Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am weithgarwch adeiladu tai newydd yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol 2023-2024 ac effaith y gweithgarwch hwnnw ar y stoc anheddau. Ymdrinnir â’r anheddau newydd a ddechreuwyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi dechrau) ac â’r anheddau newydd a gwblhawyd (lle bo’r gwaith adeiladu wedi’i orffen a’r adeilad yn barod ar gyfer ei feddiannu).  Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn defnyddio’r wybodaeth am y gwaith adeiladu tai newydd i asesu lefel y cyflenwad tai yng Nghymru. 

Mae’r wybodaeth yn y datganiad hwn yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a’r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC), sy’n Arolygydd Preifat Cymeradwy (PAI). Ceir yn y datganiad hwn wybodaeth gan PAIs eraill, sy’n golygu bod cyfanswm yr anheddau a ddechreuwyd ac a gwblhawyd wedi’i dan gyfrif o ryw ychydig. Rydym yn parhau i ystyried sut y gallwn wella sicrwydd ansawdd y data adeiladu tai newydd fel rhan o waith ehangach i asesu dichonoldeb o ddefnyddio data gweinyddol i amcangyfrif stoc anheddau. Rydym yn bwriadu cyhoeddi diweddariad ar y gwaith hwn yn ddiweddarach yn 2024.

Y data

Nid oedd Gwynedd yn gallu darparu data ar gyfer Chwarter 4 o 2023-24 (Ionawr i Fawrth 2024). I gynhyrchu amcangyfrif ar gyfer Gwynedd am y flwyddyn ariannol gyfan, mae nifer y tai newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd yn Chwarter 4 wedi eu priodoli. Gweler yr adran cywirdeb yn y wybodaeth am ansawdd a methodoleg am ragor o fanylion.

Prif bwyntiau

  • Yn 2023-24, dechreuwyd adeiladu 5,161 o anheddau newydd, 19% yn fwy nag yn 2022-23
  • Yn yr un cyfnod, cwblhawyd 4,756 o anheddau newydd, 18% yn llai nag yn y flwyddyn cynt. 
  • O’r 4,756 o anheddau a gwblhawyd, y sector preifat oedd yn gyfrifol am 78% ohonynt, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig am 20% ac awdurdodau lleol am 1%.
  • Roedd 37% o’r anheddau a gwblhawyd yn gartrefi 3 stafell wely a 21% yn gartrefi â 4 stafell wely neu fwy.

Ffigur 1: Nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, 2014-15 i 2023-24

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd rhwng 2014-15 a 2023-24 wedi gostwng yn gyffredinol, gyda’r niferoedd lleiaf wedi’u cofnodi yn 2020-21, blwyddyn yr effeithiwyd yn drwm arni gan y pandemig coronafeirws (COVID-19). 

Ffynhonnell: Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

Nodyn 1: Yn cynnwys data amcangyfrifedig ar gyfer Chwarter 4 ar gyfer Gwynedd. Gweler yr adran cywirdeb yn gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am fanylion.

Anheddau newydd a ddechreuwyd yn ôl cyfnod a deiliadaeth (StatsCymru)

Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl cyfnod a deiliadaeth (StatsCymru)

Anheddau a ddechreuwyd yn ôl yr awdurdodau lleol

Yn 2023-24, dechreuwyd 5,161 o anheddau newydd, 13% yn fwy nag yn y flwyddyn cynt (2022-23). Yn ôl yr Amcangyfrifon o'r stoc anheddau 2023, mae nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd yn 2023-24 yn cyfateb i 4 annedd newydd fesul 1,000 annedd presennol.

Ffigur 2: Nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd fesul 1,000 annedd presennol yn ôl yr awdurdod lleol, 2023-24 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Map sy'n dangos bod nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd fesul 1,000 o anheddau presennol ar ei uchaf yn ne-ddwyrain Cymru. 

Ffynhonnell: Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

[Nodyn 1] Yn cynnwys data amcangyfrifedig ar gyfer Chwarter 4 ar gyfer Gwynedd. Gweler yr adran cywirdeb yn gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am fanylion.

