Bydd angen 11,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol ar Gymru i gefnogi economi sy'n tyfu, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg mewn Uwchgynhadledd Adeiladu yng Nghyffordd Llandudno.
Wrth siarad â chynrychiolwyr o sector adeiladu Gogledd Cymru, pwysleisiodd Jeremy Miles pa mor bwysig yw hi i’r sectorau preifat a chyhoeddus weithio gyda'i gilydd i ateb y galw. Amlinellodd ei weledigaeth i sicrhau gwelliant a thwf cyflym, gan gynnwys:
- gweithio gyda'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i sicrhau bod y system addysg yn diwallu anghenion cyflogwr ac yn darparu cyrsiau sy'n mynd i'r afael â bylchau penodol mewn sgiliau adeiladu;
- creu rhagor o ofodau cyflogaeth a safleoedd sy'n barod ar gyfer buddsoddi drwy ymyrraeth uniongyrchol, grantiau a phartneriaethau i ysgogi twf economaidd sylweddol;
- datgarboneiddio tai cymdeithasol, gan sicrhau bod cartrefi'n gynaliadwy, o ansawdd uchel, ac yn fforddiadwy i'w gwresogi drwy Safon Ansawdd Tai newydd Cymru 2023, sy'n adeiladu ar y £2 biliwn a fuddsoddwyd dan raglen wreiddiol Safon Ansawdd Tai Cymru.
- sicrhau bod y sectorau cyhoeddus a phreifat yn defnyddio'r offer sydd ar gael i fynd i'r afael â heriau o ran recriwtio, cadw a hyfforddi gweithwyr ac o ran hyblygrwydd y gadwyn gyflenwi. Y nod yw gwireddu uchelgais Sero Net Carbon a rennir, arloesi gyda deunyddiau carbon isel, a mabwysiadu dulliau adeiladu modern.
Anerchodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, yn y digwyddiad hefyd, a phwysleisiodd fod llawer o gyfleoedd i'r sector adeiladu yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles:
Mae'r diwydiant adeiladu’n cael effaith enfawr ar ein heconomi a'n cymdeithas. Mae'n creu swyddi, yn gyrru twf economaidd, ac yn cynnig datrysiadau i heriau cymdeithasol, hinsawdd, ac ynni. Rydym eisoes yn gwneud llawer o bethau'n iawn yma yng Nghymru, ac mae llawer o wledydd eraill yn edrych ar ein hymdrechion i bontio dyfodol ffyniannus a chynaliadwy gyda gwaith teg wrth ei wraidd.
“Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cydnabod yr heriau y mae cyflogwyr adeiladu yn eu hwynebu, gyda creu ffynhonnell dalent y dyfodol, adnabod prosiectau allweddol, a'r angen i gefnogi arloesedd yn faterion sydd angen cefnogaeth bellach. Mae fy neges i'r sector yng Ngogledd Cymru yn glir: boed drwy adeiladu seilwaith hanfodol ar gyfer dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy, neu drwy fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd sy’n cael eu creu gan Borthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi, mae'r diwydiant adeiladu yn hanfodol i lunio Cymru yfory.
Dywedodd Ken Skates:
Rwy'n falch fod y digwyddiad hwn sy'n canolbwyntio ar y sector adeiladu yn y rhanbarth yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru.
Rhan o fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru yw hyrwyddo buddiannau ein cymunedau, ein busnesau a'n sefydliadau. Mae'n ymwneud â sicrhau bod ein polisïau'n adlewyrchu amgylchiadau, heriau a chyfleoedd yn y Gogledd.
Gallwn gyflawni gymaint mwy drwy weithio gyda'n gilydd, ac mae hwn yn amser cyffrous i’r sector gyda datblygiadau cyffrous ar draws y rhanbarth.