Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Unigolion

Nid wyf yn gallu cael gafael ar Gyllid Myfyrwyr Cymru i drafod fy nghyllid. Ydi’r llinellau ar gau?

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy’n darparu gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, wedi cymryd camau i newid y ffordd y mae’n darparu ei wasanaethau, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth ynghylch y Coronafeirws. 

Mae’r Cwmni wedi sefydlu trefniadau gweithio o bell er mwyn caniatáu i’r staff weithio gartref. Mae’r staff yn cael cymorth tîm craidd o weithwyr allweddol sy’n parhau i ddarparu swyddogaethau swyddfa hanfodol.

Mae’r Cwmni yn parhau i dderbyn a phrosesu ceisiadau myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd, ac mae taliadau cynhaliaeth a ffioedd dysgu yn cael eu prosesu fel arfer. 

Mae gwasanaethau’r Ganolfan Gyswllt ar gael ac mae galw uchel amdanynt. Gofynnir i’r myfyrwyr ddefnyddio eu cyfrifon ar-lein i gysylltu â Cyllid Myfyrwyr Cymru os oes modd.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi gwybodaeth i gwsmeriaid ar-lein, felly dylech edrych ar yr wybodaeth honno cyn cysylltu.

A fydd unrhyw oedi ar daliad cyllid myfyrwyr mis Ebrill?

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy’n darparu gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, yn cymryd camau i newid eu gwasanaeth i fodloni canllawiau’r Llywodraeth, Mae taliadau blwyddyn academaidd 2019/20 wedi parhau drwy gydol y cyfnod, a disgwylir i bob taliad sydd wedi’i drefnu barhau.

Rwy’n wynebu problemau ariannol. Pa gymorth sydd ar gael i mi?

Efallai y bydd myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau ariannol am gysylltu â gwasanaethau caledi neu les myfyrwyr eu darparwr.

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi rhoi’r gorau i unrhyw weithgarwch casglu dyledion ac ôl-ddyledion am y tro i leddfu unrhyw bwysau ar unigolion ac osgoi rhoi unrhyw bwysau ariannol ychwanegol arnynt ar hyn o bryd.

Rwy’n bryderus ac o dan straen. Pa gymorth sydd ar gael i mi?

Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod bod prifysgolion Cymru wedi cynnal nifer o weithgareddau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant y myfyrwyr, gyda chymorth cyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i CCAUC. Dylai cymorth o’r fath gael ei ymestyn i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws, yn ogystal â’r rhai sydd mewn neuaddau preswyl. Dylai myfyrwyr sy’n dioddef pryder a straen gysylltu â gwasanaethau lles myfyrwyr eu darparwr. Mae nifer o elusennau cenedlaethol hefyd ar gael a allai helpu.

Mae fy Mhrifysgol yn symud at ddysgu ar-lein ar gyfer fy nghwrs (neu’n darparu gwaith i mi ei gwblhau gartref). A fyddaf yn parhau i dderbyn cymorth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru?

Mae’r sefyllfa yn newid yn sydyn, a nifer o Brifysgolion yn parhau i symud i ddysgu ar-lein, neu ddefnyddio dulliau eraill, i sicrhau bod modd i fyfyrwyr barhau i astudio yn ddi-dor. Dylai eich cymorth i fyfyrwyr barhau beth bynnag. Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy’n darparu gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, yn gweithio’n galed i sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud ar amser.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ddarpariaeth eich cwrs, cysylltwch â’ch Prifysgol.

Pe bai fy Mhrifysgol yn cau, a fyddwn yn parhau i dderbyn cymorth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru?

Nid yw’r Prifysgolion wedi cau, ac maent yn parhau i ddarparu addysg a gwasanaethau i fyfyrwyr. Mae’r sefyllfa yn parhau i newid yn gyflym, ond am y tro, mae Prifysgolion yn gwneud eu gorau i ddarparu gwasanaethau craidd i fyfyrwyr drwy ddulliau dysgu o bell. 

Os byddaf yn sâl, a fyddaf yn parhau i dderbyn cymorth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru?