Anheddau newydd a ddechreuwyd yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o annedd (StatsCymru)

Ar lefel yr awdurdod lleol, amrywiai nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd o 39 ym Merthyr Tudful (yn cyfateb i 1 annedd newydd fesul 1,000 o anheddau presennol) i 879 yng Nghaerdydd (yn cyfateb i 6 annedd newydd fesul 1,000 o anheddau presennol). 

Mae cyfradd o anheddau newydd a ddechreuwyd fesul 1,000 o anheddau presennol yn amrywio o 1 ym Merthyr Tudful, Chastell-nedd Port Talbot a Phen y Bont (lle dechreuwyd llai na 70 o anheddau newydd) i 11 yng Nghasnewydd (lle dechreuwyd 784 o anheddau newydd).

Anheddau a gwblhawyd yn ôl yr awdurdod lleol

Yn 2023-24, cwblhawyd 4,756 o anheddau newydd. Roedd hyn 18% yn llai nag yn 2022-23. Roedd hwn yn nifer arbennig o isel o dai a gwblhawyd, yn ail yn unig i’r hyn a gofnodwyd yn 2021-22, blwyddyn yr effeithiwyd arni’n drwm gan y pandemig coronafeirws (COVID-19) (yn 2021-22, cwblhawyd 4,616 o anheddau newydd).

Yn ôl yr Amcangyfrifon o'r stoc anheddau 2023, mae nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn 2023-24 yn cyfateb i 3 annedd newydd fesul 1,000 annedd presennol.

Ffigur 3: Nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul 1,000 presennol yn ôl awdurdod lleol, 2023-24 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r map yn dangos bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul 1,000 annedd presennol ar ei uchaf yn y De-ddwyrain. 

Ffynhonnell: Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

Nodyn 1: Yn cynnwys data amcangyfrifedig ar gyfer Chwarter 4 ar gyfer Gwynedd. Gweler yr adran cywirdeb yn gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am fanylion.

Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl ardal, y math o annedd a nifer yr ystafelloedd gwely (StatsCymru)

Ar lefel yr awdurdod lleol, amrywiai nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd o 29 ym Merthyr Tudful (yn cyfateb i 1 annedd newydd fesul 1,000 o anheddau presennol) i 1,060 yng Nghaerdydd (yn cyfateb i 7 annedd newydd am bob 1,000 o anheddau presennol). 

Mae’r cyfradd o anheddau newydd a gwblhawyd fesul 1,000 o anheddau presennol yn amrywio o 1 ym Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Sir Conwy a Gwynedd  i 7 yng Nghasnewydd (lle cwblhawyd 467 o anheddau newydd).

Anheddau a gwblhawyd yn ôl deiliadaeth

Nid yw’n bosib bob tro i swyddogion rheoli adeiladau na’r NHBC allu dweud beth fydd deiliadaeth cartref yn y pen draw. Bryd hynny, mae’n debygol y caiff ei chofnodi fel deiliadaeth breifat, a allai o bosib arwain at or gyfrif yr anheddau yn y sector preifat a than gyfrif yr anheddau yn y sector cymdeithasol. Am hynny, dylid gochel dadansoddiadau o’r ddeiliadaeth. 

Yn 2023-24, y sector preifat (78%) oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a gwblhawyd, gyda’r sector cymdeithasol yn cyfrif am gyfran llai (22%). Roedd cyfran yr anheddau a gwblhawyd gan y sector cymdeithasol yn uwch na’r flwyddyn cynt (21%). Yn 2023-24, roedd yr awdurdodau lleol yn gyfrifol am 65 o anheddau newydd a gwblhawyd (1% o’r cyfanswm a gwblhawyd).

Tabl 1: Nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl yr awdurdod lleol a deiliadaeth, 2023-24
Awdurdod lleolStoc sector preifat Stoc RSLStoc awdurdod lleolPob deiliad-aeth
Ynys Môn71770148
Gwynedd [Nodyn 1]4648094
Conwy4328071
Sir Ddinbych 15984171
Sir y Fflint 1872934250
Wrecsam252300282
Powys73340107
Ceredigion 98310129
Sir Benfro 1384616200
Sir Gaerfyrddin 11100111
Abertawe 191430234
C-nedd Port Talbot633066
Pen-y-bont ar Ogwr758083
Bro Morgannwg 274910365
Caerdydd 949100111060
Rhondda Cynon Taf23420236
Merthyr Tudful 1514029
Caerffili 1321150247
Blaenau Gwent765081
Tor-faen83230106
Sir Fynwy 201180219
Casnewydd 2502170467
Cymru 3,721970654,756

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl o’r anheddau newydd a gwblhawyd, yn ôl awdurdod lleol a deiliadaeth, sy’n dangos mai’r sector preifat oedd yn gyfrifol am dros hanner yr anheddau newydd a gwblhawyd yn 20 o 22 awdurdod lleol. 

