Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Myfyrwyr

Sut galla i deimlo'n ddiogel yn y brifysgol o ystyried yr amrywiolyn Delta?

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau risgiau, yn enwedig salwch difrifol, yw manteisio ar y cynnig i gael eich brechu, lle bo modd. Mae angen y ddau ddos o'r brechlyn i’n hamddiffyn. Mae'n cymryd o leiaf bythefnos (14 diwrnod) ar ôl yr ail ddos cyn y bydd y brechlyn yn cynnig amddiffyniad llawn i berson.

Mae cymryd y cyfrifoldeb hwn a chael ein brechu yn golygu ein bod yn ystyriol o bobl eraill ac y gallwn ddychwelyd at wneud y pethau rydym wedi'u colli fwyaf. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn ac mae canolfannau galw heibio yn agored i bawb, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol.

Hyd yn oed os ydych wedi cael eich brechu'n llawn, cofiwch y ffyrdd gorau o leihau risgiau:

  • archebwch brawf cyn i chi deithio i'ch cyfeiriad yn ystod y tymor, a pheidiwch â theithio oni bai eich bod wedi cael canlyniad prawf negatif o fewn 48 awr i'ch dyddiad teithio. Os ydych yn byw yng Nghymru neu'r Alban, gallwch archebu prawf PCR, ac os ydych yn byw yn Lloegr gallwch archebu pecyn o brofion llif unffordd.
  • Hunan-ynysu a chymryd prawf, hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn
  • cwrdd y tu allan, mae'n fwy diogel na'r tu mewn
  • cyfyngu ar nifer y bobl rydych chi'n rhyngweithio â nhw a faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn eu cwmni
  • cadwch eich pellter pan allwch, golchwch eich dwylo a gwisgwch orchudd wyneb, yn enwedig mewn mannau gorlawn

Mae gan brifysgolion gyfrifoldeb i sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn ddiogel i fyfyrwyr ac i staff. Ac rydym wedi gweithio ar y cyd â'n prifysgolion i gadw ein prifysgolion, ein pobl ifanc a'n cymunedau mor ddiogel â phosibl.

Mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i atal lledaeniad y feirws, hyd yn oed wrth i'r cyfyngiadau gael eu dileu i raddau helaeth. Mae’r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo fel rheol drwy gysylltiad agos ac estynedig mewn mannau dan do. Mae'r risgiau uchaf mewn mannau gorlawn sydd wedi'u hawyru'n wael dros gyfnodau estynedig.

Mae profion asymptomatig  wedi'u cynllunio i gyfyngu ar leadaeniad y feirws drwy helpu i nodi achosion newydd yn gynnar. Hyd yn oed os cewch brawf Covid negyddol cyn teithio wrth symud rhwng dau gyfeiriad, gallech ddal y feirws wedyn ar eich taith. Er mwyn lleihau'r risg rydym yn disgwyl i bob myfyriwr gael prawf ddwywaith yr wythnos am y 28 diwrnod cyntaf ar y cwmpws, ac os ydynt yn profi’n bositif dylent hunanynysu a chael prawf PCR i gadarnhau’r canlyniad. Mae’n gyfrifoldeb ar bob myfyriwr i gytuno i'r cyfnod byr hwn o gymryd profion i helpu i gadw eu hunain, eu cydletywyr, eu prifysgolion a'n cymunedau'n ddiogel.

Ers 7 Awst, nid oes angen i'r rhai y nodwyd eu bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 hunanynysu os ydynt:

  • dan 18 oed
  • wedi'u brechu'n llawn (ystyrir eich bod wedi'ch brechu'n llawn os oes 14 diwrnod o leiaf ers i chi gwblhau’r cwrs o frechlyn cymeradwy, a'i fod wedi'i weinyddu yn y DU), neu
  • yngyfranogwr mewn treial clinigol brechlyn COVID-19 (os caiff ei gynnal yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau at Ddefnydd Dynol (Treialon Clinigol) 2004(2)).

Fodd bynnag, os nad ydych yn dod o fewn y categorïau uchod, rhaid i chi hunanynysu am o leiaf 10 diwrnod os yw’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi cysylltu â chi i ddweud wrthych am hunanynysu oherwydd i chi fod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19. Rydym hefyd yn eich cynghori i hunanynysu os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi datblygu symptomau COVID-19 ac sy’n aros am ganlyniad prawf PCR neu (cyn i'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gysylltu â chi) os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.

Dylai unrhyw un sy'n datblygu symptomau covid-19 hunanynysu ac archebu prawf pcr (GOV.UK), waeth beth fo'u hoedran neu eu statws brechu.

Beth am y risg o weld myfyrwyr yn cymysgu mewn neuaddau preswyl?

Mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i atal lledaeniad y feirws, hyd yn oed wrth i'r cyfyngiadau gael eu dileu i raddau helaeth. Mae’r coronafeirws yn cael ei drosglwyddo fel rheol drwy gysylltiad agos ac estynedig mewn mannau dan do. Mae'r risgiau uchaf mewn mannau gorlawn sydd wedi'u hawyru'n wael dros gyfnodau estynedig.

