Mae adolygiad o'r ddarpariaeth dysgu yn y diwydiant adeiladu yn y gogledd orllewin Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd pum nod i'r adolygiad:
- Disgrifio a mesur natur y diwydiant adeiladu ledled y rhanbarth.
- Mapio'r galw am lafur a sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn y diwydiant adeiladu yn yr ardal.
- Mapio cwmpas graddfa ac ansawdd darpariaeth dysgu galwedigaethol a gyllidir gan ELWa yn y diwydiant adeiladu.
- Asesu'r galw am ddysgu yn y dyfodol a gallu'r rhwydwaith dysgu i'w fodloni; drwy'r ymgynghoriadau a'r gweithdy.
- Gwneud argymhellion ar sefydlu rhwydwaith dysgu yn y diwydiant adeiladu yn y Gogledd Orllewin drwy gynnal dadansoddiad SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau) ar argymhellion cychwynnol, ymgynghori eto â darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid i greu'r sylfaen ar gyfer argymhellion terfynol cywir, cadarn a chyraeddadwy.
Roedd pryderon lleol bod y sector yn wynebu newidiadau pellgyrhaeddol i arferion gweithredu a gofynion sgiliau a dyna fu'n sail i'r prosiect. Dyma'r pryderon:
- diffyg llafur i fodloni galw'r diwydiant yn awr, ac yn bwysicach, yn y dyfodol
- hanes o ddiffyg buddsoddi yn y seilwaith dysgu a fydd yn rhwystro ymdrechion i gau'r bwlch presennol rhwng gofynion y diwydiant a gofynion dysgwyr ar un llaw, a'r dysgu sydd ar gael ar y llaw arall.
Dadansoddwyd y data a gasglwyd gan ymchwil desg ac ymgynghori cychwynnol gan dîm ymchwil CRG a lluniwyd dadansoddiad SWOT o'r ddarpariaeth dysgu ar gyfer y sector adeiladu yn y Gogledd Orllewin. Symleiddiwyd crynodeb SWOT yn fwriadol a bu ymgynghori pellach ar hyn gyda hysbyswyr allweddol, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.