Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion yr ymchwil a methodoleg

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymarfer mapio sydd yn archwilio addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr (ar gyfer hwyrddyfodiaid) mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru.

Amcanion yr ymchwil

Nod yr ymarfer mapio hwn oedd llunio darlun o’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr oedd yn bodoli mewn rhai awdurdodau addysg lleol ar y pryd, a deall rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn codi wrth i’r ddarpariaeth gael ei chynllunio a’i rhoi ar waith. Amcanion yr ymchwil oedd archwilio:

  • yr amgylchiadau a’r anghenion y mae modelau darparu gwahanol yn rhoi sylw iddynt
  • strwythur a chynnwys y modelau gwahanol
  • y ddarpariaeth bresennol yng nghyd-destun sut mae’r ddarpariaeth wedi datblygu dros amser
  • chynlluniau ar gyfer y ddarpariaeth yn y dyfodol

Mae’r astudiaeth hefyd yn nodi rhai ystyriaethau ynghylch i ba raddau y mae trefniadau  presennol yn caniatáu i effeithiolrwydd y modelau gael ei asesu. At ddibenion yr ymarfer mapio hwn defnyddiwyd y term ‘addysg drochi hwyr’ i gwmpasu amrywiaeth o fodelau a mathau o ddarpariaeth, sydd yn cael eu defnyddio ar wahanol bwyntiau mynediad yn y sectorau cynradd ac uwchradd.

Comisiynwyd Cangen Ymchwil y Gymraeg, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru i gynnal yr ymarfer mapio gan Is-adran y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd yr astudiaeth a lluniwyd yr adroddiad hwn fel rhan o interniaeth PhD pum mis a drefnwyd drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cymru a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil rhwng Ionawr ac Ebrill 2021.

Cyd-destun polisi

Mae addysg drochi hwyr yn ddarpariaeth sydd yn caniatáu i hwyrddyfodiaid gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfnodau hwyrach na’r Cyfnod Sylfaen. Mae darpariaeth o’r fath wedi bodoli yng Nghymru ers nifer o ddegawdau, ac mewn nifer o ffyrdd gwahanol (drwy ganolfannau dynodedig, unedau iaith, ac o fewn ysgolion). Nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth Cymraeg 2050 yw sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif (Llywodraeth Cymru 2017a). Mae’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn rhan allweddol o wireddu’r nod hwn, oherwydd ei bod yn cynyddu’r nifer o bwyntiau mynediad at y sector cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gydol gyrfa addysgol y disgybl.

Fel rhan o’r strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei ymrwymiad i ‘ystyried rôl canolfannau trochi ieithyddol hwyr wrth gefnogi’r sector cyfrwng Cymraeg ac a ddylai cymorth o’r fath fod ar gael ym mhob awdurdod lleol’ (Llywodraeth Cymru 2020: 28). Ers 2019, mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i adrodd ar eu darpariaeth addysg drochi hwyr drwy eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau). Yng nghyd-destun cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio i gynyddu’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr, a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ehangach, mae’n bwysig edrych ar y ddarpariaeth sydd yn bodoli eisoes, ac ystyried i ba raddau mae effeithiolrwydd y ddarpariaeth a gynigir yn gallu cael ei fesur, er mwyn datblygu dealltwriaeth o ba fodelau sy’n gweithio’n dda mewn gwahanol rannau o Gymru.

Methodoleg

Roedd y fethodoleg yn cwmpasu gwaith pen desg a chyfweliadau gyda rhanddeiliaid sydd yn ymwneud â’r gwaith cynllunio ar gyfer y ddarpariaeth addysg drochi hwyr. Cwblhawyd gwaith pen desg rhwng Ionawr ac Ebrill 2021. Roedd hyn yn cwmpasu archwilio a dadansoddi dogfennau polisi a data gweinyddol perthnasol (gan gynnwys CSCAau awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod 2017-2020), ac archwilio cyhoeddiadau a llenyddiaeth i osod y gwaith yn ei gyd-destun polisi.

