Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Araith Lansio'r Genhadaeth Genedlaethol
Cyflwyniad
Noswaith dda bawb. Diolch i bob un ohonoch am roi o'ch amser i fod yma heno.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn bersonol i'n harweinydd am y noson, Owen Evans.
Fel y bydd sawl un ohonoch o bosibl yn ymwybodol, dyma un o ddigwyddiadau cyhoeddus olaf Owen yn ei wythnos diwethaf fel Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, cyn iddo ymuno ag S4C fel Prif Weithredwr.
Yn bersonol, ers i mi ymuno â'r Llywodraeth, bu ei gyngor doeth, ei agwedd benderfynol a'i ddull gweithredu cyson gadarnhaol hyd yn oed wrth wynebu'r materion mwyaf heriol o fudd mawr i mi.
Ac mae bob amser yn barod i argymell bwyty da neu rywle da i ymweld ag ef – hyd yn oed os yw hynny'n cynnwys lleoliadau cerddoriaeth metel trwm o Aberystwyth i Helsinki!
O ddifrif, mae wedi goruchwylio llawer o newidiadau yn y byd addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd colled mawr ar ei ôl. Diolch, Owen.
Cydweithio
Ym maes addysg yng Nghymru, rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn.
Mae'r arbenigwyr byd-eang ar berfformiad addysg, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wedi cydnabod yn ddiweddar fod y llywodraeth a'r sector yn gweithio'n agos gyda'i gilydd. A bod ymrwymiad i wella i'w weld ar bob lefel o'r system addysg.
Felly, nid dogfen a ddyfeisiwyd mewn swyddfa gefn rywle ym Mharc Cathays yw ein cynllun gweithredu - Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol.
Canlyniad bod yn agored i syniadau, adborth ac adolygu ydyw.
- Mae'r gymuned ryngwladol o arbenigwyr, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn helpu i lunio gweithgareddau datblygu arweinyddiaeth, ein ffocws ar lesiant a chyfleoedd dysgu proffesiynol;
- Mae ein harloeswyr yn gweithio mewn partneriaeth ar y cwricwlwm ac yn cymryd camau breision ym maes cymhwysedd digidol;
- Mae ein partneriaid yn Estyn, yr Undebau, y Consortia, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gwneud cyfraniadau hollbwysig at system hunanwella wirioneddol;
- Ac yn bwysicaf oll, mae rhieni a dysgwyr eu hunain, ynghyd ag athrawon, yn mynnu'r gorau posibl o'n system addysg.
Dyna pam rydym yn disgrifio'r diwygiadau addysg hyn fel cenhadaeth genedlaethol.
Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system sy'n destun balchder cenedlaethol gwirioneddol a hyder y cyhoedd.
Rhaid i ysgolion baratoi ein pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt wedi cael eu creu eto a heriau nad ydym yn eu hwynebu eto.
A dweud y gwir - ar lefel dysgwr, lefel ysgolion ac ar lefel genedlaethol - ni fu addysg erioed mor bwysig.
Cenhadaeth genedlaethol
Fodd bynnag, nid yw'r syniad o addysg fel cenhadaeth genedlaethol yn syniad cwbl newydd, ac nid fy syniad i yn unig mohono.
Yn wir, nododd y Siarter Frenhinol a sefydlodd ein cartref am y noson - fel Amgueddfa Genedlaethol - y nod o ddatblygu addysg y cyhoedd drwy gynrychioli gwyddoniaeth, celf, diwydiant, hanes a diwylliant Cymru neu sy'n berthnasol i Gymru mewn ffordd gynhwysfawr.
Uchelgais ardderchog, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno.
Ond nid oes a wnelo ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer diwygio'r system addysg yn y 21ain ganrif ag adeiladau Edwardaidd crand na chreu sefydliadau newydd.
Mae a wnelo â rhywbeth llawer pwysicach.
Mae a wnelo â phennu'r disgwyliadau uchaf posibl i'n pobl ifanc, i'n proffesiwn addysgu ac i'n gwlad - a'u cyflawni.
Adeiladwyd y sefydliad hwn, y llyfrgell genedlaethol ac eraill drwy bensaernïaeth adeiladu cenedl ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif yng Nghymru.
Bellach mae gennym y cyfle i greu cenhedlaeth newydd o adeiladwyr cenedl.
Ac mae'n digwydd ledled y wlad - drwy ein hysgolion arloesi, arbenigwyr rhyngwladol, prifysgolion, busnesau a chymuned y trydydd sector.
Ac rwyf wrth fy modd y byddwn yn clywed yn uniongyrchol gan ddau o'n harloeswyr, Elan o Ddyffryn Conwy a Luke o Dregatwg yn ddiweddarach heno. Mae'n hyfryd hefyd fod Ian Fordham o Microsoft yma, a fu'n gweithio gyda ni wrth i ni arwain y ffordd ym maes cymhwysedd digidol.
Rydych chi - ni - yn creu cwricwlwm cenedlaethol a system addysg drawsnewidiol.
Gydag ymrwymiad o'r newydd i wella gwybodaeth a sgiliau ein pobl ifanc, byddwn yn codi safonau drwyddi draw.
