Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut ydych chi wedi cymhwyso/ fyddwch chi’n cymhwyso’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r cam gweithredu arfaethedig, drwy gydol y polisi a’r cylch cyflawni?

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 yn cynnwys yr ymrwymiad i “adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu”.

Cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, ddatganiad ysgrifenedig ar 14 Mehefin 2021. Roedd y datganiad yn nodi’r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Mae’r datganiad hefyd yn nodi y bydd y targed yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gartrefi sy’n cael eu rhentu gan landlordiaid cymdeithasol. Cadarnhaodd y datganiad y bydd y targed yn cael ei ddiffinio o fewn diffiniad cydnabyddedig Nodyn Cyngor Technegol 2 o dai fforddiadwy. Fodd bynnag dim ond cartrefi cymdeithasol i'w rhentu, tai canolradd i'w rhentu a chynlluniau rhanberchenogaeth fydd yn cael eu cynnwys.

Cadarnhaodd hefyd fod yr opsiwn o ddiwallu'r angen uniongyrchol am dai trwy gaffael yn bwysig ac yn parhau lle bo'n briodol. Er y bydd mwyafrif helaeth o’r targed yn ymwneud â darparu cartrefi newydd, bydd caffaeliadau yn cyfrannu at y targed tai.

Mae symud i ganolbwyntio'r targed yn benodol ar dai i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn heriol. Mae’r targed ar gyfer tai cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i’r amcangyfrifon blynyddol o ran anghenion am dai ychwanegol a nodir yn Amcangyfrifon Llywodraeth Cymru o'r Angen Ychwanegol am Dai yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020.

Er bod y cymorth sydd ar gael ar gyfer tai’r farchnad agored drwy nifer o raglenni Llywodraeth Cymru (gan gynnwys Cymorth i Brynu Cymru a Chymorth Prynu Cymru) yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r gyfres o gefnogaeth i’r rheini sy’n dymuno bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, nid yw’n cyfrannu at gyrraedd y targed.

Mae ystadegau diweddaraf y Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy, a gyhoeddwyd ar 21 Rhagfyr 2021, yn dangos bod 3,603 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu ledled Cymru yn 2020-21. Mae hyn yn gynnydd o 22% (661 o gartrefi) ar y flwyddyn flaenorol a ffigur 2020-21 yw’r cyfanswm blynyddol uchaf hyd yma. Cyfartaledd blynyddol tai fforddiadwy ychwanegol y Nodyn Cyngor Technegol 2 ar gyfer tymor olaf y llywodraeth yw 2,800. Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys tai fforddiadwy ychwanegol heb elfen o rentu. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol cyntaf yn adrodd ar gynnydd tuag at gyrraedd y targed hwn ym mis Chwefror 2023. Dangosodd y datganiad fod 2,676 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu ledled Cymru yn 2021-22, y trydydd ffigur uchaf a gofnodwyd erioed o ran darparu.  

Er mwyn cefnogi'r broses ffurfiol o gasglu data, ymgymerir â chasgliad anffurfiol bob blwyddyn trwy ffurflenni data'r arolwg rheoli datblygu. Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) ac Awdurdodau Lleol (ALlau) yn darparu amcanestyniadau blynyddol ar gyfer nifer y cartrefi y maent yn disgwyl eu darparu. Er bod yr amcanestyniadau hyn yn arwydd tuag at gyrraedd y targed, ceir rhywfaint o anghywirdeb ynddynt.

Yn 2021-22, dyrannodd Llywodraeth Cymru gyllideb sylweddol o £250m i’r Grant Tai Cymdeithasol, roedd hyn yn ddwbl y gyllideb yn 2020-21 er mwyn cefnogi’r gwaith o gyrraedd y targed ar gyfer Tai yn uniongyrchol. Mae angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol a pharhaus drwy'r Grant Tai Cymdeithasol i gyrraedd y targed. Mae’r lefelau uchaf erioed o gyllid hefyd wedi’u pennu drwy’r gyllideb yn y flwyddyn gyfredol hon (2022-23) gyda £300m a dyraniadau cyllideb drafft dangosol o £330m yn 2023-24 a £325m yn 2024-25.

Mae heriau sylweddol yn wynebu’r sector tai sy’n effeithio ar ddarparu tai fforddiadwy, ond mae gweithredu ar y cyd parhaus ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a’r sector tai er mwyn rhyddhau safleoedd a bwrw ymlaen â datblygiadau mewn modd sydd wedi’i reoli a’i flaenoriaethu. Er ein bod yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd, mae caffael yn bwysig wrth helpu i ddiwallu anghenion ein grwpiau sydd fwyaf agored i niwed. Rydym yn cefnogi amrywiaeth o fentrau a fydd yn darparu mwy o gartrefi tuag at y targed o 20,000 o gartrefi, gan gynnwys caffael eiddo, ailfodelu llety presennol, trosi adeiladau yn llety o ansawdd da, a’r defnydd arloesol o ddulliau modern o adeiladu a llety modiwlaidd.

