Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i brofion TB yng Nghymru ar ol iddo gyfarfod a gwrando ar ffermwyr ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r newidiadau, sydd yn cael eu cyhoeddi heddiw (Dydd Mercher 26 Mehefin) yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i adborth gan y diwydiant a'r gobaith yw y byddant yn symleiddio gweithdrefnau heb gyfaddawdu ar  y risg o ledaenu'r clefyd.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad cyn siarad fel gwestai anrhydeddus am y tro cyntaf yng nghinio Cymreig Cymdeithas Filfeddygol Prydain (dydd Mercher 26 Mehefin).

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y newidiadau i'r mathau penodol o brawf TB dan sylw hefyd wedi ystyried yr adnoddau sydd eu hangen ar ffermwyr a milfeddygon a chost-effeithiolrwydd.

Meddai'r Ysgrifennydd Cabinet: 

Ers fy mhenodi, rwyf wedi mynd ati'n fwriadol i gwrdd â ffermwyr, milfeddygon a'r diwydiant ac wedi gwrando ar eu pryderon ynghylch y baich a'r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth TB.

Rwy'n falch o allu cyhoeddi heddiw bod y newidiadau ychwanegol hyn sydd wedi'u gwneud mewn ymateb i adborth y diwydiant bellach ar waith.

Mae cydnabod yr effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a'u busnesau yw'r flaenoriaeth i fi.

Fis diwethaf, derbyniais holl argymhellion y Grŵp Cynghori Technegol ynghylch y polisi lo ladd anifeiliaid sy'n adweithio i'r prawf TB ar y fferm.

Rydym wedi gweithio ochr yn ochr ag APHA ac eisoes wedi gweithredu newidiadau i reoli gwartheg beichiog.

Mae ein rhaglen i waredu TB yn ddibynnol ar weithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr a'n milfeddygon, mae hyn yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB.