Gwybodaeth ynghlych cyflwyno adborth neu gŵyn i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Cynnwys
Adborth
Ymdrechwn yn galed i sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r system apeliadau’n fodlon ar y gwasanaeth a ddarparwn iddynt.
Sylweddolwn na fydd llawer o’n cwsmeriaid yn arbenigwyr ar y system gynllunio ac mai hwn fydd unig brofiad rhai pobl ohoni. Derbyniwn fod eich safbwyntiau’n bwysig a sylweddolwn y gallent gael eu harddel yn gryf.
Mae’r holl ohebiaeth a dderbyniwn ar ôl i’r penderfyniad apêl gael ei gyflwyno yn cael ei thrin gan y Tîm Ansawdd, sy’n sicrhau bod yr holl sylwadau’n cael eu hystyried a chwynion yn cael eu hymchwilio’n drylwyr ac yn ddiduedd. Byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl mewn iaith syml ac eglur, gan osgoi jargon a thermau cyfreithiol cymhleth. Mae’n bosibl na fyddwn yn ymateb i ohebiaeth a dderbyniwyd nad yw’n cynnwys digon o wybodaeth gyswllt. Felly, mae’n ddoeth sicrhau eich bod yn rhoi enw a manylion cyswllt Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru wrth gyflwyno’ch adborth.
Gallwch gysylltu â ni trwy unrhyw un o’r ffyrdd isod.
- Gallwch ffonio 03000 604400 os ydych eisiau cwyno dros y ffôn.
- Gallwch anfon neges e-bost atom ar pedw.cwynion@gov.wales
- Gallwch ysgrifennu llythyr atom yn y cyfeiriad canlynol:
Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF31 3NQ
Er y byddwn yn falch o siarad â phobl ar y ffôn, os bydd angen i ni gyfleu nifer o faterion i chi, mae’n bosibl y bydd yn haws eu hegluro’n ysgrifenedig. Byddwn yn cydnabod eich gohebiaeth, yn rhoi gwybod i chi pwy sy’n ymdrin â’r mater ac yn rhoi syniad i chi pryd y gallwch ddisgwyl ymateb. Ceisiwn ymateb i 80% o’r holl ohebiaeth o fewn 20 niwrnod gwaith.
Apêl “Wedi’i Chaniatáu” neu “Wedi’i Gwrthod”
O ran apeliadau cynllunio (o dan adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990), mae ‘Wedi’i Chaniatáu’ yn golygu bod caniatâd cynllunio wedi’i roi, ac mae ‘Wedi’i Gwrthod’ yn golygu nad yw caniatâd cynllunio wedi’i roi. O ran apeliadau gorfodi (o dan adran 174), mae ‘Wedi’i Chynnal’ yn golygu bod yr Arolygydd wedi gwrthod seiliau’r apêl a bod rhaid cydymffurfio â’r hysbysiad gorfodi; mae ‘Wedi’i Dileu’ yn golygu bod yr Arolygydd wedi cytuno â seiliau’r apêl ac wedi canslo’r hysbysiad gorfodi.
Archwilio dogfennau apêl
Mae’r holl ddogfennau apêl ar gyfer mwyafrif yr apeliadau yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar y Porth Gwaith Achos Apeliadau1 tra bydd apêl ar waith, a byddant yn parhau ar-lein rhwng 4 a 6 wythnos ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud.
Rydym yn cadw copi electronig llawn o apêl am 12 mis a chopi o'r penderfyniad am 5 mlynedd o ddyddiad y mater.
Cwynion gweinyddol
Weithiau, mae’n bosibl y credwch y bu gwall gweinyddol wrth ymdrin ag apêl, ac fe allech ddymuno cwyno wrthym.
Sut rydym yn ymchwilio i gwynion gweinyddol
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ar ôl ei derbyn ac yn symud ymlaen i ymchwilio i unrhyw faterion a godwyd.
Bydd cwynion ynglŷn ag unrhyw faterion gweinyddol yn cael eu hymchwilio’n annibynnol gan aelod o’n tîm rheoli. Gwneir hyn yn ddiduedd a byth o fewn y tîm dan sylw. Byddwn yn siarad â’r aelod o staff dan sylw lle y bo’r angen.