Dylech hysbysu eich Prifysgol am unrhyw absenoldeb yn sgil salwch cyn gynted â phosib. Fel arfer, ni fydd cyfnodau byr o absenoldeb yn effeithio ar eich cymorth i fyfyrwyr.

Os bydd rhaid i mi hunanynysu, a fyddaf yn parhau i dderbyn cymorth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru?

Dylech hysbysu eich Prifysgol am unrhyw absenoldeb cyn gynted â phosib. Fel arfer, ni fydd cyfnodau byr o absenoldeb yn effeithio ar eich cymorth i fyfyrwyr.

Rwyf wedi symud allan o neuadd breswyl/llety rhent preifat i fyfyrwyr. A fydd rhaid i mi dalu rhent am dymor yr haf?

Croesawir y penderfyniad gan rai sefydliadau i ildio costau llety yn rhannol neu’n llwyr.

Cynghorir myfyrwyr i siarad â’r swyddfa llety neu â’r landlord preifat, pa un bynnag sy’n berthnasol, gan mai cytundebau rhwng y myfyriwr a’r brifysgol/landlord preifat yw cytundebau rhentu llety. Dylai sefydliadau gyfathrebu’n glir gyda’r myfyrwyr preswyl ynghylch rhent a gweithredu mewn ffordd deg a thryloyw i weinyddu darpariaeth llety.

Rwyf wedi symud allan o neuadd breswyl/llety rhent preifat i rented student accommodation and moved back to my parents’ home. Will I retain the same level of maintenance support?

Ni ddylai myfyrwyr sydd wedi symud yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf weld unrhyw effaith ar eu cymhorthdal y tymor hwn.

A fydd fy Mhrifysgol yn darparu darpariaeth ar-lein ar ffurf hygyrch?

Y Prifysgolion eu hunain sy’n gyfrifol am eu darpariaeth. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl iddynt ystyried anghenion eu myfyrwyr a darparu ar ffurfiau amgen a hygyrch. Mae Prifysgolion yn symud yn gyflym i sicrhau bod modd i fyfyrwyr barhau i gyrraedd at y ddarpariaeth, ond os oes gennych anghenion dysgu penodol neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, dylech gysylltu â’ch Prifysgol cyn gynted â phosib. Os ydych yn derbyn cymorth drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, dylech drafod eich trefniadau cymorth gyda’ch Prifysgol er mwyn sicrhau bod eich cymorth yn parhau i fodloni eich anghenion a’ch gofynion. 

Beth fydd yr effaith o ran dysgu, arholiadau ac asesiadau wrth i ddarpariaeth symud oddi wrth addysgu wyneb yn wyneb?

Y darparwyr addysg uwch eu hunain sy’n gyfrifol am gynllunio a chyflawni eu darpariaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt ystyried anghenion eu myfyrwyr a darparu ffurfiau amgen a hygyrch o addysgu ac asesu. Dylai myfyrwyr fedru gadael â chymwysterau sy’n adlewyrchiad teg o’u gallu, gan gynnal ansawdd a safonau ar yr un pryd. Ni ddylai unrhyw fyfyriwr gael ei gosbi’n annheg am fod ar flwyddyn olaf ei astudiaeth ynghanol y cyfnod anodd hwn.  

Pa gymorth sy’n cael ei roi i Undebau Myfyrwyr ar hyn o bryd?

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod Undebau Myfyrwyr ledled Cymru yn gweithio’n hynod o galed wrth ochr ein prifysgolion i gynnig cymorth, tawelwch meddwl a chyngor i fyfyrwyr a staff. Mae Cymru yn gartref i gymuned amrywiol a rhyngwladol o fyfyrwyr, ac mae gwaith yr Undebau Myfyrwyr (gydag UCMC) yn dangos ein bod yn parhau i fod yn gartref croesawgar a chefnogol i bob myfyriwr.

Mae fy arholiadau Safon Uwch wedi cael eu gohirio. Sut fydd hynny’n effeithio ar fy nghais i astudio mewn prifysgol?

Os ydych chi wedi gwneud cais drwy UCAS, bydd UCAS yn cysylltu â chi i’ch hysbysu am unrhyw newidiadau sylweddol allai effeithio arnoch chi neu’ch cais gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a nodwyd ar eich ffurflen. Gallwch ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost gydag UCAS os oes angen.

