Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 19 Hydref 2023 fe wnaethom gyhoeddi data ar absenoldeb o ysgolion uwchradd a oedd yn cynnwys data ar absenoldeb parhaus gan ddefnyddio’r diffiniad hanesyddol o fod yn absennol am fwy nag 20% o sesiynau ysgol.

Yn dilyn y datganiad hwnnw, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru canllawiau newydd ar wella presenoldeb mewn ysgolion a chyhoeddodd newid i’r diffiniad ystadegol o absenoldeb parhaus o golli 20% o sesiynau i golli 10% o sesiynau. Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno data ar absenoldeb cyson o ysgolion uwchradd gan ddefnyddio’r diffiniad newydd hwn. Cyhoeddwyd data tebyg ar gyfer ysgolion cynradd ar 7 Chwefror.

Cafodd y gwaith o gasglu'r data hwn ei atal ar ddechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020 ac nid oes data ar gael ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22.

Ers mis Medi 2020 rydym wedi bod yn casglu ac yn cyhoeddi data presenoldeb dyddiol gan ysgolion. Caiff y data hwn ei dynnu'n uniongyrchol o Systemau Gwybodaeth Rheoli Ysgolion (MIS) unwaith yr wythnos. Cesglir y data hwn fel gwybodaeth reoli ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i gytuno gydag ysgolion neu awdurdodau lleol. Felly, nid oes ganddo'r un lefel o sicrwydd ansawdd â'r data presenoldeb blynyddol a gynhwysir yn y datganiad hwn. Mae data wythnosol a blynyddol y ddau ar gael ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23, ond am y rhesymau uchod nid oes modd cymharu'n llwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol ffynonellau swyddogol data presenoldeb a chyngor ar ba un dylid eu defnyddio a phryd, gweler yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg.

Prif bwyntiau

  • Gan ddefnyddio'r trothwy 10%, mae canran y disgyblion oed ysgol uwchradd a oedd yn absennol yn gyson wedi mwy na dyblu i 40.1% rhwng 2018/19 a 2022/23
  • Gan ddefnyddio'r trothwy 10%, roedd 64.3% o ddisgyblion oed ysgol uwchradd sy'n gymwys i gael PYD yn absennol yn gyson yn 2022/23, o'i gymharu â 33.9% o ddisgyblion nad ydynt yn gymwys am PYD.
  • Gan ddefnyddio'r trothwy 10%, roedd 49.0% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 yn absennol yn gyson yn 2022/23, o'i gymharu â 31.2% o ddisgyblion ym mlwyddyn 7.

Absenoldeb cyson

Nid yw'n ofynnol i bob disgybl fod yn yr ysgol ar gyfer yr un nifer o sesiynau. Cau ysgolion, symud ysgol, diwrnodau HMS, ac ati... yn achosion lle nad oes angen i ddisgybl fynychu'r ysgol o bosibl, tra bod disgyblion eraill yn dal i fod yn bresennol.

Yn dilyn y newid mewn diffiniad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023, diffinnir absenoldeb cyson fel absenoldeb am 10% o'r nifer fwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol. Felly, os yw'n ofynnol i'r rhan fwyaf o ddisgyblion fod yn yr ysgol am 300 sesiwn hanner diwrnod yn y flwyddyn, y trothwy ar gyfer absenoldeb cyson yw 30 sesiwn. Nid oes angen i'r sesiynau hyn fod yn barhaus er mwyn i ddisgybl gael ei ystyried yn absennol yn gyson.

Ar gyfer ysgolion uwchradd, y trothwy ar gyfer absenoldeb parhaus o 10% yn 2022/23 yw 30 sesiwn. Mae’r holl ffigurau yn y datganiad hwn yn defnyddio’r trothwy 10% hwn, yn ogystal, mae’r daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn yn cynnwys data ar y trothwy 20%. Mae’r data trothwy 20% yn union yr un fath a’r data a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2023.

Ffigur 1: Canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd yn absennol yn gyson (trothwy 10%), 2013/14 i 2022/23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd sy'n absennol yn gyson (trothwy 10%) wedi aros rhwng 15.9% a 19.0% rhwng 2013/14 a 2018/19. Yn dilyn pandemig y COVID-19, mae absenoldeb cyson (trothwy 10%) wedi mwy na dyblu rhwng 2018/19 a 2022/23 i 40.1%.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21 a 2021/22. Mae'r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marciau cylch ar y llinellau.

