Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Data Cyfrifiad 2021 ar lefel cymwysterau uchaf plant ysgol, myfyrwyr ac eraill mewn addysg amser llawn yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi Addysg yng Nghymru a Lloegr: Cyfrifiad 2022. Mae'r bwletin ystadegol hwn yn crynhoi'r data ar gyfer Cymru. Mae'n cynnwys amcangyfrifon o ganran y boblogaeth 16 oed ac yn hŷn sydd wedi cael cymwysterau academaidd, galwedigaethol, neu broffesiynol, yn ogystal â nifer y plant ysgol a myfyrwyr amser llawn.
Prif bwyntiau
- Roedd 588,000 o blant ysgol a myfyrwyr mewn addysg amser llawn (5 oed a throsodd) yng Nghymru ar ddiwrnod y cyfrifiad. Mae hyn yn cynrychioli 19.9% o'r preswylwyr arferol 5 oed a throsodd.
- Nododd 31.5% (807,000) o breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn yng Nghymru fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch (er enghraifft Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor a chymwysterau ôl-raddedig).
- Nid oedd gan 19.9% (510,000) o breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn yng Nghymru unrhyw gymwysterau tra bod 5.6% (143,000) wedi nodi prentisiaeth fel eu cymhwyster uchaf.
Plant ysgol a myfyrwyr amser llawn
Roedd 588,000 o blant ysgol a myfyrwyr mewn addysg amser llawn (5 oed a throsodd) yng Nghymru ar ddiwrnod y cyfrifiad. Mae hyn yn cynrychioli 19.9% o'r preswylwyr arferol 5 oed a throsodd. O'i gymharu â 2011, cynyddodd cyfanswm nifer y plant ysgol a myfyrwyr amser llawn yng Nghymru o 7,000. Fodd bynnag, fel cyfran o'r boblogaeth roedd gostyngiad bach o ffigur o 20.1% o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd yn 2011 (gostyngiad o 0.2 pwynt canran). Yn Lloegr roedd y gyfran yn 20.4% yn 2021, i lawr ychydig bach o 20.5% yn 2011.
Roedd canran y preswylwyr arferol 5 oed a throsodd a oedd yn blant ysgol neu'n fyfyrwyr mewn addysg amser llawn yn amrywio o 27.6% yng Nghaerdydd i 15.5% ym Mhowys. Roedd gostyngiad yn y gyfran yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol o'i gymharu â 2011, ond gwelwyd cynnydd mewn 5 awdurdod lleol. Roedd y cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd lle cynyddodd y gyfran 1.8 pwynt canran i 27.6%. Yng Ngheredigion y gwelwyd y gostyngiad mwyaf o gymharu â 2011, i lawr 3.8 pwynt canran i 22.5%.
Ffigur 1: Canran y plant ysgol a myfyrwyr amser llawn (5 oed a throsodd) yn 2021, yn ôl awdurdod lleol
Mae’r siart bar yn dangos bod cyfran y plant ysgol a’r myfyrwyr amser llawn yn amrywio ar draws yr awdurdodau lleol o 27.6% yng Nghaerdydd i 15.5% ym Mhowys.
Lefel y cymhwyster uchaf a gafwyd
Gofynnwyd i breswylwyr arferol 16 oed neu throsodd yng Nghymru gofnodi unrhyw gymwysterau (gan gynnwys cymwysterau academaidd, galwedigaethol, a phroffesiynol) a gyflawnwyd ganddynt erioed yng Nghymru neu rywle arall, hyd yn oed os nad oeddent yn eu defnyddio nawr. Gellir defnyddio hyn i gyfrifo lefel y cymhwyster uchaf drwy ddefnyddio'r categorïau a ganlyn.
- Dim cymwysterau: Dim cymwysterau ffurfiol.
- Lefel 1: 1 i 4 TGAU (h.y. gradd A* i C neu radd 4 ac uwch) ac unrhyw TGAU eraill ar raddau eraill, Bagloriaeth Cymru Sylfaen, neu gymwysterau cyfatebol.
- Lefel 2: 5 TGAU neu fwy (h.y. gradd A* i C neu radd 4 ac uwch), Bagloriaeth Cymru Canolradd, neu gymwysterau cyfatebol.
- Prentisiaethau
- Lefel 3: 2 Safon Uwch neu fwy, Bagloriaeth Cymru Uwch, neu gymwysterau cyfatebol.
- Lefel 4 neu uwch: Tystysgrif Cenedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor, neu gymwysterau ôl-raddedig
- Cymwysterau eraill, o lefel anhysbys.
O'r cyfanswm o 2.6 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru, nododd 807,000 (31.5%) fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch. Nid oedd gan 19.9% (510,000) unrhyw gymwysterau. Nododd 17.2% (441,000) fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 3, nododd 14.4% (367,000) fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 2 a nododd 8.7% (223,000) fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 1.