Cefnogir y targed tai gan drefniadau llywodraethu clir gan gynnwys Grŵp Llywio a Bwrdd Rhaglen. Cefnogir y targed hefyd trwy gytundeb ffurfiol gyda chynrychiolwyr allweddol o’r sector tai. Mae Cytundeb Tai 2021-26 yn y broses o gael ei ddatblygu a bydd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru / Gweinidogion Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cydweithio i gyrraedd y targed. 

Adran 8: Casgliad

8.1 Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o’i ddatblygu?

Bydd y targed ar gyfer tai cymdeithasol yn effeithio'n uniongyrchol ar unigolion a theuluoedd sydd angen tai. Bydd yn ceisio darparu tai o ansawdd da sy'n diwallu eu hanghenion yn awr ac yn y dyfodol. Er bod y targed yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fydd yn darparu’r cartrefi. Felly cyfrifoldeb y rhai sy’n darparu’r cartrefi, a’r adran gynllunio leol drwy’r cynllun datblygu lleol a’r broses gynllunio, yw sicrhau bod unigolion yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol lle bo hynny’n bosib. 

8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol?

Bydd darparu cartrefi cymdeithasol wrth gyrraedd y targed yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr unigolion sydd angen tai. Bydd yn darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da i rai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

8.3 O ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn:

  • cyfrannu i’r eithaf tuag at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bwriad y targed newydd yw darparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. Bydd yn darparu tai ychwanegol ar gyfer unigolion a theuluoedd sydd fwyaf anghenus. Bydd hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at yr amcanion llesiant a’r saith nod llesiant fel a ganlyn:

  • Cymru Iewyrchus;

Mae adeiladu tai yn cyfrannu at economïau lleol, gan greu a chefnogi swyddi, cyfleoedd hyfforddi a chadwyni cyflenwi datblygu tai.

  • Cymru gydnerth;

Bydd tai a’r targed o 20,000 yn darparu cartrefi i’r rhai sydd fwyaf anghenus yng Nghymru. Awdurdodau lleol fydd yn ymgymryd â phennu lleoliad ac angen drwy'r broses Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA). Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â'u cymunedau lleol i asesu angen.

  • Cymru iachach;

Mae manteision clir o ran iechyd, iechyd meddwl a lles o gael cartref o ansawdd da sy’n addas i anghenion unigolyn a theuluoedd.

  • Cymru sy’n fwy cyfartal;

Bydd y targed ar gyfer tai cymdeithasol yn darparu mwy o gartrefi i'r rhai mwyaf anghenus. Gwyddom mai’r rhai sydd fwyaf agored i niwed ac ar ben isaf y raddfa economaidd-gymdeithasol fydd fel arfer yn breswylwyr tai cymdeithasol. Mae’n hanfodol felly bod mwy o dai cymdeithasol o ansawdd da yn cael eu darparu ledled Cymru.

  • Cymru o gymunedau cydlynus;

Bydd darparu tai cymdeithasol ychwanegol yn sicrhau bod cartrefi o ansawdd da yn cael eu darparu ar gyfer y rhai mwyaf anghenus. Bydd yn rhaid i unrhyw gartrefi ychwanegol gadw at ddyraniadau cynllunio a chynlluniau datblygu lleol i sicrhau bod datblygiadau'n cael eu hadeiladu gyda chymunedau cydlynus mewn golwg.

  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu;

Gwyddom fod angen tai cymdeithasol ar draws Cymru gyfan gan gynnwys o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Gwyddom na fydd pob cymuned yn wynebu’r un heriau a gofynion o ran tai. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu cartrefi i ymateb i’r angen lleol am dai yn eu hardaloedd.

8.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?

Bydd y cynnydd tuag at gyrraedd y targed o 20,000 yn cael ei fonitro drwy ystadegau’r Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol cyntaf yn adrodd ar gynnydd tuag at gyrraedd y targed hwn ym mis Chwefror 2023. Dangosodd y datganiad fod 2,676 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu ledled Cymru yn 2021-22, y trydydd ffigur uchaf a gofnodwyd erioed o ran darparu.   Mae heriau sylweddol yn wynebu’r sector tai sy’n effeithio ar ddarparu tai fforddiadwy, ond mae gweithredu ar y cyd parhaus ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a’r sector tai er mwyn rhyddhau safleoedd a bwrw ymlaen â datblygiadau mewn modd sydd wedi’i reoli a’i flaenoriaethu. Er ein bod yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd, mae caffael yn bwysig wrth helpu i ddiwallu anghenion ein grwpiau sydd fwyaf agored i niwed. Rydym yn cefnogi amrywiaeth o fentrau a fydd yn darparu mwy o gartrefi tuag at y targed o 20,000 o gartrefi, gan gynnwys caffael eiddo, ailfodelu llety presennol, trosi adeiladau yn llety o ansawdd da, a’r defnydd arloesol o ddulliau modern o adeiladu a llety modiwlaidd.

Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r sector i ddeall ystadegau anffurfiol yn ystod Ebrill / Mai bob blwyddyn er mwyn deall y sefyllfa o ran cyrraedd y targed, gan gynnwys y wybodaeth a ddarperir trwy'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.

Cefnogir y targed hefyd drwy drefniadau llywodraethu ffurfiol, gan gynnwys bwrdd rhaglen, grŵp llywio a dogfennaeth llywodraethu priodol.