Neidio i'r prif gynnwy

Casglu gwybodaeth

Wrth gasglu gwybodaeth i ychwanegu at ganfyddiadau'r adroddiad hwn, daeth yn amlwg mai nifer cyfyngedig o adroddiadau ymchwil ffurfiol neu rai wedi’u seilio ar sefydliadau o ran poblogaeth mudwyr dan orfod Cymru sy’n bodoli yn gyffredinol, ac ychydig iawn yn canolbwyntio ar yr angen am wasanaethau dehongli effeithiol.  

O'r nifer cyfyngedig hwn o adroddiadau wedi’u cyhoeddi, codwyd rhai materion sy'n effeithio ar argaeledd gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor amserol ac o ansawdd da.

Roeddent yn ymwneud â chyflogaeth ac addysg, iechyd, tai, Trais yn erbyn Menywod, Trais yn y Cartref a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).  

Yr un yw’r pryder am ddiffyg dogfennau polisi wedi’u cyhoeddi a gynhyrchir gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, megis byrddau iechyd, gwasanaethau cyfiawnder troseddol; disgrifiodd pob un ohonynt fudwyr dan orfod fel 'ceiswyr lloches a ffoaduriaid' ac nid oedd gan y mwyafrif llethol bolisïau annibynnol ar fudwyr dan orfod (neu heb eu cyhoeddi), ond yn hytrach roeddent yn integreiddio'r pwnc i'w cynlluniau cydraddoldeb strategol. Fodd bynnag, mae cyngor Abertawe a Chaerdydd yn eithriadau yma, gan fod y ddau wedi torri cwys newydd gyda'u statws Dinas Noddfa.

Roedd y dogfennau canlynol hefyd yn ddefnyddiol:

Mae Llywodraeth Cymru yn barod iawn i roi noddfa i bobl sy'n cael eu gorfodi i adael eu gwledydd gwreiddiol ac mae'n amlwg yn benderfynol o sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd Cymru yn cael eu cefnogi'n llawn i setlo, integreiddio a ffynnu. Fodd bynnag, heb sylfaen dystiolaeth gadarn, dim ond cipolwg sydd yna i'r hyn a allai fod yn digwydd, fydd efallai ddim yn ddigon i hwyluso datblygiad gwasanaethau effeithlon ac effeithiol.

Canfyddiadau o gyfweliadau’r prosiect

Trefnir canfyddiadau'r ymchwil cynradd fesul garfan.

Poblogaeth mudwyr dan orfod Cymru

Rhwystrau i wasanaethau dehonglydd

Mae rhwystrau i fudwyr dan orfod sydd am gael mynediad at wasanaethau dehongli ieithoedd tramor wedi cael eu categoreiddio mewn sawl ffordd, yn seiliedig ar ganfyddiadau personol, cymdeithasol a sefydliadol.

Mae ail set o grwpiau'n cynnwys rhai seicolegol, yn ymwneud â'r ffordd y mae'r unigolyn yn gweld y gwasanaeth; ariannol, yn ymwneud â chost y gwasanaeth nad yw bob amser yn cael ei dalu gan y sefydliad ac adnoddau, yn ymwneud â'r capasiti yn erbyn y galw am y gwasanaeth.

Crynodeb o'r rhwystrau i gael mynediad at a derbyn gwasanaethau dehongli gan fudwyr dan orfod

  • Ieithyddol: yn enwedig pan fo tafodiaith rhywun yn fwy anghyffredin. Mae hyn yn golygu dibynnu ar y rhai o'u cwmpas neu apiau cyfieithu.
  • Gwybodaeth: diffyg gwybodaeth briodol a chywir am sut mae gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor yn gweithio a'u manteision, wedi'u darparu mewn iaith a fformat sy'n addas i anghenion pob unigolyn. Mae hyn yn arwain at fethiant i gael mynediad at ddehongli iaith dramor pan fo’i angen, yn enwedig pan fo unigolyn yn dibynnu ar ddarpariaeth digidol/gwasanaeth ar-lein.
  • Cyfathrebu: sut mae sefydliadau'r trydydd sector a'r Swyddfa Gartref yn ymwneud â mudwyr dan orfod a gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor o ran materion sensitif sydd angen eu cyfieithu e.e. trawma sy'n gysylltiedig â rhywedd, rhywioldeb, diwylliant ac iechyd meddwl.
  • Gwybodaeth: pryd yn ystod y broses loches mae gwasanaethau cyfieithu ar gael, pa fathau o wasanaeth sy'n cael eu darparu, a sut y gallai mudwyr dan orfod gael mynediad at wasanaethau heb orfod dibynnu ar eraill neu dalu am y gwasanaethau hyn.
  • Profiad Personol: yn enwedig os oes problem wedi bod yn y gorffennol gyda gwasanaethau dehongli a sut (os o gwbl) y darparwyd gofal.
  • Diffyg ymddiriedaeth: mewn awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau'r trydydd sector a gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor. Mae "ffurfioldeb" y gwasanaethau yn dieithrio'r mudwyr dan orfod hyd yn oed ymhellach, wrth i'w pŵer yn ystod y broses ceisio lloches gael ei dileu ymhellach.
  • Gwahaniaethu: y tebygolrwydd bod gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor a’u harferion yn gwahaniaethu, yn fwriadol neu’n anfwriadol, ac ofn mudwyr dan orfod o wahaniaethu.

Nid yw'r rhwystrau a grybwyllir uchod yn annibynnol ar ei gilydd, ac mae amrywiaeth o orgyffwrdd. Felly, mae angen dull cyfannol a chydweithio rhwng y trydydd sector a Llywodraeth Cymru.

Siarad o brofiad mudwyr dan orfod

Defnydd cychwynnol dehonglwyr

Cyrchodd bron pob un a gymerodd ran wasanaethau dehongli ieithoedd tramor yn ystod eu cais lloches cychwynnol a'u cyfweliad gan y Swyddfa Gartref neu yn ystod cyfarfod â sefydliad trydydd sector. Mae eu barn yn gymysg.

Roeddwn yn teimlo mor bryderus am y cyfweliad (Swyddfa Gartref) ac ar ben hynny roedd yn rhaid i mi boeni am y cyfieithydd hefyd! Mae pwysau fel yna wir yn effeithio ar eich iechyd meddwl!

Roeddwn yn falch eu bod nhw wedi rhoi cyfieithydd i mi. O leiaf mae’r Deyrnas Unedig yn poeni digon i wneud hynny. Rwy’n gwybod nad yw fy ngwlad i yn poeni gymaint â hynny am geiswyr lloches.

Yn fy nghyfweliad â’r Swyddfa Gartref, es i gyda ffrind i mi oedd yn gallu siarad Saesneg yn eithaf da ond dim digon i fod yn ddehonglwr hyderus. Ar ôl dehongli am ychydig, roedd yn ymddangos nad oedd y dehonglwr yn hoffi’r hyn roeddwn yn ei ddweud ac, yn Saesneg, dywedodd wrth swyddog y Swyddfa Gartref fy mod yn dweud celwydd. Heriodd fy ffrind y dehonglwr a daeth y swyddog Swyddfa Gartref â’r cyfarfod i ben.

Roeddwn yn gwneud cais am loches ar sail erledigaeth grefyddol. Roeddwn yn Gristion yn byw mewn Gwladwriaeth Fwslimaidd ac roeddwn yn cael fy erlid gan y pentrefwyr Mwslimaidd lleol. Roedd fy nghyfieithydd yn Fwslim ac nid oedd yn credu y gallai Mwslimiaid erlid Cristion ac felly gwrthododd gyfieithu. Eglurodd fy nghyfreithiwr i unigolyn y Swyddfa Gartref beth oedd yn digwydd a gofynnwyd i mi gymryd drosodd y dasg o ddehongli.

Defnyddio gwasanaethau yn briodol

Un thema sy’n codi o’r holl ymatebion cyfweld yw diffyg dealltwriaeth o'r gwasanaethau y gall dehonglwyr eu darparu a phryd mae hi’n briodol gofyn i hybiau cymunedol neu sefydliadau trydydd sector gaffael gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor.  Mae hyn yn awgrymu diffyg yn y cyfathrebu o ran sut mae gwybodaeth ynghylch gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor yn cyrraedd mudwyr dan orfod.

Enghraifft:

I fod yn onest, nid oeddwn yn gwybod sut y gallai weithio. Nid oeddwn yn sylweddoli y bydden ni’n ei galw hi, ac y byddai hi’n cyfieithu dros y ffôn. A beth wnaf i os oes yn rhaid i mi bicio i mewn heb apwyntiad? A fydden nhw’n galw cyfieithydd bob tro rwy’n cerdded i mewn?

Ymyleiddio gan ddiffyg gwasanaethau

Ymhellach, pwysleisiodd ychydig dros hanner y cyfranogwyr fod llawer o fudwyr dan orfod angen gwasanaethau dehongli ar gyfer hyd yn oed y tasgau lleiaf, a'u bod yn aml yn teimlo eu bod wedi’u hymyleiddio a'u camddeall, wrth iddynt fethu â chysylltu â darparwyr gwasanaethau yn ogystal â dechrau eu hintegreiddio.

Enghraifft:

Rwyf eisiau gwella fy Saesneg hyd yn oed ymhellach. Nid wyf eisiau i’r Cyngor (Cyngor Ffoaduriaid Cymru) orfod galw dehonglwr bron bob tro mae gen i apwyntiad. Fel arall, fydda i ddim yn gallu ffitio i mewn.

Dehonglwyr yn dileu pŵer

Pwynt pwysig a ddatgelwyd rhywfaint yn ystod tua hanner y cyfweliadau â mudwyr dan orfod oedd bod dibynnu ar ddehonglwyr yn dileu eu pŵer, gan nad yw eu llais yn cael ei glywed. Mae hyn yn arwain at ddiffyg hyder.

Enghraifft:

Rwyf eisiau gallu defnyddio fy llais fy hun, rhannu fy stori fy hun, dweud wrthyn nhw amdanaf fi a fy mywyd a pheidio â gorfod dibynnu ar ganfyddiad dieithryn (y dehonglwr) ohonof fi. Nid oedd yn fy adnabod ond eto roedd fy nghais yn dibynnu ar ei gyfieithiad.

Mynegi naratifau, cyfieithwyr homoffobig a materion tafodieithol

Esboniodd bron pob mudwr dan orfod mai dehongli ieithoedd tramor yw eu hunig ffordd o brofi pwy ydyn nhw i gefnogi eu cais am loches. Pan fydd materion tafodieithol yn codi, yn enwedig yn ystod cyfweliad y Swyddfa Gartref, mae eu cais am loches yn y fantol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ymfudwyr gorfodol LHDTC+ sydd â naratifau mwy cymhleth i'w cyflwyno ac a allai fod yn delio â thrawma, gormes, a gwadu.

Enghraifft:

Roedd fy nghyfieithydd yn homoffobig; wnes i ddim defnyddio un eto. Cymerodd ddwy flynedd arall i mi ddysgu Saesneg.

Nid yw cyfieithu iaith LHDTC+ o un dafodiaith Arabeg i un arall yn gweithio oherwydd rydym i gyd yn defnyddio iaith ‘slang’ wahanol; mae’n benodol iawn i wledydd. Felly, os nad yw’r cyfieithydd yn adnabod y ‘slang’, gallant ddifetha cais rhywun. Hefyd, nid yw llawer o bobl eisiau siarad am eu profiadau (LHDTC) mewn gwirionedd, am sawl rheswm: mae rhai heb ddod allan, mae rhai yn rhy ofnus i gyfaddef i swyddogion eu bod yn hoyw.

Effeithiau’r straen

Yn ogystal, ychwanegodd bron i 70% eu bod yn cael eu gadael yn teimlo dan straen, gan nad oes ganddynt unrhyw reolaeth ynghylch beth yn union sy'n cael ei gyfieithu a sut y bydd yn effeithio'n uniongyrchol ar eu bywyd bob dydd a'u cais am loches.

