Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2018 i Orffennaf 2019.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2018/19, roedd yna 168,810 o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach, mewn lleoliadau dysgu oedolyn neu mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith.
  • Roedd 122,040 dysgwr unigryw mewn sefydliadau addysg bellach, 46% ohonynt yn rai rhan amser.
  • Roedd 13,050 o ddysgwyr unigryw ym maes dysgu oedolion.
  • Roedd cyfanswm nifer y dysgwyr ar raglenni dysgu seiliedig ar waith wedi gostwng 3%.
  • Roedd tua 17% yn llai o raglenni dysgu prentisiaeth wedi cychwyn. Mae’r gostyngiad yn nifer y rhaglenni a ddechreuwyd o ganlyniad yn bennaf i gynnydd yn 2017/18 a oedd yn parhau yn 2018/19, ac felly llai o gyllid ar gael ar gyfer rhaglenni newydd.

Nodyn

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn crynhoi data am ddysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16. Nid yw’r data’n cynnwys sefydliadau ac ysgolion addysg uwch. Mae’n cynnwys dysgwyr mewn colegau, darpariaeth dysgu seiliedig ar waith, a darpariaeth dysgu oedolion. Caiff data am ddysgwyr eu casglu gan Lywodraeth Cymru drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Adroddiadau

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol, Awst 2018 i Orffennaf 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 771 KB

PDF
Saesneg yn unig
771 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Nifer y rhaglenni prentisiaeth fesul lefel ac yn ôl iaith, Awst 2018 i Gorffennaf 2019: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 16 KB

ODS
16 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.