Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwaith ar ganolfan weithgynhyrchu a warws newydd bwrpasol Qioptiq yn Llanelwy, gwerth £3.7 miliwn, sydd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru, bellach wedi dechrau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd dechrau'r gwaith ei lansio'n swyddogol heddiw (dydd Iau Mehefin 22) mewn digwyddiad gyda Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates, Rheolwr-gyfarwyddwr Qioptiq, Peter White a chynrychiolwyr Read Construction a gafodd y contract dylunio ac adeiladu. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.7 miliwn i adeiladu'r ganolfan ddiogel 24,900 tr.sg. ar y tir y mae'n berchen arno gerllaw safle presennol Qioptiq ar Barc Busnes Llanelwy. Bydd y datblygiad i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn pan fydd Qioptiq yn lesio'r adeilad ac yn buddsoddi oddeutu £2 filiwn i osod ffitiadau, systemau diogelwch a TG, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i £3.7 miliwn. Meddai Ken Skates: 
"Roedd ennill y contract allweddol hwn yn lwyddiant mawr i'r cwmni ac i Gymru ac mae'n adlewyrchu arbenigedd y gweithlu hynod fedrus hwn. Mae'n wych gweld bod y gwaith bellach wedi dechrau gan y bydd yr ehangu yn arwain at fanteision economaidd parhaus i'r rhanbarth ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor y cwmni gweithgynhyrchu uwch yma yng Nghymru.  "Mae Qioptiq Excelitas yn gwmni angori allweddol, cyflogwr mawr yng Ngogledd Cymru ac yn un o'r busnesau mwyaf arloesol a deinamig yng Nghymru. Cefnogodd Llywodraeth Cymru gais llwyddiannus Qioptiq o'r cyfnod cynnar cyn-gymhwyso a bydd ein cymorth a'n buddsoddiad parhaus yn y cyfleusterau hyn yn sicrhau bod gan y cwmni y capasiti y mae angen i gyflenwi contract mor sylweddol."
 O dan gontract chwe mlynedd y Weinyddiaeth Amddiffyn, Qioptig fydd prif gyflenwr strategol holl fflyd y Weinyddiaeth Amddiffyn o offer Gwyliadwriaeth a Chaffael Targedau - bydd yn cyflenwi ac yn cynnal dros 280,000 eitem o offer optegol hynod sensitif.
Meddai Peter White, Rheolwr-gyfarwyddwr Qioptiq 
"Mae contract fel hyn yn rhoi diogelwch inni ac yn caniatâu inni fuddsoddi yn y seilwaith a'n pobl gan y gallwn edrych ar y sefyllfa yn yr hirdymor. Bydd hyn yn ei dro yn helpu'r economi leol a'n cadwyn cyflenwi."

Aeth ymlaen i ddweud: 
"Weithiau gallwch gymryd y teimlad o gymuned sydd gennym yn Qioptiq yn ganiatâol. Pan fydd cwsmeriaid yn ymweld, maent bob amser yn sylwi ar frwdfrydedd ac ymrwymiad y gweithlu ac mae hynny yn elfen bwysig wrth ennill contractau fel hyn." 
 Mae Read Construction yn ceisio sicrhau cymaint o wariant â phosib o fewn yr ardal leol drwy benodi aelodau timau dylunio lleol, cyflenwyr ac isgontractwyr a byddant hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc hyfforddi. 
Meddai Dawid Cloete, Cyfarwyddwr Adeiladu: 
"Rydym yn falch iawn o ddarparu'r prosiect sylweddol hwn i'r rhanbarth , ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Qioptiq. Drwy gydol y prosiect byddwn yn ceisio hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cyflogi yn lleol ac yn cynnig gwerth ychwanegol drwy gyflogi cadwyn gyflenwi leol."