Eisoes, mae llawer y gallwn ymfalchïo ynddo.
Ond cydnabyddir y gallwn, gyda'n gilydd, fod hyd yn oed yn well.
Mae heddiw yn nodi pwynt hollbwysig ar y daith honno.
Rydym wedi myfyrio ar y cyngor clir a roddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i ni fel Llywodraeth.
Daliwch ati, ond gwnewch fwy i gyfathrebu ac egluro. Canolbwyntiwch ar arweinyddiaeth a chyflawnwch gwricwlwm newydd mewn ffordd brydlon.
Gwn o'm cyfarfodydd a'm hymweliadau ledled y wlad fod llawer o optimistiaeth a rennir. Mae sawl enghraifft o arfer o'r radd flaenaf. Rydym yn gwneud llawer yn iawn. Ac mae gwledydd ym mhob cwr o'r byd yn ymwybodol o'n harloesedd a'n cynnydd.
Ond gwn hefyd y bu rhai mythau a chamwybodaeth am y cwricwlwm newydd a sut y caiff ei ddatblygu a'i weithredu.
Mae ein cynllun gweithredu yn nodi'r ffordd ymlaen yn glir.
Y cwricwlwm
Rwyf wedi cymryd yr amser i fyfyrio ar y sgyrsiau hynny gydag athrawon, rhieni, addysgwyr ac undebau, a'r her a'r cyngor gan y pwyllgor craffu yn y Cynulliad, er enghraifft.
Mae'n iawn ein bod yn cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn raddol yn hytrach na'i gyflwyno dros nos un mis Medi. Mae'r dystiolaeth ryngwladol yn glir yn hyn o beth.
Ond rhaid i ni hefyd sicrhau bod gan ysgolion ac athrawon ddigon o amser paratoi.
Nid amser i sefyll yn stond ydyw, ond amser i roi adborth, ymgysylltu ymhellach â'r cwricwlwm newydd a bod yn hollol barod ar gyfer y dull gweithredu newydd.
Felly, mae gwaith brwd yn mynd rhagddo ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad a hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r broses am eu hymrwymiad, eu harloesedd a'u hegni.
Bydd y trefniadau newydd ar gyfer y cwricwlwm ac asesu ar gael i ysgolion roi adborth arnynt, eu profi a'u mireinio yn ystod Pasg 2019.
Yn dilyn y cyfnod hwnnw, bydd gan bob ysgol fynediad i'r cwricwlwm terfynol o 2020, a bydd hyn yn galluogi pob ysgol i fod yn hollol barod i'w gyflwyno'n raddol yn statudol ym mis Medi 2022.
Fel yr wyf newydd ddweud, byddwn yn ei gyflwyno'n raddol yn hytrach na thros nos.
Felly, caiff ei gyflwyno yn y dosbarthiadau meithrin hyd at Flwyddyn 7 yn 2022, ym Mlwyddyn 8 yn 2023, ym Mlwyddyn 9 yn 2024 ac yn y blaen wrth i bob carfan symud drwy'r ysgol.
Felly, yn yr un modd ag y caiff datganoli democrataidd ei ddisgrifio'n aml fel proses nid digwyddiad, felly hefyd ein hymdrechion i ddiwygio'r cwricwlwm.
Fel y dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei adolygiad yn ddiweddar: Er mwyn gwireddu ei hamcanion addysg ac, yn y pen draw, ei gweledigaeth ar gyfer y dysgwr yng Nghymru, dylai Cymru barhau i ddiwygio'r cwricwlwm... gan sicrhau bod ei thaith ddiwygio yn gynhwysfawr ac effeithiol.
Gadewch i mi fod yn glir.
Gyda'n gilydd, byddwn yn cyflawni ein cwricwlwm newydd, gan gymryd yr amser i sicrhau bod popeth yn iawn.
Ond, nid yw cynnwys yr amser ychwanegol hwnnw - drwy ei gyflwyno'n raddol ac ychwanegu blwyddyn - yn golygu arafu pethau.
Mae'n golygu y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau cysylltiedig hynny sy'n hanfodol er mwyn cynnal safonau uchel, a phennu uchelgeisiau uwch byth.
- Sicrhau proffesiwn addysg o ansawdd uchel;
- Nodi ac ysbrydoli arweinwyr i godi safonau;
- Ysgolion cynhwysol sy'n ymrwymedig i ragoriaeth, tegwch a llesiant;
- A threfniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarnach o fewn system hunanwella.
Safonau A bwlch cyrhaeddiad
Nid wyf yn bwriadu eich llethu â rhestr hir o bolisïau a chamau gweithredu yma heno.
Ond bydd y rheini sy'n fy adnabod, sy'n gweithio yn yr adran efallai neu sydd wedi siarad â mi yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog, yn gwybod bod sicrhau bod pob un dysgwr yn cael yr un cyfle i gyrraedd y safonau uchaf wrth wraidd fy nghenhadaeth bersonol yn y swydd hon.
A nawr mae hynny wrth wraidd ein cenhadaeth addysg genedlaethol.
