
  • cynyddu cyllid i gefnogi cymarebau rhwng ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion a chymorth addysgol i leoliadau nas cynhelir yn 2021 i 2022
  • sicrhau cymorth dysgu o ansawdd uchel gyda mwy o bwyslais ar les a datblygiad mewn lleoliadau gofal plant nas ariennir i ddarparu addysg – mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod dull gweithredu teg ar waith ym mhob darpariaeth blynyddoedd cynnar, ni waeth ble y ceir y ddarpariaeth honno yn ystod 2021 i 2022
  • ymgymryd â gwaith pellach i nodi pa garfanau o blant blynyddoedd cynnar y gallai'r pandemig fod wedi effeithio fwyaf arnynt a datblygu dulliau i'w cefnogi, megis plant sydd dan anfantais a phlant o gartrefi Saesneg eu hiaith sy'n mynychu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Dysgwyr mewn addysg ôl-16 a chyfnodau phontio

Mae dysgwyr sy'n pontio i addysg ôl-16, a'r rhai sydd eisoes mewn addysg ôl-16, yn wynebu heriau sylweddol a gwahanol. Mae pob myfyriwr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau wedi profi ansicrwydd ynghylch trefniadau asesu, ac mae'n bosibl eu bod wedi cael anawsterau wrth symud ymlaen i'w camau nesaf oherwydd y tarfu ar ddysgu wyneb yn wyneb. Mae'r pandemig wedi tarfu gryn dipyn ar gyrsiau dysgwyr galwedigaethol mewn lleoliadau addysg bellach, gan amharu ar eu gallu i gwblhau gwaith ymarferol ac elfennau seiliedig ar waith o'u cymwysterau. Bydd y materion hyn wedi bod yn arbennig o anodd i'r dysgwyr hynny o gefndiroedd difreintiedig.

Bydd y tarfu ar ddysgu ac ar ryngweithiadau a phrofiadau cymdeithasol wedi effeithio ar les ac iechyd corfforol a meddyliol rhai dysgwyr hefyd, yn ogystal â'r staff sy'n eu cefnogi.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn:

  • darparu cyllid ychwanegol i gefnogi amser dysgu mewn colegau a lleoliadau chweched dosbarth ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022, gan gynnwys amser addysgu ychwanegol yn y dosbarth neu gymorth un i un ar gyfer lles neu gymorth ar gyfer pynciau penodol. Bydd canllawiau clir yn mynd law yn llaw â hyn a fydd yn cynnwys dangosyddion ac egwyddorion argymelledig i arweinwyr ysgolion a cholegau eu dilyn wrth ddefnyddio a gwerthuso'r cyllid ychwanegol
  • cyhoeddi cynllun gweithredu manylach erbyn hydref 2021 ar gyfer adfer darpariaeth ôl-16 sy'n ymateb i'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael a, lle y bo'n briodol, yn adeiladu ar fesurau presennol
  • datblygu amrywiaeth o ymyriadau i fynd i'r afael ag effeithiau COVID-19 ar les, profiadau dysgu a deilliannau dysgwyr ôl-16 ac ar y sector yn ei gyfanrwydd a, lle bydd y dystiolaeth yn cefnogi hynny, adeiladu ar yr hyn a gyflwynwyd eisoes
  • parhau i ganolbwyntio ar ddarparu'r cymorth ychwanegol sydd ei angen ar ddysgwyr mewn blynyddoedd cymwysterau neu'r rhai sy'n pontio rhwng yr ysgol, y coleg, addysg uwch neu gyflogaeth er mwyn datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i symud ymlaen i'w camau nesaf.
  • ystyried natur agored i niwed, anfantais a chydraddoldeb wrth ddatblygu'r ymyriadau hynny, gan helpu i fynd i'r afael â'r effeithiau gwahanol ar grwpiau penodol o ddysgwyr
  • sicrhau bod cyllid a pholisïau addysgegol yn cefnogi cynnydd mewn darpariaeth ôl-16, gan sicrhau canlyniad addysgol o ansawdd i bob dysgwr a darparu digon o gymorth a hyblygrwydd i ddysgwyr symud ymlaen ar y llwybrau o'u dewis
  • meithrin cadernid yn y system ôl-16 er mwyn paratoi'r sector yn well i ymateb i fygythiadau a heriau yn y dyfodol
  • gwerthuso canfyddiadau'r cynllun peilot ‘Well Aware’, model ar gyfer cefnogi lles staff, ac ystyried pa mor briodol fyddai ei roi ar waith ym mhob coleg yn y dyfodol
  • parhau i ddatblygu adnoddau e-ddysgu i gefnogi dysgwyr mewn blynyddoedd pontio a blynyddoedd sy'n sefyll arholiadau, ac ychwanegu adnoddau pellach i ddysgwyr iau at y rhain

