Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Adeiladu tai newydd
Oherwydd pandemig COVID-19, rhoddwyd y gorau i gyhoeddi adroddiadau Adeiladu Tai Newydd yng Nghymru ar ôl adroddiad chwarterol Hydref i Ragfyr 2019. Ailddechreuwyd eu cyhoeddi gyda chyhoeddi adroddiad Ebrill i Fehefin 2022. Mae adroddiad Hydref i Ragfyr 2022 yn cymharu data â’r chwarter blaenorol a chwarter Hydref i Ragfyr 2019, cyn y pandemig.
Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Dylid trin data fesul deiliadaeth gyda gofal (gweler y nodiadau).
Anheddau newydd a ddechreuwyd
- Dechreuwyd 922 o anheddau newydd yn ystod Hydref i Ragfyr 2022, 25% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2019 a 24% yn llai nag yn y chwarter blaenorol (Gorffennaf i Fedi 2022).
Anheddau newydd a gwblhawyd
- Cwblhawyd 1,805 o anheddau newydd yn y chwarter hwn (Hydref i Ragfyr 2022), 3% yn fwy nag yn yr un chwarter yn 2019 ac 35% yn fwy nag yn y chwarter blaenorol (Gorffennaf i Fedi 2022).
- Cwblhawyd 507 o anheddau 4 ystafell wely yn y chwarter hwn, 14% yn fwy nag yn yr un chwarter yn 2019 a 58% yn fwy nag yn y chwarter blaenorol, gan gyfrif am 28% o’r holl anheddau a gwblhawyd.
- Cwblhawyd 662 o anheddau 3 ystafell wely yn y chwarter hwn, 10% yn llai nag yn yr un chwarter yn 2019 ond 21% yn fwy nag yn y chwarter blaenorol. Roeddynt yn cyfrif am 37% o’r holl anheddau a gwblhawyd.
- Cwblhawyd 444 o anheddau 2 ystafell wely yn y chwarter hwn, 14% yn fwy nag yn yr un chwarter yn 2019 a 56% yn fwy nag yn y chwarter blaenorol, gan gyfrif am 25% o’r holl anheddau a gwblhawyd.
- Cwblhawyd 192 o anheddau 1 ystafell wely yn y chwarter hwn. Dim fawr o newid felly o’r 189 a gwblhawyd yn yr un chwarter yn 2019 a o'r 188 a gwblhawyd yn na’r chwarter blaenorol. Roeddynt yn cyfrif am 11% o’r holl anheddau a gwblhawyd.
Anheddau newydd a gwblhawyd fesul deiliadaeth
Dylid trin y ffigyrau fesul deiliadaeth yn ofalus gan y credir ei fod yn tan gyfrif nifer y tai newydd yn y sector gymdeithasol ac awdurdodau lleol, ond yn gor-gyfrif nifer y tai newydd yn y sector breifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (gweler y nodiadau).
- O’i gymharu â’r un chwarter yn 2019, doedd fawr o newid yn y gyfran o’r anheddau a gwblhawyd gan y sector breifat (79% i 78%).
- O’i gymharu â’r un chwarter yn 2019, mae nifer yr anheddau a gwblhawyd ar gyfer awdurdodau lleol wedi codi, o 0 annedd i 14.
- Doedd fawr o newid yn y gyfran o’r anheddau a gwblhawyd ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (21% i 22%).
- O’i gymharu â’r chwarter blaenorol, roedd nifer yr anheddau a gwblhawyd yn uwch ar draws y sector preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ond yn is ar gyfer Awdurdodau Lleol.O’r 1,805 a gwblhawyd, roedd 1,401 ar gyfer y sector preifat (26% yn uwch), 390 rar gyfer LCC (162% yn uwch) a 14 ar gyfer awdurdodau lleol (82% yn is).
Nodiadau
Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.
Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.
Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.
Cyhoeddir pwyntiau allweddol a data StatsCymru yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.