Ffynhonnell: Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

Nodyn 1: Yn cynnwys data amcangyfrifedig ar gyfer Chwarter 4 ar gyfer Gwynedd. Gweler yr adran cywirdeb yn gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am fanylion.

Anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl ardal, y math o annedd a nifer yr ystafelloedd gwely (StatsCymru)

Ar lefel yr awdurdod lleol, amrywiai canran yr anheddau newydd a gwblhawyd yr oedd y sector preifat yn gyfrifol amdanynt o 48% ar Ynys Môn (lle y sector preifat oedd yn gyfrifol am 71 o’r 148 o anheddau a gwblhawyd) i 100% yn Sir Gaerfyrddin (lle y sector preifat oedd yn gyfrifol am bob un o’r 111 o’r anheddau a gwblhawyd). 

Yn y sector cymdeithasol, gwelwyd y nifer fwyaf a gwblhawyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghaerffili, Caerdydd, Casnewydd a’r Bro Morgannwg (115, 100, 217 a 91 o anheddau a gwblhawyd, yn ôl ei drefn). Gwelwyd y mwyafrif yr oedd awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanynt yn Sir Y Fflint (34 o anheddau a gwblhawyd, sef 52% o’r holl anheddau a gwblhawyd gan yr awdurdodau lleol).

Anheddau a gwblhawyd, yn ôl math o annedd ac ystafelloedd gwely

Yn 2023-24, roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a gwblhawyd yn dai neu fyngalos (73%),  gyda chyfran llai yn fflatiau (27%). Ers 2013-14, mae cyfran yr anheddau a gwblhawyd oedd yn dai neu fyngalos wedi amrywio o 73% i 82%.

Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd 37% o’r anheddau newydd a gwblhawyd yn gartrefi 3 ystafell wely a 21% yn gartrefi 4 ystafell wely neu fwy. Mae dosraniad yr anheddau yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely wedi aros yn gymharol sefydlog dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r sector preifat fel arfer wedi canolbwyntio ar ddarparu cartrefi mwy (yn 2023-24, roedd 66% o’r anheddau’r sector preifat a gwblhawyd â 3 ystafell wely neu fwy) ac mae’r sector cymdeithasol wedi canolbwyntio ar ddarparu cartrefi llai (yn yr un flwyddyn, dim ond 1 neu 2 ystafell wely oedd yn 69% o’r anheddau a gwblhawyd gan y sector cymdeithasol).

Anheddau a gwblhawyd ledled y DU

Rhwng 2014-15 a 2015-16, gwelwyd cynnydd yn nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd ar draws y pedair gwlad. Fodd bynnag, er bod gwledydd eraill y DU oedd yn parhau i gofnodi cynnydd, dechreuodd gweithgarwch adeiladu tai yng Nghymru ddirywio o 2016-17. Yn 2020-21, adeiladwyd llai o dai newydd wrth i bandemig y coronofeirws (COVID-19) daro’r diwydiant adeiladu. Yn 2021-22 a 2022-23, gwelwyd cynnydd yn y gweithgarwch adeiladu tai newydd dros y DU (ag eithriad Gogledd Iwerddon), gan gyrraedd lefelau tebyg i’r rheini cyn y pandemig. Yn 2023-24, bu gostyngiad yn nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd ar draws y pedair gwlad.