Yr hyn rydym am ei gyflawni

Wrth ymateb i'r heriau hyn a cheisio datblygu ein cynlluniau diwygio ymhellach, ein huchelgeisiau yw:

  • bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd yn ei addysg ac yn magu hyder i gyflawni ei botensial, ni waeth beth fo'i gefndir, ei anghenion na'i brofiadau penodol yn ystod pandemig COVID-19. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, symud ymlaen i'w cymwysterau a'u camau nesaf, a chyfrannu at Gymru fwy llewyrchus, cydnerth a chyfartal.
  • bod gan ymarferwyr y cyfleoedd, yr amser a'r sgiliau i ganolbwyntio ar ddarparu'r profiadau dysgu gorau posibl, a'u bod yn gallu datblygu eu hunain ymhellach yn unol â'u taith ddysgu broffesiynol
  • bod dysgu ac addysgu yn cael eu cefnogi gan gynllun clir a chydlynol gan Lywodraeth Cymru sy'n ymateb i bwysau COVID-19 ac sy'n canolbwyntio ar welliannau strategol yn y dyfodol, gan gefnogi system addysgol gadarn sydd wedi'i hadfywio ac yn canolbwyntio ar ddiwygio, ac sy'n rhoi lles ac iechyd corfforol a meddyliol dysgwyr wrth wraidd ei dull gweithredu

Bydd llwyddo i gyflawni'r uchelgeisiau hyn yn arwain at y canlynol:

  • lles gwell i ddysgwyr a staff, gan gynnwys lles meddyliol, cymdeithasol a chorfforol i ddysgwyr, a lles meddyliol ac emosiynol gwell i staff. Dylai hyn gefnogi gwelliannau mewn amrywiaeth o ymddygiadau a chanlyniadau iechyd hirdymor, gan gynnwys symud tuag at y nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • cyrhaeddiad addysgol gwell, wrth i'r holl ddysgwyr, yn enwedig rhai mewn carfanau a dargedir, deimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddatblygu a gwneud cynnydd tuag at bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, gan symud tuag at safonau addysgol a chyrhaeddiad gwell ac yn seiliedig ar dechnegau addysgu o ansawdd uchel
  • tegwch gwell rhwng dysgwyr o deuluoedd sydd dan anfantais yn economaidd, neu mewn ffordd arall, a'u cyfoedion, gan helpu i gau bylchau mewn cyrhaeddiad rhwng grwpiau gwahanol o ddysgwyr a chefnogi symudedd cymdeithasol. Dylai ein holl blant a phobl ifanc gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, ni waeth ble maent yn cael eu cyfleoedd dysgu a datblygu
  • hyder rhanddeiliaid rydym am i rieni/gofalwyr fod â hyder yn addysg eu plant a'r ffordd orau o'u cefnogi, ac rydym am i blant a phobl ifanc fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt a bod â hyder ynddo. Dylai rhanddeiliaid a phartneriaid ehangach fod yn glir o ran bwriadau Llywodraeth Cymru, eu rôl wrth gefnogi dysgwyr, sut mae ein rhaglen ‘Adnewyddu a Diwygio’ yn cysylltu â'n strategaeth ar gyfer addysg yn y dyfodol a'n cynlluniau ar gyfer meithrin cadernid rhag COVID-19 yn y dyfodol