Prentisiaethau oedd cymhwyster uchaf 5.6% (143,000) o’r preswylwyr arferol 16 oed ac yn hŷn. Roedd cymwysterau eraill yn cyfrif am y 2.7% sy'n weddill (69,000).
Nododd cyfran uwch o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn Lloegr fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch (33.9%, 15.6 miliwn) o gymharu â Chymru (31.5%, 807,000). Nododd cyfran uwch nad oed ganddynt unrhyw gymwysterau yng Nghymru (19.9%, 510,000) nag yn Lloegr (18.1%, 8.3 miliwn).
Er bod modd cymharu lefel y cymhwyster uchaf yn fras rhwng 2011 a 2021, ceir cafeatau. Mae'r categorïau wedi aros yr un fath ag yr oeddent yn 2011 ac wedi’u pennu yn yr un modd. Fodd bynnag, mae’r ffordd y strwythurwyd y cwestiynau wedi newid yn sylweddol ers 2011. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr wybodaeth a gyhoeddwyd gan yr ONS ar ddatblygu’r cwestiwn am gymwysterau ar gyfer Cyfrifiad 2021. Mae'r newidiadau hyn i'r fethodoleg gasglu yn golygu y bydd cyfran resymol o'r ymatebwyr wedi nodi lefel wahanol o gymhwyster nag y gwnaethant yn 2011, er eu bod yn dal i fod â'r un cymwysterau. Felly, bydd unrhyw newid yn lefelau cymwysterau o'i gymharu â 2011 yn rhannol o ganlyniad i'r newidiadau i’r fethodoleg ac yn rhannol yn arwydd o newid gwirioneddol. O'r herwydd, dylid dehongli newidiadau yn ofalus a dylai defnyddwyr osgoi dod i gasgliadau arnynt neu eu defnyddio i lywio prosesau cynllunio neu werthuso polisïau. Mae data 2011 wedi'i gynnwys yn ffigyrau 2, 3 a 4 at ddibenion cyfeirio yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau rheolaidd am lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio yng Nghymru, sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Nid oes modd cymharu'r ystadegau hyn yn uniongyrchol â'r rhai a gyflwynir yn y bwletin hwn ond maent yn golygu bod modd gwneud cymariaethau dros amser.
Er bod materion cymharu rhwng data Cyfrifiad 2011 a 2021, mae'r duedd gyffredinol o gynnydd yn lefelau cymwysterau, a gostyngiad cyfatebol mewn unigolion sy'n dal dim cymwysterau, hefyd yn cael ei weld yn yr ystadegau sy'n deillio o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol.
Ffigur 2: Lefel y cymhwyster uchaf a gafwyd, 2011 a 2021
Mae'r siart bar yn dangos yr ymateb mwyaf cyffredin yn 2021 oedd cymhwyster Lefel 4 ac uwch, ac yna dim cymwysterau.
Lefel y cymhwyster uchaf a gafwyd yn ôl awdurdod lleol
Cymwysterau Lefel 4 neu uwch
Yr awdurdodau lleol â’r gyfran uchaf o ymatebwyr a nododd fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch oedd Caerdydd (40.0%) a Sir Fynwy (39.4%). Yr awdurdodau lleol â’r gyfran isaf oedd Blaenau Gwent (21.6%) a Merthyr Tudful (25.0%).
Ffigur 3: Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yr oedd eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch, yn ôl awdurdod lleol, 2011 a 2021
Mae cyfran yr ymatebwyr â chymhwyster lefel 4 ac uwch yn amrywio ar draws yr awdurdodau lleol.
Dim cymwysterau
Yr awdurdodau lleol â'r gyfran fwyaf o breswylwyr heb unrhyw gymwysterau oedd Blaenau Gwent (27.9%) a Merthyr Tudful (26.9%). Ceredigion (14.7%) a Bro Morgannwg (15.6%) oedd â'r gyfran isaf o ymatebwyr â dim cymwysterau.
Ffigwr 4: Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd sydd heb unrhyw gymwysterau, yn ôl awdurdod lleol, 2011 a 2021
Mae cyfran yr ymatebwyr heb gymwysterau yn amrywio ar draws yr awdurdodau lleol.
Prentisiaethau
Yn Sir y Fflint ac Ynys Môn (6.6% ar gyfer y naill a'r llall) oedd y gyfran fwyaf o ymatebwyr a nododd mai prentisiaeth oedd lefel eu cymhwyster uchaf. Roedd y gyfran isaf yng Nghaerdydd (3.9%), ac wedyn Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Chasnewydd (5.1% i gyd).
Sgôr mynegai cymwysterau
Mae’r sgôr mynegai ar gyfer lefel y cymhwyster uchaf yn fesur cryno y gellir ei ddefnyddio i gymharu pa mor gymwysedig yw grwpiau o’r boblogaeth. Mae'n rhoi gwerth i bob unigolyn 16 oed a throsodd yn seiliedig ar lefel eu cymhwyster uchaf, ac eithrio'r rhai nad oedd lefel eu cymhwyster uchaf yn hysbys. Y sgôr mynegai wedyn yw gwerth cyfartalog pob unigolyn yn yr ardal ddethol, gyda sgôr uwch yn arwydd o boblogaeth â chymwysterau uwch. Dylid defnyddio’r sgôr mynegai cymwysterau ochr yn ochr â chanran y bobl yn yr ardal a nododd bob un o'r gwahanol gategorïau o gymwysterau uchaf er mwyn cael y darlun llawn. Mae bwletin ystadegol yr SYG Addysg yng Nghymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 yn cynnwys esboniad mwy llawn o sut y cyfrifir y sgôr mynegai cymwysterau.
Ffigur 5: Sgôr mynegai cymwysterau, yn ôl awdurdod lleol, 2021
Mae’r map yn dangos amrywiaeth yn y sgôr mynegai cymwysterau. Gwelir sgoriau uwch yn rhai ardaloedd o’r de-ddwyrain a’r gorllewin, gyda sgoriau is yn ardal cymoedd y de.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Am wybodaeth ansawdd a methodoleg lawn ewch i adroddiad gwybodaeth ansawdd a methodoleg yr SYG.
Bydd data a dadansoddiad mwy manwl o addysg yn cael ei gyhoeddi gan yr ONS yn y misoedd nesaf, ochr yn ochr â rhyddhau data amlamryweb. Bydd hyn yn galluogi dadansoddi newidynnau addysg yn ôl newidynnau eraill y cyfrifiad, megis oedran, rhyw a'r farchnad lafur. Darllenwch fwy am gynlluniau dadansoddi addysg yr SYG a'i gynlluniau rhyddhau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (y Swyddfa Ystadegau Gwladol) yn fwy cyffredinol.
Mae'r Cyfrifiad yn cyfrif myfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Roedd peth tystiolaeth o newidiadau i'r boblogaeth yn ystod y tymor yn deillio o'r pandemig coronafeirws. Darllenwch fwy am sut y sicrhaodd yr SYG amcangyfrif cywir o fyfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor.
Talgrynnu
Mae'r ffigurau a ddyfynnwyd yn y bwletin hwn wedi’u talgrynnu i'r mil agosaf. Dyfynnir canrannau a newidiadau pwynt canran i un lle degol ac fe'u cyfrifir ar sail ffigurau heb eu talgrynnu.
Cymariaethau â data Cyfrifiad 2011
Cyhoeddwyd data Cyfrifiad 2011 ar blant ysgol a myfyrwyr amser llawn ar sail y rhai sy'n 4 oed a throsodd. Lle gwnaed cymariaethau gyda 2011 yn y bwletin hwn, mae ffigurau 2011 wedi’u hailgyfrif ar sail y rhai 5 oed a throsodd.
Mae problemau o ran cymharu data ar lefel y cymwysterau uchaf rhwng Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011. Caiff y rhain eu hesbonio yn yr adran sy'n cyflwyno ystadegau ar lefel y cymhwyster uchaf a gafwyd.
Cymharu â ffynonellau data eraill
Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ystadegau rheolaidd am lefelau’r cymhwyster uchaf sydd gan oedolion o oedran gweithio yng Nghymru, sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Nid oes modd cymharu'r ystadegau hynny’n uniongyrchol â'r rhai a gyflwynir yn y bwletin hwn. Yn ogystal â'r dulliau gwahanol o gasglu data, mae ystadegau rheolaidd Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) tra bod y rhai a gyflwynir yma wedi'u seilio ar bob preswylydd arferol 16 oed a hŷn.
Mae'r dangosydd cenedlaethol, a'r cerrig milltir cenedlaethol cysylltiedig, sy'n seiliedig ar lefelau cymwysterau yn deillio o ystadegau rheolaidd Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae mwy o wybodaeth am y dangosydd a'r cerrig milltir cenedlaethol yn yr adran ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Ceir dangosydd cenedlaethol sy’n seiliedig ar lefelau cymwysterau, sef:
- (8) Y ganran o’r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Mae dwy garreg filltir genedlaethol sy'n gysylltiedig â'r dangosydd hwn:
- bydd gan 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau ar lefel 3 neu uwch erbyn 2050
- bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050
Mae'r ddau yma n cael eu mesur gan ddefnyddio ystadegau rheolaidd Llywodraeth Cymru sy’n seiliedig ar oedolion oedran gweithio (rhwng 18 a 64 oed). Ni ddylid defnyddio'r ystadegau ar lefelau cymwysterau uchaf a gyflwynir yn y bwletin hwn (ar sail preswylwyr arferol 16 oed a throsodd) i fesur cynnydd yn erbyn y dangosydd cenedlaethol na'r cerrig milltir cenedlaethol.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Jonathan Ackland
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 3/2023