Tabl 2: Nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn ôl gwlad a blwyddyn, 2014-15 i 2023-24
BlwyddynLloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon
2014-15124,640 6,170 16,750 5,500 
2015-16139,710 6,900 16,850 5,810 
2016-17147,520 6,830 17,140 6,460 
2017-18160,910 6,660 17,560 7,100 
2018-19169,060 5,780 21,270 7,810 
2019-20175,330 6,040 22,120 7,310 
2020-21154,630 4,620 15,750 6,450 
2021-22171,200 5,270 21,580 7,290 
2022-23174,440 5,790 23,510 6,420 
2023-24153,800 (p) 4,760 19,630 5,420 

Disgrifiad o Dabl 2: Tabl yn dangos bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn amrywio yn ôl gwlad rhwng 2014-15 a 2023-24. Disgrifir y duedd yn y testun uchod.

[p] Mae'r ffigur hwn yn un dros dro ac yn amodol ar ddiwygiadau a drefnwyd.

Ffynhonnell yn ôl gwlad

Lloegr

Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol, data’r NHBC a data arolygwyr cymeradwy

Adeiladu tai newydd yn Lloegr (Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau)

Cymru

Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

Adeiladu tai newydd

Yr Alban

Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol a Rhaglen Cyflenwad Tai Fforddiadwy Llywodraeth yr Alban

Adeiladu tai newydd yn yr Alban (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Adrannau Rheoli Adeiladu’r Cynghorau Dosbarth

Adeiladu tai newydd yng Ngogledd Iwerddon (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon)

Ffigur 4: Nifer wedi’i fynegeio o anheddau newydd a gwblhawyd ledled y DU (2014-15 = 100) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy’n dangos sut mae niferoedd y tai adeiladwyd yng ngwledydd y DU wedi amrywio ers 2014-15. Disgrifir y duedd isod.

[Nodyn 1] Mae gwir nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn amrywio’n fawr. Mae’r data yn y siart wedi’u mynegeio, gyda 2014-15 yn cael ei defnyddio fel blwyddyn sylfaen ac wedi’i gosod ar 100, er mwyn sicrhau bod modd cymharu graddfa.

Ffynhonnell yn ôl gwlad

Lloegr

Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol, data’r NHBC a data arolygwyr cymeradwy

Adeiladu tai newydd yn Lloegr (Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau)

Cymru

Arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

Adeiladu tai newydd

Yr Alban

Ffurflenni adeiladu newydd awdurdodau lleol a Rhaglen Cyflenwad Tai Fforddiadwy Llywodraeth yr Alban

Adeiladu tai newydd yn yr Alban (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Adrannau Rheoli Adeiladu’r Cynghorau Dosbarth

Adeiladu tai newydd yng Ngogledd Iwerddon (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon)

Mae Ffigur 4 yn dangos y bu cynnydd cyffredinol yn y tai newydd a adeiladwyd ledled y DU rhwng 2014-15 a 2015-16. O’i chymharu â’r flwyddyn gyfeirio (2014-15), gwelwyd y gweithgarwch adeiladu tai yng Nghymru yn dechrau dirywio yn 2016-17, ond yn gyffredinol yn tueddu cynyddu dros y gwledydd eraill tan 2020-21, pan ddaeth effeithiau’r pandemig yn amlwg. Ar draws y pedair gwlad, o gymharu â’r flwyddyn fynegai, mae cynnydd yn nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd yn 2021-22 a 2022-23, ac yna gostyngiad yn 2023-24.

Y cyd-destun ehangach

Cynhyrchir amcangyfrifon stoc anheddau Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio data’r Cyfrifiad, ochr yn ochr â data adeiladu tai newydd a dymchwel tai. Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) newidiadau i ffrâm cyfeiriad y Cyfrifiad er mwyn caniatáu i fwy o anheddau gwag gael eu cynnwys. Yn yr adroddiad Gwerthusiad o fynd i’r afael ag ansawdd: Cyfrifiad 2021 (SYG), canfuwyd bod cyfartaledd gorgyffwrdd o 1.7% o gyfeiriadau a gynhwyswyd yn ffrâm cyfeiriadau Cyfrifiad 2021. Bydd rhai o'r cyfeiriadau hyn wedi bod yn gartrefi sy'n dal i gael eu hadeiladu ar adeg y Cyfrifiad. Bydd rhai o’r cyfeiriadau hyn yn cael eu cyfrif ddwywaith yn yr amcangyfrifon o’r stoc Anheddau a gynhyrchwyd yn dilyn ad-drefnu Cyfrifiad 2021, a gofnodwyd yn ddiweddarach fel anheddau newydd a gwblhawyd. Gweler Amcangyfrifon stoc anheddau: ar 31 Mawrth 2023 am ragor o wybodaeth.