Enghraifft:

Mae rhai o’r pethau sydd wedi digwydd i mi yn eithaf anodd eu trafod ac roeddwn yn pryderu, oherwydd nad oedd y cyfieithydd yn fy adnabod yn bersonol, y byddai fy nghefndir yn cael ei fychanu neu ei orliwio, ac roeddwn yn pryderu y gallai hynny fod yn niweidiol i fy nghais.

Problemau gyda dehongli ieithoedd tramor dros y ffôn

Soniodd 76% o'r cyfranogwyr mudwyr dan orfod nad yw dehongli ieithoedd tramor dros y ffôn yn ateb gwych, gan eu bod yn teimlo na fydd dehonglwyr yn cymryd amser i wrando'n iawn ar eu materion penodol ac mewn rhai achosion, mae'n ymddangos nad ydynt am ddeall y materion diwylliannol sy'n bwysig i'w ceisiadau. 

Enghraifft:

Nid oeddwn eisiau i farn y swyddogion (Swyddfa Gartref a dehonglwr) ohonof fi waethygu. Roeddwn i eisiau meithrin perthynas â nhw, er mwyn dangos iddynt fy mod yn deilwng i fod yn y DU. Ond nid oeddwn yn siŵr y byddai’r cyfieithydd yn cyfieithu’n gywir neu’n llenwi’r bylchau yn fy stori. Rwy’n berson swil ac rwy’n dod o deulu crefyddol llym. Nid oeddwn eisiau i unrhyw un arall glywed am fy mywyd neu fy meirniadu heb wybod beth y mae’n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn berson hoyw yn Nigeria.

Yr angen am fwy o amrywiaeth o fewn y Swyddfa Gartref

Pe bai mwy o staff y Swyddfa Gartref a'r trydydd sector eu hunain yn dod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, byddai gwell dealltwriaeth o faterion tafodiaith a diwylliant yn ogystal â mwy o gyfleoedd i gyfathrebu ac integreiddio'n hyderus

Enghraifft:

Byddwn yn teimlo’n fwy diogel a hyderus i ryngweithio a chyfathrebu pe bai staff y Swyddfa Gartref yn edrych fel fi, yn siarad fy iaith i neu pe byddai ganddynt gefndir o fod yn ffoadur. Oherwydd dyna’r unig ffordd y gallent uniaethu â ni.

Darparwyr dehonglwyr ffurfiol

Cefnogir y DU gan nifer o sefydliadau gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor, ynghyd â darparwyr byd-eang di-rif sy'n gweithredu gwasanaethau o bell.  Cyfwelwyd neu cysylltwyd â thri o'r darparwyr a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru.  Roedd yn siomedig na wnaeth tri darparwr arall y cysylltwyd â nhw ymwneud â'r ymchwil hon, gyda dau ond yn fodlon cymryd rhan yn ddienw. Fodd bynnag, parchwyd eu dewis i beidio â gwneud hynny gyda’r ddealltwriaeth bod safbwynt annibynnol, cyfrinachedd cleientiaid, sensitifrwydd masnachol ynghyd ag awdurdodaeth llywodraethau yn cymhlethu tirwedd y darparwr.

Crynodeb o'r rhwystrau i gael mynediad at a defnyddio gwasanaethau dehongli gan fudwyr dan orfod sy'n defnyddio'n gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor ffurfiol

  • Recriwtio a chadw dehonglwyr: problemau gyda'r model gweithredu.  Mae hwn yn fodel 'Mewn Union Bryd' sy'n cael ei yrru gan alw sy’n golygu dim gwarant o waith i'r dehonglwyr.
  • Datblygiad proffesiynol: Nid oes cymorth Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac mae'r cyfrifoldeb ar y dehonglydd i reoli ac ariannu eu datblygiad eu hunain.
  • Darparu gwasanaeth heb ei reoleiddio: Er bod rheoleiddio yn dod â'i broblemau ei hun, felly hefyd mae bod heb unrhyw reoliadau.
  • Gweithredu heb unrhyw hyfforddiant: Mae'n bosibl gweithredu heb unrhyw hyfforddiant na chymhwyster ffurfiol gan nad oes canllawiau statudol yn y maes hwn.
  • Cymhellion gwael: Prin yw'r cymhellion i ennill cymwysterau cydnabyddedig gan nad oes unrhyw incwm gwarantedig ar fuddsoddiad.
  • Ymddygiad proffesiynol: Mae diffyg hyfforddiant cadarn ynghylch codau ymddygiad, diogelu neu reoli cyfrinachedd.
  • Cydnawsedd dehonglydd / cleient: Mae diffyg cymhelliant i ddarparwyr baru'r dehonglydd mwyaf priodol gyda chleientiaid gan y gall unrhyw oedi arwain at y sefydliad bwcio yn mynd at wasanaeth dehongli gwahanol.
  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL): Mae amseroedd aros annerbyniol am ddehonglwyr BSL.
  • Casglu data demograffig mudwyr dan orfod: Mae diffyg casglu gwybodaeth ddigonol gan gyrff cymorth ac asiantau comisiynu, gan wneud paru cleient i wasanaethau dehongli yn anoddach.
  • Hawliau: Diffyg gwybodaeth ynghylch hawliau mudwyr dan orfod.
  • Darparu gwybodaeth i ddehonglwyr:  Mae diffyg rhannu gwybodaeth gyda dehonglwyr.  Daw hyn yn rhwystr i ddehongli ieithoedd tramor cwbl effeithlon ac effeithiol, yn enwedig ar gyfer achosion cymhleth, cyfreithiol, iechyd neu sensitif.
  • Technoleg o bell: Nid yw darparwyr wedi cofleidio manteision defnyddio technoleg o bell yn llawn, ac maent yn dibynnu'n ormodol ar y Llinell Iaith gyda'i holl ddiffygion hysbys neu’n gwthio am wasanaethau wyneb yn wyneb.

Siarad o brofiad: gwasanaethau dehongli

Amrywiaeth Ieithoedd

Mae Cymru'n wlad amrywiol iawn gyda hanes hir a balch o groesawu mewnfudwyr a mudwyr dan orfod o bob cwr o'r byd.  O ganlyniad, “we use just over 120 different languages in Wales, not including Welsh and English” (darparwr ffurfiol).

Fodd bynnag, mae'r ieithoedd a ddefnyddir amlaf yn parhau'n gymharol statig gyda symudiad cyfyngedig rhwng safleoedd o fewn y deg iaith y gofynnir amdanynt fwyaf.  Fodd bynnag, wrth i Gymru barhau i chwarae ei rhan wrth gynnig noddfa i bobl wedi’u dadleoli o bob cwr o'r byd, gellir gweld rhai amrywiadau mewn anghenion ieithyddol wrth i Gymru ymateb i'r argyfyngau dyngarol amrywiol, megis y gwrthdaro diweddar yn Syria ac Affganistan a bellach yn 2022, effeithiau goresgyniad Wcráin.

Nid yw’r ieithoedd y gofynnir amdanynt fwyaf fyth yn newid bron - Arabeg yw’r mwyaf cyffredin, yna Pwyleg ac yna BSL. Y saith iaith mwyaf poblogaidd wedyn yw Lithwaneg, Tsiec, Mandarin, Cantoneg, Wrdw, Bengaleg a Romaneg. Yn amlwg, rydym bellach yn gweld galw anhygoel am ddehonglwyr a chyfieithwyr Wcrainaidd a Rwsaidd. Cyn yr argyfwng diweddar, dim ond yn achlysurol iawn y byddai cais am yr ieithoedd hynny. Rydym yn disgwyl y bydd y galw’n parhau am o leiaf y 12 mis nesaf. Mae’n enghraifft o pam na fyddai’n hawdd i’n dehonglwyr fod yn gyflogeion i ni yn hytrach nag yn gontractwyr. Mae anghenion ieithyddol cymunedau’n amrywio sy’n gwneud cyflogi [dehonglwyr] yn yr hirdymor yn fater cymhleth a drud. (darparwr ffurfiol)   

Recriwtio, cadw ac anghenion hyfforddi dehonglwyr

Mae recriwtio a chadw dehonglwyr yn parhau i fod yn broblem gyda'r holl ymatebwyr yn yr ymchwil hwn.  Nid oedd un sefydliad yr ymgynghorwyd â hwy yn cyflogi dehonglwyr, ond yn hytrach yn eu comisiynu fel contractwyr hunangyflogedig neu weithwyr llawrydd. Tybir bod y trefniant hwn yn rhoi hyblygrwydd i'r asiantaethau, yn caniatáu i ddehonglwyr bennu eu horiau eu hunain a chofrestru â sawl asiantaeth, gan gynyddu'r siawns o gomisiynau. 

Mae ein holl ddehonglwyr yn hunangyflogedig. Dyma’r model a ddefnyddiwn oherwydd mae gwasanaethau dehongli’n gweithredu ar sail model cyflenwi a galw. Er enghraifft, mae’r argyfwng presennol yn yr Wcráin yn golygu bod galw ychwanegol am Wcraineg a Rwseg (er bod hynny’n llai o ran Rwseg), ond cyn yr argyfwng, roedd yr angen am Wcraineg yn brin. Felly, ni fyddem yn cyflogi ein dehonglwyr ar sail talu wrth ennill oherwydd baich y gost i’r sefydliad heb iddynt fod yn ffynhonnell refeniw mae hyn yn ymddangos yn ariangar, ond rydych yn deall beth yr wyf yn ei ddweud. Ni fyddai’n fodel busnes cynaliadwy a byddai’n cynyddu ein costau ac felly ffioedd ein gwasanaethau. (darparwr ffurfiol)

Ni fyddai’n fodel busnes cynaliadwy a byddai’n cynyddu ein costau ac felly ffioedd ein gwasanaethau. (darparwr ffurfiol)

Mae’r gydnabyddiaeth broffesiynol a roddir i ddehonglwyr yn wael iawn, ac mae rhai asiantaethau’n trin dehonglwyr mewn ffordd nad wyf yn credu sy’n dderbyniol, ac nid wyf am gael fy nhrin yn y modd hwnnw, felly rwyf bellach yn gweithio’n bennaf dros y ffôn ac rwyf wedi symud draw i wasanaethau cyfieithu yn bennaf oherwydd eu bod yn dod â mwy o foddhad i mi. (cyfieithydd)

Mae asiantaethau dehonglwyr yn gweithredu ar sail 24/7 gyda strwythurau cymorth sy'n fuddiol i bawb yn gweithredu a chynnig cymaint o ieithoedd gwahanol ag sy’n bosibl i ddiwallu anghenion y cymunedau. Er enghraifft, mae GCC (WITS) yn gweithredu gyda thua 500 o ddehonglwyr cofrestredig, ac mae ganddynt gytundebau gwaith gydag asiantaethau eraill fel The Big Word a’r Llinell Iaith i ddiwallu unrhyw anghenion ychwanegol os oes angen. Fodd bynnag, nid yw'n glir faint o'u dehonglwyr sy'n rhai cymwys neu 'gymuned'.  O fewn pecyn cais dehonglwyr GCC mae recriwtiaid posibl yn cael eu graddio fel a ganlyn:

  • ychydig neu ddim profiad (o dan 50 awr.)
  • rhywfaint o brofiad (50-100 awr.)
  • profiad helaeth (100+ awr.)
  • cymhwyster proffesiynol mewn iaith
  • cymhwyster Diploma mewn Dehongli Gwasanaethau Cyhoeddus neu wedi'u cofrestru gyda'r Gofrestr Genedlaethol o Gyfieithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus (WITS interpreter application form)

Dywedodd hanner yr ymatebwyr cyfweliad llawn nad oes gofyniad ffurfiol i fod yn ddehonglydd cymwys neu gofrestredig, ond mae asiantaethau'n annog pobl i weithio tuag at Ddiploma mewn Dehongli Gwasanaethau Cyhoeddus (DPSI), a/neu gofrestru gyda'r Gofrestr Genedlaethol o Gyfieithwyr Gwasanaethau Cyhoeddus (NRPSI) gan eu bod yn ‘haws eu bwcio' ac yn denu'r ffioedd uchaf.  Fodd bynnag, nodwyd gan bron bob ymatebydd, bod y broses gymhwyso yn ddrud ac nad yw'n gwarantu incwm ‘y gellir byw arno' ar ddiwedd y broses.