Cynhaliwyd y cyfweliadau rhwng Ionawr a Mawrth 2021. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru fel rhan o waith sgopio cychwynnol yr ymchwil. Cynhaliwyd cyfweliadau gydag awdurdodau lleol yn seiliedig ar feini prawf cynnwys ac eithrio. Roedd y meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar y ddarpariaeth neu gynlluniau ar gyfer datblygu’r  ddarpariaeth yn y dyfodol. Am y rheswm hwnnw, penderfynwyd cynnwys awdurdodau lleol sydd yn cynnig darpariaeth, ac awdurdodau lle mae’r ddarpariaeth wedi newid yn lled-ddiweddar, neu awdurdodau sydd wrthi’n cynllunio eu darpariaeth. Gwahoddwyd 14 o awdurdodau lleol i gymryd rhan yn yr ymchwil yn seiliedig ar y meini prawf; roedd 10 ohonynt ar gael i gymryd rhan yn yr ymchwil yn yr amser a gafwyd i gwblhau’r prosiect. Cynhaliwyd cyfweliadau yn ogystal gyda swyddogion o’r pedwar consortiwm addysg rhanbarthol, a chynrychiolydd Estyn. Cynhaliwyd pob cyfweliad dros feddalwedd fideogynadledda Teams er mwyn cwrdd â gofynion cadw pellter cymdeithasol yn ystod pandemig COVID-19.

Cyfyngiadau i’r fethodoleg

Nid yw’r ymarfer mapio yn cynnig darlun cyflawn o’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yng Nghymru. Nid oedd modd cyfweld â phob awdurdod lleol lle ceir darpariaeth drochi hwyr, ac ni chafodd sefyllfa a phrofiadau’r awdurdodau lleol lle nad oes darpariaeth drochi hwyr eu harchwilio. Ni ddylid cymryd yn ganiataol nad yw’r awdurdodau lleol hyn yn cynllunio i gynnig darpariaeth addysg drochi hwyr yn eu CSCAau 10 mlynedd nesaf, ac ni fu’n bosibl archwilio a oedd unrhyw rhesymau penodol pam nad ydynt wedi datblygu’r ddarpariaeth hyd yma. Mae’n bosibl y gallai’r awdurdodau hyn fod wedi cynnig safbwyntiau a fyddai wedi cyfoethogi’r gwaith ymchwil ymhellach. Oherwydd gwahaniaethau yn strwythurau mewnol awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol, roedd amrywiaeth yn nheitlau swydd a chyfrifoldebau’r cyfranogwyr. Golyga hyn nad oedd gan bawb a gyfwelwyd yr un lefel o ymwneud â’r ddarpariaeth, ac mae’n bosibl y gallai hynny fod wedi dylanwadu ar eu gallu i ymdrin â phob maes i’r un lefel manylder, neu o’r un perspectif.

Prif ganfyddiadau

Y mathau o ddarpariaeth

Mae’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. O blith yr awdurdodau a gyfwelwyd, mae rhai yn cynnig y ddarpariaeth mewn canolfannau trochi dynodedig, ac eraill yn cynnig darpariaeth beripatetig. Mewn rhai achosion mae’r ddarpariaeth yn cael ei chynnig o fewn yr ysgol ei hun.

Heriau a chyfleoedd

Prif heriau

Mae rhai awdurdodau’n wynebu toriadau yn y cyllid a ddaw drwy’r Grant Gwella Addysg, ac yn aml caiff y math o ddarpariaeth a gynigir ei lywio gan faint o gyllid a ddyrennir ar gyfer y ddarpariaeth. Nododd rhai awdurdodau fod cynllunio cludiant i ganolfannau addysg drochi hwyr yn gallu bod yn her oherwydd y gost, ac mewn rhai achosion mae amser y dysgwyr yn y ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn cael ei gwtogi oherwydd trefniadau cludiant.

Cyfeiriodd ambell i awdurdod lleol at y ffaith nad oes gorfodaeth statudol i hwyrddyfodiaid fynychu darpariaeth addysg drochi hwyr. Oherwydd hynny mae awdurdodau lleol yn ddibynnol ar ewyllys da rhieni i gytuno i’w plant dderbyn y ddarpariaeth. Cafwyd peth tystiolaeth fod rhai rhieni yn gallu bod yn anfodlon anfon eu plant i ganolfannau oherwydd eu bod yn poeni y bydd y plant yn colli cyfleoedd sydd ar gael yn y brif lif.

Roedd rhai o’r awdurdodau lleol wedi cynllunio eu darpariaeth ar sail tystiolaeth gan awdurdodau lleol eraill. O’r dystiolaeth a gasglwyd, mae’n ymddangos nad oedd llawer o ddefnydd yn cael ei wneud o waith ymchwil a thystiolaeth wrth gynllunio’r ddarpariaeth. Cafwyd sylwadau hefyd am ddiffyg tystiolaeth ymchwil i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt gynllunio eu darpariaeth.

Nododd rhai bod risgiau yn gysylltiedig â blaengynllunio’r ddarpariaeth a rhagweld y galw oherwydd bod y ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn aml yn ymateb i symudedd pobl i mewn ac allan o’r ardal.

Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, mae staff y ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn brofiadol iawn mewn rhai awdurdodau lleol lle mae’r ddarpariaeth wedi ei hen sefydlu, gyda rhai yn gweithio yn y ddarpariaeth ers dros 15 mlynedd. Un her a wynebir yw sicrhau bod hyfforddiant penodol yn cael ei gynnig i athrawon trochi hwyr sydd yn newydd i’r swydd. Mewn rhai mannau, mae’r hyfforddiant yn digwydd yn fewnol mewn lleoliadau, wrth i ymarferwyr ymgymryd â’u gwaith.

O ran cynnig cymorth parhaus i hwyrddyfodiaid, roedd rhai o’r awdurdodau lleol a gyfwelwyd yn cynnig gwasanaeth allgymorth i roi cefnogaeth bellach y tu hwnt i’r cyfnod trochi hwyr, ac roedd eraill yn cynnig ymestyn hyd y ddarpariaeth os oedd angen rhagor o gefnogaeth ar yr hwyrddyfodiaid. Mewn rhai achosion, nid yw hwyrddyfodiaid yn cael eu cefnogi drwy gynllun ôl-ofalaeth wedi iddynt ddychwelyd i’r brif ffrwd.

Er bod cysylltiadau rhwng ALlau, consortia addysg rhanbarthol a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr, roedd natur y cysylltiadau hyn yn amrywiol ac yn gymhleth. Ar y cyfan, ALlau oedd yn arwain yn strategol ar bob agwedd o gynllunio’r ddarpariaeth.

Prif gyfleoedd

Nododd rhai o’r cyfranogwyr eu bod yn cydweithio ac yn rhannu adnoddau drwy feithrin cysylltiadau rhwng awdurdodau â’i gilydd, a rhwng awdurdodau a’r consortia addysg rhanbarthol. Er bod pandemig COVID-19 wedi cyflwyno her ychwanegol i awdurdodau lleol o ran cynllunio a chynnig eu darpariaeth, ar y cyfan, roedd cyfranogwyr yn gweld bod cyfleoedd yn y dyfodol o bosibl i ehangu eu darpariaeth trochi hwyr, a’r ddarpariaeth ôl-ofal, ar sail y profiad o ddysgu cyfunol a'r dechnoleg a ddefnyddiwyd i addysgu o bell. Nododd rhai o’r awdurdodau lleol a gyfwelwyd bod y lleoliad ar gyfer y ddarpariaeth addysg drochi hwyr yn cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill yn ogystal pan nad oes galw am ddarpariaeth i hwyrddyfodiaid.

Mesur effaith y ddarpariaeth

Mae tystiolaeth yr ymarferiad mapio hwn yn awgrymu bod amrywiaethau yn y ffordd y caiff effeithiolrwydd y ddarpariaeth addysg drochi hwyr ei fesur a’i ddehongli. Mae effaith y ddarpariaeth yn cael ei  fesur yn bennaf drwy’r cynnydd a welir yn ngallu ieithyddol yr hwyrddyfodiaid. Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, mae’n ymddangos nad yw cynnydd yn cael ei gofnodi ar ffurf data cadarn ym mhob achos, ac yn hytrach dibynnir ar dystiolaeth naratif gan athrawon. Fodd bynnag, roedd rhai awdurdodau lleol yn cydnabod bod angen dulliau tracio cynnydd mwy ffurfiol ar y ddarpariaeth, er mwyn mesur effaith y ddarpariaeth a chynnydd dysgwyr dros amser.

Ystyriaethau at y dyfodol

Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd drwy’r astudiaeth hon, cyflwynir yr ystyriaethau canlynol fel materion i’w trafod wrth i’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr gael ei chynllunio ar gyfer y dyfodol.

  • Wrth gynllunio i ehangu’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr, gellid ystyried a oes angen datblygu dealltwriaeth fanylach o faint o gyllid y mae awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion yn ei ddynodi ar gyfer y ddarpariaeth addysg drochi hwyr, a pha gyfran o’r cyllid hwn sy’n cael ei wario ar gostau cludiant.
  • Gallai awdurdodau lleol ystyried defnyddio eu polisïau iaith sirol a’u CSCAau er mwyn annog rhieni i ddewis anfon eu plant i ganolfannau addysg drochi hwyr. Gallai Llywodraeth Cymru gefnogi hyn drwy eu gwaith gydag awdurdodau lleol ar ddatblygu eu CSCAau a phwysleisio pwysigrwydd y canolfannau i gynnal polisïau iaith ysgolion unigol.
  • Gellid ystyried dulliau o gasglu gwybodaeth am y math o hyfforddiant y mae awdurdodau lleol neu gonsortia addysg rhanbarthol yn ei gynnig i ymarferwyr y ddarpariaeth addysg drochi hwyr. Gallai hyn fod yn sail ar gyfer creu darlun cynhwysfawr o’r hyfforddiant a gynigir, a sicrhau cysondeb a safon uchel ar gyfer hyfforddiant ar draws Cymru.
  • Gellid ystyried a oes angen ffurfioli neu gysoni’r trefniadau ar gyfer ôl-ofalaeth yn dilyn cyfnod o drochi hwyr, gyda’r nod o sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y gefnogaeth fwyaf addas. Fel rhan o hyn gellid ystyried rôl athrawon wrth iddynt gefnogi hwyrddyfodiaid sydd yn dychwelyd i’r brif ffrwd.
  • Mae llawer o brofiad gan yr awdurdodau a gyfwelwyd o ran cynllunio a chyflwyno addysg drochi hwyr. Gellid ystyried dulliau posibl o hwyluso cydweithio pellach rhwng awdurdodau lleol a hefyd gyda, a rhwng, consortia addysg rhanbarthol. 
  • Gellid ystyried sut i ddysgu o’r profiadau sydd wedi dod yn sgil COVID-19 ac archwilio potensial dysgu cyfunol a thechnegau dysgu iaith drwy ddulliau rhithiol, wrth gynllunio’r ddarpariaeth addysg drochi hwyr a’r gefnogaeth ddilynol i ddysgwyr.
  • Gellid ystyried yn ogystal a oes potensial i fwy o ddarparwyr addysg drochi hwyr ystyried cynnig eu lleoliadau at ddibenion eraill pan nad oes galw am y ddarpariaeth.
  • Ar hyn o bryd mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio data lefelau cenedlaethol er mwyn mesur cynnydd dysgwyr. Wrth i drefniadau cwricwlwm ac asesu newydd gael eu rhoi ar waith o 2022 ymlaen bydd y nod o ddilyn cynnydd dysgwyr sydd yn derbyn darpariaeth addysg drochi hwyr yn codi cwestiynau newydd. Wrth i ddulliau posibl o olrhain cynnydd dros amser gael eu trafod, gellid hefyd ystyried defnyddio’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) i nodi a yw disgyblion yn derbyn darpariaeth addysg drochi hwyr ar hyn o bryd, neu a ydynt wedi derbyn darpariaeth o’r fath yn y gorffennol.
  • Gallai datblygu theori, neu theorïau, newid gynnig sail defnyddiol ar gyfer cynllunio, a mesur effeithiolrwydd, rhaglenni addysg drochi hwyr yn y dyfodol. Byddai hyn yn cynnig cyfle i archwilio’r gydberthynas rhwng nodau ac amcanion rhaglenni neu fodelau, a’r amcanion tymor canolig a hwy y bwriedir iddynt eu cyflawni.  Byddai hefyd yn cynnig cyfle i nodi a phrofi’r rhagdybiaethau sydd yn gysylltiedig â’r rhaglenni a’r modelau, ac i adnabod y ffactorau allanol a allai ddylanwadu ar weithrediad y rhaglenni.
  • Byddai datblygu theorïau newid hefyd yn ffordd o amlygu’r mathau o dystiolaeth (tystiolaeth ansoddol a meintiol), a’r ffynonellau data, a allai gyfrannu at ddealltwriaeth fwy cynhwysfawr o effaith ac effeithiolrwydd y rhaglenni.
  • Dylid rhoi sylw i’r angen am fwy o ymchwil a thystiolaeth fel sail ar gyfer llunio polisi ym maes addysg drochi hwyr yn y Gymraeg.
  • Dylid ystyried yn ogystal ddulliau o sicrhau bod consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn defnyddio ymchwil a thystiolaeth wrth gynllunio darpariaeth newydd, ac i fireinio a datblygu ymhellach y ddarpariaeth addysg drochi hwyr sydd yn bodoli eisoes.
  • Dylid cofio y gallai darpariaeth effeithiol edrych yn wahanol mewn mannau gwahanol o Gymru. Wrth gynllunio’r ddarpariaeth, ac wrth werthuso ei heffeithiolrwydd, dylai anghenion ac amgylchiadau lleol fod yn ystyriaeth ganolog.

Manylion cyswllt

Awdur yr Adroddiad: Katharine Young

Safbwyntiau’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: ymchwil.cymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 70/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-037-6

Image
GSR logo