Gweithwyr Addysgol Gogledd Cymru yn ennill yn y Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2024.
Mae enillwyr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, rhai o addysgwyr mwyaf ysbrydoledig gogledd Cymru, wedi eu cyhoeddi yn y chweched seremoni o’i bath.
Datgelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, enillwyr y deg categori mewn seremoni arbennig yn Neuadd Soughton yn Yr Wyddgrug, ar Ddydd Sul, Gorffennaf 14, a hynny o restr hir o saith ar hugain o addysgwyr proffesiynol a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol.
Am y tro cyntaf, roedd y gwobrau addysgu ar agor i golegau yn ogystal ag ysgolion.
Dr Gareth Evans, o Ysgol y Creuddyn yn Llandudno, wnaeth gipio’r wobr ar gyfer ‘Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd’.
Caiff ei ddisgrifio fel arloeswr yn ei faes. Mae’n athro mathemateg gwych sy’n angerddol dros ei bwnc.
Mae ef wir yn fodel rôl yn ei waith, a chafodd hyn ei arddangos yn glir yn yr edmygedd amlwg a’r cariad mae’n ei greu ac yn ysbrydoli ym mhob un sy’n gweithio gydag ef ac sy’n cael ei ddysgu ganddo. Dywedodd ei gydweithwyr: “Mae e’n angerddol dros sicrhau’r gorau posib i’w ddisgyblion.
Gwobrwywyd dim ond ail enillydd erioed Gwobr Betty Campbell (MBE) am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, gwobr a gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 2022.
Eleni, Amy Grimward o Ysgol Aberconwy yng Nghonwy oedd yr enillydd, wedi’i chydnabod am ei gweledigaeth hirdymor ar wrth-hiliaeth a’i gwaith gyda’i chydweithwyr i ddatblygu dull dad-drefedigaethol o ymdrin â’r cwricwlwm.
Dywedodd un o’i dysgwyr: “Mae popeth rydyn ni wedi dysgu gan Amy wedi fy ngwneud yn well person.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS:
Mae safon yr enwebiadau yn parhau i fod yn eithriadol o uchel ac yn dangos y cyfoeth o arloesi a thalent sydd yma yng Nghymru.
Gofynnom i rieni a gofalwyr, dysgwyr, athrawon, darlithwyr, cydweithwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol, ledled Cymru, i enwebu gweithwyr addysg proffesiynol ysbrydoledig, ac eleni, cawsom fwy o enwebiadau nag erioed.
Mae ein beirniaid wedi eu hysbrydoli gan eu hymweliadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru drwy gydol y broses yma.
O ysgolion cynradd ac ysgolion coedwig, i ysgolion uwchradd a cholegau, mae ymarferwyr addysg yn cael dylanwad enfawr ar bob cam o fywydau dysgwyr.
Llongyfarchiadau i bob un o’r enwebeion ac yn enwedig i’r enillwyr ar eich llwyddiannau ac am eich ymroddiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddinasyddion Cymreig.
Enillwyr y Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2024
Athro’r Flwyddyn Mewn Ysgol Gynradd
Rhian Thomas, Catwg Primary School, Castell-nedd
Defnyddio’r Gymraeg mewn modd sy’n ysbrydoli
Alex Davies, Ysgol Black Lane, Wrecsam
Athro newydd Eithriadol
Hannah Jones, Ysgol Tŷ Ffynnon, Shotton
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
Jo Wyatt, Ysgol Bryn Gwalia, Yr Wyddgrug
Darlithydd y Flwyddyn (categori newydd)
Katie Davies, Coleg Penybont, Penybont
Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd
Dr Gareth Evans, Ysgol y Creuddyn, Llandudno
Gwobr Betty Campbell (MBE) am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leifrifol
Amy Grimward, Ysgol Aberconwy, Conwy
Pennaeth y Flwyddyn
Richard Owen, Ysgol Idris Davies, Tredegar
Ymgysylltiad Dysgwyr yn yr Ysgol/Coleg (categori newydd)
Tîm Ysbrydoli i Gyflawni, Coleg Merthyr Tudful
Gwobr y Dysgwyr am yr Athro/Darlithydd Gorau
Rhian Evans, Coleg Gwŷr, Abertawe
Mwy o wybodaeth
I weld yr holl restr o enwebeion ac enillwyr, ewch i: Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru
Ymunwch â’r sgwrs drwy ddefnyddio #GwobrauAddysguCymru2024 a dilynwch @LlC_Addysg