Er nad yw myfyrwyr bellach wedi'u cyfyngu i gymysgu â'r rhai y maent yn byw gyda nhw yn unig, rydym yn dal i argymell y dylai myfyrwyr gyfyngu ar nifer y bobl y maent yn rhyngweithio â nhw a chwrdd ag eraill yn yr awyr agored gymaint â phosibl. Os bydd myfyrwyr yn cymysgu o dan do dylent geisio cadw pellter oddi wrth eraill gymaint â phosibl a lleihau'r amser a dreulir yn gwneud hyn.

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau risgiau, yn enwedig salwch difrifol, yw manteisio ar y cynnig i gael eich brechu, lle bo modd. Mae angen y ddau ddos o'r brechlyn i’n hamddiffyn. Mae'n cymryd o leiaf bythefnos (14 diwrnod) ar ôl yr ail ddos cyn y bydd y brechlyn yn cynnig amddiffyniad llawn i berson.

Mae cymryd y cyfrifoldeb hwn a chael ein brechu yn golygu ein bod yn ystyriol o bobl eraill ac y gallwn ddychwelyd at wneud y pethau rydym wedi'u colli fwyaf. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn ac mae canolfannau galw heibio yn agored i bawb, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol.

Bydd profion cyn teithio ac wrth gyrraedd yn helpu i atal y cadwyni trosglwyddo a chadw cymuned y brifysgol yn ddiogel.

Bydd yn rhaid i unrhyw fyfyriwr sy'n profi’n bositif neu sy'n dangos symptomau hunanynysu yn unol â’r canllawiau.

Rydym wedi gofyn i'n prifysgolion sicrhau eu bod yn gallu cefnogi myfyrwyr sydd angen hunanynysu. Mae'n bwysig bod unrhyw fyfyriwr sy'n hunanynysu yn ystod y cyfnod hwn yn cysylltu â'u tîm gwasanaethau myfyrwyr fel y gellir cynnig cymorth iddynt.

Gallai'r cymorth gynnwys dosbarthu bwyd, gwasanaethau golchi dillad, galwadau cyfeilligar neu alwadau fideo, sesiynau iechyd a lles neu weithgareddau cymdeithasol ar-lein eraill. Os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod sy’n hunanynysu dylech gysylltu â'r brifysgol yn uniongyrchol.

A gaf i deithio yn ôl i brifysgol yng Nghymru?

Cewch. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru nac i Gymru o rannau eraill o’r DU a’r Ardal Deithio Gyffredin.

Mae’r cyfyngiadau cyfredol hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol deithio i’r DU, er y byddai angen i chi ddilyn y rheolau profion a chwarantin perthnasol.

Er mwyn lleihau lledaeniad Covid-19, wrth gyrraedd o dramor rhaid i deithwyr rhyngwladol ddilyn rheolau’r ffiniau, gan ddibynnu o ba wlad y maen nhw wedi teithio.

Cysylltwch â’ch prifysgol cyn ichi gyrraedd oherwydd byddant yn gallu rhoi gwybod ichi pa help y gallant ei gynnig.

Dylai myfyrwyr rhyngwladol sy’n cyrraedd o wledydd (nad ydynt ar y Rhestr Goch) ac sydd heb eu heithrio rhag hunanynysu ddarllen ein canllawiau.

Sut fedra i gael prawf cyn teithio i’r brifysgol?

Cyn i chi deithio, trefnwch i gael prawf PCR ac archebwch becyn o brofion llif unffordd yn barod i fynd gyda chi.

Dylech gymryd y prawf PCR o fewn 48 awr i’r dyddiad y byddwch yn teithio. Os yw’r prawf yn negyddol, cewch deithio i’ch llety yn y brifysgol/yn ystod y tymor. Os yw’r prawf yn bositif rhaid ichi hunanynysu ac ni chewch deithio.

Cyn i chi ddefnyddio cyfleusterau’r campws, dylech gymryd prawf llif unffordd mor agos â phosibl i’r dyddiad y byddwch yn cyrraedd. Os byddwch yn cymryd prawf cyn teithio ac yn cael prawf mor agos â phosibl at pryd y byddwch yn cyrraedd, bydd hyn yn lleihau’n sylweddol y risg y byddwch yn lledu’r feirws.

Dylech gymryd ail brawf llif unffordd 3 diwrnod yn ddiweddarach.

Rydym yn gofyn i fyfyrwyr gymryd profion llif unffordd asymptomatig ddwywaith yr wythnos am y 28 diwrnod cyntaf yn ôl ar y campws ar ôl y gwyliau. Y rheswm dros hyn yw lleihau’r risg y bydd y feirws yn lledu a nifer fawr o fyfyrwyr yn gorfod hunanynysu o ganlyniad. Os ydym yn nodi achosion yn fuan oherwydd fod pawb yn cymryd profion, rydym yn atal y feirws rhag lledaenu.

