Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Does dim data yn y diweddariad hwn yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae cyfanswm y myfyrwyr a ddechreuodd gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) wedi gostwng i 1,065 yn 2018/19, gan barhau â’r gostyngiad ar gyfer cyrsiau cynradd ers 2013/14 a’r gostyngiad ar gyfer cyrsiau uwchradd ers 2009/10. Mae’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau AGA cynradd wedi bod yn is na’r targed ers 2014/15 a’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau AGA uwchradd hefyd wedi parhau’n is na’r targed ers 2013/14.

Prif bwyntiau

Roedd nifer yr athrawon ysgol uwchradd o dan hyfforddiant a dderbyniwyd dros 44% yn is na’r targed yn 2018/19. Roedd nifer yr athrawon ysgol gynradd o dan hyfforddiant yn is na’r targed am y bedwaredd flwyddyn (22% yn is yn 2018/19).

Dechreuodd 1,065 o fyfyrwyr ar gyrsiau AGA yn 2018/19; 585 ar gyrsiau ysgol gynradd a 480 ar gyrsiau ysgol uwchradd.

Bu gostyngiad bychan yn nifer y myfyrwyr HCA blwyddyn gyntaf yng Nghymru sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg am y bumed flwyddyn yn olynol; 175 o fyfyrwyr oedd y nifer yn 2018/19. Mae hyn yn cyfrif am 16% o gyfanswm y myfyrwyr HCA blwyddyn gyntaf yng Nghymru.

Gwyddoniaeth, Mathemateg ac Addysg Gorfforol yw’r pynctiau mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd.

Roedd mwy na 9 o bob 10 o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.

Adroddiadau

Addysg Gychwynnol i Athrawon, Medi 2018 i Awst 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.