Pan fydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi ymateb llawn.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud os ydym wedi gwneud camgymeriad
Os yw’n amlwg, ar ôl cwblhau ymchwiliad, ein bod ni wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn ymddiheuro yn y lle cyntaf ac yna’n cymryd y camau angenrheidiol i’w gywiro. Wedi hynny, byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw bartïon yr effeithiwyd arnynt yn niweidiol yn cael eu dychwelyd i’r sefyllfa yr oeddent ynddi cyn i’r camgymeriad gael ei wneud.
Os daw gwall gweinyddol i’r amlwg ar ôl i’r apêl ddod i ben, ni fyddwn yn gallu cywiro’r camgymeriad, ond mae’n bosibl y gallwch wneud hawliad ex-gratia.
Cwynion ynglŷn â phenderfyniadau apêl
Mae apeliadau cynllunio’n ysgogi teimladau cryf yn aml, ac mae’n anochel y bydd o leiaf un parti’n siomedig â chanlyniad apêl. Bydd hyn yn arwain at gŵyn yn fynych, naill ai ynglŷn â’r penderfyniad neu’r ffordd yr ymdriniwyd â’r apêl.
Sut rydym yn ymchwilio i gwynion ar ôl penderfyniad
Y Tîm Sicrhau Ansawdd sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion ynglŷn â’r weithdrefn, penderfyniadau neu ymddygiad Arolygydd. Ni fydd Arolygwyr yn ymwneud â’r achos yn uniongyrchol ar ôl i’w penderfyniad gael ei gyhoeddi.
Er mwyn cynorthwyo â’n hymchwiliadau, mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i’r Arolygydd neu aelodau eraill o staff am sylwadau. Bydd hyn yn ein helpu i gael darlun mor gyflawn â phosibl fel y gallwn fod mewn sefyllfa well i benderfynu p’un a wnaed camgymeriad. Os yw hyn yn debygol o oedi ein hadroddiad llawn, byddwn yn rhoi gwybod i chi’n gyflym.
Weithiau, mae cwynion yn codi o ganlyniad i gamddealltwriaeth ynglŷn â sut mae’r system apeliadau’n gweithio. Pan fydd hyn yn digwydd, ceisiwn esbonio pethau mor eglur â phosibl. Weithiau, bydd yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu breswyliwr lleol yn ei chael hi’n anodd derbyn penderfyniad oherwydd ei fod yn anghytuno ag ef yn unig. Er na allwn ailagor apêl i ailystyried ei nodweddion neu ychwanegu at yr hyn y mae’r Arolygydd wedi’i ddweud, byddwn yn ateb unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r penderfyniad i’r graddau llawnaf y gallwn.
Pan fydd ein hymchwiliadau wedi’u cwblhau, byddwn yn anfon ymateb llawn sy’n ymdrin yn gynhwysfawr â’r holl bwyntiau perthnasol a godwyd.
Os ydych o’r farn nad ydym wedi ymateb yn ddigonol i’ch pryderon, bydd uwch reolwr yn adolygu eich cwyn ac yn anfon ymateb terfynol, yn unol â’n polisi.
Weithiau, ni fyddwn yn gallu ymdrin â chŵyn benodol (er enghraifft, cwynion ynglŷn â sut yr ymdriniodd yr awdurdod cynllunio lleol â chais tebyg). Yn yr achos hwn, byddwn yn esbonio’r sefyllfa ac yn awgrymu pwy allai ymdrin â’r gŵyn yn ein lle.
Yn yr un modd, ni allwn ddatrys unrhyw faterion sy’n bodoli rhyngoch chi a’r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â’r system gynllunio neu weithredu caniatâd cynllunio.
Os rhoddir caniatâd cynllunio, naill ai gan yr awdurdod cynllunio lleol yn ystod y cam ymgeisio neu gan yr Arolygydd trwy apêl, yr awdurdod cynllunio lleol yn unig sy’n gyfrifol am fonitro bod y caniatâd yn cael ei weithredu a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r cynlluniau ac unrhyw amodau. Nid rôl Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru yw hyn.
Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r caniatâd, mae ganddo’r grym i gymryd camau gorfodi.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud os ydym wedi gwneud camgymeriad
Er y ceisiwn ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl, weithiau bydd pethau’n mynd o’i le, yn anffodus, ac ni fyddwn yn cyflawni’r safonau uchel yr ydym wedi’u gosod i’n hunain. Os gwnaed camgymeriad, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio beth sydd wedi digwydd ac yn ymddiheuro. Bydd yr Arolygydd neu’r staff cymorth gweinyddol a’u rheolwr llinell yn cael gwybod bod y gŵyn wedi cael ei chynnal a byddwn yn edrych i weld a ellir dysgu gwersi o’r camgymeriad, er enghraifft, p’un a ellir gwella ein gweithdrefnau neu roi hyfforddiant, fel y gellir osgoi camgymeriadau tebyg yn y dyfodol.