Ar y cyd â hyn, dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn nodi ein cynlluniau ar gyfer:

  • cefnogi lles ymarferwyr, gan ddefnyddio rhywfaint o'r cyllid ychwanegol ar gyfer cefnogi lles mewn ysgolion i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu adnoddau sy'n cefnogi lles ymarferwyr. Mae hyn yn ategu ac yn ychwanegol at ffrydiau cyllido presennol i gefnogi dysgu proffesiynol, a fydd yn cyd-fynd â hyn. Byddwn yn datblygu ac yn rhannu syniadau ynghylch sut y gallwn greu cyfleoedd i ymarferwyr er mwyn eu galluogi i ymateb i heriau parhaus
  • cydlynu'r llwybr adfer yn dilyn COVID-19 â'r llwybr tuag at ddiwygio'r cwricwlwm, gan ddefnyddio'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu'r Cwricwlwm sydd ar ddod i roi cyfleoedd i ymarferwyr gydweithredu ar ddulliau dysgu ac addysgu yn y cwricwlwm newydd. Byddwn yn diweddaru ein disgwyliadau o ddogfen 'Cwricwlwm i Gymru: Y daith' i 2022, i sicrhau bod y rhain yn realistig yn y cyd-destun presennol. Bydd hyn yn llywio'r daith i ddiwygio'r cwricwlwm hyd at 2022 ac wedi hynny, gan gydnabod effaith COVID-19 a'i effaith ar baratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Byddwn yn uno'r disgwyliadau hyn â'r canllawiau dysgu yn sgil COVID-19, er mwyn rhoi un set glir o ddisgwyliadau i ysgolion ar gyfer dysgu ac addysgu wrth inni ddechrau symud i ffwrdd o'r pandemig a thuag at ddiwygio'r cwricwlwm

Gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid

Mae sicrhau hyder ein partneriaid yn hanfodol. Er bod y cynllun hwn yn nodi'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, mae diwygio addysgol yn rhywbeth i ni fel sector. Byddwn yn cydweithredu ac yn ymgysylltu â'r canlynol:

  • plant a phobl ifanc – byddwn yn rhoi cyfleoedd ar waith i ddysgwyr gael eu clywed a chyfrannu at bolisïau, gan gynnwys drwy ddefnyddio grwpiau cynrychioliadol
  • defnyddwyr a buddiolwyr ehangach y rhaglen Adnewyddu a Diwygio, megis rhieni/gofalwyr a theuluoedd, ysgolion, a sefydliadau addysg bellach ac uwch
  • timau Llywodraeth Cymru yn yr adrannau addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, y Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol er mwyn sicrhau y defnyddir dull gweithredu cydgysylltiedig yn ein hymateb i COVID-19
  • partneriaid addysgol, gan gynnwys y consortia rhanbarthol, Cymwysterau Cymru, awdurdodau lleol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • undebau llafur
  • rhanddeiliaid addysgol ehangach, gan gynnwys y sefydliadau ambarél nas cynhelir, sefydliadau'r trydydd sector a chyrff perthnasol a noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Estyn a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, y bydd ganddynt rôl bwysig wrth werthuso cynnydd a nodi arferion sy'n dod i'r amlwg

Rydym yn cydnabod bod pandemig COVID-19 yn parhau i gyflwyno heriau ac mae angen inni fod yn effro i hyn. Ni all y cynllun hwn fynd i'r afael â phob un o effeithiau eang COVID-19, ond bydd yn ein galluogi i bennu a dilyn llwybr tuag at sefyllfa fwy cadarn, gan adeiladu ar y profiadau a'r newidiadau cadarnhaol a mynd i'r afael ag effaith yr heriau mwy niweidiol i garfanau penodol o ddysgwyr.

