Bydd adeiladu ar y manteision y mae arian Ewropeaidd sylweddol wedi'u cynnig i brosiectau yn y Gymru wledig ac ymrwymiad cymunedau sydd wedi'u cyflawni yn hanfodol wrth inni edrych tua'r dyfodol.
Dyma neges y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths cyn digwyddiad i dros 200 a mwy o wahoddedigion sy'n dechrau heddiw ar Faes y Sioe yn Llanelwedd i ddathlu gwaith y Gymru wledig.
Ers degawdau mae Cymru wedi elwa o gymorth drwy Raglen Datblygu Gwledig (CDG) yr Undeb Ewropeaidd. Wrth i'r DU adael yr UE, mae'r gefnogaeth hon yn dod i ben, ac mae Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu dull gwirioneddol Gymreig o gefnogi'r economi wledig.
Mae’r gweithgarwch drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod yn helaeth, amrywiol a llwyddiannus. Mae'r digwyddiad hwn, sy'n cynnwys nifer o siaradwyr ac arddangosfeydd, yn rhoi cyfle i gydnabod a chanmol gwaith pobl.
Mae cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig wedi cefnogi prosiect ym Mae Caswell ym Mhenrhyn Gŵyr i helpu i wneud y traeth yn fwy hygyrch, cynhwysol a chroesawgar i'r rhai ag anableddau corfforol a dysgu.
Mae'r cymorth wedi helpu i greu cyfleusterau newydd sy'n cynnwys uned hunangynhwysol, gyda theclyn codi, cawod a gwely newid a dyma'r cyfleuster Lleoedd Newid cyntaf ym Mhenrhyn Gŵyr.
Mae'r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth i filoedd o drigolion ac ymwelwyr ag anableddau difrifol, sydd bellach â mynediad ac sy'n gallu mwynhau'r dyfroedd ym Mae Caswell a chael profiad urddasol wrth newid a golchi mewn cyfleuster sy'n addas i'r diben ac sy'n diwallu eu hanghenion a'u gofynion cymhleth.
Yn Wrecsam, cefnogodd y Cynllun Datblygu Gwledig Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i gychwyn y prosiect 'Mae bioamrywiaeth yn golygu busnes'. Drwy ddull cydweithredol sy'n cynnwys busnesau, tirfeddianwyr, ffermwyr a grwpiau cymunedol, mae'r cynllun wedi helpu i ddiogelu a gwella ecosystemau, cynefinoedd a rhywogaethau.
Dywedodd Adrian Lloyd Jones, Rheolwr Tirweddau Byw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:
Rwy'n falch iawn o wylio'r bartneriaeth unigryw rhwng agweddau diwydiannol ac ecolegol yr ardal hon yn cryfhau o ddydd i ddydd. Er bod angen sylfaen gadarn ar fusnes i dyfu, felly hefyd ecosystemau.
Mae'r prosiect hwn, gyda busnes a chadwraeth yn gweithio gyda'i gilydd, wedi rhoi yn ôl i natur ac wedi caniatáu pob math o fywyd, boed yn ddynol, yn fflora neu'n ffawna, i elwa a ffynnu, gan wneud bywyd yn well i genedlaethau'r dyfodol.
Ar ddechrau rhaglen y Cynllun Datblygu Gwledig, aeth Llywodraeth Cymru ati i hybu cynhyrchiant y sectorau ffermio, coedwigaeth a bwyd. Hyd yma, mae hyn wedi helpu i greu bron i 2,400 o swyddi newydd a diogelu mwy na 2,150.
Y nod hefyd oedd creu 34,000 o leoedd hyfforddi i feithrin arloesedd, trosglwyddo gwybodaeth, cydweithredu, arferion ffermio mwy cynaliadwy a busnesau gwledig cryfach. Mae hyn bron wedi treblu, gyda dros 90,000 o bobl wedi'u hyfforddi drwy Cyswllt Ffermio, canolfannau bwyd a chymorth i'r sector coed.
Cyn digwyddiad Dathlu Cymru Wledig, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths:
Mae ein cymunedau gwledig yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd Cymru ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo.
Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi ein helpu i ddiogelu ac adfer miloedd o hectarau o'n cynefinoedd ac rydym hefyd yn gweld bioamrywiaeth yn ein glaswelltiroedd yn dechrau sefydlogi ac, mewn rhai ardaloedd, yn gwella.
Ni fyddai wedi bod yn bosibl gwneud hyn i gyd a mwy heb ymrwymiad a phenderfyniad ffermwyr Cymru, tirfeddianwyr a'r gweithlu gwledig.
Rydym yn wynebu nifer o heriau wrth i effeithiau'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, y cytundebau masnach rydd dilynol, pandemig Covid-19 a nawr y gwrthdaro yn yr Wcráin gael eu teimlo'n gyffredinol.
Rydym yn ddiolchgar i'r Undeb Ewropeaidd am eu cefnogaeth, a rhaid i ni adeiladu ar ein llwyddiannau drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig wrth i ni ddatblygu dull Cymreig pwrpasol i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.
Ym mis Ebrill, cyhoeddais £227m cychwynnol dros y tair blynedd nesaf i gefnogi ein heconomi wledig. Dim ond y dechrau yw hyn a gwyddom fod angen gwneud mwy, a darperir cymorth pellach wrth i ni symud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac adeiladu economi werdd newydd sy'n ymateb i argyfyngau natur a hinsawdd
Mae cydweithio wedi bod yn gryfder gwirioneddol erioed ar draws ein cymunedau a'n sectorau gwledig. Bydd hyn ond yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ni gyflawni tuag at yr heriau a'r cyfleoedd sydd o’n blaenau.