Mynd â’ch cwyn ymhellach
Os na lwyddwn ddatrys eich cwyn, cewch fynd â hi i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth ac yn gallu ymchwilio i’ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi eich hun, neu’r sawl yr ydych yn cwyno ar ei ran:
- wedi cael eich trin yn annheg neu wedi derbyn gwasanaeth gwael trwy ryw fethiant ar ran y corff a oedd yn ei ddarparu
- wedi cael eich rhoi dan anfantais yn bersonol o ganlyniad i fethiant gwasanaeth neu wedi cael eich trin yn annheg.
Fel arfer, ni fydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i gŵyn os oes llwybr cyfreithiol ar gael i chi herio penderfyniad. Ni all yr Ombwdsmon ystyried nodweddion penderfyniadau apêl Arolygydd, y gellir eu herio trwy’r llysoedd yn unig (gweler adran 3 am fwy o fanylion).
Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i chi gyflwyno’ch cwyn i ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni unioni’r sefyllfa. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon trwy’r canlynol:
• ffôn: 03007900203
• e-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
• gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
• ysgrifennu at:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed
CF35 5LJ
Cywiro mân wallau
Dogfennau cyfreithiol yw penderfyniadau apêl ac, ar wahân i lithriadau bach iawn, ni allwn eu diwygio na’u newid ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwn wneud mân newidiadau i’r penderfyniad o dan yr hyn a elwir yn ‘Rheol Lithriad’. Mae hyn yn ymwneud fel arfer â mân wallau yn y penderfyniad fel camgymeriadau teipio neu fân wallau ffeithiol nad ydynt yn effeithio ar y rhesymu yn y penderfyniad. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y nodyn canllaw ‘Cywiro Gwallau o dan Adran 56 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004’.
Yr hyn na allwn ei newid
Ni allwn newid penderfyniad yr Arolygydd, nac ailagor yr apêl ar ôl i’r penderfyniad gael ei gyhoeddi.
Er y gallwn gywiro mân lithriadau, ni allwn ailystyried y dystiolaeth a archwiliodd yr Arolygydd na’r rhesymu yn y penderfyniad na newid y penderfyniad a wnaed, hyd yn oed os cydnabyddwn fod camgymeriad wedi digwydd. Yr unig ffordd y gellir gwneud hyn yw trwy her lwyddiannus yn yr Uchel Lys (gweler ‘Herio penderfyniadau yn yr Uchel Lys’ – isod), sy’n dileu penderfyniad gwreiddiol yr Arolygydd.
Dysgu gwersi
Rydym ni’n ystyried eich pryderon a’ch cwynion o ddifrif ac yn ceisio dysgu o unrhyw gamgymeriadau yr ydym wedi’u gwneud. Felly, mae cwynion, a’n hymatebion iddynt, yn un ffordd o’n helpu ni i wella’r system apeliadau.
Unioni pethau
Pan fydd camweinyddu neu gamgymeriad gan Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru wedi arwain at anghyfiawnder neu galedi, ceisiwn gynnig rhwymedi sy’n dychwelyd yr achwynydd i’r sefyllfa y byddai wedi bod ynddi fel arall. Os nad yw hynny’n bosibl, bydd Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru yn rhoi iawndal am dreuliau diangen a gafwyd o ganlyniad i gamgymeriad a gydnabuwyd, lle mae rhesymau cymhellol dros wneud hynny.
Bydd Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru yn rhoi ystyriaeth ofalus i gwynion a cheisiadau am iawndal ariannol a dderbynnir o fewn 6 mis o ddyddiad y camgymeriad neu unrhyw benderfyniad apêl dilynol gennym sy’n gysylltiedig â’r camgymeriad hwnnw.
Mae’r rhwymedïau y gellid eu cynnig yn cynnwys:
- ymddiheuro, esbonio, a chydnabod cyfrifoldeb;
- camau unioni, a allai gynnwys adolygu safonau gwasanaeth;
- diwygio deunydd cyhoeddedig; diwygio gweithdrefnau er mwyn atal yr un peth rhag digwydd eto; hyfforddi neu oruchwylio staff; neu unrhyw gyfuniad o’r rhain;
- iawndal ariannol am gostau a gafwyd o ganlyniad i’n camgymeriad.