A gaf i symud i mewn i’m llety prifysgol?

Cewch. Trefnwch i gael prawf PCR cyn teithio a gwnewch brofion llif unffordd yn rheolaidd pan fyddwch yn dechrau defnyddio cyfleusterau’r campws.

Ni ddylech symud i dŷ amlfeddiannaeth neu lety o fath arall a rennir os oes unrhyw un o'r tenantiaid presennol yn arddangos symptomau COVID-19 neu'n hunanynysu. Cyn i chi drefnu symud, dylech gadarnhau hyn. Efallai y bydd eich landlord neu asiant gosod tai yn gallu eich helpu.

Ni ddylech symud i mewn i dŷ amlfeddiannaeth neu lety o fath arall a rennir os ydych chi eich hun yn arddangos symptomau COVID-19, os ydych chi wedi cael prawf positif neu os gofynnwyd i chi hunanynysu fel cyswllt agos.

Os ydych yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol (“gwarchod eich hun” gynt), dylech ystyried a yw symud cartref i dŷ amlfeddiannaeth neu lety o fath arall a rennir yn briodol yn seiliedig ar eich anghenion meddygol, a gofyn am gyngor meddygol os oes angen. Efallai y dylech hefyd roi gwybod i'ch prifysgol a'r bobl rydych yn rhannu â nhw eich bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol er mwyn iddynt allu helpu i’ch diogelu.

Pan fo angen symud i mewn i dŷ amlfeddiannaeth neu lety arall a rennir a bod pobl eraill eisoes yn byw yn yr eiddo, argymhellir y dylid cymryd camau ychwanegol:

  • dylid dilyn arferion hylendid anadlol da, a dylech olchi eich dwylo'n rheolaidd
  • dylid glanhau pob arwyneb caled â diheintydd arferol, yn enwedig ardaloedd sy’n cael eu cyffwrdd yn aml fel dolenni drysau, dolenni ffenestri, dolenni toiledau, tapiau, basnau ac arwynebedd gwaith

Gan fy mod yn hunanynysu, sut gallaf gael nwyddau hanfodol?

Siaradwch â'ch gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr yn eich prifysgol. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, dywedwch wrthynt eich bod yn hunanynysu ac angen help. Dylai fod ganddynt brosesau i helpu gyda phethau hanfodol bob dydd megis bwyd, golchi dillad, meddyginiaeth a deunyddiau ymolchi ac ati.

Dylai eich prifysgol hefyd eich cefnogi o ran lles ar yr adeg anodd hon, ac efallai y bydd ganddi systemau cyfeillio neu rwydweithiau cymorth eraill a all eich helpu.

Mae yna hefyd sefydliadau a all helpu fel Mind Cymru a Student Space.

Os bydd rhywun yn fy llety yn profi'n bositif am COVID-19, a fydd yn rhaid i mi hunanynysu?

Ers 7 Awst, nid oes angen i'r rhai a nodwyd fel cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 hunanynysu os ydynt:

  • dan 18 oed
  • wedi'u brechu'n llawn (ystyrir eich bod wedi'ch brechu'n llawn, os yw'n 14 diwrnod llawn o leiaf ers i chi gael cwrs llawn o’r brechlyn cymeradwy, a'i fod wedi'i weinyddu yn y DU), neu
  • yn cymryd rhan mewn treial clinigol brechlyn COVID-19 (os caiff ei gynnal yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau at Ddefnydd Dynol (Treialon Clinigol) 2004(2))

Fodd bynnag, os nad ydych yn dod o fewn y categorïau uchod, rhaid i chi hunanynysu am o leiaf 10 diwrnod os yw’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi cysylltu â chi a dweud wrthych am hunanynysu oherwydd bod rhywun yr ydych wedi bod mewn cysylltiad agos ag ef wedi profi'n bositif am COVID-19. Rydym hefyd yn eich cynghori i hunanynysu os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi datblygu symptomau COVID-19 ac sy’n aros am ganlyniad prawf PCR neu (cyn i'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gysylltu â chi) os ydych yn byw gyda rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.

Rhaid i unrhywun sy'n datblygu symptomau COVID-19 hunanynysu ac archebu prawf PCR (GOV.UK), waeth beth fo'u hoedran neu statws brechu.

Rwy'n poeni am fy iechyd a'm lles ac am deimlo wedi fy ynysu?

Mae gan brifysgolion yng Nghymru amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr, wedi'i ategu gan gyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Dylid ymestyn y cymorth hwn i fyfyrwyr sy'n profi pryder a straen. Efallai y byddant am gysylltu â'u gwasanaethau lles myfyrwyr yn eu prifysgol neu sefydliadau fel Mind Cymru a Student Space.

Mae nifer o elusennau cenedlaethol hefyd a allai helpu.

Rydym yn cydnabod pa mor anodd yw’r pandemig i fyfyrwyr a'u bod yn wynebu problemau unigryw.

