Neidio i'r prif gynnwy

Ni fydd unrhyw waith rheolaidd a fydd yn arwain at gau lonydd yn cael ei wneud yn ystod y dydd ar yr A55 rhwng Cyffordd 11 a'r ffin â Lloegr tan o leiaf fis Medi 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn sgil buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, nid oes unrhyw gynlluniau i gau lonydd yn ystod y dydd cyn diwedd yr haf nesaf. Cafodd yr addewid gwreiddiol i beidio â gwneud unrhyw waith ar y rhan honno o'r ffordd yn ystod y dydd ei wneud yn gynnar ym mis Ebrill ac mae'r datganiad hwn heddiw yn golygu y bydd yr addewid hwnnw'n parhau am gyfnod hirach.

Bydd gwaith brys yn dal i gael ei wneud pryd bynnag a ble bynnag y bydd ei angen, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr y ffordd yn ddiogel.

Daw'r newyddion hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r argymhellion o'i hadroddiad ar welliannau pellach i sicrhau cydnerthedd yr A55. Bydd yr holl waith adeiladu sy'n deillio o'r adroddiad yn cael ei wneud dros nos o leiaf tan fis Medi nesaf. Mae hynny'n flaenoriaeth i Mr Skates.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Gwn o brofiad pa mor bwysig yw hi i gymunedau ar draws y Gogledd fod yr A55 yn gweithio fel y dylai ac mae fy ymrwymiad i sicrhau gwelliannau i'r briffordd hon, sy'n hanfodol i'r economi, yn un diwyro.

"Eleni, gwelwyd pen llanw pedair blynedd o waith cwbl angenrheidiol i sicrhau bod y twnneli ar yr A55 yn cyrraedd safonau modern, a gwnaed gwaith yn ddiweddar i wella wyneb y ffordd ac i liniaru llifogydd, ynghyd â gwaith cynnal a chadw brys, a gwaith arall. Mae nifer o gynlluniau ffyrdd wrthi'n cael eu cynllunio neu ar waith ar hyn o bryd ¬− coridor arfaethedig Glannau Dyfrdwy, y Drydedd Bont dros Afon Menai, ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd, cylchfannau ar yr A55 ar Gyffordd 15 (Llanfairfechan) a Chyffordd 16 (Penmaen-mawr), a chynllun yr A55 rhwng Cyffordd 13 (Abergwyngregyn) a Chyffordd 12 (Tal-y-bont). Mae'n debygol, felly, y byddwn, yn ystod tymor y Llywodraeth hon, yn gweld y buddsoddiad mwyaf ers degawdau, os nad erioed, yn ffyrdd y Gogledd. Mae hynny'n rhywbeth rwyf yn falch iawn ohono.

"Er bod natur prosiectau yn y gorffennol a'r dyfodol yn golygu nad oes modd osgoi gwaith yn ystod y dydd ar brydiau, dw i wedi bod yn glir iawn am fy nymuniad i sicrhau bod cyn lleied o waith â phosibl yn cael ei wneud yn ystod y dydd. Dw i'n falch iawn, felly, o fedru cadarnhau na fydd y gwaith gwella sydd yn yr arfaeth tan fis Medi nesaf yn arwain at gau unrhyw lonydd yn ystod y dydd ar y rhan hon o'r ffordd. Bydd yr holl waith o'r fath yn cael ei wneud dros nos neu drwy ddefnyddio lonydd deuol cul. Mae hyn i gyd wedi bod yn bosibl oherwydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r A55, a'i buddsoddiad ynddi.

"Mae'n amlwg bod costau a heriau'n gysylltiedig â'r penderfyniad hwn, a hoffwn ddiolch ar goedd i'r holl gontractwyr, gweithwyr sifft ac asiantiaid a fydd yn parhau i weithio oriau hir ac anghymdeithasol ym mhob tywydd er mwyn sicrhau bod defnyddwyr y ffordd yn wynebu cyn lleied o oedi â phosibl."    

Ym mis Ebrill, comisiynodd Ysgrifennydd y Cabinet astudiaeth i weld a fyddai modd gwneud gwelliannau pellach i sicrhau bod yr A55 yn fwy cydnerth.

Yn fras, mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys ymyriadau i geisio lleihau tagfeydd ar adegau pwysig, gwella'r modd yr eir ati i gyfathrebu â'r cyhoedd, ac ymateb yn well i unrhyw ddigwyddiadau.

Ychwanegodd Ken Skates:

“Mae'r astudiaeth wedi ystyried pob agwedd ar y ffordd rhwng Caergybi a Post House, yn ogystal â ffyrdd cysylltiedig fel coridor yr A494 o Gyfnewidfa Ewloe i Drome Corner, a llwybrau gwyro.  

"Byddwn, felly, yn cyflwyno nifer o ymyriadau y gallwn eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn gwella profiadau pobl wrth deithio, a byddwn yn mynd ati hefyd, ar yr un pryd i ystyried gwelliannau posibl eraill y gellir eu gwneud yn y dyfodol.  Bydd y 'camau cyflym' hyn ymlaen yn ategu cynlluniau sy'n bodoli eisoes ar hyd y briffordd strategol allweddol hon ac yn helpu i leihau nifer y damweiniau a'r effaith y maen nhw a cherbydau sy'n torri i lawr yn ei chael ar y ffordd.  

"Gobeithio y  bydd y cyhoeddiadau hyn heddiw yn golygu y bydd cymunedau a busnesau yn y Gogledd a thu hwnt yn gallu edrych ymlaen yn hyderus at welliannau pellach a chyn lleied o oedi ag y bo modd, gan gofio bod gwelliannau mawr eto i ddod."

A55 / A494 astudiaeth cam 1 WeITAG ar wydnwch y rhwydwaith - https://beta.llyw.cymru/a55-a494