Dim ond dechrau dull gweithredu hirdymor ar gyfer cefnogi dysgu yn y blynyddoedd i ddod yw hwn, ac mae’n cael ei ategu gan gamau gweithredu a diwygiadau ehangach. Byddwn yn parhau i fyfyrio ar ein cynllun, ei ddatblygu a'i ddiweddaru er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i wybodaeth newydd a heriau sy'n dod i'r amlwg.

Gwerthuso

Byddwn yn datblygu dull clir ar gyfer gwerthuso llwyddiant ein hymyriadau ac yn adrodd ar hyn yn rheolaidd ac mewn modd tryloyw, gan gynnwys drwy werthuso cyllid.

Byddwn yn gwerthuso mentrau yn erbyn y meini prawf llwyddiant a nodir yn y cynllun hwn (lles i ddysgwyr ac ymarferwyr, cyrhaeddiad a chynnydd addysgol, tegwch, a hyder rhanddeiliaid) gan ddefnyddio amrywiaeth o fesurau, safbwyntiau a ffynonellau tystiolaeth gwahanol i lywio hyn.

Bydd ein dull gwerthuso cydgysylltiedig yn lleihau'r baich ar ymarferwyr a darparwyr dysgu ac yn osgoi gofyn am symiau mawr o ddata ac adroddiadau ychwanegol.

Yn hytrach na dylunio dangosyddion newydd yn y byrdymor, byddwn yn adeiladu ar werthusiadau presennol, yn gwneud y defnydd mwyaf posibl o ddata presennol o Gymru (a, lle y bo'n berthnasol, y DU a thu hwnt), ac yn defnyddio dulliau nad ydynt yn dibynnu ar brosesau adrodd mewn ysgolion ar raddfa eang.

Byddwn yn adeiladu ar y wybodaeth rydym eisoes yn ei chasglu, megis presenoldeb yn yr ysgol, barn staff a boddhad rhieni, gan asesu ei hansawdd a'i haddasrwydd at y diben o ran mesur cynnydd yn ddibynadwy. Byddwn hefyd yn cynllunio ymchwil bellach i ddatblygu a gwella'r hyn rydym eisoes yn ei gasglu, ac i gasglu gwybodaeth newydd am gynnydd dysgwyr, ymddygiadau iechyd ac ymgysylltiad cymunedol. Byddwn yn defnyddio hyn i helpu i ystyried ein cynnydd mewn perthynas â'n diwygiadau cwricwlwm ac asesu ehangach, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru.

Dylai gwaith ymchwil a gwerthuso ein galluogi i weld yr effeithiau y mae'r polisïau wedi'u cael ar nodau allweddol megis lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella lles dysgwyr. Drwy'r gwaith gwerthuso parhaus hwn, ac wrth i'r cyd-destun rydym yn gweithredu ynddo ddatblygu, ni fyddwn yn oedi cyn datblygu ac addasu ein mentrau os oes angen gwneud hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Byddwn yn cyfeirio at yr ymchwil a'r dystiolaeth a gasglwyd gan ein partneriaid yng Nghymru, yn enwedig gwaith Estyn a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, er mwyn cyfrannu at ein tystiolaeth ar gynnydd ac i helpu i feithrin capasiti ar gyfer gwelliant parhaus. Byddwn yn sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ledled y DU ac yn rhyngwladol ynghylch effeithiau'r pandemig ar ddysgu a ffyrdd o fynd i'r afael â'r effeithiau hyn. Byddwn hefyd yn sicrhau bod tystiolaeth o arferion gorau, arloesedd neu faterion a gaiff eu goresgyn yn cael eu rhannu er mwyn helpu'r system i wella ymhellach.

I gyflawni hyn i gyd, byddwn yn ymgymryd â gweithgareddau ymchwilio a gwerthuso yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor, gyda'n diweddariadau cyntaf i ddod ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022.

