Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Gweinidog Tai, Julie James, yn dweud heddiw y gellir atal datblygiadau tai yng Nghymru rhag cael eu hadeiladu yn y dyfodol, os nad ydynt o ansawdd uchel neu os nad ydynt wedi’u cynllunio gyda’r nod o greu cymunedau cryf a chynaliadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yng Nghaerdydd, yng nghynhadledd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru (RTPI) i ddathlu pen-blwydd cyntaf Polisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, bydd y Gweinidog yn mynegi agwedd Llywodraeth Cymru tuag at “greu lleoedd” (sy’n unigryw yn y DU), a sut y mae’n bwriadu gwireddu hynny.  

Mae’r cysyniad o “greu lleoedd”, sydd erbyn hyn yn ganolog i’r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru, yn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn ystyried pob agwedd ar lesiant a’u bod yn creu datblygiadau newydd sy’n gynaliadwy ac yn darparu ar gyfer anghenion pobl.

Er enghraifft, datblygiadau tai sy’n gwneud y canlynol: 

  • Sicrhau bod y cartrefi cywir yn y mannau cywir ar gyfer y bobl sydd fwyaf eu hangen,
  • Yn cynnwys llwybrau cerdded a seiclo, gan helpu i hybu dulliau eraill o deithio heblaw defnyddio car,
  • Mae’r ynni a ddefnyddir yn y tai i’w gwresogi a’u goleuo ac ati wedi’i gynhyrchu â dulliau cynhyrchu adnewyddadwy ac mae’r tai’n defnyddio ynni yn effeithlon,
  • Maen nhw’n cynnwys llecynnau agored gwyrdd, gan helpu i wella’r amgylchedd, 
  • Maen nhw’n lleihau gwastraff i’r eithaf ac yn meddwl yn glyfar am yr economi gylchol i leihau costau a’n hôl troed carbon.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried ar hyn o bryd pa newidiadau y gellir eu gwneud i alluogi Gweinidogion i weld ceisiadau nad ydynt yn mabwysiadu’r dull newydd hwn o weithredu.

Dylid defnyddio’r cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i’r sector datblygu, drwy gynlluniau fel grantiau tai, Cymorth i Brynu a chyllid adfywio i gymell arfer da.

Gallai Gweinidogion weithredu drwy ddefnyddio eu pwerau cyfeirio cynllunio i alw ceisiadau i mewn nad ydynt yn creu lleoedd yn strategol – byddai’r pwerau’n cael eu defnyddio’n gynnil.

Cyn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

“Yn rhy aml, rydw i'n clywed gan bobl am dai newydd sy’n fach ac wedi’u hadeiladu’n wael, ac am ddiffyg gwyrddni yn y datblygiad a’r ffaith na fabwysiadwyd heolydd a mannau agored.

"Felly gall gwneud penderfyniadau da ynghylch cynllunio wella bywydau pobl, a dylai wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau strategol ynghylch lle i leoli datblygiad newydd a phenderfyniadau lleol ynglŷn â gwedd a chynllun tai unigol.

“Rydw i eisiau i gymunedau’r dyfodol fod yn lleoedd y mae pawb yn dymuno byw ynddynt. Rydyn ni eisiau i bobl fagu’u plant a heneiddio mewn cymuned lle y maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus, lle mae gwasanaethau a chyfleusterau ar gael sy’n ddigonol i’w cefnogi drwy bob cyfnod o’u bywydau.  

“Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau, yn y dyfodol, bod y ceisiadau mwyaf am ddatblygiadau newydd yn enghreifftiau o arfer “creu lleoedd”, ac nad ydyn nhw’n parhau i ddefnyddio arferion anfoddhaol y gorffennol. Os oes rhaid, byddwn yn defnyddio ein pwerau cynllunio i sicrhau bod hyn yn digwydd. 

“Byddaf yn parhau i ddadlau y dylai’r system gynllunio fod yn ganolog o ran sut rydyn ni’n llunio lleoedd ac yn cefnogi cymunedau tecach a mwy cynhwysol. Yr her i bob un ohonom yw adeiladu datblygiadau o safon dda mewn cymunedau y mae pobl yn falch i’w galw’n gartref iddynt.”