Neidio i'r prif gynnwy

Aethom ati i gomisiynu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu Cynllun Gweithredu cyfrwng Cymraeg ar gyfer y sector ôl-16.

Dyma'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan y cynllun:

  • cynyddu nifer y staff dwyieithog mewn colegau a lleoliadau darparu hyfforddiant
  • cynyddu'r adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg sydd ar gael
  • hyrwyddo'r cyfleoedd a'r manteision i ddysgwyr ym meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru

Bydd y Coleg yn bwrw ymlaen â'r cynllun mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Cefndir i’r Cynllun

Yn 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei bod yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i adolygu gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Aeth y grŵp ati i ystyried a ddylai cylch gwaith y Coleg gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg ôl-16.

Cyhoeddwyd ein hymateb i'r  adroddiad ym mis Gorffennaf 2017. Cymeradwywyd yr argymhelliad i ehangu cylch gwaith y Coleg i gynnwys y sector ôl-16. Comisiynwyd y cynllun gweithredu cyfrwng Cymraeg fel rhan o'i gyfrifoldeb newydd.