Os yw eich iechyd meddwl yn gwaethygu, cysylltwch â'ch meddyg teulu, GIG 111, eich gwasanaeth cymorth i fyfyrwyr neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddo.

A yw'n ddiogel i brifysgolion fod ar agor?

Ydi. Yng Nghymru, mae dyletswydd gyfreithiol o hyd ar sefydliadau i asesu'r risg y bydd coronafeirws yn lledaenu ar eu safleoedd, ac i gymryd pob cam rhesymol i atal lledaeniad y feirws. Cyfeiriwch at y Fframwaith Rheoli Heintiau ar gyfer Addysg Uwch i gael rhagor o wybodaeth. Fel cyrff annibynnol, mae prifysgolion yn gyfrifol am ddarparu eu cyrsiau i staff a myfyrwyr, ac mae pob prifysgol yng Nghymru wedi sicrhau bod myfyrwyr yn ymgymryd â'u hastudiaethau mor ddiogel â phosibl drwy'r pandemig.

Er y bu achosion o COVID-19 mewn prifysgolion yng Nghymru, mae'r rhain wedi cael eu rheoli'n dda gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, y byrddau iechyd lleol a'r prifysgolion.

Gwyddom fod clystyrau wedi'u cyfyngu i gymunedau prifysgolion ac nad ydynt wedi lledu i'r gymuned ehangach, nac i'r rhai a allai fod yn fwy agored i ganlyniadau gwaeth o COVID-19 am fod ganddynt gyflyrau neu gymhlethdodau iechyd eisoes neu am eu bod yn hŷn.

Mae'r cyngor gwyddonol wedi dweud yn glir y gall fod achosion ymhlith myfyrwyr, fel gydag unrhyw grŵp mewn cymdeithas, a bod y mesurau sydd ar waith wedi'u cynllunio i gadw myfyrwyr, staff a chymunedau lleol yn ddiogel. Lles ein myfyrwyr sydd wedi bod wrth galon ein penderfyniadau drwy gydol y pandemig, a bydd hynny’n parhau.

Os oes gennych unrhyw symptomau Covid, dylech archebu prawf PCR, hunanynysu a dweud wrth unrhyw oedolion heb eu brechu rydych chi'n byw gyda nhw bod yn rhaid iddyn nhw hefyd hunanynysu nes i chi naill ai dderbyn canlyniad prawf negyddol neu bod eich cyfnod hunanynysu ar ben. Os byddwch yn profi'n bositif, byddwch chi a'ch cysylltiadau yn cael gwybod beth i'w wneud. Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y feirws a chadw Cymru'n ddiogel.

Mae'r risg o unrhyw heintiau posibl yn cael ei chydbwyso'n ofalus gyda sicrhau y gall pobl ifanc – yr amharwyd yn ddifrifol arnynt yn ystod y pandemig – barhau â'u haddysg a chael eu cefnogi gan eu teuluoedd, eu prifysgolion a'r Llywodraeth hon.

Bydd eich prifysgol wedi rhoi arweiniad clir i chi ar sut y gallwch weithredu'n gyfrifol a lleihau'r risg i chi eich hun, eich teulu, eich ffrindiau a'ch cymuned.

Profi

Faint o fyfyrwyr ydych chi’n disgwyl eu profi?

Rydym yn cynghori pob myfyriwr i fanteisio ar y cynnig o brawf PCR cyn teithio a dylai pob myfyriwr wedyn gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos am eu 28 diwrnod cyntaf ar y campws. Bydd hyn yn helpu i gadw myfyrwyr, staff a chymunedau mor ddiogel â phosibl.  

Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn deall mai brechiadau a phrofion yw’r ffordd orau i ddiogelu eu teuluoedd, eu ffrindiau a chymuned y brifysgol. Bydd hyn yn eu helpu i fedru aros ar y campws a chaniatáu i ddysgu wyneb yn wyneb barhau.

Beth yw mantais cymryd rhan yn y rhaglen i brifysgolion?

Bydd profion cyn teithio yn lleihau lledaeniad y feirws o un lleoliad i’r llall, ac yn helpu i leihau’r risg o achosion mewn llety myfyrwyr. Ar ben hynny, bydd profion ddwywaith yr wythnos am y 28 diwrnod cyntaf yn ein helpu i ganfod achosion o Covid yn gyflym ac yn helpu i dorri'r gadwyn drosglwyddo.

Dymunwn roi hyder i fyfyrwyr a staff barhau ag addysg wyneb yn wyneb.

Beth os caf ganlyniad positif i’r prawf?

Os cewch ganlyniad positif i’r prawf llif unffordd, cewch wybod bod angen i chi hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf PCR i gadarnhau’r canlyniad.

Dylai unrhyw oedolion heb eu brechu rydych yn byw gyda nhw neu wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw hunanynysu hefyd.

Dylech hysbysu’ch prifysgol eich bod wedi cael prawf positif er mwyn iddynt eich helpu gyda dysgu ar-lein a’ch helpu i hunanynysu yn ddiogel.

Os cewch ganlyniad negyddol i’r prawf PCR, rhowch wybod i’ch prifysgol a dweud wrth eich cysylltiadau y gallant roi’r gorau i hunanynysu.

A oes rhaid i gysylltiadau agos unigolion sydd wedi cael canlyniad COVID-19 positif ynysu o hyd?

Os ydych wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19, a'ch bod wedi cael eich brechu'n llawn adeg y cysylltiad hwnnw â'r person sydd wedi'i heintio, neu os ydych o dan 18 oed, ni fydd yn rhaid i chi hunanynysu. Ystyrir eich bod wedi'ch brechu'n llawn, os oes o leiaf 14 diwrnod ers i chi gael y brechlyn cymeradwy yn llawn, a’i fod wedi’i roi yn y DU.

Os nad ydych wedi cwblhau eich cwrs brechu (dau frechiad ar wahân fel arfer), o leiaf 14 diwrnod llawn cyn dod i gysylltiad agos, neu os cawsoch eich brechiad y tu allan i'r DU, bydd gofyn i chi hunanynysu os bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi.

Os ydych wedi cymryd rhan mewn treial clinigol brechlyn COVID-19 (os yw wedi’i gynnal yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau at Ddefnydd Dynol (Treialon Clinigol) 2004(2)), nid oes angen i chi hunanynysu os bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi.

Os na allwch gael brechiad COVID-19 am resymau meddygol, mae'n ofynnol i chi hunanynysu os bydd Profi, Olrhain, Diogelu yn cysylltu â chi.

Os ydych o dan 18 oed ac wedi'ch adnabod gan Profi, Olrhain, Diogelu fel cyswllt, ni fydd angen i chi hunanynysu.

Fodd bynnag, dylai unrhyw gyswllt agos sy'n profi symptomau gymryd prawf a hunanynysu tra'n aros am y canlyniad.

Pam ei bod yn ddiogel i mi fynd i'r brifysgol os ydw i'n byw gyda rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19?

I'r rhai sydd wedi'u brechu'n llawn yn y DU, nid oes gofyniad mwyach iddynt hunanynysu os cânt eu nodi fel cyswllt agos neu gyswllt cartref. 

Y rheswm am hyn yw bod ein rhaglen frechu wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng achosion positif, trosglwyddo pellach, canlyniadau iechyd negyddol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau. 

Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi cael ei frechu ac sy'n byw gyda rhywun sydd wedi profi'n bositif i fod yn wyliadwrus am symptomau, cymryd prawf PCR os ydynt yn dod yn symptomatig ac i gymryd prawf PCR rhagofalus i nodi trosglwyddiad asymptomatig.

Yn ogystal, rydym yn annog yr holl fyfyrwyr a staff i ddefnyddio'r profion llif unffordd rheolaidd sydd ar gael am y 28 diwrnod cyntaf ar y campws a thu hwnt os cânt eu nodi fel cyswllt agos. Mae hyn yn helpu myfyrwyr a staff i deimlo'n ddiogel gan y gall profi cysylltiadau agos yn rheolaidd helpu i leihau'r siawns o drosglwyddo’r feirws ymlaen.

Rwyf ar leoliad iechyd/gofal cymdeithasol ac wedi bod mewn cysylltiad agos ar yr aelwyd gyda rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19. Dywedwyd wrthyf am beidio â mynychu fy lleoliad. A allaf barhau i fynd i'r brifysgol?

Cynghorir myfyrwyr neu staff addysgu sy'n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion tra byddant ar leoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol i ddilyn y canllawiau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector hwnnw a'r canllawiau cyffredinol (uchod) pan fyddant yn y brifysgol, mae'r gwahaniaeth hwn yn deillio o'r tebygolrwydd o fod mewn cysylltiad ag unigolion hynod agored i niwed yn glinigol yn y lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Pwy fydd yn talu am gost cynnal y profion?

Nid oes rhaid i fyfyrwyr na staff dalu am brawf.

Mae hyn yn dod o dan gynllun Llywodraeth y DU sy’n cael ei weithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Gall myfyrwyr a staff gasglu pecynnau o brofion llif unffordd o'u prifysgol. Gallant hefyd gasglu pecynnau o brofion o'u fferyllfa leol neu archebu pecyn ar-lein (GOV.UK).

A ydy’r Dyfeisiau Llif Unfordd wedi’u dilysu?

Rydym yn hyderus bod y profion hyn yn iawn i’w defnyddio at y diben hwn.

Mae canlyniadau prawf positif 99.7% yn gywir, felly rydym yn hyderus bod y prawf mor gywir â phosibl.

Gwyddom fod siawns fach y gallai prawf arwain at ganlyniad negatif anghywir, a dyna pam yr ydym yn argymell cymryd dau brawf. Yn ogystal, gan fod y prawf yn gallu canfod pwy sy’n heintus, gallai canlyniad negatif anghywir ddigwydd oherwydd bod unigolyn yn cario llai o firws ac yn llai heintus. Rydym hefyd yn awgrymu y dylai myfyrwyr gymryd gofal ychwanegol i leihau eu cysylltiadau cyn neu ar ôl iddynt ddychwelyd adref, gan mai dangos y sefyllfa ar adeg y prawf yn unig mae’r canlyniad. Nid yw'n eich atal rhag cael eich heintio ar ôl y prawf.