Persistent absence by year group

Ffigur 2: Canran y disgyblion yn absennol yn gyson (trothwy 10%) yn ôl grŵp blwyddyn, 2018/19 a 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar sy'n dangos fod canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2022/23 wedi mwy na dyblu yn y rhan fwyaf o achosion.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Yn 2018/19 roedd yr uchafswm o absenoldeb cyson ar gyfer pob grwp blwyddyn ysgol uwchradd yn llai na yn fwy na 6.5 pwynt canran, o'i gymharu âc uchafswm o 17.7 pwynt canran yn 2022/23.

Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 11 y cyfraddau uchaf o absenoldeb cyson, gyda 49.0% o ddisgyblion yn absennol yn gyson yn ystod 2022/23. 

Ar 2.6 gwaith ei chanran 2018/19, Blwyddyn 11 sydd â'r cynnydd cymharol uchaf mewn absenoldeb cyson yn dilyn pandemig y COVID-19. Ar 2.2 gwaith ei chanran 2018/19, blwyddyn 10 sydd â'r cynnydd cymharol isaf.

Blwyddyn 7 sydd â'r gyfradd isaf o absenoldeb cyson yn ystod 2022/23, gyda 31.2% o ddisgyblion yn absennol yn gyson.

Absenoldeb cyson yn ôl Prydau Ysgol am Ddim

Yn 2022/23 mae canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson sy'n gymwys am PYD yw'r uchaf ers i'r casgliad hwn ddechrau. Yn 2022/23 mae'r bwlch rhwng absenoldeb cyson disgyblion sy'n gymwys am PYD ac nad ydynt yn gymwys am PYD hefyd yr uchaf ers i'r casgliad hwn ddechrau, sef 30.5 pwynt canran.

Ffigur 3: Canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson (trothwy 10%) yn ôl PYD, 2018/19 a 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar sy'n dangos fod canran yr absenoldeb cyson bron wedi dyblu ar gyfer disgyblion sy'n gymwys am PYD a mwy na dyblu ar gyfer disgyblion and ydynt yn gymwys am PYD rhwng 2018/19 a 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Mae absenoldeb cyson wedi cynyddu ymhlith disgyblion sydd yn gwnwys am PYD a’r rhai sydd ddim yn gymwys. Mae’r bwlch rhwng disgyblion sy’n gymwys ac ddim yn gymwys i am PYD wedi cynyddu. Mae canran y disgyblion sy’n absennol yn gyson sy’n gymwys i gael PYD bron ddwywaith yn uwch na’r canran cyfatebol ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD.

Absenoldeb cyson yn ôl grŵp blwyddyn a phrydau ysgol am ddim

Yn yr adran hon rydym yn siarad am y bwlch absenoldeb cyson PYD. Rydym yn cyfrifo'r bwlch drwy dynnu canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson nad ydynt yn gymwys am PYD o'r hyn sy'n cyfateb i ddisgyblion sy'n gymwys am PYD.

Ffigur 4: Bwlch PYD yng nghanran y disgyblion sy'n absennol yn gyson (trothwy 10%), yn ôl grŵp blwyddyn, 2018/19 a 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos y bwlch mewn absenoldeb cyson rhwng disgyblion sy’n gymwys a ddim yn gymwys am PYD ar gyfer pob grŵp blwyddyn. Mae’r bwlch yn uwch yn 2022/23 nac yn 2018/19 ar gyfer pob grŵp blwyddyn a dros 30 pwynt canran ym mlynyddoedd 7 i 10 yn 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23

Mae'r bwlch PYD ar gyfer pob grŵp blwyddyn wedi cynyddu rhwng 2018/19 a 2022/23. Mae dros 30 pwynt canran yn 2022/23 ym mlynyddoedd 7 i 10. Mae'r bwlch mwyaf ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 gyda 32.3 pwynt canran.

Absenoldeb cyson yn ôl nodweddion pellach

Absennol yn gyson yn ôl rhyw

Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion y ddau ryw ers pandemig y COVID-19. 

Rhwng 2018/19 a 2022/23, mae canran y disgyblion a oedd yn absennol yn gyson wedi codi o:

  • 17.0% i 41.6% o ddisgyblion oed ysgol uwchradd fenywaidd
  • 17.2% i 38.8% o ddisgyblion oedran ysgol uwchradd wrywaidd.

Absennol yn gyson yn ôl cefndir ethnig

Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion o bob cefndir ethnig ers pandemig y COVID-19. 