Mae Cymwysterau Cymru wedi darparu rhagor o wybodaeth yn dilyn y penderfyniad i beidio cynnal arholiadau ysgolion uwchradd yr haf hwn.

Bydd dysgwyr oedd i fod i sefyll eu harholiadau Safon Uwch yn yr haf yn derbyn gradd deg i gydnabod eu gwaith. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr addysg uwch gymryd hyn i ystyriaeth wrth wneud eu cynigion.

Mae rhai darparwyr addysg uwch yn newid eu cynigion. Beth ddylwn i ei wneud?

Nid oes rheswm dros amharu ar y drefn dderbyn arferol. Ni ddylai darparwyr addysg uwch ddechrau rhoi cynigion diamod, ac ni ddylai ymgeiswyr deimlo dan bwysau i dderbyn cynigion o’r fath.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am hyn?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag UCAS a CCAUC i fonitro arferion derbyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyflwyno mesurau ffrwyno derbyniadau sy’n gweithio ar gyfer y sector yng Nghymru ac y gellir eu rheoleiddio gan CCAUC. Wedi i’r moratoriwm ar ymddygiadau penodol mewn perthynas â derbyniadau ddod i ben, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ddatganiad polisi addysg uwch. Mae CCAUC yn ymgynghori ar hyn o bryd ar eu dull gweithredu arfaethedig i fonitro derbyniadau er mwyn cynnal sefydlogrwydd y sector mewn ymateb i’r pandemig COVID-19, gan gynnwys defnyddio cynigion diamod.

Pa adnoddau a fydd ar gael i ddysgwyr, gan fod addysgu wyneb yn wyneb wedi dod i ben? Sut y bydd sefydliadau yn gweithredu i gynorthwyo dysgwyr i ailgychwyn astudio ar ôl y pandemig?

Er bod addysgu wyneb yn wyneb wedi dod i ben am y tro, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod colegau a phrifysgolion yn symud i addysgu ar-lein lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â JISC i helpu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu ar-lein ymhellach lle bo angen.

Gan y bydd y dulliau gweithredu yn amrywio o’r naill ddarparwr dysgu i’r llall, dylai'r dysgwyr siarad â'u darparwr am eu cwrs penodol nhw.

Pa gymorth fydd ar gael i ddysgwyr nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiaduron gartref?

Rydym yn deall bod  pob sefydliad yn cymryd camau i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar e-ddysgu, er enghraifft drwy roi benthyg gliniaduron i ddysgwyr nad oes ganddynt gyfleusterau yn y cartref.  Dylai dysgwyr allu cael mwy o wybodaeth gan eu darparwr dysgu.

Rydym wedi gofyn i ddarparwyr dysgu flaenoriaethu lles dysgwyr a darparu cymorth a diweddariadau o bell, lle bynnag y bo modd, dros y ffôn, e-bost ac ar-lein.

Byddai rhai dysgwyr wedi dechrau cwrs yn nhymor y gwanwyn 2020. Beth fydd yn digwydd i’r rheini?

Mae pob sefydliad yn gyfrifol am wneud trefniadau ar gyfer y dysgwyr hynny a oedd yn dechrau cyrsiau cyn bo hir.

A yw sefydliadau wedi ceisio nodi pa ddysgwyr sydd angen ystyriaeth arbennig o bosib oherwydd eu hiechyd eu hunain, neu iechyd eu dibynyddion, wrth asesu risg ac addasu gweithdrefnau, yn enwedig gan na fyddant yn mynychu’r sefydliad yn gorfforol mwyach?

Mae sefydliadau'n ymwybodol o'u dyletswydd gofal at ddysgwyr, a'u dyletswydd i roi cefnogaeth fugeiliol iddynt, ac maent yn blaenoriaethu cymorth i ddysgwyr sy'n fregus (gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol).  Mae gan golegau a phrifysgolion dimau gwasanaethau myfyrwyr sy'n arwain ar hyn, a dyma’r timau y dylid cysylltu â nhw gyntaf i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a phrifysgolion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â lles myfyrwyr er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i fyfyrwyr a'u bod yn wynebu problemau unigryw.