Mae'r NRPSI yn rheoleiddiwr gwirfoddol annibynnol o ddehonglwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn gwasanaethau cyhoeddus.  Mae ganddynt tua 1800 o ddehonglwyr cofrestredig ar unrhyw adeg.  Fodd bynnag, i gofrestru gyda NRPSI mae yna isafswm gofynion y mae'n rhaid i chi eu bodloni:

  • statws llawn: o leiaf 400 awr o brofiad profedig o Ddehongli Gwasanaeth Cyhoeddus (PSI) yn y DU gydag isafswm o FfCCh (QCF) Lefel 6 neu uwch
  • statws interim (a): dim isafswm oriau, ond isafswm FfCCh Lefel 6 neu uwc
  • statws interim (b): cwblhau cymhwyster yn rhannol sy’n bodloni’r gofynion statws llawn. Isafswm o 400 awr o brofiad profedig o Ddehongli Gwasanaethau Cyhoeddus yn y DU
  • statws iaith brin: mae Statws Iaith Brin ar gyfer yr ieithoedd hynny nad oes cymhwyster PSI ar gael yn y DU ar eu cyfer, ond mae galw am yr iaith gan y gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth dderbyniol eich bod yn gallu siarad yr iaith i safon briodol. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o fod wedi pasio cymhwyster sy'n profi Saesneg llafar ac ysgrifenedig sy'n cyfateb i System Brofi Saesneg Rhyngwladol (IELTS) sgôr band 7.0 neu uwch (CEFR C1). Mae cymwysterau sy'n profi hyn yn cynnwys Cambridge English: Advanced (CAE), Cambridge English: Proficiency (CPE) ac IELTS.  Mae angen o leiaf 100 awr o brofiad PSI profedig a gwblhawyd yn y DU.

Gan ei fod yn ofyniad anstatudol i gofrestru gyda NRPSI neu grwpiau tebyg fel Cymdeithas y Dehonglwyr Heddlu a Chyfieithwyr Llys (APCi) nid yw comisiynwyr gwasanaeth yn ymwybodol o'r manteision o  ofyn am ddehonglydd cymwys neu gofrestredig. 

Does neb yn gofyn am unrhyw gymwysterau neu brofiad. Ac rwyf yn teimlo nad yw dehonglwyr hyd yn oed yn ymwybodol o’r rôl, ac nid yw rhai ohonynt yn ymwybodol o egwyddorion sylfaenol y Cod Ymddygiad, oherwydd mae’n broffesiwn, er ei fod yn anrheoleiddiedig, lle mae angen i ni gael ein diogelu, fel y mae angen diogelu aelodau’r cyhoedd drwy egwyddorion ymddygiad proffesiynol, fel cyfrinachedd, er enghraifft.

Weithiau rydym yn gweld dehonglwr yn croesi ffiniau, yn bennaf dehonglwyr cymunedol. Nid yw’n rhywbeth negyddol, ond maent yn ceisio bod yn ddefnyddiol heb ddeall y sefyllfa gyfan. Felly weithiau, mae’r ymgais honno i fod yn ddefnyddiol yn dod yn broblem enfawr na ellid ei rhagweld.

Nid oes yn rhaid i chi gael cymhwyster ffurfiol i weithio fel dehonglwr. Yn hynny o beth, mae’n gwbl anrheoleiddiedig, ond mae gennym ni god ymddygiad a safonau gofynnol y mae disgwyl i’n holl gymuned o ddehonglwyr lynu wrthynt.

Y dehonglwyr rydym yn gweithio gyda nhw, mae ymrwymiad i’w cymunedau, maent eisiau helpu’r gymuned ac maent am wneud gwahaniaeth, i helpu eraill a rhoi rhywbeth bach yn ôl. Weithiau gall fod yn dipyn o broblem oherwydd maent yn croesi’r ffiniau proffesiynol wrth geisio helpu. Does dim malais na drwgfwriad, ond mae’n rhaid i chi gofio bod rhai o’r bobl hyn yn dod o wledydd lle nad yw’r dulliau cefnogi sydd gennym ni yn bodoli, felly nid oes ffrâm ddealltwriaeth ynghylch ffiniau’r rôl weithiau.

Mae angen i ni gael dull hyblyg mewn perthynas â dehonglwyr cymunedol. Mae’r argyfwng yn yr Wcráin yn enghraifft berffaith. Mae’r her o ran yr Wcráin yn bodoli oherwydd y boblogaeth isel iawn o ddehonglwyr o’r Wcráin. Felly, rydym wedi gallu canfod pobl sy’n siarad Wcraineg ond nid oes ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl. Felly, rydym wedi derbyn y ffaith y gallant siarad yr iaith a gwneud y gwaith dehongli ar lefel gymunedol i ymdrin â’r argyfwng.

Mae darparwyr dehonglwyr ffurfiol yn credu bod y system bresennol yn llwyddiant

Roedd pob un o'r darparwyr gwasanaethau proffesiynol a gafodd eu cyfweld, yn credu bod y system ddehongli yn gweithio'n dda ar y cyfan. Roedden nhw'n credu bod y llwyddiant hwn wedi'i ennill drwy ddefnyddio cymysgedd o ddarparwyr, megis GCC, y Llinell Iaith, BigWord, Clearvoice, yn ogystal â'r nifer di-ri o ddarparwyr preifat eraill ynghyd â'r cyfuniad o ddehonglwyr proffesiynol a chymunedol. Ond mae yna elfennau o'r system yr oedden nhw'n credu y gellid eu gwella. Manylir ar yr elfennau hyn yn yr adran hon.

Daearyddiaeth Cymru: rhwystr ar wasanaeth

Dywedodd yr holl ymatebwyr fod daearyddiaeth Cymru yn gosod heriau i gynnig yr ystod o ddehonglwyr sydd eu hangen i ddiwallu anghenion ei phoblogaeth amrywiol.  Yn y gorffennol, mae poblogaethau mudwyr dan orfod yng Nghymru wedi'u lleoli yn bennaf yn rhanbarthau dinesig Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Yn fwy diweddar bu newid tuag at ofyn bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnig cymorth i ailsefydlu unigolion a theuluoedd. Er bod hyn yn cael ei groesawu yn fras, mae'n cynnig heriau i wasanaethau lleol o fewn yr ardaloedd mwy gwledig. 

Mae’n llawer haws yn ardaloedd trefol Cymru am resymau amlwg, ond mae’n fwy heriol yng Ngogledd a Gorllewin Cymru oherwydd yr ardaloedd daearyddol diarffordd. Mae Gogledd Cymru yn broblemus yn bennaf oherwydd nid yw’r dehonglwyr yn dod o’r ardal; maent yn dod o Loegr (Lerpwl a Manceinion) felly rydych wedyn yn ychwanegu amser teithio, costau, milltiroedd ac ati, felly gall y costau fod yn eithaf uchel ar ôl eu cronni. Felly, ar gyfer rhai apwyntiadau, gall dehonglwyr deithio am 2 awr yno ac yn ôl am apwyntiad 20 munud.

Technoleg ac arloesi

Roedd yr holl ymatebwyr yn credu bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cynnig llawer o gyfleoedd i wasanaethau fabwysiadu dulliau arloesol o ymgysylltu â'u defnyddwyr gwasanaeth. Yr amlycaf fu'r defnydd cynyddol o dechnegau ymgysylltu o bell drwy dechnoleg ddigidol, defnyddio apiau ar-lein a llwyfannau fideo-gynadledda megis Microsoft Teams a Zoom. Mae hwn wedi bod yn ddatblygiad i'w groesawu gan ei fod yn caniatáu apwyntiadau llawer cyflymach neu fwy deinamig gyda chostau llai.

Mae gennym berthynas dda a chryf iawn gyda Language Line, felly os oes gennym angen taer am ddehonglwr ar frys, neu os ydynt yn ddiarffordd iawn, rydym yn paru drwy Language Line, sy’n amlwg yn ddehongliad dros y ffôn, ac nid yw hynny’n ddelfrydol bob tro, ond weithiau mae’n angenrheidiol. Fodd bynnag, mae ganddynt gynnyrch newydd o’r enw Insight. Mae’n eithaf anhygoel. Mae’n wasanaeth 24/7 drwy ap, gan ddefnyddio llechen, ffôn neu iPad, neu beth bynnag. Mae’n wasanaeth ar alw, nid oes unrhyw gost flynyddol na chostau sefydlu; gallwch dalu am beth rydych yn ei ddefnyddio yn llythrennol. Felly, os bydd rhywun yn mynd i orsaf heddlu neu adran ddamweiniau ac achosion brys ac nid yw’n siarad Saesneg rydych yn troi at yr ap a bydd yn canfod dehonglwr i chi o bob cwr o’r byd yn syth a bydd gennych ddehonglwr wyneb yn wyneb ar unwaith (er bod hynny drwy’r ap). Rwy’n credu ei fod yn costio rhywbeth fel £1.20 y funud. Nid yw’n berffaith, ond ar gyfer anghenion brys y funud honno, mae’n wych. Yn enwedig mewn achosion brys wrth ddisgwyl am ddehonglwr i gyrraedd neu hyd yn oed rhywun sydd ar gael yn ddaearyddol. Hefyd, mae’n bosibl y byddwch yn canfod a deud y gwir, hyd yn oed os yw ychydig yn fwy fesul munud, rydych yn defnyddio ac yn talu am ymgynghoriad 5 munud yn hytrach nag ymgynghoriad 30 munud gyda gwasanaeth un i un personol.

Rydym wedi gweld cynnydd mewn ymgysylltu o bell. Gallai hyn fod oherwydd rhwyddineb y mynediad ato am resymau daearyddol yn ogystal â’r ffaith ein bod oll wedi arfer â gweithio o bell bellach. Nid yw’n cael ei weld fel rhywbeth i’w ofni neu ffordd llai defnyddiol o weithio bellach. Rydym yn gweld nifer o geisiadau am gyfarfodydd Zoom, Teams neu ba lwyfan bynnag y maent eisiau ei ddefnyddio i fynychu yn unrhyw le ac ar unrhyw bryd eu cyfrifoldeb nhw yw sut maent yn rheoli eu hamser a’u hamserlenni. Wrth gwrs, os ydym yn gweld hyn fel tuedd newydd, buaswn yn disgwyl gweld buddsoddiad yn y mynediad i’r we mewn ysbytai ac ati. Felly, mae’n gyfrifoldeb ar y sefydliadau y mae angen gwasanaethau dehongli arnynt mewn gwirionedd i’w gwneud mor hawdd a diogel â phosibl i ddehonglwyr sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl i sicrhau’r nifer fwyaf posibl o archebion. Ni fyddwn yn dweud wrthynt beth i’w wneud, ond byddwn yn hwyluso cymaint â phosibl fel y gallwn sicrhau parhad y gwasanaeth.

Iaith Arwyddion Prydain ac ieithoedd arwyddion eraill

Roedd BSL yn cael ei ystyried yn faes problem go iawn gan y darparwyr.

Mae BSL yn broblem barhaus; dim ond tua 30 o ddehonglwyr yr iaith sydd gennym ni ac mae’r galw yn fwy na’r hyn y gallwn ei gyflenwi. Mae gennym y broblem ychwanegol bod dehonglwyr yr iaith yn gyndyn i weithio mewn cyfweliadau gan yr heddlu oherwydd maent yn teimlo bod lefel o graffu ar eu gwaith sydd ei angen nad ydynt yn gyfforddus ag ef. Mae’r cyfweliadau’n cael eu recordio, ac yna mae’n bosibl y bydd angen mynd i’r llys ac ati.

Mae dehonglwyr BSL yn cael eu harchebu 6 wythnos o flaen llaw o leiaf. Mae’n un o’n hieithoedd mwyaf heriol. Rwy’n credu bod pobl wir yn anwybodus ynghylch anghenion y gymuned fyddar. Mae’r rhan fwyaf, os nad bron pob un ohonynt, yn credu y bydd defnyddwyr yr iaith yn gallu darllen y wybodaeth yn Saesneg, ond nid yw hynny’n wir. Eu hiaith yw Iaith Arwyddo Prydain, nid Saesneg, ac nid oes ffurf ysgrifenedig ar yr iaith. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi tybio hynny hefyd cyn cymryd y swydd hon.