Yn 2022/23 y cefndir ethnig gyda'r canran isaf o absenoldeb cyson oedd Tsieineaidd neu Brydeinig Tsieineaidd (sef 7.7%) a'r cefndiroedd ethnig â'r ganran uchaf o absenoldeb cyson oedd Theithwyr (sef 87.8%).

Absennol yn gyson yn ôl Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA/ADY)

Bu cynnydd mewn absenoldeb parhaus rhwng 2018/19 a 2022/23 ar gyfer disgyblion â phob lefel wahanol o ddarpariaeth AAA/ADY. Yn 2022/23 roedd 51.6% o ddisgyblion oed ysgol uwchradd gyda darpariaeth AAA/ADY yn absennol yn gyson o gymharu â 38.2% heb ddarpariaeth AAA/ADY.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol

Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru. 

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.

Mae datganiadau a chynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (IEPs) a chynlluniau dysgu a sgiliau (LSP) yn cael eu disodli gan gynllun newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Ni fydd y termau a'r data ar 'Ddisgyblion â datganiadau', 'Gweithredu Ysgol a Mwy', a 'Gweithredu Ysgol' bellach yn cael eu defnyddio na'u casglu pan fydd y broses o bontio a gweithredu'r system ADY wedi'i chwblhau.

Mae plant yn symud o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros bedair blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.

Yn ystod y cyfnod pontio, caiff plant a phobl ifanc eu hadrodd mewn un o bedwar categori tra bod y ddwy system yn rhedeg ochr yn ochr.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ar gyfer dysgwyr sydd wedi’u darganfod ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall dysgwr fod ag CDU a gynhelir mewn ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

Disgyblion â datganiadau

Disgyblion lle mae'r awdurdod yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Gall datganiad fod wedi'i gyhoeddi yn flaenorol gan yr awdurdod lleol ar ôl asesu anghenion plentyn.

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol gynradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Mae'r dadansoddiad FSM yn y datganiad hwn yn cynnwys disgyblion sy'n gymwys drwy'r meini prawf prawf modd yn unig. Nid yw'r rhai sy'n gymwys drwy TP wedi'u cynnwys.

Mathau o Absenoldeb

Mae pob absenoldeb (neu absenoldebau 'cyffredinol') yn cynnwys y rheini sydd wedi'u hawdurdodi a'r rheini sydd heb eu hawdurdodi:

  • absenoldeb a ganiatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig arall o'r ysgol yw absenoldeb a awdurdodwyd. Mae hyn yn cynnwys absenoldebau y rhoddwyd esboniad boddhaol drosto (ee salwch, profedigaeth deuluol neu achlysur crefyddol).
  • absenoldeb na chaniatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig o'r ysgol yw absenoldeb anawdurdodedig. Mae hyn yn cynnwys pob absenoldeb na roddwyd esboniad neu gyfiawnhad drosto.

Lle bydd disgyblion yn dilyn gweithgareddau addysgol sydd wedi'u cymeradwyo ac sy'n cael eu goruchwylio ar safle arall (ee profiad gwaith neu ymweliadau addysgol), ystyrir eu bod yn bresennol yn yr ysgol.

Ffynonellau data swyddogol ar bresenoldeb mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru

Cyn pandemig y COVID-19 gwnaethom gasglu a chyhoeddi data presenoldeb yn flynyddol. Casglwyd y set ddata flynyddol hon yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac fe'i dynodir yn Ystadegau Gwladol. Fel arfer cyhoeddwyd absenoldebau o ysgolion gynradd ym mis Awst, absenoldeb o ysgolion cynradd ym mis Rhagfyr a dilynodd bwletin ychwanegol ar absenoldeb gan ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion ym mis Chwefror.

Cafodd y casgliadau data sy'n sail i'r datganiadau hyn eu hatal ar ddechrau pandemig y COVID-19 ym mis Mawrth 2020. Nid oes data o'r casgliadau hyn ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 na 2021/22. 

Er mwyn llywio ein hymateb polisi i'r pandemig COVID-19, dechreuom gasglu gwybodaeth reoli ddyddiol am bresenoldeb mewn ysgolion o fis Medi 2020 ymlaen. Mae'r data hwn yn cael ei dynnu'n uniongyrchol o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd gyda'r ysgolion ac nid yw'r data bob amser ar gael ar gyfer pob ysgol bob dydd. Nid yw'n Ystadegau Gwladol ac mae o ansawdd is na'r data blynyddol a gyflwynir yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae'n ddefnyddiol edrych ar lefelau cyffredinol o absenoldeb a thueddiadau ar lefel Cymru ac edrych ar batrymau rhwng disgyblion â nodweddion gwahanol e.e. prydau ysgol am ddim. Mae presenoldeb mewn ysgolion a gynhelir wedi cael ei gyhoeddi'n wythnosol ers mis Medi 2020.