Mae’r Amcangyfrif o'r stoc anheddau yn dangos, ar 31 Mawrth 2023, yr amcangyfrifir bod 1.5 miliwn o anheddau yng Nghymru, 5% yn fwy nag ym mis Mawrth 2014. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae canran rhaniad yr anheddau rhwng y sector preifat a’r sector cymdeithasol wedi aros yn sefydlog (gydag 84% o’r anheddau yn y sector preifat a’r 16% sy’n weddill yn perthyn i’r sector cymdeithasol). Yn y sector preifat, mae canran yr anheddau rhentu preifat wedi gostwng o 14% yn 2014 i 13% yn 2023, tra bod canran yr anheddau sy'n eiddo i berchen-feddianwyr wedi cynyddu o 70% i 71%. Yn y cyfamser, yn y sector cymdeithasol, mae canran yr anheddau sy’n cael eu rhentu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r canran o anheddau yr awdurdodau lleol wedi aros yn sefydlog (10% a 6% yn ôl ei drefn). 

Yn 2020, cyhoeddwyd diweddariad o’r Amcangyfrifon o’r angen am dai. Mae’r amcangyfrifon hyn yn rhoi ystod i ni o’r angen am unedau tai ychwanegol, ar sail tueddiadau’r gorffennol a’r data gorau sydd ar gael. Nid ydynt yn dargedau. Disgwylir cyhoeddi diweddariad o’r amcangyfrifon yn 2024. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau ar gyfer adnewyddiad interim o’r amcangyfrifon o’r angen am dai.

Mae nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir trwy waith adeiladu newydd, prynu, caffael, lesio neu gadwraeth yn cael eu cyhoeddi yn y datganiad blynyddol Darpariaeth tai fforddiadwy.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cywirdeb

Nid oedd Gwynedd yn gallu darparu data ar gyfer Chwarter 4 o 2023-24 (Ionawr i Fawrth 2024). I gynhyrchu amcangyfrif ar gyfer Gwynedd am y flwyddyn ariannol gyfan, mae niferoedd y tai newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd yn Chwarter 4 wedi eu priodoli. Mae’r data a ddarparwyd ar gyfer Chwarter 1 i Chwarter 3 o 2023-24 ar gyfer Gwynedd wedi’i gyfartaleddu a’i ddefnyddio yn lle Chwarter 4.

Statws Ystadegau Swyddogol

Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Tachwedd 2012. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan fodlonir y safonau.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein harfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. Mae OSR yn gosod y safonau o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gadw atynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth y Llywodraeth Cymru. 

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd: rydym wedi sicrhau bod yr ystadegau hyn ar gael mewn modd amserol i ddiwallu anghenion defnyddwyr. Rydym wedi dilyn protocolau perthnasol ar gyfer rhyddhau'r ystadegau hyn, gan sicrhau bod cylchrediad cyn cyhoeddi wedi'i gyfyngu i dderbynwyr cymwys yn unig.

Ansawdd: rydym wedi gwneud cyfyngiadau’r data hwn yn glir i ddefnyddwyr (er enghraifft, gan amlygu nad yw gweithgarwch adeiladu gan rai PAI yn cael ei gofnodi, gan arwain at dangyfrif bach o adeiladau newydd a gwblhawyd a rhai sy’n cael eu dechrau). Rydym yn bwriadu cyhoeddi erthygl yn ddiweddarach yn 2024 yn archwilio dichonoldeb defnyddio data gweinyddol i ategu ystadegau cyflenwad tai a sicrhau ansawdd.

Gwerth: rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr ystadegau hyn yn hygyrch i ddefnyddwyr, gan ddefnyddio iaith glir a chryno. Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar sut y gallwn wella gwerth yr ystadegau hyn.

Mae croeso i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau am sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan yr OSR.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad yn cynnwys un dangosydd cyd-destunol, sef ‘(31) Canran yr anheddau sydd heb beryglon’. Cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad llesiant yn y ddolen flaenorol.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 64/2024

Image