A all myfyrwyr wrthod cael prawf?

Nid yw’r profion yn orfodol ond maent yn arf pwysig i helpu myfyrwyr i ddiogelu eu hunain, eu ffrindiau, eu teulu a'u cymuned ehangach.

A yw’n ofynnol yn gyfreithiol i fyfyrwyr gael prawf i fynd i'r brifysgol?

Na, nid yw'n ofyniad cyfreithiol, ond fe fydd yn arf pwysig i helpu myfyrwyr i  ddiogelu eu hunain, eu ffrindiau, eu teulu a'u cymuned ehangach.

Fodd bynnag, dylai unrhyw un sy'n profi symptomau COVID-19 ddilyn y canllawiau hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf PCR. Rhaid i unrhyw un sy’n cael prawf positif hunanynysu am 10 diwrnod.

Brechiadau

Sut fedra i gael fy mrechiad COVID-19?

Os ydych yn astudio yng Nghymru neu'n dychwelyd i Gymru a bod gennych gyfeiriad gwahanol yn ystod y tymor, nid oes angen i chi ddychwelyd i'r cyfeiriad hwnnw i gael eich brechlyn. Gallwch gael eich dau ddos mewn lleoliadau gwahanol (gan gynnwys lleoliadau gwahanol yng Nghymru).

Myfyrwyr sy'n aros neu'n dychwelyd i Gymru ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru

Byddwch yn cael cynnig brechlyn drwy eich bwrdd iechyd.

Sicrhewch fod y manylion cyswllt a gedwir gan y meddyg teulu (cyfeiriad cyfredol a rhif ffôn) yn gywir fel y gellir cysylltu â chi.

Os na fyddwch yn aros yn y cyfeiriad cofrestredig dros yr haf, gwneir ymdrech i gysylltu â chi dros y ffôn.

Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad eto, mae byrddau iechyd yn gweithredu rhestrau wrth gefn ac mae rhai yn cynnig clinigau galw heibio. Chwiliwch am wybodaeth leol.

Os ydych wedi derbyn eich brechlyn cyntaf, cadwch eich cerdyn cofnodi brechu (a/neu lun ohono) i ddangos pa frechlyn a gawsoch a'r dyddiad y cawsoch ef.

Myfyrwyr sy'n aros yng Nghymru ond sydd heb gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru

Os nad ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu, ni fydd y GIG yng Nghymru yn cysylltu â chi'n awtomatig, gan na fydd ganddynt eich manylion cyswllt.

Gallwch gofrestru gyda meddyg teulu lleol neu, fel arall, holi sut i drefnu brechlyn drwy eich bwrdd iechyd lleol.

Gweler ein canllawiau ar frechiadau COVID-19 i fyfyrwyr addysg uwch.

A yw myfyrwyr rhyngwladol yn gymwys i dderbyn y brechlyn COVID-19?

Ydyn.

Mae myfyrwyr rhyngwladol yr un mor gymwys i dderbyn y ddau ddos o frechlyn COVID-19 ac rydym yn annog pob un sy’n cyrraedd o dramor i gael eu brechu i amddiffyn eu hunain a'n cymunedau.

Gallwch gofrestru gyda meddyg teulu lleol neu, fel arall, holi sut i drefnu brechlyn drwy eich bwrdd iechyd lleol.

Oes angen i mi brofi fy mod wedi cael fy mrechu i fynd i’r brifysgol?

Na.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno tystysgrifau brechu i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, megis addysg.

Fodd bynnag, efallai y bydd cyflogwyr, digwyddiadau a lleoliadau yn gofyn i chi brofi eich statws brechu (neu roi prawf o ganlyniad prawf llif unffordd negatif) gan ddefnyddio Pàs COVID y GIG.

O 11 Hydref, bydd angen i bawb dros 18 oed gael Pàs COVID y GIG i fynd i mewn i’r canlynol:

  • clybiau nos
  • digwyddiadau o dan do, heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, megis cyngherddau neu gynadleddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad gyda mwy na 10,000 o bobl yn bresennol

Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs COVID y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechlyn yn ddiogel. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.

A oes angen unrhyw frechlynnau eraill arnaf i fynd i'r brifysgol?

Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori myfyrwyr i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau arferol i gyd drwy gysylltu â'u meddyg teulu neu fwrdd iechyd lleol (GIG Cymru).

Mae llawer o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb gael eu brechiadau arferol i gyd, yn enwedig y brechlyn MMR yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR).

Mae pobl o dan 25 oed, yn enwedig myfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n byw mewn neuaddau preswyl, mewn mwy o berygl o gael llid yr ymennydd a chlefyd meningococaidd, a all arwain at ganlyniadau difrifol.

Dod o hyd i’ch Bwrdd Iechyd Lleol.

Myfyrwyr rhyngwladol

Rwy'n teithio i Gymru o'r tu allan i'r DU. Alla i ddod o hyd?

Gallwch, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol y gallai fod yn rhaid i chi dreulio cyfnod dan gwarantin neu hunanynysu, gan ddibynnu o ble yr ydych wedi teithio, eich oedran a’ch statws brechu. Gweler ein canllawiau ar deithio i Gymru ac o Gymru.

Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn rhan werthfawr o'n cymunedau yng Nghymru. Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol, o wledydd penodol y tu allan i'r DU, gydymffurfio â'r gofynion hunanynysu sydd yn eu lle pan fyddant yn cyrraedd y DU. 

Rydym yn argymell yn gryf y dylai myfyrwyr sy’n teithio o’r tu allan i’r DU gysylltu â’u prifysgol cyn eu bod yn bwriadu teithio i’r DU i ddarganfod pa gymorth sydd i’w gael gan eu prifysgol yn ystod y cyfnod hunanynysu sy’n ofynnol pan fyddant yn cyrraedd.

Dylech siarad â'ch prifysgol gan y byddant yn gallu eich cefnogi yn y cyfnod hunanynysu.

Cysylltiad ag eraill

Mae hunanynysu yn golygu na ddylech adael eich llety na chael unrhyw ymwelwyr, gan gynnwys ffrindiau a theulu, oni bai eu bod yn darparu gofal hanfodol. Yr unig ffrindiau a theulu y gall myfyrwyr ddod i gysylltiad â hwy yw'r rhai a deithiodd gyda nhw neu'r bobl y maent yn aros gyda nhw. Dylai'r bobl sydd gyda nhw hunanynysu hefyd.

Cyd-deithwyr

Os oeddech yn teithio gyda myfyrwyr eraill ac yn rhannu llety, gallwch barhau i gysylltu gyda’ch gilydd, ond argymhellir, lle y bo'n bosibl, y dylid cadw pellter cymdeithasol.

Beth yw'r goblygiadau o ran teithio? Oes modd i mi adael y wlad/y DU? Oes modd i mi fynd adref?

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu’r DU ar hyn o bryd, caniateir i chi deithio yn rhydd o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin (y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel).

Rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau teithio sydd yn eu lle ar gyfer teithio rhyngwladol, a allai  gynnwys yr angen i hunanynysu pan fyddant yn dychwelyd i Gymru.

Dylai myfyrwyr sy’n cyrraedd y DU hefyd ddilyn y rheolau cwarantin pan fyddant yn cyrraedd y DU, gan ddibynnu o ble y maent yn teithio.

Rhagor o wybodaeth am y rheolau teithio rhyngwladol i ac o Gymru.

Effaith y pandemig

Nid wyf yn fodlon ag ansawdd yr addysg a dderbyniais yn ystod y pandemig. Beth ddylwn i ei wneud am hyn?

Mae'n anochel bod y pandemig wedi arwain at newidiadau i'r ffordd y cafodd addysg uwch ei chyflwyno dros y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae prifysgolion wedi darparu dysgu ar-lein gydol y cyfyngiadau aros gartref, sydd wedi bod yn wahanol ond yn cyfateb yn fras, fel modd o gael mynediad at addysg.

Dylai eich prifysgol fod wedi cynnig gwahanol ffyrdd o wneud pethau i geisio sicrhau nad oeddech chi o dan anfantais yn academaidd oherwydd y pandemig.

Bydd y cynnig wedi amrywio ar draws sefydliadau ac ar draws cyrsiau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) adolygu safon ac ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch yng Nghymru yn ystod y pandemig.

Felly, mae'n annhebygol y cewch ad-daliad o’r ffioedd os cynigiwyd amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Os nad ydych yn fodlon ar yr hyn a gynigiwyd o ran y rhaglen ddysgu yr ydych yn ei chael, dylech gysylltu â'ch prifysgol yn y lle cyntaf i drafod eich pryderon. Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gewch, dylech ystyried dilyn gweithdrefn gwyno eich prifysgol. Bydd undeb y myfyrwyr hefyd yn gallu cynnig cyngor a chymorth. 

Os ydych yn anfodlon o hyd ar ôl dilyn gweithdrefn gwyno eich prifysgol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch i gael cyngor pellach.

Cefais hi'n anodd cwblhau gwaith ar gyfer fy nghwrs wrth ddysgu ar-lein ac rwy'n poeni y gallai hynny effeithio ar fy ngradd. Pa sicrwydd allwch chi ei roi?

Dylech drafod unrhyw bryderon am eich astudiaethau neu arholiadau â'ch tiwtor personol neu ag arweinydd y cwrs. Byddant yn gallu rhoi gwybod i chi am eich opsiynau a lleddfu eich pryderon.

Os ydych chi'n teimlo i chi gael eich trin yn annheg neu na wnaethoch dderbyn yr addysgu neu'r cymorth yr ydych chi'n teimlo sy'n dderbyniol, efallai yr hoffech siarad ag Undeb y Myfyrwyr am gyngor. Fel arall, gallwch ddilyn gweithdrefn gwyno eich prifysgol i wneud cwyn ffurfiol. Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad y gŵyn, gallwch holi Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch a fydd efallai’n gallu adolygu eich cwyn.

Staff

Rwy'n gweithio yn y sector ôl-16, beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau risgiau, yn enwedig salwch difrifol, yw manteisio ar y cynnig i gael eich brechu, lle bo modd. Mae angen y ddau ddos o'r brechlyn i’n hamddiffyn. Mae'n cymryd o leiaf bythefnos (14 diwrnod) ar ôl yr ail ddos cyn y bydd y brechlyn yn cynnig amddiffyniad llawn i berson.

Mae cymryd y cyfrifoldeb hwn a chael ein brechu yn golygu ein bod yn ystyriol o bobl eraill ac y gallwn ddychwelyd at wneud y pethau rydym wedi'u colli fwyaf. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn ac mae canolfannau galw heibio yn agored i bawb.

Mae cyflogwyr neu bersonau sy'n gyfrifol am safleoedd, digwyddiadau neu weithgareddau yn ddarostyngedig ers amser i gyfrifoldeb cyfreithiol i gynnal iechyd a diogelwch y gweithwyr ac eraill sy'n mynychu eu safle (ar hse.gov.uk). Mae gofyniad pellach sy'n gymwys yng Nghymru i gynnal asesiad risg penodol o'r coronafeirws i nodi risgiau a gwneud popeth sy'n rhesymol ymarferol i leihau'r risgiau hynny.

Bydd eich cyflogwr wedi asesu risg yr adeilad/adeiladau lle rydych yn gweithio ac wedi cyflwyno gweithdrefnau i sicrhau bod eich amgylchedd yn ddiogel rhag Covid. Os oes angen, dylech fod wedi derbyn asesiad risg personol neu asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n ymwneud yn benodol â'ch amgylchiadau personol.

Os ydych yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn argymell y dylech weithio gartref oni bai bod modd i’ch cyflogwr warantu eich diogelwch.

Pa fath o sgwrs ddylwn i ei chael gydag aelod o'm tîm sy'n poeni am ddod i’r gwaith?

Mae nifer o fodelau y gellir eu defnyddio i gefnogi rheolwyr yn ystod trafodaethau gyda'u timau am ffactorau risg personol unigolyn wrth ddychwelyd i’r gweithle, neu i aros ynddo. Y nod yw hwyluso sgyrsiau o ansawdd da rhwng rheolwyr a chydweithwyr am unrhyw amgylchiadau personol a allai olygu bod y coronafeirws yn fwy o risg, a chytuno ar unrhyw gamau y mae angen eu cymryd. Mae “Talking with your workers about working safely during the coronavirus pandemic” yn ddogfen ganllaw gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar sut y gall cyflogwyr droi at y sgwrs hon gyda staff.

Cymunedau

A fydd Cymru'n capio ffioedd dysgu y flwyddyn nesaf fel y maent wedi'i wneud yn Lloegr?

Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i godi'r cap ar ffioedd dysgu israddedig y gallai sefydliadau addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru eu codi. Bydd y ffi yn parhau i fod yn £9000, sy'n £250 yn llai nag yn Lloegr.

At hynny, Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r system fwyaf hael o gymorth i fyfyrwyr yn y DU.

Yng Nghymru, rydym wedi parhau i ddarparu grantiau cynnal a chadw i fyfyrwyr.

Mae myfyrwyr o Gymru hefyd yn unigryw o ran eu bod yn derbyn hyd at £1500 oddi ar eu benthyciad cynhaliaeth pan fyddant yn dechrau ad-dalu eu benthyciadau i fyfyrwyr.

Rwy'n fyfyriwr Safon Uwch sydd â diddordeb mewn mynd i brifysgol. A fydd cymorth ychwanegol ar gael i'm helpu i baratoi?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag ymarferwyr, CBAC a phrifysgolion i ddatblygu adnoddau i helpu dysgwyr i symud ymlaen i’r Brifysgol.

Mae adnoddau ar-lein ar gael ar Hwb, a chaiff adnoddau newydd eu hychwanegu drwy gydol y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £200,000 mewn prosiect yn ymwneud â throsglwyddo i brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Agored a Phrifysgolion Cymru. Mae’r Hwb ‘Barod ar gyfer Prifysgol’ wedi'i anelu at ddysgwyr sydd eisoes wedi penderfynu y byddant yn mynd i'r brifysgol ac i'r rhai sy'n chwilfrydig ac sy'n ystyried mynd i'r brifysgol.

Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn hwb mynediad agored am ddim sy’n darparu adnoddau a deunyddiau yn Gymraeg a Saesneg i helpu pobl gyda gwybodaeth ynghylch pynciau yn ogystal â chyngor ar symud allan, trefnu cyllid, a chymorth iechyd meddwl a lles.