Beth sy'n cael ei wneud i gefnogi lles ac iechyd meddwl dysgwyr addysg ôl-16? A oes rôl i gyllid/cyfarwyddyd ychwanegol gan y Llywodraeth i wneud hyn?

Gweler uchod. Mae gan sefydliadau broses a gweithdrefnau effeithiol i ofalu am les dysgwyr, ac maent yn darparu cymorth ar-lein lle bynnag y bo modd.  Rydym hefyd wedi gofyn iddynt sicrhau bod trefniadau 'cadw mewn cysylltiad' ar waith i helpu dysgwyr drwy gyfnodau o hunanynysu ac ymbellhau cymdeithasol, gan gynnwys dysgwyr seiliedig ar waith y mae eu cyflogwyr wedi cau eu gweithle dros dro.

Mae gan y sectorau addysg bellach ac uwch gyllid i gefnogi iechyd meddwl yn 2020-21, a gellir defnyddio hwn i helpu i feithrin gwydnwch a lles dysgwyr yn ystod y cyfnod presennol o ddysgu o bell ac ymbellhau cymdeithasol.

Mae angen cefnogi dysgwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, pa ragofalon neu gamau y dylai'r dysgwyr hyn eu cymryd?

Mae pob sefydliad yn gyfrifol am drefnu lleoliadau a lles staff a myfyrwyr yw eu prif flaenoriaeth.

Beth fydd yn digwydd i seremonïau graddio?

Mater i'r sefydliadau unigol yw penderfynu hyn ar sail cyngor y Llywodraeth ar y pryd.

Pa ddarpariaeth ychwanegol ar gyfer cyngor fisa Haen 4 sydd ar gael, ac a yw'r ddarpariaeth hon ar gael o bell?

A fydd grantiau myfyrwyr TAR yn cael eu talu ar ôl mis Mai?

Ni wnaed unrhyw newidiadau i gymorth statudol i fyfyrwyr nac amserlenni taliadau.

Sut bydd sefydliadau yn helpu myfyrwyr sy’n aros yn eu llety? Yn arbennig, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, myfyrwyr rhyngwladol, y rhai sy’n hunanynysu a’r rhai mewn llety arlwyo sydd ag ychydig iawn o ofod cegin, os o gwbl?

Mae sefydliadau yn ymwybodol o’u dyletswydd gofal a’u cyfrifoldeb i roi cymorth bugeiliol i ddysgwyr, ac yn rhoi blaenoriaeth i gymorth i ddysgwyr agored i niwed. Maent yn monitro nifer y myfyrwyr sy’n aros yn y brifysgol neu’r cyffiniau, ac wedi gosod mesurau cymorth ychwanegol yn eu lle ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn y brifysgol yn bennaf neu sy’n hunanynysu. Mae gan golegau a phrifysgolion dimau gwasanaethau myfyrwyr sy’n arwain ar hyn, ac atynt hwy y dylid troi am wybodaeth bellach yn y lle cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei pholisïau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc agored i niwed.

Dylai myfyrwyr sy’n aros yn y brifysgol gadw at gyfyngiadau’r Llywodraeth ar deithio a gweithgarwch awyr agored. Dylid eu hannog i ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

A fydd myfyrwyr mewn neuaddau preswyl sy’n eiddo i’r brifysgol, adeiladau llety preifat pwrpasol a thenantiaeth neu dai amlfeddiannaeth preifat yn gymwys i gael ad-daliad os byddant yn dewis gadael yr eiddo yn gynnar?

Rydym yn croesawu penderfyniad rhai sefydliadau i ildio costau llety yn rhannol neu’n llwyr. Cynghorir myfyrwyr i drafod gyda’r swyddog llety neu landlord preifat, fel y bo’n briodol, gan fod y cytundebau rhentu llety rhwng y myfyrwyr a’r brifysgol/landlord preifat. Dylai sefydliadau gyfathrebu’n glir gyda’r myfyrwyr preswyl ynghylch rhent, a gweithredu mewn ffordd deg a thryloyw wrth weinyddu’r ddarpariaeth o lety.

Beth fydd yr effaith ar fyfyrwyr ar leoliad, o ran eu cynnydd os nad oes modd iddynt gwblhau asesiadau ymarferol a/neu alwedigaethol?