Gwahaniaethau allweddol yn y data a gasglwyd ar bresenoldeb ysgol cyn ac yn ystod pandemig y COVID-19

Ym mis Hydref 2022 cyhoeddwyd datganiad cryno ar bresenoldeb cyn ac yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn edrych ar y gwahaniaethau allweddol rhwng y casgliadau data blynyddol ac wythnosol ac mae gwybodaeth fanwl am y gwahaniaethau hynny iw gweld yn y datganiad hwnnw.

Data presenoldeb ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data presenoldeb sicr o ansawdd llawn i safonau Ystadegau Gwladol ar gyfer ysgolion gynradd ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad wythnosol o'r wybodaeth reoli yn ystod blwyddyn ysgol 2022/23 gan arwain at orgyffwrdd yn y cyfnod amser a gwmpesir gan y ddau gasgliad. Ein cyngor yw y dylai defnyddwyr ddefnyddio'r data yn y datganiad hwn cyn belled ag y bo modd a dim ond cyfeirio at y data yn y datganiad wythnosol os na ellir dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen neu ei chynhyrchu o'r set ddata flynyddol hon. 

Tabl 1: Cymharu data presenoldeb blynyddol a gwybodaeth reoli wythnosol ar gyfer ysgolion uwchradd ym mlwyddyn ysgol 2022/23
Grwp blwyddynData blynyddolGwybodaeth reoli wythnosol [Nodyn 1]Gwahaniaeth
790.690.40.2
888.488.10.3
987.288.90.3
1086.686.20.4
1184.484.10.3

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2022/23, Data Presenoldeb - Gwybodaeth Reoli

[nodyn 1] Mae’r data o’r datganiad a gyhoeddwyd ar 2 Awst 2023

Mae'r tabl yn dangos presenoldeb cyffredinol ar gyfer ysgolion gynradd fesul grŵp blwyddyn rhwng Medi 2022 a Mai 2023. Mae'n dangos bod y casgliadau blynyddol ac wythnosol yn cynhyrchu canlyniadau cyson dros pob grŵp blwyddyn.

Mae'r tabl uchod yn cadarnhau, ar lefel Cymru, bod y ddau gasgliad ar gyfer 2022/23 yn cynhyrchu canlyniadau cyson a chymaradwy. Fodd bynnag, mae'n debygol, oherwydd y ffordd y mae'r data wythnosol yn cael eu casglu a'r diffyg dilysiad y byddai gwahaniaethau mwy a mwy arwyddocaol o dan lefel Cymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus. 

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (Saesneg yn unig).

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer. 

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb.

Perthnasedd 

Defnyddir yr ystadegau hyn o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr: 

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru 
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru 
  • Estyn 
  • y gymuned ymchwilio 
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion 
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau: 

  • Cyngor i weinidogion
  • Llywio'r broses o wneud penderfyniadau polisi addysg yng Nghymru 
  • Hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • Parth addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • Cynorthwyo gydag ymchwil mewn cyrhaeddiad addysgol.

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau. Caiff data eu casglu mewn ffurflen electronig a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi, system drosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae camau amrywiol o ddilysu awtomataidd a gwirio synhwyrol yn cael eu cynnwys yn y broses i sicrhau ansawdd uchel o ddata.

Yn ogystal, anfonir tabl at bob awdurdod lleol sy'n cynnwys crynodeb o'r data ar gyfer eu holl ysgolion gynradd a gynhelir y gofynnir iddynt eu gwirio. 

Amseroldeb a phrydlondeb

Roedd DEWi ar gael i'w lanlwytho ffeiliau ar 24 Mai 2023, a gofynnwyd i ysgolion gynradd a chanol prif ffrwd gyflwyno data presenoldeb ar gyfer pob disgybl rhwng 5 a 15 oed ar gofrestr yr ysgol o ddechrau Medi 2022 tan ddiwedd Gŵyl Banc mis Mai 2023. Yna gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data o fewn cyfnod dilysu.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae'r Datganiad Cyntaf Ystadegol hwn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Bydd y data hefyd yn cael ei gyhoeddi ar Fy Ysgol Leol, gwefan sydd wedi'i chynllunio i agor mynediad at ddata'r ysgol i rieni a phawb arall sydd â diddordeb yn eu hysgol leol.

