Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan y rhaglen Addasiadau Brys arian i'w roi i wneud addasiadau yn gyflym i'ch cartref os yw eich anghenion wedi newid.

Gofal a Thrwsio ac asiantaethau eraill sy'n gyfrifol am ei gweinyddu.

Cymhwysedd

  • pobl ag anabledd sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain ac yn berchen ar eu cartrefi eu hunain
  • pobl hŷn sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain ac yn berchen ar eu cartrefi eu hunain
  • pobl ag anabledd sy'n rhentu eu cartref oddi wrth landlord preifat
  • pobl hŷn sy'n rhentu eu cartref oddi wrth landlord preifat

Rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith.

Newidiadau all gael eu gwneud i'ch cartref

  • canllaw dwylo
  • mynediad at doiledau
  • ailosod switshys golau neu socedi
  • darparu canllaw ar y grisiau
  • grisiau a hanner grisiau
  • systemau i fynd i mewn drwy ddrysau
  • technoleg gynorthwyol
  • trwsio tu uchaf grisiau neu loriau pren
  • lefelu lloriau concrid
  • gwella goleuadau y tu mewn a'r tu allan
  • trwsio'r gwresogi i'r prif ystafelloedd byw
  • gosod stribedi carpedi o naill ben yr ystafell i'r llall
  • ailosod cerrig palmant
  • socedi ychwanegol
  • estyniadau i'r ffôn

Gwneud cais

Rhaid i chi gael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol ym maes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol megis therapydd galwedigaethol i wneud cais am arian.

Gallwch gysylltu Care and Repair Cymru a fydd yn siarad gydag un o'u partneriaid ar eich rhan.