Cwestiynau cyffredin
Pam lwyddodd apêl er bod yr holl breswylwyr lleol yn ei herbyn?
Mae safbwyntiau lleol yn bwysig, ond maent yn debygol o fod yn fwy darbwyllol os ydynt wedi’u seilio ar resymau cynllunio, yn hytrach nag yn mynegi barn o blaid neu yn erbyn y cynnig yn syml. Mae’n rhaid i Arolygwyr benderfynu ar sail yr holl dystiolaeth, p’un a yw’r safbwyntiau hyn yn cyfiawnhau gwrthod rhoi caniatâd cynllunio.
Sut gall Arolygwyr wybod am deimladau neu faterion lleol os nad ydyn nhw’n byw yn yr ardal?
Mae defnyddio Arolygwyr nad ydynt yn byw yn lleol yn sicrhau nad oes ganddynt fuddiant personol mewn unrhyw faterion lleol nac unrhyw gysylltiadau â’r apelydd neu ei asiant, yr awdurdod cynllunio lleol na’i bolisïau.
Fodd bynnag, bydd Arolygwyr yn ymwybodol o bolisïau a safbwyntiau lleol o’r cynrychiolaethau y mae pobl wedi’u cyflwyno ynglŷn â’r apêl.
Ysgrifennais atoch i fynegi fy safbwyntiau, felly pam na soniodd yr Arolygydd am hyn?
Mae’n rhaid i Arolygwyr roi rhesymau dros eu penderfyniad ac ystyried yr holl safbwyntiau a gyflwynwyd, ond nid oes angen rhestru pob darn o dystiolaeth.
Pam fethodd fy apêl er bod apeliadau tebyg gerllaw wedi llwyddo?
Er y gallai dau achos fod yn debyg, bydd rhyw agwedd ar gynnig sy’n unigryw bron bob tro. Mae’n rhaid penderfynu ar bob achos ar sail ei nodweddion penodol ei hun, gan ystyried y dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y partïon i’r achos hwnnw (sy’n debygol o fod yn wahanol o achos i achos).
Rwyf newydd golli fy apêl. A oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i gael y caniatâd?
Efallai y gallech newid rhyw agwedd ar eich cynnig i’w wneud yn fwy derbyniol. Er enghraifft, os oedd yr Arolygydd yn credu y byddai eich estyniad yn edrych allan o’i le, a ellid ei ailddylunio i gyd-fynd yn well â’i amgylchoedd? Os felly, gallwch gyflwyno cais diwygiedig i’r awdurdod cynllunio lleol. Gallai trafod hyn gyda swyddog cynllunio eich helpu i archwilio’r dewisiadau sydd ar gael i chi.
Beth allaf ei wneud os yw rhywun yn anwybyddu amod cynllunio?
Ni all Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru ymyrryd oherwydd yr awdurdod cynllunio lleol sy’n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir ag amodau. Felly, dylech gysylltu â’r awdurdod cynllunio lleol oherwydd bod ganddo bwerau disgresiwn i gymryd camau gorfodi os yw amod yn cael ei anwybyddu.
Herio penderfyniad yn yr Uchel Lys
Nodyn Pwysig – Mae’r Nodyn hwn wedi’i fwriadu i roi arweiniad yn unig. Oherwydd bod heriau yn yr Uchel Lys yn gallu ymwneud ag achosion cyfreithiol cymhleth, fe allai fod yn syniad da i chi ystyried ceisio cyngor cyfreithiol gan unigolyn cymwysedig, fel cyfreithiwr, os ydych chi’n bwriadu dilyn y trywydd hwn neu’n ansicr ynghylch unrhyw ran o’r arweiniad yn y Nodyn hwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y Llys Gweinyddol.
Mae heriau Uchel Lys yn cael eu cynnal o dan ddeddfwriaeth wahanol, yn dibynnu ar y math o apêl, ac mae’r cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno her yn amrywio yn unol â hynny.
Os ydych chi eisiau herio penderfyniad yn yr Uchel Lys, mae’n rhaid i’r her gael ei chyflwyno:
- o ran apeliadau cynllunio, o fewn 42 diwrnod (6 wythnos) o’r dyddiad y cyhoeddwyd y penderfyniad – ni ellir ymestyn y cyfnod hwn;
- o ran y rhan fwyaf o apeliadau gorfodi, o fewn 28 niwrnod o’r dyddiad y cyhoeddwyd y penderfyniad, er y gall y Llysoedd ymestyn y cyfnod hwn os ydynt o’r farn bod rheswm da dros wneud hynny.