Fel arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad - wrth negodi'r gyllideb - canolbwyntiais ar sicrhau'r Grant Amddifadedd Disgyblion.
Yn y Llywodraeth, rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i gynyddu ac ehangu'r cymorth hwnnw - drwy'r Grant Datblygu Disgyblion fel y'i gelwir bellach - i'n dysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig.
Gallwn bob amser wneud mwy, ond rydym yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a cheir straeon dirifedi gan rieni ac athrawon ynghylch sut mae'r Grant Datblygu Disgyblion wedi arwain at gyfleoedd a phrofiadau trawsnewidiol.
Mae ein cynllun gweithredu yn cynnwys yr un ymrwymiad i godi safonau i bawb.
Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi proffesiwn addysgu o ansawdd uchel, gan flaenoriaethu dysgu proffesiynol parhaus ac arweinyddiaeth gadarn, sy'n nodi ac yn cyflawni disgwyliadau uchel i'n dysgwyr, ein hysgolion a'r system gyfan.
A bydd rhan o'r disgwyliadau uchel hynny yn cynnwys model asesu a gwerthuso i ysgolion a fydd yn nodi'n glir yr hyn y mae ysgolion yn atebol amdano ac yn canolbwyntio ar welliannau ar bob lefel. Byddaf yn sôn mwy am hyn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Byddwn yn cydweithio er mwyn cyflawni'r genhadaeth genedlaethol hon.
Fel llywodraeth, ac fel gweinidog, gallaf eich gwarantu y byddwn yn buddsoddi yn y blaenoriaethau hynny ac yn cynnig cyfleoedd i arweinwyr ac athrawon.
Ond wrth i ni rymuso athrawon, arweinwyr a staff cymorth i gymryd yr awenau, nid wyf yn barod i leihau ein huchelgais.
Bydd llawer ohonoch wedi clywed fy mhryderon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am faterion sy'n ymwneud â'r niferoedd sy'n cofrestru ar gyfer BTEC mewn gwyddoniaeth, y defnydd cyffredinol o gofrestru disgyblion yn gynnar ar gyfer TGAU a chanlyniadau anfwriadol canolbwyntio'n ormodol ar gyrraedd ffin gradd C yn hytrach nag anelu'n uwch ac ymestyn y rheini a all gyflawni mwy.
Nid ailadroddaf y dadleuon hynny eto.
Ond nid oes gennyf gywilydd dweud bod yn rhaid i ni gyfuno tegwch â rhagoriaeth.
Rwy'n hyderus ein bod yn gweithio'n gyda'n gilydd i fynd i'r afael â rhai arferion a wnaeth ostwng disgwyliadau a chamddefnyddio'r system.
Os ydym bob amser yn ymrwymedig i roi lles y dysgwr yn gyntaf - a sicrhau y gall gyflawni ei botensial - yna byddwn ar y trywydd iawn.
Dyna fy egwyddor arweiniol. A gwn ei bod yn egwyddor a wnaeth gymell pob athro ar ei daith o'r coleg hyfforddi i'r ystafell ddosbarth
Mae hefyd yn ymrwymiad a rennir ym mhob rhan o'r Llywodraeth, fel y nodir yn ein strategaeth genedlaethol - Ffyniant i Bawb - a lansiwyd gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Mae ein ffocws ar adeiladu Cymru sy'n uchelgeisiol ac sy'n dysgu.
Casgliad
Rhaid i ni nawr achub ar y cyfle i greu rhywbeth a fydd yn destun cenfigen ledled y byd.
Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn perthyn i bob dysgwr, rhiant, athro ac arweinydd yng Nghymru.
Gyda'i gilydd, bydd ein diwygiadau yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu ac yn bodloni'r disgwyliadau uchel rydym i gyd yn eu rhannu ar gyfer ein pobl ifanc.
Mae'n adeg gyffrous i addysg yng Nghymru.
Cenhadaeth a rennir i ysbrydoli pobl ifanc iach, mentrus a hyderus sy'n meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol.
Ni fydd yn hawdd bob amser. Efallai na fydd byth yn hawdd.
Ond nid yw cyflawniadau rhad yn werth eu dathlu cymaint.
Ceir boddhad drwy anelu at safonau hyd yn oed yn uwch, dyfodol gwell i'n pobl ifanc, a chydnabyddiaeth gan rieni, busnesau a'r gymuned ryngwladol fod Cymru yn arwain y ffordd.
Mae ein dull arloesol – a pharodrwydd i weithio a dysgu gyda'r gorau yn y byd – eisoes yn denu sylw.
Ond gallwn gyflawni hyd yn oed yn fwy. Rydym yn dysgu gan y gorau fel y gallwn fod hyd yn oed yn well.
Ac rydym yn gwneud hynny yn y Ffordd Gymreig.
- Gan gyfuno tegwch â rhagoriaeth;
- Gan fod yn agored i heriau a chyngor;
- Gan gydweithio i godi safonau i bawb.
Ni fu erioed amser gwell i fod yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru.
Nawr yw'r amser i wneud gwahaniaeth.
Gyda'n gilydd gallwn gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.
Diolch yn fawr.