Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC).  Dylid trin data fesul deiliadaeth gyda gofal (gweler y nodiadau).

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, Chwarter 3 2015-16 i Chwarter 3 2024-25

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos bod nifer y tai newydd yn dechrau rhwng Chwarter 3 2015-16 a Chwarter 3 2024-25, wedi amrywio rhwng 615 a 2,141 tra bod nifer y tai newydd a gwblhawyd wedi amrywio rhwng 938 a 2,066.

Ffynhonnell: Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

[Nodyn 1] Ni chasglwyd data chwarterol ar gyfer 2020-21 na 2021-22 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

[Nodyn 2] Mae ffigurau amcangyfrifedig wedi'u cynnwys ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Chwarter 3 2024-25.

(r) Mae nifer y tai newydd a gwblhawyd ar gyfer Chwarter 2 2024-25 wedi'i ddiwygio ychydig o 938 i 944.

Dechreuwyd 760 o anheddau newydd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr (Chwarter 3) 2024, 59% yn llai na’r un chwarter yn 2023 (sef y ffigwr chwarterol uchaf ers 2016). Hwn oedd yr ail nifer isaf o anheddau a ddechreuwyd yn chwarterol yn ystod y ddegawd diwethaf.

Cwblhawyd 1,269 o anheddau newydd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, 18% yn llai na’r un chwarter yn 2023 (1,543).

Roedd mwy na hanner (69%) yr anheddau newydd a gwblhawyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024 yn cynnwys tair ystafell wely neu fwy.

Anheddau newydd a gwblhawyd fesul deiliadaeth

Dylid trin y ffigyrau fesul deiliadaeth yn ofalus gan y credir ei fod yn tan gyfrif nifer y tai newydd yn y sector gymdeithasol ond yn gor-gyfrif nifer y tai newydd yn y sector breifat. Efallai bod adeiladau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) wedi eu gor-gyfrif ac adeiladau awdurdodau lleol wedi eu tan gyfrif (gweler y nodiadau).

Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024, roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a adeiladwyd yn perthyn i’r sector preifat (75%), gyda chyfran lai yn perthyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (18%) ac awdurdodau lleol (7%).

O'i gymharu â'r un chwarter yn 2023, gostyngodd cyfran y gwaith o gwblhau anheddau a gyfrifwyd gan y sector cymdeithasol o 18% i 25%.

Nodiadau

Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.

Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Cyhoeddir pwyntiau brif a data StatsCymru (Adeiladu tai newydd) yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099