Neidio i'r prif gynnwy

Mae pathogen tebyg i ffwng sy'n effeithio ar amrywiol rywogaethau coed wedi'i ddarganfod ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru yng Nghoedwig Dyfi, Gwynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall Phytophthora pluvialis effeithio ar amrywiol rywogaethau coed, gan gynnwys hemlog y gorllewin, ffynidwydden Douglas a sawl rhywogaeth pinwydd.

Cofnodir ei fod yn achosi colli nodwyddau - lle mae nodwyddau'n troi'n frown ac yn syrthio i ffwrdd – yn ogystal â lladd egin a marciau ar y coesyn, y canghennau a’r gwreiddiau.

Roedd eisoes wedi'i ddarganfod yn rhannau o Loegr a'r Alban ond dyma'r achos cyntaf i’w gadarnhau yng Nghymru.

Gan nad yw'r clefyd erioed wedi'i ganfod yn Ewrop o'r blaen, mae ymchwil yn parhau i ddeall a allai rhywogaethau eraill a allai fod yn agored i niwed gael eu heffeithio. 

Bydd hyn yn helpu i lywio pa fesurau rheoli sy'n briodol a'r effaith bosibl y gallai'r pathogen hwn ei chael ar y dirwedd a'r sector coedwigaeth.

Dywedodd y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James:

"Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner ledled y DU i rannu gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth er mwyn sicrhau dull ar y cyd o fonitro a rheoli'r sefyllfa."

Paratowyd canllaw symptomau a oedd yn rhoi mwy o wybodaeth am Phytophthora pluvialis. Anogir pobl i roi gwybod am arwyddion o’r clefyd drwy borth ar-lein TreeAlert.