Mae Llywodraeth Cymru yn deall bod lleoliadau, gwaith maes, asesiadau galwedigaethol ac ati yn elfennau hanfodol o sawl cwrs. Bydd darparwyr yn rhoi blaenoriaeth i les staff a myfyrwyr. Darparwyr addysg uwch sy’n gyfrifol am gynllunio a chyflawni eu darpariaeth.

Mae angen i mi deithio i symud adref o’m llety adeg tymor. Ydy hyn yn cael ei ganiatáu?

Dan y cyfyngiadau presennol ar symud, gall pobl Cymru deithio unrhyw bellter yng Nghymru ar gyfer unrhyw bwrpas. Rhaid i fyfyrwyr sydd am deithio i gartrefi neu o sefydliadau yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ddilyn y canllawiau sy’n berthnasol i’r wlad lle maent yn teithio.

Wrth deithio, ac yn eich llety myfyrwyr, dylech gadw at y cyngor presennol ar gadw pellter cymdeithasol, sy’n cynghori ar fesurau y dylai pawb eu cymryd i gyfyngu ar unrhyw ryngweithio cymdeithasol rhwng pobl er mwyn atal trosglwyddo’r coronafeirws.

Fe ddylech chi ac unrhyw un sy’n eich helpu i symud hefyd edrych ar y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â rheoliadau’r Coronafeirws.

Ceir canllawiau hefyd yn newidiadau i reoliadau’r coronafeirws ar 1 Mehefin: cwestiynau cyffredin a Canllawiau ar y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws o 1 Mehefin.

Efallai y byddwch hefyd am edrych ar ganllawiau ynghylch casglu eich eiddo ar ôl symud allan o’ch cartref.

Os oes angen i chi aros oddi cartref dros nos, dylech sicrhau eich bod yn dilyn y canllawiau y cyfeirir atynt uchod.

Mae angen i mi deithio i wagio fy llety adeg tymor. Ydy hyn yn cael ei ganiatáu?

Dan y rheolau presennol ynghylch cyfyngu ar symudiad, gall pobl Cymru deithio unrhyw bellter yng Nghymru ar gyfer unrhyw bwrpas. Felly os ydych yn fyfyriwr sydd wedi gadael eich llety yng Nghymru, a’ch bod nawr am deithio yn ôl i’ch llety i gasglu eich eiddo, mae hawl gennych i wneud hynny.

Os oes angen i chi deithio i neu o wlad arall i gasglu eich eiddo, gallwch deithio yng Nghymru. Ond os oes angen i chi deithio i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i gasglu eiddo, rhaid i chi ddilyn yr holl gyngor sy’n berthnasol yn y wlad lle’r ydych chi’n teithio.

Rydym yn eich annog i gysylltu â’ch darparwr llety, boed yn brifysgol neu landlord preifat, cyn eich taith i gytuno ar ddyddiad ac amser priodol i gasglu eich eiddo. Efallai y byddwch yn cael anhawster mynd i mewn i’ch llety os nad yw’ch darparwr llety wedi gwneud trefniadau ar eich cyfer. Rydym yn disgwyl i’r darparwr llety gynnig cyngor i chi ynghylch y ffordd orau o gasglu eich eiddo yn ddiogel.

 Wrth deithio, ac yn eich llety myfyrwyr, dylech gadw at y cyngor presennol ar gadw pellter cymdeithasol, sy’n cynghori ar fesurau y dylai pawb eu cymryd i gyfyngu ar unrhyw ryngweithio cymdeithasol rhwng pobl er mwyn atal trosglwyddo’r coronafeirws.

Fe ddylech chi ac unrhyw un sy’n eich helpu i symud hefyd edrych ar y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â rheoliadau’r Coronafeirws.

Ceir canllawiau hefyd yn newidiadau i reoliadau’r coronafeirws ar 1 Mehefin: cwestiynau cyffredin a Canllawiau ar y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws o 1 Mehefin.

Efallai y byddwch hefyd am edrych ar ganllawiau ynghylch casglu eich eiddo ar ôl symud allan o’ch cartref.