Cysondeb a chydlyniant

Casglwyd data absenoldeb lefel disgyblion gan ysgolion gynradd a gynhelir am y tro cyntaf yn 2007/08. Nid yw'r diffiniadau a'r cyfrifiadau sy'n gysylltiedig â'r casgliad wedi newid, heblaw am y trothwy 10%, felly nid yw cymaroldeb dros amser wedi cael ei effeithio.

Dyma'r data diweddaraf sydd ar gael (I gyd yn Saesneg yn unig): 

Lloegr

Statistics: pupil absence (GOV.UK)

Yr Alban 

Weekly school attendance (Scottish Government)

Gogledd Iwerddon

Education statistics (Department of Education, Northern Ireland)tice for Statistics

All of our statistics are produced and published in accordance with a number of statements and protocols to enhance trustworthiness, quality and value. These are set out in the Welsh Government’s Statement of Compliance.

These official statistics demonstrate the standards expected around trustworthiness, quality and public value in the following ways.

Datganiad cydymffurfedd â'r Cod Ymarfer Ystadegau

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. 

Ymddiriedaeth

Mae’r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol ac ystadegwyr sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a’r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno’n ddiduedd ac yn wrthrychol.

Mae'r data gweithredol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cynnwys data personol. Mae’r data hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Rydym wedi rhoi proses lywodraethu drylwyr ar waith i sicrhau bod y data’n cael eu rheoli’n ddiogel a’u hadolygu cyn eu rhyddhau.

Ansawdd

Mae’r data presenoldeb a nodweddion disgyblion yn y datganiad hwn yn tarddu o systemau gweithredol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflenwyr systemau masnachol i sicrhau bod y data cywir yn cael ei ddarparu i ni a bod y dilysu adeg mynediad yn gynhwysfawr ac yn reddfol. Yn dilyn y dilysiad adeg mynediad caiff y data ei ddilysu mewn amser real wrth ei lanlwytho i ni sy'n cynnwys dilysiad traws-ysgol ychwanegol. Mae cam dilysu terfynol yn golygu cymeradwyo gan swyddogion awdurdodau lleol yn ystod cyfnod dilysu penodedig.

Sicrheir ansawdd yr ystadegau hyn yn yr allbwn hwn cyn eu cyhoeddi, gan gynnwys dadansoddiad cwbl annibynnol gan ail ddadansoddwr cymwys. Cefnogir pob cam o gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn gan ystadegwyr proffesiynol o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth.

Ystyrir bod y ffynonellau data hyn o ansawdd digonol i gefnogi'r dadansoddiad hwn.

Gwerth

Mae cyfraddau presenoldeb uchel yn hanfodol i sicrhau bod ein disgyblion yn dysgu’n effeithiol. Mae ein tystiolaeth yn dweud wrthym fod cyfraddau presenoldeb wedi disgyn yn sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19 ac nad ydynt wedi gwella i lefelau cyn-bandemig ers hynny. Er mwyn mynd i’r afael â’r lefelau presenoldeb is hyn, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad strategol i wella presenoldeb mewn ysgolion ac ymgysylltu â dysgwyr.

Bydd yr ystadegau yn y datganiad hwn yn cefnogi gwaith y tasglu ac yn hysbysu defnyddwyr am gyfraddau presenoldeb cyfredol a sut maent yn amrywio yn ôl nodweddion disgyblion. Mae’r ystadegau hyn yn ategu ystadegau swyddogol eraill ar absenoldeb mewn ysgolion uwchradd a’r wybodaeth reoli am bresenoldeb mewn ysgolion a gynhelir a gyhoeddir yn wythnosol.

Mae’r ffigurau wedi’u cyhoeddi mewn fformat ODS hygyrch y gellir ei rannu a’i ailddefnyddio’n eang ac sy’n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Ddadansoddi’r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni (Saesneg yn unig). Cyflwynir data’n glir ym mhob tabl, ac mae’r daenlen hefyd yn cynnwys dalen flaen sy’n rhestru pob tabl. Mae'r sylwebaeth a nodiadau yn y datganiad wedi'u datblygu i geisio gwneud y wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Ebost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 5/2024

Image
Ystadegau Gwladol