Gweler ein nodiadau cyngor ar wahân ynglŷn â herio mathau eraill o benderfyniadau, fel y rhai hynny sy’n ymwneud â gorchmynion Hawliau Tramwy.
Y seiliau dros herio’r penderfyniad
Ni ellir herio penderfyniad oherwydd bod rhywun yn anghytuno â phenderfyniad yr Arolygydd yn unig. Er mwyn i her fod yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i chi fodloni’r Uchel Lys bod yr Arolygydd wedi gwneud camgymeriad yn ôl y gyfraith, e.e. camddehongli neu gamgymhwyso polisi neu fethu â rhoi sylw i ystyriaeth bwysig. Os gwnaed camgymeriad a bod yr Uchel Lys o’r farn y gallai fod wedi effeithio ar ganlyniad yr apêl, bydd yn dileu penderfyniad yr Arolygydd ac yn dychwelyd yr apêl Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru i’w hailbenderfynu.
Herio penderfyniadau apêl cynllunio
Fel arfer, ceisiadau yw’r rhain o dan adran 288 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i ddileu penderfyniadau ar apeliadau ar gyfer caniatâd cynllunio (gan gynnwys apeliadau gorfodi a ganiatawyd o dan sail (a) neu benderfyniadau apêl tystysgrif datblygiad cyfreithlon). O ran penderfyniadau apêl caniatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, cyflwynir heriau o dan adran 63 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Mae’n rhaid i’r Llys Gweinyddol dderbyn heriau o fewn 42 diwrnod (6 wythnos) o ddyddiad y penderfyniad – ni ellir ymestyn y cyfnod hwn. Herio penderfyniadau apêl gorfodi.
Gellir herio penderfyniadau apêl gorfodi ar bob sail o dan adran 289 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. O ran penderfyniadau apêl gorfodi adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, cyflwynir heriau o dan adran 65 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Er mwyn herio penderfyniad gorfodi o dan adran 289 neu adran 65, mae’n rhaid i chi gael caniatâd y Llys yn gyntaf. Os nad yw’r Llys yn credu bod achos y gellir ei ddadlau, gall wrthod rhoi caniatâd.
Mae’n rhaid i’r Llys Gweinyddol dderbyn ceisiadau am ganiatâd i gyflwyno her o fewn 28 niwrnod o ddyddiad y penderfyniad, oni bai bod y Llys yn ymestyn y cyfnod hwn.
Cwestiynau cyffredin
Pwy sy’n gallu cyflwyno her?
O ran achosion cynllunio, gall unrhyw un sy’n teimlo iddo gael cam gan y penderfyniad wneud hynny. Gall hyn gynnwys unigolion â buddiant yn ogystal ag apelyddion ac awdurdodau cynllunio lleol. O ran achosion gorfodi, dim ond yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu unrhyw unigolyn arall sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir all gyflwyno her. Gall pobl eraill sy’n teimlo iddynt gael cam wneud cais am adolygiad barnwrol gan y Llysoedd, ond mae’n rhaid iddynt wneud hyn yn brydlon (gall y Llys Gweinyddol roi mwy o wybodaeth i chi am sut i wneud hyn – gweler ‘Gwybodaeth ychwanegol’ isod).
Faint mae’n debygol o’i gostio i mi?
Mae’r Llys yn codi tâl gweinyddol am brosesu eich her (dylai’r Llys Gweinyddol allu rhoi cyngor i chi ynglŷn â’r ffioedd presennol – gweler ‘Gwybodaeth ychwanegol’ isod). Gall y costau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â pharatoi a chyflwyno’ch achos yn y Llys fod yn sylweddol, ac os bydd yr her yn methu bydd rhaid i chi dalu costa Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru yn ogystal â’ch costau chi, fel arfer. Fodd bynnag, os bydd yr her yn llwyddiannus, bydd rhaid Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru dalu eich costau cyfreithiol rhesymol chi, fel arfer.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Gall hyn amrywio’n fawr. Penderfynir ar lawer o heriau o fewn 6 mis, ond gall rhai gymryd mwy o amser.
A oes angen i mi gael cyngor cyfreithiol?
Nid oes rhaid i chi gael cynrychiolaeth gyfreithiol yn y Llys ond mae hynny’n beth arferol, oherwydd fe allai fod angen i chi ymdrin â phwyntiau cyfreithiol cymhleth a wneir gan gynrychiolydd cyfreithiol Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru.