Yn achlysurol iawn, rydym yn cael cais i ddarparu’r Iaith Arwyddo Ryngwladol, ond mae hynny’n anarferol iawn. Rydym wedi gwneud hynny ar achlysuron yn y gorffennol.

Rhwyddineb mynediad a phrydlondeb

Nododd pob ymatebwr o bob carfan fod hyn yn broblem.

Sylwadau darparwr:

Nid yw cyfarfodydd a drefnwyd o flaen llaw yn broblem; os gallwch archebu o flaen llaw, byddwn bob tro’n dod o hyd i ddehonglwr. Ceir problemau pan fydd y cais yn annisgwyl neu ar fyr rybudd. Yna, yn amlwg, gan ddibynnu ar y lleoliad a’r iaith, mae’n bosibl y byddwn yn cael trafferth ar fyr rybudd, a dyna pryd y bydd gwasanaethau fel Language Line yn dod yn angenrheidiol, er nad dyma yw’r dull gorau o ddehongli bob tro.

Ein Dangosydd Perfformiad Allweddol ar gyfer dyraniadau yw 98% a’r mis diwethaf gwnaethom sicrhau 99.2%, felly rydym yn rhagori ar ein targedau ac rydym wastad wedi bod o gwmpas y ffigur hwnnw, ac nid ydym wedi gollwng islaw 95% erioed. Felly, mae parhad y gwasanaeth yn bwysig i’n cleientiaid, fel y mae gallu gweithredu ar sail 24/7.

Os yw’r cyfarfod wedi’i drefnu wythnosau o flaen llaw, fel arfer nid oes problem. Fodd bynnag, os yw’n fyr rybudd, mae’n bosibl na fyddwn yn sicrhau’r dehonglwr cywir. (gweithiwr cymorth cymunedol)

Rydym yn cynnig gwasanaethau dehongli o bell, ond mae hynny’n gweithio os yw’r cleient a’r dehonglwr yn cytuno ar hynny rydym yn gweithredu fel asiant canfod yn unig mewn sefyllfaoedd felly. Felly, cyfrifoldeb y dehonglwyr yw bod yn arloesol er mwyn ateb anghenion y cleientiaid, a byddwn yn cefnogi pa bynnag sefyllfa i baru’r cleient â’r dehonglwr. (darparwr)

Rwy’n credu ein bod yn darparu gwasanaeth da rydym yn cynnig gwasanaeth eithaf cyson, ond rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y galw dros y ddau fis diwethaf wrth i’r rheoliadau covid gael eu codi; mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn ôl fel y dylent fod bron â bod, ond mae gennym fwy o ddefnydd bellach o ddehongli o bell drwy alwadau a fideos. Nid ydym yn gweld llawer o alw yn gyffredinol am ddehongli o bell, fel arfer 350-400, ond mae’r adroddiad diweddaraf yn dangos 750. (darparwr )

Cydnawsedd dehonglydd a mudwyr dan orfod

Nododd yr holl ymatebwyr a gafodd eu cyfweld o'r holl garfannau, mewn gwahanol fodd, hyn fel problem.

Dywedodd y darparwyr:

Mae’n anodd i ni oherwydd nid ydym yn gwybod yr hyn nad ydym yn ei wybod - os ydym yn gwybod, iawn, mae hynny’n golygu bod y swyddog comisiynu wedi gofyn y cwestiynau ac mae’r unigolyn wedi rhoi’r lefel honno o wybodaeth. Felly, er enghraifft, mae tebygrwydd o fewn y dafodiaith Affgan sy’n ddigon i chi ei deall a’i dehongli, ond nid yw’r Affganiaid yn aml yn gwybod bod angen yr union dafodiaith y maent yn ei siarad arnyn nhw, a’u bod yn gallu gofyn amdani, ac yna gallwn gydweddu â’u gofynion yn union, ond os nad ydym yn gwybod, nid ydym yn gwybod bod yn rhaid i ni fod yn benodol. Felly, byddwn yn cael cais am ddehonglwr Arabaidd. Dari a Pashto yw’r rhai mwyaf cyffredin rwy’n meddwl, a Farsi, ond mae nifer fawr o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad yn Affganistan, felly, ie, mae angen i wybodaeth y rheiny sy’n archebu dehonglwr fod yn benodol.

Os ydym yn cael gwybod amdano, pan fyddwn yn cael aseiniad, byddwn yn gofyn am gymaint o fanylion â phosibl, ond yn aml ni fydd y rheiny sydd angen dehonglwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn arbennig, yn datgelu llawer o wybodaeth, yn enwedig os yw’n ymwneud â rhywioldeb, efallai, a phethau felly.

Mae ein gallu i baru yn dibynnu ar ansawdd y wybodaeth a ddarperir pan fyddwn yn derbyn yr aseiniad ac wrth gwrs pa un a yw’r defnyddiwr yn barod i ddatgelu gwybodaeth bersonol o’r fath. Mae’n anodd i rai pobl sy’n dioddef yn fawr o drawma, ac sy’n amheus o’r awdurdodau, ac ati. 

Dywedodd dehonglwyr ffurfiol:

Nid ydym yn derbyn unrhyw wybodaeth am yr unigolyn rydym yn dehongli ar ei gyfer. Gallaf ddweud wrthych chi pam nad ydym yn cael unrhyw wybodaeth does neb yn gofyn amdani! Nid yw’r asiantaethau’n gofyn am y wybodaeth ac rydym yn cael ein hunain mewn sefyllfaoedd anodd.

Nid yw’r bobl sy’n gwneud cais am ddehonglwyr yn gwybod pa wybodaeth y dylent ei rhoi na pham ei bod hi mor bwysig, ar wahân i’r iaith sydd ei hangen arnynt, neu efallai oherwydd ei fod yn gais canolog, felly mae gan y sefydliad unigolyn penodol sy’n gwneud cais am y dehonglwyr ond nid oes ganddynt gyswllt uniongyrchol â’r cleient o gwbl.

Weithiau maent yn dweud nad ydynt yn gallu dweud wrthym ni oherwydd y GDPR. Fel gwybodaeth gyfrinachol, er enghraifft. Mae’n bosibl na fyddaf yn gallu paratoi ar gyfer y dasg oherwydd gallai fod yn gyflwr meddygol penodol iawn y mae angen ei ymchwilio; nid yw meddygon hyd yn oed yn gwybod pob dim am yr holl gyflyrau meddygol.

Dehonglwyr anffurfiol

Cafodd pum dehonglydd anffurfiol eu cyfweld a oedd yn siarad y saith iaith ganlynol:

  1. Wrdw
  2. Arabeg
  3. Ffrangeg
  4. Portiwgaleg
  5. Pwyleg
  6. Hawsa
  7. Kanuri

Roedd dau ymatebydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru gyda'r tri arall yn Ne Cymru.

Rhwystrau i wasanaethau dehongli anffurfiol

Mae rhwystrau i'r sector dehongli anffurfiol wrth ddarparu gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor wedi'u categoreiddio fel rhai sefydliadol, yn ymwneud ag anghenion datblygiad personol a phroffesiynol y dehonglydd anffurfiol, camu ymlaen mewn gyrfa, perthynas â chyrff comisiynu, cost, cefnogaeth cymheiriaid, cydnawsedd diwylliannol a nodau a goliau personol.

Crynodeb o rwystrau i gael mynediad at wasanaethau dehongli a'u derbyn gan fudwyr dan orfod

  • Ieithyddol: materion tafodieithol sy'n atal dehongli iaith dramor o safon.
  • Terminoleg: diffyg gwybodaeth briodol a chywir ynghylch terminoleg anodd.
  • Cymorth personol: Diffyg cefnogaeth i ddehonglwyr anffurfiol.  Nid oes unrhyw gymorth iechyd meddwl a lles strwythuredig wedi'i gynllunio ymlaen llaw i ddehonglwyr cymunedol.
  • Cymorth proffesiynol: Nid yw'r gefnogaeth broffesiynol sydd ei hangen i gefnogi'r dehonglwyr hyn yn bodoli.
  • Hyfforddiant: Er bod cyfleoedd hyfforddi, nid yw'n ymddangos bod cyrsiau wyneb yn wyneb ar gael i bawb ledled Cymru, fodd bynnag, mae hyfforddiant ar-lein.
  • Costau hyfforddi: Mae'r hyfforddiant sydd ar gael i ddehonglwyr cymunedol yn costio.  Nid yw llawer o ddehonglwyr cymunedol yn gweithio felly mae costau'n broblem wirioneddol.
  • Cefnogaeth cymheiriaid: Er bod rhai grwpiau cefnogaeth cymheiriaid ad-hoc, fel arfer yn seiliedig ar gyfeillgarwch, nid oes strwythurau i alluogi hyn i ddigwydd yn systematig.
  • Datblygiad gyrfa i lefel broffesiynol: Er bod llwybr gyrfa posibl, nid yw'n ymddangos bod y wybodaeth hon yn hysbys. 
  • Datblygiad gyrfa / proffesiynol i ddehonglwyr cymunedol: Nid oes llwybr gyrfa amlwg i bobl sydd am aros o fewn maes dehongli cymunedol.
  • Gwybodaeth: Er bod yr holl ymatebwyr yn y garfan hon yn deall y prosesau lloches yn dda iawn, roedd diffyg dealltwriaeth o'r cyd-destun deddfwriaethol sifil a hawliau dynol, a goblygiadau ymarferol yr hawliau hynny
  • Diffyg cefnogaeth broffesiynol i ddehonglwyr cymunedol o ran datblygiad gwybodaeth syml.

Siarad o brofiad dehonglwyr anffurfiol

Rôl dehonglwyr anffurfiol

Roedd yr holl ymatebwyr yn cydnabod manteision a chyfyngiadau defnyddio dehonglwyr cymunedol anffurfiol. Nid oedd un yn cael ei gontractio gan y cyrff comisiynu ffurfiol fel y Swyddfa Gartref, CPS, yr heddlu, awdurdodau lleol neu’r Byrddau Iechyd, er bod pob un wedi cefnogi pobl wrth gyfathrebu â'r cyrff hyn. Er i bob dehonglydd anffurfiol ddweud eu bod yn cefnogi mudwyr dan orfod, dywedodd 60% o'r dehonglwyr mai dehongli ar gyfer pobl hŷn a newydd-ddyfodiaid, oedd y rhan fwyaf o'u gwaith.

Dywedodd pob dehonglydd, er nad oeddent yn cael eu contractio'n uniongyrchol gan gyrff gwladol ar ddechrau taith mudwyr dan orfod, wrth i'r mudwyr dan orfod fagu mwy o hyder a chyfarfod mewn lleoliadau anffurfiol, gall ymddiriedaeth ddatblygu, gan arwain weithiau at y mudwyr dan orfod yn gofyn am eu cefnogaeth yn uniongyrchol.

Problemau gyda thafodiaith

Roedd hwn yn fater difrifol i bawb ond un (Pwyleg) o'r ymatebwyr. Dywedon nhw fod gwahaniaethau mewn tafodiaith yn gallu achosi problemau os oes gan y dehonglydd a'r mudwr hanesion tra gwahanol. 

Enghreifftiau:

Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny sy’n siarad Portiwgaleg yn y DU yn dod o Bortiwgal a’r bobl hyn yw mwyafrif y dehonglwyr. Y broblem yw nad yw’r rhan fwyaf o’r ymfudwyr dan orfod sy’n siarad Portiwgaleg yn dod o Bortiwgal. Maent yn dod o leoedd fel Brasil, Guinea-Bissau, Mozambique, ac Angola. Mae’r tafodieithoedd a’r ‘slang’ yn wahanol iawn a gall arwain at ddehonglwyr yn gwneud camgymeriadau.

