Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd cynllun newydd yn cael ei ddatblygu i annog mwy o bobl ledled Cymru i ddysgu a defnyddio sgiliau achub bywyd.
Achub Bywydau Cymru yw enw’r prosiect a fydd yn cael ei ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf gyda’r nod o wella mynediad at hyfforddiant mewn sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a’r defnydd o ddiffibrilwyr, er mwyn annog mwy o bobl o bob rhan o gymdeithas i roi cynnig ar eu defnyddio.
Wrth i fwy o bobl ddysgu sgiliau CPR, byddant yn cael eu hannog i rannu eu gwybodaeth nhw wedyn, gan gryfhau’r gadwyn oroesi a sicrhau bod bywydau mwy o bobl sy’n dioddef ataliad y galon yn cael eu hachub.
Bydd Llywodraeth Cymru yn neilltuo cyfanswm o £586,000 ar gyfer dwy flynedd gyntaf y prosiect.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Mae’n ffaith drist bod y posibilrwydd y bydd rhywun, sydd ddim yn yr ysbyty, yn goroesi ataliad y galon yn lleihau oddeutu 10% gyda phob munud sy’n mynd heibio. Mae’r cyfraddau goroesi’n isel, ond byddai’n bosibl achub llawer mwy o fywydau drwy fod sgiliau CPR a diffibrilwyr yn cael eu defnyddio’n ddi-oed ac yn effeithiol.
“Bydd y prosiect Achub Bywydau Cymru yn mynd ati i dargedu ac i helpu grwpiau sydd eisoes yn addysgu sgiliau CPR yn eu cymunedau. Bydd yn eu helpu i adeiladu rhwydweithiau lleol, gan nodi cymunedau ledled Cymru sy’n cael llai o gyfleoedd i gael hyfforddiant mewn CPR, a’u helpu i rannu gwybodaeth a sgiliau. Bydd hyn yn cryfhau’r gadwyn oroesi a chadernid ein cymunedau lleol.
“Bydd yr ymgyrch yn adeiladu ar holl waith Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o addysgu CPR mewn ysgolion – fis Hydref y llynedd yn ystod ymgyrchoedd ‘Shoctober’ a ‘Restart a Heart’. Bryd hynny cafodd bron i 13,000 o blant ysgol y cyfle i ddysgu CPR.
“Gan ddysgu oddi wrth esiampl ragorol yr Alban, yn ogystal â mentrau mewn rhannau eraill o’r byd, bydd Achub Bywydau Cymru yn arwain y gwaith o wella mynediad at hyfforddiant mewn CPR a sut i ddefnyddio diffibrilwr. Rydyn ni’n gwahodd holl sefydliadau’r trydydd sector, sefydliadau cyhoeddus, a sefydliadau eraill sydd â diddordeb i ddod yn aelodau o’r bartneriaeth, ac i weithio gyda ni i osod y sylfeini ar gyfer datblygu gweithgarwch achub bywydau ar draws y wlad.
“Drwy sicrhau bod mwy o bobl yn gyfarwydd â sgiliau CPR, ac yn hyderus i’w defnyddio mewn sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol, gallwn sicrhau y bydd mwy o fywydau’n cael eu hachub. Dyna pam mae creu’r bartneriaeth Achub Bywydau Cymru mor bwysig.”