A fydd her lwyddiannus yn gwyrdroi’r penderfyniad?
Nid o reidrwydd. Gall y Llys fynnu bod Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru yn ailystyried yr achos yn unig, a gallai Arolygydd ddod i’r un penderfyniad ond am resymau gwahanol neu helaethach.
Beth allaf ei wneud os bydd fy her yn methu?
Er y gallai fod yn bosibl mynd â’r achos i’r Llys Apêl, byddai’n rhaid cyflwyno dadl gymhellol i’r Llys er mwyn i farnwr roi caniatâd i chi wneud hyn.
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir cael cyngor ychwanegol ynglŷn â chyflwyno her Uchel Lys
yng Nghymru gan y canlynol:
Y Llys Gweinyddol yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd
2 Stryd y Parc
Caerdydd
CF10 1ET
Rhif ffôn: 02920 376 400
Gwefan yr Uchel Lys yng Nghymru
Ailbenderfynu yn dilyn her lwyddiannus
Pan fydd her yn llwyddiannus, bydd yr apêl yn cael ei dychwelyd Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru i’w hailbenderfynu. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i bob achos ailbenderfynu o’r Uchel Lys, ac ymdrinnir â nhw’n gyflym fel arfer, ond heb achosi anfantais i unrhyw barti. Bydd Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru yn penodi Arolygydd gwahanol i ailbenderfynu’r apêl, fel arfer.
Fel rheol, bydd yr apêl yn cael ei phenderfynu naill ai trwy gynrychiolaethau ysgrifenedig ychwanegol neu ymchwiliad. Anaml iawn y byddwn yn trefnu gwrandawiad, hyd yn oed os ymdriniwyd â’r apêl wreiddiol yn y modd hwnnw. Ystyriwn y byddai angen i benderfyniad gwrandawiad a archwiliwyd ac a ddilëwyd yn lleoliad ffurfiol yr Uchel Lys gael ei ailbenderfynu o dan y weithdrefn ymchwiliad ffurfiol fel arfer, er mwyn gallu archwilio’r materion cyfreithiol a godwyd yn llawn. Fodd bynnag, pe byddai’r holl bartïon yn cytuno y byddai gwrandawiad yn briodol, byddem yn ystyried hyn wrth bennu’r weithdrefn ar gyfer ailbenderfynu’r apêl.
Lle yr ymdriniwyd â’r apêl yn wreiddiol trwy gynrychiolaethau ysgrifenedig, byddem fel arfer yn ei hailbenderfynu trwy gyfrwng cynrychiolaethau ysgrifenedig ychwanegol. Fodd bynnag, lle y bu newid perthnasol mewn amgylchiadau, gallem ystyried nad hon yw’r weithdrefn fwyaf priodol mwyach.
Lle yr ymdriniwyd â’r apêl yn wreiddiol trwy ymchwiliad, gallai un newydd gael ei gynnal. Lle y bu newidiadau arwyddocaol mewn amgylchiadau (e.e. deddfwriaeth newydd neu bolisïau lleol neu genedlaethol newydd) ers yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad gwreiddiol, byddai’r Arolygydd fel arfer yn caniatáu cyflwyno tystiolaeth ychwanegol i fynd i’r afael â’r rhain.
Amserlen
O ran apeliadau i’w hailbenderfynu, lle y disgwylir i’r ymchwiliad bara 8 niwrnod neu fwy, byddai Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru fel arfer yn cytuno ar amserlen benodol gyda’r prif bartïon i ymdrin â dyddiadau’r ymchwiliad, cyflwyno tystiolaeth a chyhoeddi’r penderfyniad neu gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru, os yw’n berthnasol.
Mewn achosion eraill, fel rheol, byddem yn ceisio cytuno ar ddyddiadau ar gyfer ymchwiliad neu wrandawiad yn unol â’n harferion safonol. Lle mae’r achos i’w ailbenderfynu yn symud ymlaen trwy gynrychiolaethau ysgrifenedig, byddem fel arfer yn cysylltu â’r partïon i drefnu ymweliad arall, oni bai y cytunwyd nad oes angen cynnal ymweliad arall.
Cysylltu â ni
Penderfyniadau Cynllunio a’c Amgylchedd Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF1 3NQ
Rhif ffôn: 03000 604400
E-bost: PEDW.cwynion@gov.wales
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Llinell Gymorth: 0300 790 0203
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
Gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru