Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2017 i Awst 2018.

Siart yn dangos bod nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yng Nghymru yn lleihau. O 2009/10, mae'r nifer ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd yn agos i'w targedau, ond yn 2014/15 mae nifer yr athrawon uwchradd yn cwympo'n ddramatig is na'r targed ac, yn 2015/16, mae nifer yr athrawon cynradd yn dechrau cwympo'n is na'r targed.

Prif bwyntiau

  • Roedd nifer yr athrawon ysgol uwchradd o dan hyfforddiant a dderbyniwyd dros draean (40%) yn is na’r targed yn 2017/18. Parhaodd nifer yr athrawon ysgol gynradd o dan hyfforddiant a dderbyniwyd i fod ychydig yn is na’r targed am y drydedd flwyddyn yn olynol.
  • Dechreuodd 1,200 o fyfyrwyr ar gyrsiau AGA yn 2017/18; 670 ar gyrsiau ysgol gynradd a 525 ar gyrsiau ysgol uwchradd.
  • Bu gostyngiad bychan yn nifer y myfyrwyr sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg, sydd ar ei isaf ers 2007/08.
  • Gwyddoniaeth, Addysg Gorfforol, a Saesneg yw’r  pynctiau mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd.
  • Roedd mwy na 8 o bob 10 o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.

Cyhoeddi’r ystadegau hyn yn y dyfodol

Rydym yn y broses o ddiweddaru’r ffordd y bydd yr ystadegau hyn yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol, ac fe fyddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gennych.

Adroddiadau

Addysg gychwynnol i athrawon, Medi 2017 i Awst 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 862 KB

PDF
862 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.