Rwy’n rhan o grŵp siarad Portiwgaleg sydd wedi’i leoli yn Wrecsam yn bennaf. Mae gennym bobl nid yn unig o Bortiwgal, ond rhai o blith yr holl bobl Bortiwgeaidd ar wasgar. Mae hyn yn golygu fy mod wedi cael cyfle i ddysgu’r tafodieithoedd gwahanol sy’n hanfodol wrth ddehongli.

Mae Arabeg yn eithaf gwahanol mewn gwahanol wledydd. Fel dehonglwr, rwy’n lwcus iawn oherwydd roedd gwaith fy nhad yn golygu fy mod wedi byw mewn nifer o wledydd ar draws Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol nes fy mod yn fy ugeiniau.

Wrth drafod camgymharu tafodiaith rhwng mudwyr a dehonglwyr:

Pan fydd pobl yn mynd i’r ysbyty, maent yn gadael yr ysbyty heb wybod yn union beth sy’n digwydd iddynt. Dim ond acenion, geiriau a gramadeg gwahanol.

Problemau gyda'r gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor ffurfiol

Roedd gan dri o’r pump a ymatebodd straeon am pan fethodd y gwasanaethau dehongli ffurfiol mewn sefyllfaoedd lle na fyddai'r awdurdodau yn gadael i ddehonglydd anffurfiol gynorthwyo.

Mae problemau yn y system lysoedd, yn bennaf efallai oherwydd nad ydynt yn gadael i ni fod yn ddehonglwyr fel arfer. Maent yn cael rhywun o Fanceinion neu Birmingham, ac nid ydynt bob tro’n llwyr ddeall yr achos gan hepgor llawer o wybodaeth a ddylai fod yn rhan o’r achos yn y llys. Maent yn darllen yr hyn sydd ar y papur yn unig a dyna sut maent yn gweithio am lawer o’r amser.

Arestiwyd dyn nad oedd yn siarad Saesneg, ac yn hytrach na gadael i’w ffrind ddehongli ar yr achlysur hwn, mynnodd yr heddlu y dylid cael dehonglwr ffurfiol. Arweiniodd hyn at weld yr unigolyn yn cael ei garcharu am 24 awr yn ychwanegol wrth iddynt ddisgwyl i un fod ar gael. Cafodd y sefyllfa ei datrys ar unwaith oherwydd roedd yn achos o gamgymryd.

Mewn ysbytai, wrth fynd am apwyntiad, gall yr ysbyty drefnu i gael dehonglwr o flaen llaw. Y broblem yw eu bod weithiau’n methu mynychu’r apwyntiad sy’n arwain at oedi eu triniaeth am sawl mis.

Problemau adroddwyd gyda'r systemau bwcio dehongli ieithoedd tramor ffurfiol

Rhoddodd tri o’r pum ymatebwr enghreifftiau negyddol ynghylch bwcio gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor ffurfiol. Yn aml gall y ffordd y maen nhw'n cael eu bwcio arwain at wasanaeth gwael iawn.

Mae’r holl wasanaethau lle’r wyf yn byw yn defnyddio Language Line. Rydym ni (y gymuned) yn tueddu i beidio â’u hoffi oherwydd maent yn gwneud rhagdybiaethau ynghylch pwy y maent yn eu cefnogi ac nid ydynt yn canfod beth yw ein hanghenion. Pan oeddwn yn ymfudwr dan orfod, gwnaethant anfon dehonglwr Rwmanaidd a oedd wedi byw yn Portiwgal am bron i 7 blynedd. Ni allwn ddeall pob dim oherwydd bod ei Bortiwgaleg yn wael iawn, heb sôn am ei ddealltwriaeth o Bortiwgaleg Affricanaidd. Mae hyn wedi digwydd sawl gwaith, ac maent yn dal i wneud yr un peth eto!

Creu dehonglwyr cymunedol cofrestredig

Roedd tri o’r pum dehonglydd anffurfiol wnaeth ymateb eisiau i'w rôl gael ei datblygu a'i lled-broffesiynoli.

Byddai’n wych pe bai mwy o gyfleoedd ar gyfer ein dehonglwyr cymunedol. Ni allwn gofrestru yn unrhyw le. Efallai gyda mwy o gyfleoedd i hyfforddi dehonglwyr cymunedol, fel y gallent gael rhywbeth fel cerdyn i ddangos i’r awdurdodau mewn lleoedd fel ysbytai fel nad ydynt yn mynd yn awtomatig yn uniongyrchol at wasanaeth dehongli sy’n codi £150 yr awr, neu fwy hyd yn oed. Mae dehonglwyr cymunedol yn codi tua £20 yr awr yn unig, neu’n ei wneud am ddim wrth gefnogi pobl. 

Yr angen am gymorth iechyd meddwl a lles i ddehonglwyr cymunedol

Soniwyd am yr angen am systemau cymorth gan dri o'r ymatebwyr tra bod pob un wedi mynegi'r effaith negyddol y gall bod yn ddehonglydd cymunedol ei gael:

Mae’n bosibl y byddwch yn gorfod delio ag achos ofnadwy o bedoffilia. A does neb eisiau hynny yn eu pennau.

Gall bod yn ddehonglwr fod yn drawmatig iawn; mae’n bosibl y byddwch yn gorfod dweud wrth rywun eu bod yn marw, neu fod ei gŵr yn ei churo nes ei bod wedi hanner marw, ac yna rhaid i chi fynd â hynny gartref gyda chi. Nid oes unrhyw gefnogaeth pan allai cefnogaeth fod yn ddefnyddiol iawn.

Rwy’n meddwl bod dehonglwyr cymunedol yn cario llawer o feichiau heb gymorth i’w helpu drwy’r cyfan. Gallem greu rhyw fath o strwythur i wneud hynny. Dwn i ddim. Dyna rwy’n ei feddwl. 

Cymorth proffesiynol i ddehonglwyr anffurfiol

Soniodd tri o’r pum ymatebwr am adegau pan fu'r diffyg cefnogaeth ffurfiol a chyfeiriad moesegol yn broblem.

Ddim cymaint â hynny o amser yn ôl rwyf wedi adnabod y cwpl hwn ers i mi gyrraedd y DU oherwydd roeddent yn eu 40au hwyr ac roeddwn wedi’u cynorthwyo ar sawl achlysur fel dehonglwr. Un diwrnod, dywedodd wrthyf fod ganddo raff yn ei simnai yn barod iddo grogi ei hunan. Dywedodd wrthyf am beidio â dweud wrth ei wraig. Nid oeddwn yn gwybod beth i’w wneud oherwydd nid oedd unrhyw gymorth i gyfieithydd cymunedol fel fi. Cysylltais â’i feddyg teulu a dywedais beth oedd wedi digwydd gan ofyn iddo roi apwyntiad brys. Gwnaeth hynny ar unwaith, a chysylltais â fy ffrind gan ymddiheuro a dweud wrtho fy mod wedi anghofio dweud wrtho bod ganddo apwyntiad meddyg yn syth ac y buaswn yn mynd ag ef yno. Mae dal yn fyw.

Y dilema iaith gyntaf neu ail iaith

Adroddwyd gan ddehonglydd anffurfiol fod dilema cynyddol ynghylch pryd i ddefnyddio dehonglydd sy'n ddehonglydd iaith gyntaf neu ail iaith:

Pe bai dehonglwr yn cael ei fagu yn y DU, yna gallai ddeall termau anoddach a mwy technegol na dehonglwr Arabaidd o’r Yemen, er enghraifft. Ond gallai dehonglwr Arabaidd o’r Yemen ddeall termau technegol Arabaidd yn well na dehonglwr a anwyd yn y DU. Felly, pwy sydd orau i’r cleient?

Costau camu ymlaen mewn gyrfa

Er bod pedwar o’r pum ymatebwr eisiau rhyw fath o gamu ymlaen mewn gyrfa, gwelodd tri broffesiynoli trwy hyfforddiant yn afresymol o ddrud:

Mae’n fusnes anrhagweladwy iawn. A dyna’r broblem rwy’n credu, oherwydd er mwyn gwneud cynnydd, mae’n rhaid talu am y cyrsiau. Mae’n rhaid talu am gymwysterau. A’r cwestiwn yw a ddylai’r dehonglwr fuddsoddi? Yn aml, nid ydym yn bobl gefnog, ac mae’n rhaid i ni feddwl yn galed iawn ynghylch a allwn ni ei fforddio a yw’n fuddsoddiad da? Yr holl amser rwy’n dysgu, nid wyf yn ennill arian, a chostau byw? a allaf fforddio gwneud hynny? Ac mae rhai ohonom yn gwybod nad oes yn rhaid i ni gymhwyso, nid oes yn rhaid iddynt gofrestru a gallant barhau i weithio, felly mae angen meddwl am y maes hwn i ganfod beth yw cymhellion cymhwyso a beth yw’r rhwystrau i’r bobl wneud hynny.

Roedd un ymatebwr yn teimlo nad oedd y costau'n rhy uchel o’i wneud ar-lein:

Mae’r cwrs dehongli hyd at lefel 3 yn cael ei ddysgu ar-lein. Mae hyn yn dda iawn oherwydd mae gan lawer ohonom sy’n ddehonglwyr cymunedol deuluoedd a chyfrifoldebau gofalu neu nid oes gennym lawer o arian i’w sbario i deithio, felly mae’n galluogi pobl i gael mynediad i’r cwrs na fyddai wedi gwneud hynny o’r blaen efallai. Mae rhywbeth am fod yn eich cartref eich hunan sy’n rhoi cysur, a gall bod mewn dosbarth fod yn eithaf bygythiol i rai pobl, felly mae’n gweithio’n dda yn hynny o beth. Hefyd, mae’n galluogi dehonglwyr cymunedol i fod yn gwbl gyfforddus wrth ddefnyddio technoleg ar-lein a dehongli felly.

Fodd bynnag, roedd y tri a ymatebodd o sefydliadau ar lawr gwlad sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda mudwyr dan orfod yn cynnig rhywfaint o rybudd i dechnoleg ar-lein fel yr unig ateb:

Mae technoleg newydd yn wych ac mae gan y rhan fwyaf o bobl ffôn symudol, ond nid yw pawb yn gallu fforddio’r ffonau diweddaraf. Ni all fy ffôn i ddefnyddio codau QR a’r math hynny o beth hyd yn oed. Rwy’n meddwl bod pobl yn anghofio weithiau bod rhai pobl yn wirioneddol dlawd, ac rydym yn gwybod am allgáu digidol. Mae Llywodraeth Cymru yn siarad am hyn drwy’r amser, ac yna’n symud ymlaen â phethau sy’n allgáu pobl yn ddigidol! Roeddwn i mewn cyfarfod y diwrnod o’r blaen gyda’r gwasanaeth mamolaeth am hyn i gyd, ac mae’r GIG yng Nghymru i gyd yn mynd yn ddigidol. Ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus, nad yw hynny’n ehangu’r bwlch. Felly, mae gennym wasanaeth, ond pwy sy’n cael mynediad iddo a phwy sy’n cael trafferth a rhaid i ni ofyn pam? (gweithiwr elusennol)

Gweithio yn ddehonglwyr cymunedol am resymau moesegol personol

Mynegodd pob dehonglwr cymunedol a gafodd ei gyfweld mai ffocws eu gwaith oedd er gwellhad eu cymuned ac nid gwellhad gyrfa nac ariannol. Roedd un cyfieithydd oedd wedi symud yn ôl i’r maes cymunedol yn credu bod yr asiantaethau preifat yn anfoesegol o ran gwneud elw o'r hyn sy'n hawl gwasanaeth angenrheidiol:

Wel, rwy’n dehongli dros y ffôn yn unig bellach oherwydd… wel, nid wyf yn awyddus i weithio i asiantaethau preifat sydd wedi gostwng eu cyfraddau i ddehonglwyr. Dyma fy marn bersonol i yn unig, fy nghred, na ddylai asiantaethau preifat fod yn gwneud arian o wasanaethau cyhoeddus. Ni ddylent fod yn gwneud elw gan drethdalwyr a cham-fanteisio ar wasanaeth cyhoeddus.

Roedd eraill yn rhannu meddyliau tebyg i'r sylw isod:

Rwy’n ei wneud i’r gymuned, i’w helpu nhw, maen nhw’n bobl fel fi. Mae fy nealltwriaeth i ohonynt a’u cefndir yn fy helpu i roi gwasanaeth gwell na rhywun sydd yno un munud ac wedi mynd y nesaf.

Protocol Cod Ymddygiad, rheoli data a hyfforddiant

Er bod yr holl asiantaethau y cysylltwyd â nhw angen i'w dehonglwyr gofrestru â chod ymddygiad, nid oedd gan yr un o'r dehonglwyr anffurfiol unrhyw beth tebyg.  Gall diffyg moeseg a safonau proffesiynol adnabyddadwy fod yn broblem i ddehonglwyr anffurfiol, o ran hyder y bobl sy'n gofyn am eu gwasanaeth, yn enwedig os ydynt yn nodi diffygion GDPR. Gall hyn arwain at wasanaeth sy'n llai. 

Fel dehonglwr proffesiynol neu gymunedol, anaml iawn y byddwch yn derbyn unrhyw wybodaeth am yr unigolyn y byddwch yn dehongli ar ei gyfer. Dim byd. Yn aml, cewch y cyfeiriad yn unig ac amser yr apwyntiad. Dyna ni. Rwy’n meddwl nad oes un rheswm yn unig dros hyn; mae nifer o resymau. Nid yw’r asiantaethau hyd yn oed yn gofyn am wybodaeth.

Nid yw’r bobl a’r sefydliadau sy’n gwneud cais am ddehonglwyr yn gwybod pa wybodaeth y dylent fod yn ei rhoi na pham ei bod yn bwysig y tu hwnt i’r iaith sydd ei hangen arnynt. Efallai bod hynny’n digwydd oherwydd ei fod yn gais canolog mae gan y sefydliad unigolyn penodol sy’n gwneud cais am y dehonglwyr ond nid oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r cleient o gwbl.

Weithiau maent yn dweud nad ydynt yn gallu dweud wrthym ni oherwydd y GDPR. Fel gwybodaeth gyfrinachol, er enghraifft. Mae’n bosibl na fyddaf yn gallu paratoi ar gyfer y dasg oherwydd gallai fod yn gyflwr meddygol penodol iawn y mae angen ei ymchwilio; nid yw meddygon hyd yn oed yn gwybod pob dim am yr holl gyflyrau meddygol.

Does neb yn gofyn am unrhyw gymwysterau neu brofiad. Ac rwyf yn teimlo nad yw dehonglwyr hyd yn oed yn ymwybodol o’r rôl, ac nid yw rhai ohonynt yn ymwybodol o egwyddorion sylfaenol y Cod Ymddygiad, oherwydd mae’n broffesiwn, er ei fod yn anrheoleiddiedig, lle mae angen i ni gael ein diogelu, fel y mae angen diogelu aelodau’r cyhoedd drwy egwyddorion ymddygiad proffesiynol, fel cyfrinachedd, er enghraifft. 

Daearyddiaeth Cymru a gwasanaeth cyffredinol dehonglwyr

Dywedodd y ddau gyfieithydd o Ogledd Cymru fod maint Cymru a strwythur canolfannau  poblogaeth yn gwneud gwasanaeth amserol yn anodd iawn.

Mae’n anodd yng Nghymru oherwydd mae’r rhan fwyaf ohonom sy’n ddehonglwyr yn byw naill ai mewn dinasoedd mwy neu y tu allan i Gymru, ac nid wyf yn meddwl ei bod yn iawn fod yr asiantaethau preifat yn codi ffioedd teithio pan allech fod yn teithio am oriau ac oriau yno ac yn ôl ar gyfer aseiniad byr iawn. Mae’n ymddangos yn wastraffus iawn gwneud hynny.

Rhanddeiliaid sector cyhoeddus asiantau comisiynu a swyddogion mudo / integreiddio

I rai o'r garfan hon, mae eu gallu i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn wedi'i gyfyngu'n helaeth gan argyfwng ffoaduriaid presennol Wcráin. Fodd bynnag, er bod ffigurau’r cohort yn llai na'r disgwyl, mae’r ymchwilwyr yn hyderus bod y materion a'r themâu sy'n dod i'r amlwg o'r data yn gipolwg cywir sy'n rhoi dealltwriaeth eang o'r materion a brofir gan asiantau comisiynu yng Nghymru.

Rhwystrau rhag cael y gwasanaethau dehongli mwyaf priodol

  • Diffyg gwybodaeth neu ymwybyddiaeth gan asiantau ynghylch anghenion atodol y boblogaeth mudwyr dan orfod.
  • Diffyg cyffredinol systemau bwcio cynhwysfawr.
  • Ystyrir mai cyfrwng mwyaf llwyddiannus dehongli iaith dramor yw dros fideo wyneb yn wyneb neu wedi’i gefnogi gan fideo o bell.  Fodd bynnag, mae'n ddrytach a gall fod yna oedi.
  • Mae natur ddaearyddol Cymru'n dangos yr angen i wella gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor fideo-gynadledda o bell a fydd yn buddio Cymru gyfan, nid dim ond yr ardaloedd gwledig.
  • Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb i bob dehonglydd yn angenrheidiol.
  • Rhaid i hyfforddiant sylfaenol sy'n gorfod cynnwys moeseg, cyfrinachedd a chodau ymddygiad fod ar gael i bob dehonglydd anffurfiol a ffurfiol.

Siarad o brofiad

BSL ac ieithoedd arwyddion eraill

Mae'r gwasanaethau dehongli iaith arwyddion ar gyfer mudwyr dan orfod yn wael ac ymddengys nad oes llawer o wybodaeth ymhlith y comisiynwyr na'r grwpiau cymorth:

Rydym wedi bod yn cefnogi teulu, ac mae’r tad yn fyddar oherwydd effeithiau cyrch bomio. Mae’n fyddar ers amser byr, ac mae wedi dod yma ac wedi ennill statws ffoadur, felly roedd y buddiannau roedd yn eu cael gyda’r statws hwnnw yn mynd i gael eu tynnu oddi arno. Roedd y Ganolfan Waith yn dweud nad oedd yn gwneud cais am swyddi ac ati, felly roedd yn mynd i ddod â’i fuddiannau i ben. Nid oedd yn siarad Saesneg ac ni allai arwyddo na dweud nad oedd yn defnyddio BSL. Ei unig ffordd o gyfathrebu oedd drwy weiddi’n uchel iawn yn ei iaith ei hunan.  Cysylltais â thua pum asiantaeth wahanol sy’n gweithio gyda phobl fyddar yng Nghymru, pob un o’r darparwyr cenedlaethol, ac yna byddant yn fy nghyfeirio yma ac acw ac i bobman, ac nid oedd yr un ohonynt yn darparu cymorth i siaradwr iaith sydd hefyd yn fyddar. Pe na fyddwn wedi dod ar draws y teulu hwn ar ddamwain, byddent wedi cael eu cosbi ac yn ddiffaith. Mae’n hurt. (gweithiwr elusennol)

Technoleg ac arloesedd

Roedd pob un o'r 11 comisiynydd a gafodd eu cyfweld wedi’u lleoli mewn swyddfa ac yn llawn werthfawrogi manteision fideo wyneb yn wyneb ar-lein fel cymorth dehongli.  Mae'n ymddangos bod trawsnewid yn digwydd o fewn sefydliadau lle mae staff nad ydynt wedi’u lleoli’n y swyddfa yn gyffredin:

Y peth yw, rydyn ni i gyd yn dechrau o safbwynt y GIG, ac rydym wedi dysgu llawer yn sgil COVID. Ie, oherwydd nid ydym yn weithlu sy’n gyfforddus gyda thechnoleg. Felly, i’r rheini ohonom sydd wedi trosglwyddo i MS Team a beth bynnag roeddem yn ei ddefnyddio cyn hynny, mae wedi bod yn newid eithaf mawr i’r rhan fwyaf o staff y GIG. Fy mhrofiad i o dros 20 mlynedd o nyrsio yw bod derbyn gwasanaethau dehongli dros y ffôn yn anodd iawn. Felly, mae cael y gallu i’w wneud wyneb yn wyneb neu o leiaf ar sgrin, mae’r canlyniad i’r claf, felly, yn gymaint gwell. Rwy’n deall mai dim ond dros y ffôn y gallwch chi ei wneud weithiau, ond byddwn yn dweud y dylai’r safon aur fod yn wyneb yn wyneb bob tro. (staff y GIG)

Yr argraff rwy’n ei gael yw ei fod yn llawer gwell i’r claf allu cael hynny’n bersonol neu o leiaf ar sgrin. Rwy’n deall yn iawn yr heriau daearyddol o fewn Cymru sy’n dod yn sgil hynny, ond mae gallu gweld wyneb [ar-lein] yn gwneud cymaint o wahaniaeth, felly os gallwn ymwreiddio’r dechnoleg ymhellach i helpu gyda hynny, yna bydd y canlyniadau i’r claf yn llawer, llawer gwell. (staff y GIG)

Rhwyddineb mynediad a phrydlondeb

Roedd pob un o'r 11 comisiynydd a gafodd eu cyfweld, yn gweld amser arwain bwcio dehonglydd, fel ffactor hollbwysig o ran argaeledd gwasanaeth:

Felly, ar sail profiad blaenorol, rwyf wedi dysgu bod yn rhaid i chi archebu o flaen llaw i gael y dehonglwr rydych ei angen neu ei eisiau, felly byddwn yn ceisio archebu cryn dipyn, o leiaf wythnos, o flaen llaw. Ond am y rheswm hwnnw, nid oes unrhyw un erioed wedi dweud nad ydynt ar gael ac ni ofynnwyd i mi i aros nes bod rhywun ar gael. Nid wyf yn meddwl bod hynny’n broblem yma, ond rwy’n gwybod bod hynny’n wahanol iawn i fy nghydweithwyr yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys lle mae angen brys am ddehonglwyr. (gweithiwr y GIG)

Nid wyf erioed wedi cael problem yn y swydd hon nac yn fy swydd flaenorol, ond mae hynny efallai oherwydd roedd wedi’i archebu i gyd o flaen llaw cyn digwyddiad wedi’i drefnu. Nid wyf wedi gweithio mewn rôl rheng flaen erioed, felly efallai ei fod yn broblem i’r rheiny sy’n gwneud hynny. Rwy’n dychmygu y gallai hynny fod yn wir. Yn fy mhrofiad i o fod angen dehonglwyr ar gyfer digwyddiadau cymunedol, seminarau, gweithdai a digwyddiadau felly, roeddent i gyd wedi’u trefnu o flaen llaw. (Awdurdod lleol)

Paru dehonglwyr a mudwyr dan orfod

Gwnaeth pob un o'r 11 a ymatebodd, ar ryw ffurf neu'i gilydd, sylw ar y diffyg cydnawsedd 'yn rhy aml' rhwng y dehonglydd a'r mudwr dan orfod: 

Mae’n debyg mai un elfen yma yw sicrhau urddas, parch a chyfrinachedd y cleifion. Ni fyddwn yn datgelu bod rhywun yn hoyw fyth i Wasanaeth Cyfieithu Cymru os nad oedd y claf wedi rhoi caniatâd i mi, ac ni fyddwn fyth yn datgelu neu’n gwneud cais am wybodaeth gan glaf heb fod angen clinigol i wneud hynny. Felly, rydym yn cadw’r wybodaeth yn y ceisiadau mor brin â phosibl, ynghylch anghenion ieithyddol, oedran (efallai), a ydynt yn ddyn neu’n ddynes, ac yna cefndir cryno'r sefyllfa. (gweithiwr y GIG)

Os wyf yn siarad, er enghraifft, â dynes sy’n siarad Wrdw, rydych yn gweld dynes sydd wedi dioddef trais domestig, sy’n dianc perthynas ddomestig, ac os yw’r dehonglwyr yn dod â’u barn eu hunain ar bwnc sensitif, yna, ie. Mae rhai cymunedau’n credu na ddylid trafod hyn fyth y tu allan i’r teulu. (gwasanaethau cymdeithasol)

Yr Hawl i Wasanaethau Dehongli

Dywedodd dau ymatebydd yn glir fod cael mynediad at ddehonglydd yn hawl, ac nad oedd yr hawl hwn bob amser yn cael ei ddarparu:

Rydym yn gweld diffyg ymwybyddiaeth bod cael gwasanaethau wedi’u darparu yn eich iaith yn hawl ac nid yn fraint, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd a gwaith cymdeithasol neu dai. Mae’r rhain yn feysydd cymhleth ac mae’n hanfodol bod yr unigolyn yn deall pob dim sy’n cael ei ofyn neu ei gytuno. (awdurdod lleol)

Nid yw sefydliadau fel awdurdodau lleol yn rhannu’r wybodaeth â’u holl aelodau o staff fod gwasanaethau dehongli yn hawl ac nid yn wasanaeth ychwanegol a gynigir yn unig. Yn yr un modd, nid yw defnyddwyr y gwasanaeth yn ymwybodol bod ganddynt hawl i’r gwasanaeth gael ei ddarparu iddynt yn yr iaith sydd fwyaf priodol i ateb eu hanghenion. (awdurdod lleol)

Daearyddiaeth Cymru

Gall daearyddiaeth ei hun ddod yn rhwystr. Roedd y rhesymau a gyflwynwyd gan dri ymatebydd yn cynnwys pellter teithio i ddehonglwyr, cynefindra’r comisiynydd, a'r diffyg dealltwriaeth bod mynediad at ddehonglydd yn hawl.   

Rydym yn gweld mewn ardaloedd gwledig nad yw pawb yn ymwybodol o’r gwasanaethau cyfieithu ac maent yn annog yn ormodol y defnydd o aelodau’r teulu i ddehongli drostynt, ac mae hyn yn cynnwys plant yn aml, ac nid yw hynny bob tro’n briodol. (awdurdod lleol)

Mae’r ansawdd gan Wasanaeth Cyfieithu Cymru yn dda, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Rwy’n meddwl nad yw’r broblem yn un fawr yn y dinasoedd, ond mae’r problemau’n codi mewn lleoliadau gwledig. Yn aml mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb, mae angen i’r dehonglwyr deithio i fyny o Gaerdydd i Aberhonddu, er enghraifft, ac yna ceir y gost ychwanegol o dreuliau teithio. Dwi’n meddwl bod hyn yn faich ychwanegol i’r Awdurdod Lleol ei dalu, nid defnyddiwr y gwasanaeth, ond mae’n broblem wrth gwrs oherwydd yr adnoddau sy’n lleihau drwy’r amser. Rwy’n meddwl, er hynny, bod elfen bositif i ddehonglwyr yn teithio i ardal oherwydd, mewn lleoliadau gwledig, mae’r cymunedau sydd angen dehonglwyr yn eithaf bach, felly mae llai o debygolrwydd y bydd rhywun o’r tu allan â chysylltiad personol â defnyddiwr y gwasanaeth. (awdurdod lleol)

Yn yr ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru, o ran nifer o’r gwasanaethau sy’n dod i gysylltiad â cheiswyr lloches neu ffoaduriaid, nid ydynt erioed wedi gorfod meddwl am ddarparu iaith arall ar wahân i Gymraeg neu Saesneg. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes amharodrwydd i ddarparu dehonglwr; mae mor syml â diffyg ymwybyddiaeth o sut i wneud hynny, pwy i’w holi, beth i’w wneud, a oes ganddynt ganiatâd, neu a ddylent ei wneud. Rwy’n credu bod ymgyrch codi ymwybyddiaeth o fewn y sefydliadau a’r cymunedau yn angenrheidiol. (awdurdod lleol)

Gwrthrychedd dehonglwyr

Tra’n deall manteision cyfieithwyr cymunedol, nododd weithiwr cymdeithasol broblemau posibl hefyd.

Pan fydd pobl yn dehongli i rywun o’r un diwylliant neu i ffrind, maen nhw wirioneddol eisiau eu helpu ac felly mae’n bosibl y byddant yn dehongli rhywbeth allan o’i gyd-destun er mwyn eu cefnogi. Yn gyffredinol, os ydynt yn dod o’r un diwylliant, mae dehonglwyr weithiau’n lleihau effaith pethau negyddol a ddywedir neu’n ceisio eu hosgoi, er mwyn cefnogi unigolyn. Rwy’n siarad sawl iaith ac weithiau rwy’n gallu deall iaith yr unigolyn ac felly rwy’n gallu gweld beth maen nhw’n ei wneud. Weithiau, gallaf synhwyro bod problem o ran priodoldeb ac mae hynny’n ymddangos weithiau yn sut maen nhw’n dehongli, gan gynnwys goslef y geiriau sy’n cynnwys llawer o wybodaeth yn ei hunan.

Pryderon am ddiffyg hyfforddiant

Wrth sôn am hyfforddiant, dywedodd pump o'r comisiynwyr a gafodd eu cyfweld:

Rwy’n meddwl bod hyfforddiant wirioneddol yn bwysig iawn. Mae darparu gwybodaeth yn bwysig iawn. Ond, efallai y byddai’r ysbyty yn amharod i ddarparu gwybodaeth am y claf a’r cyflwr meddygol os nad ydynt wedi’u sicrhau bod y dehonglwyr hynny dan rwymedigaeth cyfrinachedd neu eu bod wedi llofnodi Cod Ymddygiad Proffesiynol.

Rydym yn gwybod bod nifer o ddehonglwyr sydd allan yn gweithio nad ydynt wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol ac maent yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth iawn fel ein rhai ni lle mae’r angen am gyfrinachedd neu wybodaeth am wrthdrawiad buddiannau yn hynod o bwysig ond nid ydynt yn cael eu dilyn mewn modd digonol neu, gadewch i ni fod yn onest, nid wyf yn credu bod rhai pobl yn ymwybodol ohono hyd yn oed. Mae hynny’n broblem go iawn.

Mae’r hyfforddiant, hyd at lefel 3, yn eithaf da yn ôl pob tebyg ac maent yn trafod gwrthdrawiad buddiannau a chyfrinachedd, ond nid wyf yn credu bod digon o amser yn cael ei roi iddo.

Cyrff trydydd sector/gwirfoddol a chyrff cefnogi mudwyr

Rhwystrau i wasanaethau dehongli

Mae rhwystrau i sefydliadau'r trydydd sector a rhai gwirfoddol rhag cyrchu a darparu gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor wedi’u categoreiddio'n rhai sefydliadol, yn ymwneud â'r angen a’r galw am ddehongli y mae pob sefydliad wedi bod yn ei wynebu ers yr "argyfwng mudo", yn ariannol, yn ymwneud â chost y gwasanaethau/cyllidebau cysylltiedig ac yn ddiwylliannol, yn ymwneud â goliau a nodau pob sefydliad.

Crynodeb o'r rhwystrau i ymgysylltu â gwasanaethau dehonglydd ar gyfer Sefydliadau'r Trydydd Sector

  • Ieithyddol: wrth i'r anghenion a’r galw ieithyddol newid yn aml, wedi'u hysgogi gan ddigwyddiadau'r byd ac adleoli mewnol, mae'n rhaid i'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol addasu hygyrchedd eu gwasanaethau a'u cefnogaeth yn aml, drwy logi staff newydd, a recriwtio gwirfoddolwyr newydd yn gyson.
  • Staff a gwirfoddolwyr: mae'r rhan fwyaf o sefydliadau'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn dibynnu'n bennaf ar staff a gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor ad hoc.  Mae rhai sefydliadau wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn staff a gwirfoddolwyr, yn dilyn pandemig COVID-19. O ganlyniad, mae natur y gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor wedi newid. Mewn llawer o achosion, rhaid i'r mudwyr dan orfod archebu eu hapwyntiadau ymhell ymlaen llaw i sicrhau dehongli iaith dramor dros y ffôn, sy'n llai agos-atoch a chyfeillgar.
  • Ariannol: Yn enwedig yn dilyn COVID-19, mae sefydliadau'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn gofyn am i’r sawl sydd wedi’u cyfeirio at y gwasanaeth dalu'r ffioedd dehongli ieithoedd tramor, sydd wedi cynyddu ochr yn ochr â ffioedd darparwyr dehongli. Mae hyn yn gwneud dehongli ieithoedd tramor yn agwedd heriol ar gyllidebu.
  • Monitro: Mae'n dod yn fwyfwy heriol i sefydliadau'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol gofnodi gwybodaeth lle maent wedi nodi bylchau dehongli ieithyddol, gan nad oes ganddynt system ganolog (neu hyd yn oed unrhyw system) i gipio gwybodaeth ar y dechrau.
  • Amseroedd aros: Esboniodd y rhan fwyaf o sefydliadau'r trydydd sector fod y gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor y maen nhw'n eu defnyddio yn anhyblyg. Mae yna amseroedd aros cynyddol hirach ar gyfer apwyntiadau sy'n effeithio ar les mudwyr dan orfod.  Mynegodd y sefydliadau gwirfoddol a'r trydydd sector oll eu dibyniaeth ar ddehonglwyr cymunedol ar gyfer eu hanghenion dehongli ieithoedd tramor o ddydd i ddydd.
  • Drwgdybiaeth: Mae llawer o gymunedau wedi datblygu eu rhwydwaith a'u grwpiau cymorth eu hunain i ganiatáu dehongli iaith dramor ad hoc.  Fodd bynnag, nid yw cymorth rhwydwaith cymunedol o'r fath yn cael ei fonitro ac mae'n cyfrannu at barhad mewn drwgdybiaeth tuag at y gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor a gynigir gan y trydydd sector.

Nid yw'r rhwystrau a grybwyllir uchod yn annibynnol ar ei gilydd, ac mae ystod o orgyffwrdd. Felly, mae angen dull cyfannol a chydweithio rhwng y trydydd sector a'r sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru.

Siarad o brofiad y trydydd sector a’r sector gwirfoddol

Yr argyfwng mudo a COVID-19

Mae’r argyfwng mudo a COVID-19 wedi cyfrannu at gynnydd sydyn mewn anghenion dehongli ieithoedd tramor ledled Cymru. Mae'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn ei chael hi'n anodd ateb y galw ac mae'r cyllid sy'n crebachu'n barhaus yn ei gwneud hi'n heriol i sefydliadau llai gadw i fyny â ffioedd cynyddol gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor.

Enghraifft:

Rydym yn cael nifer o geisiadau i gyfieithu bob dydd. Buaswn yn dweud, ers 2016 a’r rhyfel yn Syria a nawr Covid, bod y galw wedi treblu. Rydym yn sefydliad sefydledig, ac rydym er hynny’n ei chael yn anodd ymateb i’r galw. Ni allaf ddychmygu sut mae sefydliadau llai yn ymdopi.

Materion o ran gwasanaethau dehongli cwmnïau preifat

Roedd y ffyrdd y darperir dehongli gan gwmnïau preifat yn thema gyson a fynegwyd gan yr holl ymatebwyr. Mae sicrhau bod gwasanaethau dehongli effeithiol ar gael yn newis iaith a thafodiaith person yn straen cyson i'r trydydd sector. Mae gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor sydd ar gael pryd bynnag sydd eu hangen, sy’n sicrhau cywirdeb, ac sy’n cael eu defnyddio yn ddi-ffael ymhell o'r norm. Mae sefydliadau llai yn dioddef, gan fod rhaid iddyn nhw drefnu eu gwasanaethau eu hunain o ran argaeledd gwasanaethau dehongli. Mae'r amseroedd aros yn gynyddol hirach, sy'n ymddangos yn llafurus i staff ac heb eu teilwra i anghenion y trydydd sector.

