Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cryfhau eto ymateb Llywodraeth Cymru i'r newid yn yr hinsawdd trwy gyhoeddi cynllun newydd ar gyfer addasu i hinsawdd sy'n newid, Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd.
Mae'r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn gwarchod ein hamgylchedd ac yn addasu'n cartrefi, cymunedau, busnesau a'n seilwaith i ddygymod ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd trwy ystod hir o gamau gan gynnwys:
- codi amddiffynfeydd rhag llifogydd ac erydu'r arfordir
- diogelu cyflenwadau dŵr yfed rhag sychder
- defnyddio llai o blaladdwyr
- tyfu mwy o goetiroedd i wella ansawdd yr aer, lleihau erydu a diogelu pridd, arafu llifogydd a chynnal ein hecosystemau.
- creu mwy o fannau agored fel parciau, caeau chwarae, rhandiroedd, gerddi preifat, glaswelltir, pyllau dŵr a choetir i greu amgylchedd sy'n dda i les pobl ac yn dda i'r hinsawdd.
- creu 25,000 o dai rhad-ar-ynni erbyn 2021.
Mae Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd 2020-2050 yn cynnal y momentwm a grewyd gan Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel a lansiwyd gan y Prif Weinidog, y datganiad yn gynharach eleni ei bod yn argyfwng hinsawdd a chynhadledd gyntaf Cymru ar y newid yn yr hinsawdd.
Byddwn yn ei lansio ar Ddiwrnod Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd a deuddydd cyn cyfarfod 2019 Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd ym Madrid.
Y newid yn yr hinsawdd o bosib yw'r her fwyaf sy'n wynebu Cymru a'r byd. Mae peth newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn naturiol, dros gyfnodau hir o amser. Ond mae gweithgarwch dyn wedi cyflymu'r newid. Mae newidiadau a ddylai gymryd miloedd o filoedd yn digwydd nawr mewn degawdau. Yn ôl yr adroddiadau ar newid hinsawdd, dylem ddisgwyl gaeafau gwlypach, hafau twymach, mwy o stormydd, tywydd mwy eithafol a môr sy'n codi.
Mae'r cynllun yn disgrifio'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y pum mlynedd nesaf i fynd i'r afael â'r meysydd lle ceir y risg fwyaf a nodwyd gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Bydd y cynllun newydd yn elwa o gael fframwaith monitro a gwerthuso, i wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau yn y cynllun yn cael eu rhoi ar waith a'u bod yn arwain at y canlyniadau a fwriadwyd.
Dywedodd Lesley Griffiths,
Mae'n deddfwriaeth ar ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd eisoes yn esiampl i'r byd a rhaid inni bellach ddefnyddio'r ddeddfwriaeth honno i gyflymu camau'r newid.
I ategu'r camau rydym yn eu cymryd i ddatgarboneiddio economi Cymru, bydd angen inni allu ymateb i'r effeithiau rydym eisoes yn eu gweld.
Rydym eisoes wedi buddsoddi'n drwm mewn addasu i newid yn yr hinsawdd ac i baratoi at y dyfodol trwy amrywiaeth o bolisïau, rhaglenni ac ymyriadau ac mae'r cynllun hwn yn profi eto ein huchelgais i greu Cymru sy'n fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd.
Nid ar chwarae bach y mae rhoi'n cynllun ar waith, ond rhaid i ni i gyd addasu a rhaid i ni i gyd ymrwymo i ddiogelu'n gwlad er lles cenedlaethau heddiw ac yfory. Bydd llwyddiant yn golygu bod Cymru'n wlad sy'n effro i'r hinsawdd, sy'n gwybod am y risgiau sy'n ein hwynebu ond sy'n barod i addasu hefyd i'r effeithiau cyn eu bod yn digwydd.