Neidio i'r prif gynnwy

Aeth y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, ar ymweliad â Phrosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf sy'n ceisio adfywio dalgylch uchaf yr afon, sy'n gartref i sawl rhywogaeth bwysig fel eog yr Iwerydd, dyfrgwn, gwangod, cimwch crafanc gwyn, a chrafang-y-fran.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar dalgylch Gwy o'i tharddle ar Bumlumon i'r ffin yn Y Gelli Gandryll. Bydd gwelliannau yn y dalgylch uchaf o fudd i system gyfan yr afon. Bydd ymdrechion yn cynnwys lleihau gwaddod a llygryddion sy'n dod i mewn i'r afon a gwella ei gwytnwch i dywydd eithafol a'r Argyfwng Hinsawdd.

Dechreuodd y gwaith y llynedd a bydd yn cymryd cyfanswm o bum mlynedd i'w gwblhau. Bydd tîm ymroddedig o arbenigwyr yn gwella amgylchedd yr afon, wedi'i ariannu gan gronfa Natur ac Argyfwng Hinsawdd (NACE) Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cyllid cyfalaf ar gyfer gwelliannau i ffermydd.

Yn ystod yr ymweliad gwelodd y Dirprwy Brif Weinidog sut mae'r tîm yn "Arafu'r Llif" yng Nghoedwig Tarenig trwy roi pren o'r goedwig i mewn i nentydd bach a ffosydd draenio. Mae hyn yn helpu i ddal gwaddod cyn iddo fynd i mewn i'r afon, ail-greu coridorau llystyfiant ar hyd yr afon, ac yn creu gwlyptiroedd newydd ger Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Tarenig (SoDdGA).

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr a grwpiau i:

  • ddarparu cyngor rheoli tir i ffermwyr
  • Adfer glannau afonydd a stribedi clustogi
  • Gwella cartrefi i fywyd gwyllt gan ddefnyddio deunyddiau naturiol
  • Torri i lawr ar lygredd a chadw'r pridd yn ei le
  • Arafu dŵr ffo yn ystod glaw trwm
  • Ailgysylltu afonydd â'u gorlifdiroedd
  • Cael gwared ar rwystrau sy'n atal pysgod rhag symud yn rhydd
  • Cael gwared ar blanhigion anfrodorol

Mae Afon Gwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac mae'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan gymunedau lleol ac ymwelwyr ar gyfer hamdden awyr agored, gweithgareddau lles ac arwyddocâd diwylliannol.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

Rydym yn benderfynol o barhau i wella ein hafonydd ledled Cymru, gan gynnwys Afon Gwy, ac mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud.

Bydd y gwaith hwn yn nalgylch uchaf Gwy o fudd i'r afon gyfan, gan ei gwneud yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol a hefyd amddiffyn bywyd gwyllt gwerthfawr.

Bydd y cyllid ymchwil ar y cyd a gyhoeddais ddydd Mawrth yn cefnogi adferiad natur ac arferion ffermio cynaliadwy i wella'r amgylchedd lleol yn nalgylch Gwy. Bydd hyn yn gweithio ochr yn ochr â phrosiectau cyfalaf fel hyn i sicrhau ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i wella ansawdd y dŵr ar hyd Afon Gwy.

Dywedodd Susie Tudge, Arweinydd Tim Prosiect Adfer Afon Gwy Uchaf:

Roedd yn wych croesawu'r Dirprwy Brif Weinidog i weld rhai o'r prosiectau rydym yn eu cyflawni gyda chymunedau a thirfeddianwyr i adfer cynefinoedd a gwella ansawdd dŵr yn rhannau uchaf Afon Gwy.

Mae'r dull rydym yn ei ddefnyddio yma yng Nghoedwig Tarenig yn enghraifft wych o sut y gall gwaith o fewn ystâd Llywodraeth Cymru gyfrannu at adfer prosesau afonydd naturiol a chynyddu gwytnwch i newid hinsawdd yn y dyfodol. 

Dyma un o'r ymyriadau cyntaf i'w darparu gan ein prosiect, a byddwn yn ei ddefnyddio fel safle arddangos enghreifftiol ar gyfer rheolwyr coedwigoedd eraill.

Mewn mannau eraill, rydym yn gweithio ar ffermydd lleol i ffensio stribedi clustogi a phlannu coridorau o goed. Ynghyd â meysydd ffocws eraill ein prosiect, bydd hyn yn sicrhau cyfraniad sylweddol at adfer dalgylch uchaf Afon Gwy.