Neidio i'r prif gynnwy

Mae achos o Wyfyn Ymdeithiwr y Derw (GYD) wedi’i gadarnhau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Hysbysiad Iechyd Planhigion statudol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y coed sydd angen eu trin a bydd y deunydd sydd wedi’i heintio’n cael ei dorri.

Mae GYD wedi’i ganfod ar goed sydd wedi’u plannu yng Nghanol Dinas Caerdydd a bydd arbenigwyr rheoli plâu yn dechrau ar y gwaith trin heno.

Mae’r lindys (larfa) yn tynnu dail ac yn gwanio coed derw, ac maent yn beryglus i iechyd pobl ac anifeiliaid.

Bydd y coed ger Gorsaf Ganolog Caerdydd yn cael eu chwistrellu heno â chemegau gan ddefnyddio plaladdwr a byddant yn cael eu tynnu o’r safle yfory. Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn 12fed Gorffennaf.

Y flaenoriaeth gyntaf yw sicrhau bod y clefyd yn cael ei gyfyngu a’i glirio ond, yn y tymor hwy, byddwn yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Caerdydd ar blannu coed newydd yn lle’r rhain.

Mae GYD wedi sefydlu yn y rhan helaethaf o Lundain Fwyaf ac mewn rhai siroedd cyfagos. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud ledled y DU i leihau ei boblogaeth, ei ledaeniad a’i effaith ar yr amgylchedd.

Roedd y coed sydd wedi’u heffeithio wedi cael eu mewnforio i Gaerdydd o ardal yn Ewrop lle mae GYD i’w weld yn eang.