Os oes angen i chi aros oddi cartref dros nos, dylech sicrhau eich bod yn dilyn y canllawiau y cyfeirir atynt uchod.

Rwyf eisiau dychwelyd i’m llety adeg tymor o gartref. Ydy hyn yn cael ei ganiatáu?

Nid yw’r rheoliadau presennol yn atal symud tŷ.

Os byddwch yn symud, dylech chi ac unrhyw un sy’n eich helpu, edrych ar y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar sut i amddiffyn eich hunan ac eraill rhag y coronafeirws

Beth yw’r sefyllfa o ran ad-dalu ffioedd myfyrwyr i’r rhai sydd eisoes wedi talu ffioedd coleg neu brifysgol yn ystod cyfnod y coronafeirws?

Mae prifysgolion a cholegau Cymru yn parhau i ddysgu myfyrwyr. Mae’r sefyllfa yn parhau i ddatblygu’n gyflym, ac mae prifysgolion yn symud ar fyrder i gyflawni eu hymrwymiadau i fyfyrwyr.

Ni ddylai myfyrwyr ddisgwyl ad-daliad o’r ffioedd os ydynt yn derbyn addysg a chymorth digonol ar-lein. Anogir myfyrwyr i drafod unrhyw faterion sy’n codi gyda’u sefydliad addysg uwch.

Mae ffioedd yn fater contractiol rhwng y myfyrwyr a’r darparwyr. Fodd bynnag, os nad oes modd i sefydliad ddarparu hyfforddiant digonol ar-lein, nid yw Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r sefydliad godi ffioedd dysgu pellach ar fyfyrwyr, gan y byddai unrhyw hyfforddiant sy’n cael ei gynnig yn rhan o’r cwrs mae’r myfyriwr eisoes wedi talu amdano.

A fydd y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn cael ei addasu yn sgil yr amgylchiadau newydd, ac os felly, sut?

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi cyflwyno mesurauyn gweithredu’n hyblyg wrth weinyddu a gweithredu’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Dylai myfyrwyr newydd a phresennol gysylltu â thîm Lwfans i Fyfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru i drafod eu sefyllfa bersonol.

Pa fesurau sy’n fy niogelu rhag cael fy nhroi allan o’m llety?

Yn sgil Deddf Coronafeirws 2020, cynyddwyd cyfnod rhybudd pob gorchymyn troi allan i dri mis. Ers hynny, ataliwyd achosion meddiant tai am 90 diwrnod yn y llysoedd. Mae hynny’n golygu nad oes modd troi unrhyw un allan yn gyfreithlon yn ystod y cyfnod hwn. Gweler ganllawiau troi allan o’r cartref yn ystod y pandemig coronafeirws.

Sut mae gofalu am iechyd a lles myfyrwyr rhyngwladol?

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ac yn gwerthfawrogi cyfraniad eithriadol myfyrwyr rhyngwladol i Gymru. Ysgrifennodd y Gweinidog Addysg at brifysgolion Cymru ar 27 Mawrth yn gofyn iddynt sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig i fyfyrwyr sy’n parhau i fod oddi cartref ar yr adeg anodd hwn, ac sy’n debygol o deimlo’n ynysig. Dylid ymestyn cymorth i fyfyrwyr sy’n byw oddi ar y campws yn ogystal â’r rhai sy’n byw yn neuaddau preswyl y prifysgolion. Mae hyn yn cynnwys nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol sydd wedi penderfynu aros yn y DU, neu sy’n methu teithio adref. Bydd prifysgolion hefyd yn cynnig amrywiol wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys cymorth arlwyo a glanhau, a darparu cymorth iechyd meddwl, sy’n ystyriaeth hanfodol i’r Gweinidog. Dylai myfyrwyr barhau i ddilyn canllawiau iechyd cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru
 

A fydd ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr yn cael eu gohirio?

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi rhoi’r gorau i’w gweithgarwch casglu dyledion am y tro er mwyn lleddfu’r pwysau ar unigolion ac osgoi eu rhoi dan bwysau ariannol ychwanegol yn ystod y cyfnod sydd ohoni. Nid oes cynlluniau i roi’r gorau i gasglu ad-daliadau, sy’n ddibynnol ar incwm – mae’r ad-daliadau yn dod i ben os bydd incwm unigolyn yn syrthio o dan y trothwy ar gyfer ad-dalu.

Beth yw’r trefniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd i’r brifysgol neu yn dechrau yno yn yr hydref?

Gan fod sefydliadau addysg uwch yn gyrff ymreolaethol, y sefydliadau eu hunain sy’n gyfrifol am gynllunio a chyflenwi eu darpariaeth. Felly y sefydliadau eu hunain fydd yn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch agor y campws neu ddulliau cyflenwi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod nifer o brifysgolion yn paratoi cynlluniau i ddarparu ffyrdd diogel o ddysgu i fyfyrwyr o dymor yr hydref ymlaen. Mae hyn yn cynnwys cymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb yn wyneb, gan ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r pandemig yn parhau, ac rydym yn disgwyl i brifysgolion barhau i ddatblygu eu hymateb dros y misoedd nesaf.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ddatganiad polisi addysg uwch yn ddiweddar. Mae’r datganiad yn amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prifysgolion a myfyrwyr sy’n dygymod ag effaith y Coronafeirws.

A oes unrhyw ganllawiau i fyfyrwyr ynghylch sicrhau llety cyn tymor yr hydref?

Gan fod contractau llety yn digwydd rhwng y myfyriwr a’r brifysgol/landlord, dylai unrhyw fyfyrwyr sydd eisoes wedi llofnodi contract llety ar gyfer y flwyddyn nesaf gysylltu yn uniongyrchol â’r darparwr llety ynghylch unrhyw bryderon yn ymwneud â COVID-19.

Darparwyr

Beth sy’n cael ei wneud i reoleiddio addysg uwch yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda CCAUC ynghylch gofynion rheoleiddio sefydliadau yng Nghymru yng ngoleuni’r sefyllfa bresennol. Mae CCAUC yn adolygu’r gofynion hynny.

Sut mae staff darparwyr addysg uwch yn cael eu cynorthwyo?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod sefydliadau wedi bod yn adolygu a gweithredu arferion gwaith ar gyfer staff sy’n caniatáu iddynt gynnal dyletswydd gofal, er enghraifft drwy gadw pellter cymdeithasol, gan sicrhau bod busnes hanfodol yn parhau. Rydym yn siŵr y bydd y sector yn parhau i ddarparu cymorth i staff sy’n hybu eu hiechyd meddwl a’u lles yn y cyfnod sydd ohoni.

Beth yw’r effaith ar weithgarwch tramor a myfyrwyr rhyngwladol?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod sefydliadau wedi gohirio unrhyw deithiau tramor i staff a myfyrwyr yn unol â chanllawiau presennol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad sy’n dweud na ddylai gwladolion Prydain wneud unrhyw daith ryngwladol nad yw’n hanfodol. Cynghorir pob myfyriwr neu aelod staff sy’n astudio dramor ar gynllun cyfnewid, gan gynnwys cynllun Erasmus+, neu sy’n gweithio dramor dros dro, i ddychwelyd i’r DU tra bod teithiau masnachol yn parhau i fod ar gael, yn unol â chanllawiau presennol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Sut mae’r ymateb i COVID-19 yn gweithio yn y sector ôl-16?

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi Cynllun Cadernid Covid-19 ar gyfer y sector ôl-16, sy’n cyfateb i’r datganiad polisi dilyniant dysgu i ysgolion. Mae’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a’r sector i gefnogi dilyniant a chynnydd dysgwyr.

Beth ddylai ysgolion ei wneud i gefnogi dysgwyr sydd wedi gorffen eu hastudiaethau TGAU neu Safon Uwch ac sy’n symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch yn yr hydref?

Mae gan ysgolion ddyletswydd gofal dros y dysgwyr hyn o hyd, a dylid darparu gweithgareddau dysgu, adnoddau, cyngor ac arweiniad iddynt wrth baratoi ar gyfer cam nesaf eu haddysg. Mae adnoddau a gwybodaeth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13, gan gynnwys carfan Seren, ar gael ar ein tudalen dysgu o bell ôl-16 ar Hwb.

Rhannu’r dudalen hon