Mae Admiral, un o brif gyflogwyr Cymru, yn creu bron 200 o swyddi, diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Byddant yn cael eu creu wrth i Admiral ehangu i’r farchnad fenthyciadau personol. Yn y dyfodol bydd y cwmni yn cynnig gwahanol gynhyrchion newydd ar-lein gan gynnwys benthyciadau personol a chyllid ceir.
Caiff y 193 o swyddi gwerthu a gwasanaethu cwsmeriaid eu creu yn dilyn cais llwyddiannus Admiral am grant o £668,500 gan y cynllun Cyllid Busnes ar gyfer creu swyddi.
Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n cyflogi dros 9,000 o bobl mewn wyth gwlad gyda dros 6,000 ohonynt yng Nghymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
“Mae Admiral wedi ymrwymo i ehangu ei fusnes yng Nghymru. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ei bresenoldeb parhaus fel un o brif gyflogwyr Cymru, a chredwn mai buddsoddiad gwerthfawr yw hwn."
“Roedd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr amrywiaeth o nwyddau newydd hyn yn sicrhau bod y swyddi yn cael eu creu, ac yn aros, yng Nghymru. Rwy’n llongyfarch Admiral wrth iddo barhau i dyfu a chreu swyddi, sy’n hysbyseb wych o’i wasanaethau yng Nghymru.”
Dywedodd Geraint Jones, Prif Swyddog Cyllid Admiral,
“Cymru yw un o’r canolfannau gwasanaethau ariannol sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae Admiral wrth ei fodd yn cael lansio ei fenter newydd yn y farchnad fenthyca yng Nghaerdydd, ein dinas ni.”