Neidio i'r prif gynnwy

Mae adeilad yn Nghasnewydd sy'n berchen i Lywodraeth Cymru bellach yn gartrefi i rai o gwmnïau technegol mwyaf a gorau y byd, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd yr adeilad 750,000 tr sg yng Nghasnewydd ei adeiladu yn gyntaf yn benodol ar gyfer saernïo haenellau. Roedd ei natur arbenigol yn golygu ei fod yn adeilad anodd iawn i'w osod neu ei werthu, a olygodd ei fod wedi bod yn wag am sawl blwyddyn.

Fodd bynnag, ddeng mlynedd yn ôl, aeth Llywodraeth Cymru i gytundeb lesio gyda Next Generation Data i ddatblygu'r adeilad yn ganolfan ddata - ateb arloesol sydd wedi bod yn hynod llwyddiannus, gyda chwmnïau fel BT, IBM a Nokia bellach yn gweithio ar y safle.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae'r adeilad hwn yn llwyddiant mawr i NGD a Llywodraeth Cymru, gan eu bod wedi gallu troi adeilad oedd yn anodd i'w osod yn rhywbeth arbennig iawn a llwyddiannus yn economaidd.

"Gan weithio ochr yn ochr â Next Generation Data, mae hwn bellach yn safle canolfan ddata fodern sy'n rhoi'r gallu a'r hyblygrwydd i fodloni anghenion penodol ei chwsmeriaid gyda lle gwych, pŵer a'r gallu i oeri. I gwsmeriaid bach a mawr, golyga hyn bod y safle yn cynnig yr arbedion maint gorau, cyfleusterau eang i gwsmeriaid a chapasiti gwych ar gyfer twf.

"Mae ei weld bellach yn gartref i rai o'r darparwyr technoleg a TG gorau yn y byd, gyda mwy ar y ffordd yn wych, ac mae'r rhagolygon yn wych wrth inni geisio sicrhau bod gan ein heconomi y dechnoleg a'r arloesedd sydd ei angen i sicrhau ein twf a'n llewyrch parhaus."

Mae Next Generation Data yn rhoi atebion i gleientiaid sydd angen defnyddio cwmwl, neuaddau data preifat neu leoliad ar y cyd. Mae ar gael i sefydliadau mawr sydd angen neuaddau data pwrpasol wedi'u hadeiladu i'r safonau uchaf, yn ogystal â gofynion llai ar gyfer lleoliad ar y cyd wedi'u hadeiladu'n barod. Mae'r safle NGD yn ganolfan data hynod ddiogel sy'n addas at y dyfodol o ganlyniad i'r dull o adeiladu modiwlar a ddefnyddiwyd.

Fel cyfleuster mwyaf Ewrop, mae gan NGD bosibiliadau enfawr o ran twf ac mae ei ddull hyblyg yn caniatáu iddo adeiladu bron unrhyw gynllun.

Dywedodd Justin Jenkins, Rheolwr Gyfarwyddwr NGD: 

"Mae NGD wedi elwa erioed o gymorth Llywodraeth Cymru o ddechrau ein busnes 10 mlynedd yn ôl pan brynwyd y safle presennol, cyn safle gwaith lled-ddargludyddion. Dros y blynyddoedd mae NGD wedi buddsoddi miloedd o bunnoedd - dros £40 miliwn eleni - i drawsnewid y ganolfan yn ganolfan ddata fwyaf Ewrop, gan lwyddo i ddenu rhai o gwmnïau mwyaf y byd i'r rhanbarth.

"Ar yr un pryd, rydym yn cynnig cyflogaeth yn ogystal â gwaith rheolaidd i gannoedd o gontractwyr, tra'r ydym hefyd yn cynnig gwasanaeth TG i nifer cynyddol o fusnesau lleol sy'n datblygu'n gyflym."