Enghraifft:

Mae elfen o her bob tro wrth gyfieithu. Weithiau nid yw’r cyfieithydd yn siarad y dafodiaith Arabaidd gywir, neu nid oes un ar gael i gyfieithu pan rydym eu hangen ac mae’n rhaid i ddefnyddwyr y gwasanaeth ddisgwyl am ychydig o ddiwrnodau neu wythnosau i gael apwyntiad. Ond, yn benodol gyda chyfweliadau’r Swyddfa Gartref, rydym yn dweud wrth ddefnyddwyr ein gwasanaeth i fynd yn ôl a gwirio'r fideo â’u cyfreithiwr a chyfieithydd y cyfreithiwr i gywiro unrhyw gamgymeriadau cyfieithu. Mae camgymeriadau’n digwydd drwy’r amser.

Terminoleg

Dywedodd yr holl ymatebwyr fod yr iaith a'r derminoleg a ddefnyddir drwy wasanaethau dehongli a dehonglwyr cymunedol yn gallu bod yn broblemus, gan nad yw'r dehonglwyr bob amser yn gyfarwydd â “jargon” mudo a pholisi, acronymau, a thermau proffesiynol a/neu dechnegol sy'n gallu ei gwneud hi'n anoddach i'r trydydd sector gynnig eu gwasanaethau. Ar ben hynny, mae'r sefyllfa hon yn groes i ethos y sefydliadau trydydd sector / gwirfoddol yn eu dymuniad i ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar bobl ar gyfer mudwyr dan orfod.

Enghraifft:

Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi gennym ni i ddefnyddio’r iaith gywir, a’r derminoleg gywir. Maent hefyd yn mynychu hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rheolaidd, ac maent yn gwybod sut i ddefnyddio iaith sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+, er enghraifft. Nawr, ni allaf ddweud mai dyma yw’r achos mewn perthynas â phob gwasanaeth cyfieithu oherwydd mae pobl wedi cwyno oherwydd bod y cyfieithydd wedi defnyddio iaith gymhleth neu ansensitif. Maent i fod i’n helpu ni i wneud ein gwaith, nid ei lesteirio.

Recriwtio Dehonglwyr

Wrth drafod, dywedodd pob un o gyrff y trydydd sector fod recriwtio mwy o bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sy'n siarad ieithoedd amrywiol yn anhawster cyson, gan fod staff o grwpiau lleiafrifol yn ymddangos yn fwy amharod i ddychwelyd i gyflogaeth a gwirfoddoli ar ôl COVID-19. Fodd bynnag, mae hwn hefyd wedi bod yn fater hirdymor. Mae prinder staff a gwirfoddolwyr yn effeithio ar waith y trydydd sector a'r sector gwirfoddol o ddydd i ddydd, gan fod y ddau sector yn dibynnu ar staff a dehonglwyr gwirfoddol i gwtogi ar eu defnydd drud o wasanaethau dehongli ieithoedd tramor preifat.

Enghraifft:

Rydym yn ceisio recriwtio rhagor o wirfoddolwyr a staff o gefndir lleiafrifol ethnig sy’n siarad sawl iaith o hyd. Mae’n llawer anoddach ar ôl Covid, oherwydd mae’r byd wedi newid cymaint ac mae pobl BAME, yr effeithiodd y pandemig yn arbennig arnynt, yn parhau i fod yn amharod i fynd yn ôl i’r hen fywyd “normal”. Mae hyn yn cael effaith gynyddol ar ein hanghenion o ddydd i ddydd a’r galw am gyfieithu, oherwydd mae’n rhaid i ni gyfyngu ein gwasanaethau wyneb yn wyneb a gwario mwy ar wasanaethau cyfieithu.

Ymddiriedaeth

Amlinellodd yr holl ymatebwyr fod ymddiriedaeth cleient / dehonglydd yn fater allweddol. 

Mae'r diffyg darpariaeth ar gyfer dehonglwyr / cyfieithu mewn lleoliadau "ffurfiol", fel ysbytai, yn gorfodi sefydliadau trydydd sector i ddibynnu ar aelodau o'r teulu a ffrindiau i ddehongli, sy'n gallu cyflwyno heriau eraill gan nad ydynt efallai'n ymwybodol o derminoleg benodol.

Enghraifft:

Mae gennym ddyletswydd gofal sy’n cael ei fodloni’r rhannol. Byddem wrth ein boddau pe byddem yn gallu darparu cyfieithu priodol i holl ddefnyddwyr ein gwasanaethau pryd bynnag y maent eu hangen, yn hytrach na bod yn rhaid iddynt ddibynnu ar ffrindiau a theulu sydd eisiau helpu o bosibl ond nid ydynt bob tro’n cyfieithu’n gywir. Rydym wedi cael mwy a mwy o achosion o ddefnyddwyr y gwasanaeth nad ydynt yn cael y presgripsiwn cywir oherwydd camgyfieithiad. Ni allwn reoli hynny.

Materion paru dehonglydd / cwsmer

Mae gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor sensitif yn ganolbwynt i'r trydydd sector.  Amlygodd yr ymchwil enghreifftiau lle nad oedd ymateb y dehonglydd wedi adlewyrchu a/neu ddeall diwylliant/cred grefyddol/rhywedd/rhywioldeb yr unigolyn.

Enghraifft:

Sawl gwaith, mae defnyddwyr y gwasanaeth yn gofyn am gyfieithydd gwrywaidd neu fenywaidd, ac ni ddarperir hynny bob tro. Rydym yn ymdrin â phobl sydd wedi profi trawma difrifol a rhaid i’r gwasanaethau cyfieithu ystyried ceisiadau o’r fath. Yn anffodus, weithiau mae’n rhaid i ni bwyso a mesur beth yw brys y cyfieithiad.

Nid yw’n ymwneud â fforddiadwyedd yn unig. Mae’n eithaf caled cael gafael ar ddehonglwr sy’n cydweddu ag anghenion y cleientiaid a’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches. Mae’n aml yn haws mynd at y dehonglwr cymunedol i gydweddu anghenion y ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches. Mae’r problemau yn codi gydag iaith dechnegol.

Fodd bynnag, pan ofynnwyd i un sefydliad cymorth am sut maen nhw'n paru dehonglydd / cwsmer, fe ddywedon nhw:

Rhestr wirio ar gyfer dehonglwyr anffurfiol does dim pwynt, oherwydd byddent yn rhoi tic, tic, tic. O, grêt. Ac yna maent yn anfon yr unig siaradwr Arabaidd sydd ar gael ganddynt ataf. Y gwirionedd yw nad ydym yn ddigon lwcus i gael dewis a dyna pam mae camgymeriadau’n digwydd yn rheolaidd.

Cost gwasanaethau dehongli preifat

Mae fforddiadwyedd y gwasanaethau cyfieithu preifat yn fater arall. Wrth i symiau mawr o arian gael eu dyrannu ar gyfer COVID-19, mae cyllidebau cyfieithu ar gyfer y trydydd sector wedi dioddef.

Enghreifftiau:

Rydym yn defnyddio Big Word, sy’n ddrud, ac maent yn codi ffi fesul munud. Ond mae gennym fynediad at gyfieithwyr ledled y byd hefyd. Mae’n anghynaladwy i barhau i’w defnyddio er hynny oherwydd mae ein cyllidebau wedi’u heffeithio gymaint yn sgil COVID-19 ac, fel arfer, ar gyfer ein prosiectau, nid yw Llywodraeth Cymru’n dyrannu cyllideb gyfieithu, a dylent wneud hynny yn bendant.

Nid ydym yn defnyddio unrhyw wasanaethau dehongli, dim ond rhai yn y gymuned, oherwydd ni allwn eu fforddio. Mae’r gost yn golygu nad yw’n hygyrch talu am unrhyw wasanaethau dehongli. Y llynedd, roedd gan y ganolfan £500 dros ben yn unig, felly sut allwn ni?

Ei gynnig yn rhad ac am ddim ac yn hawdd cael ato:

Mae trefnu apwyntiadau gyda rhywun nad ydynt yn siarad yr un iaith a chi yn anodd iawn. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cymryd rhywfaint o’r awenau ac yn darparu gwasanaethau am ddim a heb gost lle gallwch alw dehonglwr neu gysylltu dros y ffôn a gallu cyfieithu yn y fan a’r lle. Nid wyf yn gwybod beth yw’r cyfyngiadau ariannol, na’r cyfyngiadau corfforol hyd yn oed, sydd gan y llywodraeth.

Problemau oherwydd lleihau trafodaethau wyneb yn wyneb

Mae rhai sefydliadau trydydd sector yn dibynnu ar drafodaeth wyneb yn wyneb mewn canolfannau cymunedol fel eu prif bwynt gwybodaeth. Un o effeithiau pandemig COVID-19 yw bod y rhwystr iaith wedi bod yn anodd iawn ei oresgyn heb gyswllt wyneb yn wyneb.

Enghraifft:

Mae 90% o’n gwasanaethau wyneb yn wyneb. Mae’n heriol pan rydym yn gwrthod pobl oherwydd bod amserau aros y gwasanaeth cyfieithu mor hir. Mae’n effeithio ar ansawdd ein gwasanaeth a llesiant ein defnyddwyr.

Allgáu digidol

Mae allgáu digidol yn parhau i fod yn fater allweddol, gan na all gwahanol sefydliadau trydydd sector gyfathrebu â'u defnyddwyr gwasanaeth. Er hynny, mae'r pandemig wedi cael effaith bositif; mae rhai pobl erbyn hyn yn gallu defnyddio technoleg yn well ac mae rhai sefydliadau trydydd sector wedi darparu mynediad at ddyfeisiau clyfar a hyfforddiant ar gyfer cyfarfodydd ar-lein.

Enghraifft:

Rydym yn ychwanegu arian at ffonau defnyddwyr ein gwasanaethau yn rheolaidd a gwnaethom ddarparu llechi a gliniaduron iddynt yn ystod y pandemig. Nid yw hyn yn golygu bod pobl yn gwybod sut i ddefnyddio technoleg neu feddalwedd benodol (fel Zoom) neu apiau cyfieithu hyd yn oed.

Dywedodd ymatebwr trydydd sector

Mae technoleg newydd yn wych ac mae gan y rhan fwyaf o bobl ffôn symudol, ond nid yw pawb yn gallu fforddio’r ffonau diweddaraf. Ni all fy ffôn i ddefnyddio codau QR a’r math hynny o beth hyd yn oed. Rwy’n meddwl bod pobl yn anghofio weithiau bod rhai pobl yn wirioneddol dlawd, ac rydym yn gwybod am allgáu digidol. Mae Llywodraeth Cymru yn siarad am hyn drwy’r amser, ac yna’n symud ymlaen â phethau sy’n allgáu pobl yn ddigidol! Roeddwn i mewn cyfarfod y diwrnod o’r blaen gyda’r gwasanaeth mamolaeth am hyn i gyd, ac mae’r GIG yng Nghymru i gyd yn mynd yn ddigidol. Ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus, nad yw hynny’n ehangu’r bwlch. Felly, mae gennym wasanaeth, ond pwy sy’n cael mynediad iddo a phwy sy’n cael trafferth a rhaid i ni ofyn pam? (gweithiwr elusennol)

Ni allwn gymryd yn ganiataol chwaith bod pawb yn llythrennog. Nid oes gan lawer o ddefnyddwyr ein gwasanaethau addysg ffurfiol ac ni allant ddarllen yn eu hiaith eu hunain heb sôn am Gymraeg neu Saesneg, felly mae gwthio deunydd wedi’i gyfieithu i’w dwylo a chymryd yn ganiataol bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn, wel, nid yw’n dda iawn o’n hochr ni, ac yna rydym yn eu cosbi am beidio â gwybod be y mae angen iddynt ei wneud. Mae’n ofnadwy a deud y gwir. Felly, mae angen technoleg fodern, ond nid yw’n ateb i bopeth.

Gwirio synnwyr cyfweliadau

Gofynnwyd i chwech o bobl o'r garfan darged beth oedd eu meddyliau ynglŷn â Chasgliadau ac Argymhellion yr adroddiad hwn. Ymatebodd pedwar, pob un yn gadarnhaol iawn, er bod dymuniad i’r hybiau cymorth cymunedol traws-sefydliad a amlinellir yn yr adrannau Casgliadau i fod yn argymhelliad gwirioneddol.