Y byrdymor

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ddeall effeithiau'r pandemig yn systematig, ac i arfarnu'r sylfaen dystiolaeth er mwyn parhau i ddatblygu a chryfhau mentrau penodol ar gyfer mynd i'r afael â'r effeithiau hyn. Bydd hyn yn cefnogi ein gwaith o gyflwyno'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio.

Datblygwyd nodau'r cynllun hwn yng ngoleuni tystiolaeth a oedd yn dod i'r amlwg ynghylch effeithiau'r pandemig a byddwn yn parhau i adolygu'r wybodaeth hon er mwyn sicrhau bod y prosiectau a'r mentrau'n targedu'r bobl gywir, y lleoedd cywir a'r materion cywir. Bydd hyn yn ymwneud ag adolygu amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth a chyhoeddiadau am effeithiau'r pandemig yng Nghymru, yn ogystal â gwaith ymgysylltu helaeth ag ysgolion a rhanddeiliaid.

Bydd y gwaith hwn yn ymwneud ag ystyried sut y byddwn yn diffinio llwyddiant y rhaglen yn ei chyfanrwydd a pha fath o ddangosyddion y gallwn gyfeirio atynt er mwyn olrhain cynnydd, wedi'i lywio gan saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r rhai a nodir mewn cynlluniau diwygio addysgol ehangach.

Byddwn hefyd yn cadw llygad ar faterion penodol sydd wedi deillio o'r pandemig, er enghraifft bwlch cyrhaeddiad mwy, newidiadau i'r berthynas rhwng ysgolion a'u cymunedau lleol, ac effeithiau ar les meddyliol ac iechyd corfforol dysgwyr.

Y tymor canolig

Wrth i fentrau gael eu cyflwyno, byddwn yn dechrau casglu gwybodaeth ac adborth ar y broses o'u rhoi ar waith. Byddwn yn ystyried pob menter yn erbyn ei meini prawf llwyddiant ei hun. Byddwn hefyd yn ystyried canfyddiadau cynnar o waith i werthuso mentrau megis ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ac yn dadlau o blaid parhau â rhai mentrau sy'n cael effaith fawr, a'u hehangu.

Byddwn hefyd yn mapio, yn monitro ac yn gwerthuso cwmpas y rhaglen Adnewyddu a Diwygio gyfan. Byddwn yn sicrhau nad yw gweithgareddau ymchwil yn cael eu dyblygu a bod gwybodaeth yn cael ei rhannu â'r mentrau gwahanol, gan gyfrannu at ddealltwriaeth gyffredin o'r hyn rydym yn ei gyflawni a'n galluogi i wneud penderfyniadau am yr hyn sy'n gweithio.

Yr hirdymor

Gan adeiladu ar hyn, bydd y gwerthusiad hirdymor yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd, effaith a chynnydd tuag at ddiwygiadau addysgol ehangach. Bydd gwaith ymchwil a gwerthuso yn adrodd i fframwaith cyffredin a chyfres eang o ddangosyddion.

Disgwyliwn i nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod yn rhan hanfodol o hyn, gan adeiladu ar Gynllun Gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn datblygu'r fframwaith hwn ar y cyd, ac yn nodi cynllun ar gyfer cyhoeddi gwerthusiadau cadarn yn seiliedig ar weithgareddau ymchwil a thystiolaeth hirdymor.

Y camau nesaf ac amserlenni

Mae'r cynllun hwn yn nodi llwybr ar gyfer y misoedd nesaf, gan gyfleu'r gweithgareddau a'r carfanau y byddwn yn eu blaenoriaethu. Mae'r rhain wedi cael eu datblygu a'u trafod â rhanddeiliaid allweddol a byddwn yn parhau i wrando ar bartneriaid a'r amrywiaeth o dystiolaeth sydd ar gael. Rydym yn bwriadu rhoi'r diweddariad nesaf ar gynnydd a heriau sy'n dod i'r amlwg ddechrau hydref 2021, gan gydnabod natur newidiol ac ansicr COVID-19.