Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r papur hwn wedi cael ei ddefnyddio i lywio canllawiau ar gyfer datblygu systemau adnabod cynnar effeithiol ar gyfer rhai dan 16.

Gan ganolbwyntio ar ddangosyddion lle mae data yn cael eu casglu fel mater o drefn yng Nghymru, amcan y papur hwn yw asesu i ba raddau y byddai nodweddion demograffig a dangosyddion yn ymwneud ag ysgol yn effeithiol o ran rhagweld pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET yng Nghymru. Er bod dangosyddion personol neu ddangosyddion agwedd yn bwysig, gan nad oes data ar y rhain ar gael fel mater o drefn ar lefel genedlaethol, maent y tu allan i gwmpas y papur hwn. Mae'r papur yn dechrau gydag adolygiad llenyddiaeth ar y newidynnau ar gyfer rhagweld pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio o ddysgu a dod yn NEET. Cafodd hyn ei ddefnyddio i lywio dyluniad dadansoddiad o ddata cyrchfan Gyrfaoedd Cymru a data'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion.

Sylfaen y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yw adnabyddiaeth gynnar pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio. Fel rhan o weithredu'r camau gweithredu hyn ar gyfer adnabyddiaeth gynnar pobl ifanc, mae Llywodraeth Cymru yn gosod safonau craidd ar gyfer adnabyddiaeth gynnar i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt ddatblygu eu dull eu hunain.

Adroddiadau

Adnabod pobl ifanc mewn sydd mewn perygol o fod 'Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant' (NEET) yn y dyfodol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 364 KB

PDF
Saesneg yn unig
364 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Starkey

Rhif ffôn: 0300 025 0377

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.